Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon
Gwedd
← Yn awr, mewn gorfoleddus gân | Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon gan Robert Davies (Bardd Nantglyn) |
I Dad y trugareddau i gyd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
23[1] Gweddi a Mawl
M. H.
1 ANTURIAF, Arglwydd, yr awr hon,
Yn llwch a lludw ger dy fron;
O flaen dy fainc a'th orsedd Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
2 Tŵr yn y nos Ti imi sydd,
Fy nghraig a'm cysgod yn y dydd
I'm cynnal: am dy ofal Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
3 Tylawd a noeth, gresynus wyf,
Gwan ac anghenus dan fy nghlwyf;
Mae ffynnon bywyd gyda Thi :
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
4 Mae yna dorf luosog lân,
Yn bur eu cerdd, yn bêr eu cân;
Eu mawl yn unig sydd i Ti
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 23, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930