Neidio i'r cynnwys

O! Tyred, Arglwydd mawr

Oddi ar Wicidestun
Iachhawdwr dynol-ryw O! Tyred, Arglwydd mawr

gan William Williams, Pantycelyn

Arhosaf ddydd a nos
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

146[1] Rhinweddau'r Groes.
664. 6664.

1 O! TYRED, Arglwydd mawr,
Dihidla o'r nef i lawr
Gawodydd pur;
Fel byddo'r egin grawn,
Foreddydd a phrynhawn,
Yn tarddu'n beraidd iawn
O'r anial dir.

2 Mae peraroglau gras
Yn taenu o gylch i maes
Awelon hedd;
Estroniaid sydd yn dod
O'r pellter eitha 'rioed,
I gŵympo wrth dy droed,
A gweld dy wedd.

3 Mae tegwch d'ŵyneb-pryd
Yn maeddu oll i gyd
Sy ar ddaear las;
Mae pob rhyw nefol ddawn
Oll yno'n gryno lawn,
Yn tarddu'n hyfryd iawn
O'th glwyfau i maes.

William Williams, Pantycelyn.


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 146, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930