Astudiaethau T Gwynn Jones/Dante
← Cynnwys | Astudiaethau T Gwynn Jones gan Thomas Gwynn Jones |
Don Quijote → |
DANTE
"O degli altri poeti onore e lume."
YN 1903 y cyhoeddwyd cyfieithiad Daniel Rees o'r Divina Commedia i'r Gymraeg, cyfieithiad ffyddlon a manwl, ffrwyth blynyddoedd o lafur ac ymroddiad mawr. Ychydig sôn a gaed am Dante yn Gymraeg cyn hynny. Ysgrifennodd R. H. Morgan res o erthyglau ar yr "Inferno," ac ymesgusododd ar y dechrau am "draethu ar bwnc fel Dante mewn cyhoeddiad sobr, difrifddwys fel Y Drysorfa."[1] Efallai mai tipyn o ysmaldod ysgolhaig ar gost ei gyfundeb sydd yn y geiriau a ddyfynnwyd. "Glasynys a Ioan Ddu," ebr Isaac Ffoulkes (Llyfrbryf), mewn nodiad yn Y Cymro, "oedd yr unig ddau fardd a adwaenais i fyddent yn ymwynfydu ar waith Dante. Medrai Ioan ddarnau meithion o gyfieithiad (Saesneg) Cary. . . Bwriadai Glasynys un tro ddysgu yr Italeg er mwyn medru darllen gwaith ei hoff awdur yn ei burdeb cynhenid. Mynnai ef mai gan Dante y cafodd Dafydd ap Gwilym ei arial awenyddol, fod y ddau yn gyfeillion, i'r bardd Italaidd dreulio ysbaid o'i alltudiaeth yn Nghymru, ac yn bennaf gyda'i gyfaill yn clera o'r naill fan i'r llall, tua Gwern-y-Clepa a Marchwiel, a Rhosyr ym Môn. Yr oedd hyn oll yn gwbl Lasynysaidd, er y tybiem ar y pryd y gwyddai yn amgen; beth bynnag, nid ymddangosai yn drallodedig pan ddangosais iddo mewn print fod y naill fardd wedi marw yn fuan ar ôl, os nid cyn geni y llall."
Efallai mai gan ei brysured yn dychmygu pethau fel hyn yr esgeulusodd Glasynys hyd yn oed ddarllen hanes Dante, a geir agos ym mhob cyfieithiad Saesneg o'r Commedia, heb sôn am ddysgu Eidaleg. Pa wedd bynnag, daeth cryn newid dros Gymru er y dyddiau diofal hynny a'u croesanaeth ddigrif; eto, hyd y gwn i, ni chafodd cyfieithiad Daniel Rees ryw lawer o sylw gan lenorion Cymreig. Dylanwadodd Milton yn fawr arnynt mewn rhyw ystyr lac. Y mae ei ôl ar Ddafydd Ionawr, a'i ddylanwad ar Wilym Hiraethog ac Eben Fardd. Daeth ei ôl yn amlycach fyth wedi cyhoeddi cyfieithiad I. D. Ffraid o'r Paradise Lost-buasai agos cyn hawsed i Gymro uniaith ddeall y gerdd Saesneg ei hun â deall cyfieithiad Pughe, wrth gwrs. Eto, rhetoreg Milton a'i wasgarwch amhendant a ddylanwadodd ar y beirdd Cymreig. Nid oedd, y mae'n ddiau, gymaint o siawns i fanyldeb Eidaliad a Chatholig, er maint ei ragoriaeth. Cyfyng, wrth gwrs, o anghenraid, oedd diddordeb llenyddol Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac ychydig o'i hysgolheigion a feddyliodd am ddefnyddio'r Gymraeg at un pwrpas ond trin pynciau diwinyddol, ac aeth y driniaeth honno'n fuan yn ddiffrwyth ddigon. Wrth sôn am athroniaeth gwlad Roeg, yn yr unig lyfr Cymraeg ar y pwnc, dywedodd Llugwy Owen-"Daeth lliaws mawr o bryd i bryd yn ôl i Gymru o ganol Groeg Rhydychen, ond ni wnaeth neb ohonynt ddim yn y cyfeiriad hwn o gwbl; tybed mai dynion meirw oedd eu hathrawon yn y Brifysgol: Sut arall y digwyddodd y ffaith nad anfonasant gymaint ag un yn ôl i'w wlad wedi ei fywhau i wneud cymwynas fel hyn i Gymru?"[2] Nid rhaid synnu cymaint hwyrach, na thalai'r Cymry lawer o sylw i lyfr ar athroniaeth y genedl wychaf yn hanes y byd, neu i'r gerdd odidocaf yn llenyddiaeth y byd, er eu cael (drwy lafur rhai na buont yn Rhydychen, ond a ddringodd ryw ffordd arall) yn eu hiaith eu hunain.
Tua chanol y ganrif ddiwethaf, yr oedd y traethodau, yr erthyglau a'r esboniadau ar y Divina Commedia mewn gwahanol ieithoedd yn agos i ddeuddeg cant a hanner o nifer.[3] Pa faint a gyhoeddwyd o hynny hyd yn awr, nis gwn, ond y maent yn lliaws, ac yn cynyddu beunydd. Y mae'n wir bod llawer o'r esboniadau a'r traethodau hyn yn trin manylion cymharol ddibwys, ond nid â'r plisgyn yn unig y mae myfyrwyr Dante yn ymwneud. Yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf, bu adnewyddu mawr ar astudio Dante yn yr ystyr orau, ac mewn oes fel hon y mae hynny'n beth nodadwy. Pa beth sydd yng ngwaith prifardd yr Oesau Canol yn tynnu sylw a myfyr meddylwyr oes nad yw, er a broffeso, yn derbyn onid ychydig o'r pethau yr oedd Dante yn eu credu?
