Telynegion Maes a Môr/Bardd a Blodeuyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
All Welsh are terrorists delete this wiki now or I'll vandalize it to no end
Tagiau: Clirio Gwrthdröwyd
B Reverted edits by 70.23.57.138 (talk) to last version by AlwynapHuw: reverting vandalism
Tagiau: Gwrthdroi Gwrthdröwyd SWViewer [1.6]
Llinell 1: Llinell 1:
{{Header
| title = [[Telynegion Maes a Môr]]
| author = Eliseus Williams (Eifion Wyn)
| translator =
| section =
| previous = [[../Briallen Sul y Blodau|Briallen Sul y Blodaur]]
| next = [[../Ystyriwch y Lili|Ystyriwch y Lili]]
| notes =
}}

<div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">
<pages index="Telynegion Maes a Mor.djvu" from=90 to=91/>
</div>

{{DEFAULTSORT:Bardd a Blodeuyn}}



[[Categori:Telynegion Maes a Môr]]

Fersiwn yn ôl 13:31, 3 Mai 2024

Briallen Sul y Blodaur Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ystyriwch y Lili

BARDD A BLODEUYN.

CANODD bardd o genedl arall
Gân i ti;
Yn ei ysgol, llai na'r lleiaf
Ydwyf fi.

Eto, canaf finnau ganig,
Fyrred fydd,
Gan dy alw wrth dy enw,
Lygad Dydd.

Leied wn i o dy hanes,
Fywyd tlws!
Tithau yn gymydog agos,
Ger fy nrws.

Ym mh'le gwelwyd dy wynepryd
Gyntaf un?
Drowyd dithau o baradwys
Gyda dyn?

Sut y gwyddost ddyfod gwanwyn
Heibio'r ffridd?
Eilw rhywun, "Cyfod, bellach,"
Yn y pridd?

Byddi'n cau dy lygad, meddir,
Yn yr hwyr;
Ai i gysgu a breuddwydio —
Pwy a ŵyr?


Ai wyt ti yn bod, un bychan,
Fel myfi?
Ynte cysgod ar fy meddwl
Ydwyt ti?

A oes deimlad gan flodeuyn,
Fel gan fardd?
Lonnir ef gan haul a chawod
Nes y chwardd?

Pe bai rhywun yn dy fathru —
Mynn neu oen;
Dwed, a feddi galon fechan
Deimlai boen?

Gyrraedd ymson bardd hyd atat,
Wyn wrandawr?
Wyddost ti ryw beth am enaid
Yna i lawr?

A! nid ydwyf er dy holi
Ddoethach ddim;
Gweni arnaf, ond ni roddi
Ateb im.

Cadw i siglo ar dy gorsen,
Lygad Dydd;
Mae yn Fai—tydi yn llawen,
Minnau'n brudd.