Caersalem, dinas hedd

Oddi ar Wicidestun
Caersalem, dinas hedd

gan Dafydd Jones o Gaeo

661[1] Hiraeth am y Nef.
66.66.88.

CAERSALEM, dinas hedd,
O! na bawn yno'n byw;
O hyd cawn weled gwedd
A llewyrch wyneb Duw:
Mae weithiau'n dywyll arna'i 'n awr;
Fy haul nid â byth yno i lawr.

2 Yn Nuw ymddiried 'r wy'
Am gymorth oddi fry;
Fe'm dygodd eisoes trwy,
Do, gyfyngderau lu;
Hyderus eto wyf trwy ffydd
Yn nerth fy Nuw caf gario'r dydd.

3 Caf weld f'Anwylyd cu
Pan elwyf draw i dre',
Yr Hwn o'i gariad fu
Yn dioddef yn fy lle;
Caf weld yr Iesu-digon yw ;
Mae'r Oen a laddwyd yno'n fyw.

Dafydd Jones o Gaeo


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 661, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930