Neidio i'r cynnwys

Wele Fi yn dyfod

Oddi ar Wicidestun
Pob seraff, pob sant Wele Fi yn dyfod

gan John Roberts (Ieuan Gwyllt)

Iachhawdwr dynol-ryw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

144[1] Genedigaeth Crist.
65. 65. D.

1. WELE Fi yn dyfod,
"Llefai'r Meichiau gwiw;
Atsain creigiau Salem,
Dyfod y mae Duw;

Gedy anfeidrol fawredd
Nef y nef yn awr;
Ar awelon cariad
Brysia i barthau'r llawr.

2 Pa ryw fwyn beroriaeth
Draidd yn awr drwy'r nen?
Pa ryw waredigaeth
Heddiw ddaeth i ben?
Miloedd o angylion
Yno'n seinio sydd,
"Ganwyd y Meseia,
Heddiw daeth y dydd."

3 Dyma'r Hollalluog
Heddiw inni'n Frawd;
Dyma holl drysorau
Duwdod yn y cnawd;
Moroedd rhad drugaredd
Lanwodd dros y llawr,
Perlau gwlad gogoniant
Heddiw ddaeth i lawr.

—John Roberts (Ieuan Gwyllt)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 144, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930