Pob seraff, pob sant
Gwedd
← A Welsoch chwi Ef | Pob seraff, pob sant gan Edward Jones, Maes y Plwm |
Wele Fi yn dyfod → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
143[1] Ceidwad Digonol.
558. D.
1 POB seraff, pob sant,
Hynafgwyr a phlant,
Gogoniant a ddodant i Dduw,
Fel tyrfa gytûn,
Yn beraidd bob un,
Am Geidwad cryf iddyn' yn fyw.
2 Efe yw fy hedd,
Fy aberth a'm gwledd,
A'm sail am drugaredd i gyd;
Fy nghysgod a'm cân,
Mewn dŵr ac mewn tân,
Gwnaed uffern ei hamcan o hyd.
3 Yn babell y bydd
Rhag poethder y dydd,
A chedyrn lifogydd y fall;
Mewn cysgod mor dda,
Holl uffern a'i phla,
Er chwennych fy nifa, ni all.
—Edward Jones, Maes y Plwm
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 143, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930