Yn awr, mewn gorfoleddus gân
Gwedd
← Wrth orsedd y Jehofa mawr | Yn awr, mewn gorfoleddus gân golygwyd gan Richard Phillips, Llanycil |
Anturiaf, Arglwydd, yr awr hon → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
22[1] "Da y gwnaeth Ef bob peth."
M. H.
1 YN awr, mewn gorfoleddus gân,
Dyrchafaf glod i'm Harglwydd glân;
Ynghyda'i saint cydseinio wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.
2 Trwy demtasiynau maith di-ri'
Bu'n gymorth cryf i'm henaid i;
Tra fyddwyf byw ei foli wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.
3 Er gwgu arnaf uffern fawr,
Ynghyda drygau maith y llawr,
Digon i mi fydd gras fy Nuw:
Pob peth yn dda wnaeth Iesu gwiw.
4 A phan gyrhaeddaf uwch y nen
I blith cantorion nefoedd wen,
Uwch na seraffiaid seinio wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.
—Casgliad Richard Phillips, Llanycil
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 22, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930