Ar lan Iorddonen ddofn
Gwedd
← | Ar lan Iorddonen ddofn gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) |
Caersalem, dinas hedd → |
660[1] Glan Iorddonen.
65. 65. 66. 65.
1 AR lan Iorddonen ddofn
'R wy'n oedi'n nychlyd,
Mewn blys mynd trwy, ac ofn
Ei stormydd enbyd:
O! na bai modd i mi
Osgoi ei hymchwydd hi,
A hedfan uwch ei lli
I'r Ganaan hyfryd.
2 Wrth gofio grym y dŵr,
A'i thonnog genlli
A'r mynych rymus ŵr
A suddodd ynddi,
Mae braw ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrraedd tawel lan
Bro y goleuni.
3 Ond pan wy'n gweled draw
Ar fynydd Seion,
Yn iach, heb boen na braw,
Fy hen gyfeillion,
Paham yr ofnaf mwy?
Y Duw a'u daliodd hwy
A'm dyga innau drwy
Ei dyfroedd dyfnion.
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 660, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930