Does destun gwiw i'm cân
Gwedd
← Arhosaf ddydd a nos | Does destun gwiw i'm cân gan John BLackwell (Alun) |
Ar aur delynau'r nef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
148[1] "Iddo Ef." .
664. 6664.
"'DOES destun gwiw i'm cân
Ond cariad f'Arglwydd glân,
A'i farwol glwy';
Griddfannau Calfari
Ac angau Iesu cu
Yw 'nghân a'm bywyd i—
Hosanna mwy!
2 Caniadau'r nefol gôr
Sydd oll i'm Harglwydd Iôr
A'i ddwyfol glwy':
Y brwydrau wedi troi,
Gelynion wedi ffoi,
Sy'n gwneud i'r dyrfa roi
Hosanna mwy!
3 Pan ddelo'r plant ynghyd,
O bedwar cwr y byd,
I'w mangre hwy;
Gobeithiaf yn ddi—lyth
Gael telyn yn eu plith,
I ganu, heb gŵyno byth,
Hosanna mwy
John Blackwell (Alun)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 148, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930