Neidio i'r cynnwys

Iachhawdwr dynol-ryw

Oddi ar Wicidestun
Wele Fi yn dyfod Iachhawdwr dynol-ryw

gan William Williams, Pantycelyn

O! Tyred, Arglwydd mawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

145[1] Gwaed y Groes yr unig Feddyginiaeth.
664. 6664.

1 IACHHAWDWR dynol-ryw,
Tydi yn unig yw
Fy Mugail da:
Mae angau'r groes yn llawn
O bob rhinweddol ddawn,
A ffrwythau melys iawn,
A'm llwyr iachâ.

2 'Does dim a laesa 'mhoen
Ond gwaed yr addfwyn Oen,
Pur waed fy Nuw;

Mae Ef yn fwy na'r byd,
A'r trysor sy ynddo i gyd;
A thecach yw ei bryd
Na dynol-ryw.

3 Mae torf aneirif fawr
Yn ddisglair fel y wawr,
'N awr yn y nef-
Trwy ganol gwawd a llid,
A gwrthnebiadau'r byd,
Ac angau glas ynghyd,
A'i carodd Ef.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 145, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930