Neidio i'r cynnwys

Ar aur delynau'r nef

Oddi ar Wicidestun
Does destun gwiw i'm cân Ar aur delynau'r nef

gan Thomas Jones, Dinbych

Fy Iesu yw fy Nuw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

149[1] Y Gan Newydd.
664. 6664.

1 AR aur delynau'r nef
Bydd seinio uchel lef,
Heb ball, na phoen;
Yr anthem felys faith
Fydd am achubol daith
A phur rinweddol waith
Y nefol Oen.

2 Pan ddelo'r saint ynghyd,
Uwch poen a maglau'r byd,
Yn groyw eu cân,
Caniadau am ei loes
A rhinwedd llawn ei groes
Fydd hyd dragwyddol oes
Yn Salem lân.

3 I'r nefol byrth ni ddaw
Nac ofn, na phoen, na braw,
Na phechod cas;
Pwy na hiraethai'n wir
Am rodio'r sanctaidd dir,
Ac yfed dyfroedd clir
Ei ryfedd ras?

Thomas Jones, Dinbych


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 149, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930