Neidio i'r cynnwys

Arglwydd grasol, dyro d'Ysbryd

Oddi ar Wicidestun
Dyro inni weld o'r newydd Arglwydd grasol, dyro d'Ysbryd

gan Isaac Jenkins

Tyred, Ysbryd Glân tragwyddol
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

267[1] Gweddi am y Dystiolaeth.
87. 87. D.

1 ARGLWYDD grasol, dyro d'Ysbryd,
Dysg im lefain, "Abba, Dad,"
Rho dystiolaeth o'm mabwysiad,
Gad im brofi o'th gariad rhad;
Dyro wir fodlonrwydd imi
Fod fy enaid yn dy hedd,
Llanw f'ysbryd â thangnefedd
Cyn im fynd i lawr i'r bedd.

2 Rho dy hoff gymdeithas imi
Tra fwyf yn yr anial fyd,
Tywys f'enaid tua'r bywyd,
A bydd imi'n noddfa glyd;
Gad im wledda gyda'th deulu,
Gwledda ar dy gariad rhad;
Yn y diwedd dwg fi'n dawel
Draw i ddedwydd dŷ fy Nhad.

Isaac Jenkins



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 267, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930