Neidio i'r cynnwys

Arhosaf ddydd a nos

Oddi ar Wicidestun
O! Tyred, Arglwydd mawr Arhosaf ddydd a nos

gan William Williams, Pantycelyn

Does destun gwiw i'm cân
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

147[1] Rhinweddau'r Groes.
664. 6664.

1 ARHOSAF ddydd a nos,
Byth bellach dan dy groes,
I'th lon fwynhau;
Mi wn mai'r taliad hyn,
Wnaed ar Galfaria fryn,
A'm canna oll yn wyn
Oddi wrth fy mai.

2 Yn nyfnder dŵr a thân,
Calfaria fydd fy nghân,
Calfaria mwy:
Y bryn ordeiniodd Duw
Yn nhragwyddoldeb yw,
I godi'r marw'n fyw
Trwy farwol glwy'.

3 Af bellach tua'r wlad
Bwrcaswyd im â gwaed;
'R wyf yn nesáu :
Caf yno oll i'm rhan
Sydd eisiau ar f'enaid gwan,
A hynny yn y man,
I'w bur fwynhau.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 147, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930