Dywedodd rhywun, a dywediad gwych ydyw, "blodeuodd yr Oesau Canol, a Dante oedd y blodyn." Ond megis y bydd raid wrth dynerwch a gwres tymor a ddaw i beri blodeuo hedyn tymor a fu, felly yr oedd yn Dante ysbryd y deffro newydd yn gystal â ffrwyth yr hen ymdrech. Lle bo'r ddeubeth hynny bydd yr awen greu, ac nid medr y prydydd a dysg yr ysgolor yn unig. Dyna sut y mae dyfal astudio Dante yn addysg hael ynddo'i hun, am fod ei waith ef yn crynhoi ynddo'i hun hanes a thwf meddwl yr hen gyfnod ac yn rhoi bywyd ynddo ag ysbryd y cyfnod newydd.
Nod angen gwaith i foddio llawer o feirniaid ein dyddiau ni yw bod arno ddelw'r pryd a'r lle, ac yn wir y mae ar lawer o'r gweithiau sydd wrth eu bodd gymaint o ddelw heddiw fel na bydd neb yn debyg o'u darllen yfory. Nid dibwys i awdur roi delw ei oes a'i amgylchiadau ar ei waith, ac ni ddichon iddo chwaith beidio â gwneuthur hynny. Yn wir, ni roes neb fwy o ddelw ei gyfnod ar ei waith nag a roddes Dante. Bardd yr Oesau Canol ydoedd, crefydd yr Oesau Canol oedd ei grefydd, ffilosoffi'r ysgolheigion oedd yr eiddo yntau. Ni saif popeth a ddywedir yn gyffredin am y ffilosoffi honno, efallai, yn wyneb ymchwiliadau a syniadau diweddarach nag eiddo beirniaid tra phendant y ganrif ddiwethaf, ond addefer fod ynddi lawer o ryw gywrain ymresymu nad yw, er ei glyfred, yn argyhoeddi'r amheuaeth sydd, er gwell neu er gwaeth, wedi tyfu i mewn i raen meddyliau cyfnod y natur-wybodau manwl. Eto, ceir diwinyddiaeth a ffilosoffi'r ysgolheigion yng ngwaith Dante, yn rhan o'r adail megis, ac er hynny y mae i'r gerdd apêl nad oes i'r ddiwinyddiaeth a'r ffilosoffi noeth mono. Ys gwir na ddihangodd yntau rhag beirniadaeth. Y mae rhai yn bwrw arno am wneuthur Uffern yn lle mor dost, a thaerodd eraill mai diben ei gân oedd dial ar ei wrthwynebwyr drwy eu dodi yn y lleoedd gwaethaf yn Annwfn. Y chwerwder a gyfyd o'r ymryson rhwng balchter a mawredd sydd ym mhob llinell o'r gerdd, medd un beirniad Seisnig a ddyfynnir gan Mazzini yn ei ysgrif ar "Weithiau Lleiaf Dante." "Lleferydd llid personol, ysgeler hyd wrthuni, cynddeiriog wyllt," medd Walter Savage Landor. "Ym mha arddull, ynteu, y mae'r gerdd? Mewn arddull benchwiban" ("dans un goût bizarre"), medd Voltaire. Gellid, efallai, amddiffyn peth ar ergyd y beirniadaethau hyn, eto, ni byddai hynny yn setlo'r mater, mwy na phe honnid mai terfynol fel beirniadaeth ar yr awduron hynny fyddai dywedyd bod Landor yn aml yn wrthun a bod mesur da o benchwibandod yn Voltaire. Ni all fod amau na cheir ymhlith llenorion fath ar feddwl a fodlonai ei deimlad at ei elynion drwy ysgrifennu amdanynt a gwneuthur â hwy beth tebyg i'w dodi yn y lleoedd gwaethaf yn uffern-ffurf ar ddial sy'n gwreiddio, ond odid, yn y felltithgan gyntefig. Y mae personoliaeth dyn hefyd yn beth mor gymhleth fel mai anodd iawn i neb fod yn gwbl sicr am wraidd ei gymhellion ef ei hun, heb sôn am eiddo neb arall. Nid rhaid ychwaith, er mwyn edmygu ysblander Dante, ddim ymroi ati â holl arfogaeth rhetoreg i ddangos nad oedd un gwendid yn ei gymeriad, yn null y peth a elwir yn "werthfawrogiad llenyddol," peth ag ynddo fwy o fwrn nag o farn yn aml. Ond hyd yn oed a chyfaddef bod yn yr Uffern a ddychmygodd Dante wrthuni ac ysgelerder-anodd gwybod a ddisgwyliai'r beirniaid gael yno le gogoneddus a hyfryd iawn-y mae'r drefn sydd ar y lle yn awgrymu ffilosoffi ry fanwl i fod yn "gynddeiriog wyllt," a'r meddylwaith ei hun yn rhy ofalus ac union i fod yn eiddo gŵr penchwiban a dim ond hynny. A chyda golwg ar deimlad, fe ofynnodd hyd yn oed Byron-"Pwy ond Dante a allasai ddwyn dim tynerwch i uffern? A oes dim yn [uffern] Milton: Nac oes ddim. A chariad a gogoniant a mawredd yw nefoedd Dante." Diau nad oes ym Mhurdan nac ym Mharadwys Dante ddim tynerach na'i gydymdeimlad ef â Paolo a Francesca, ei ymddiddan a'i hen athro Brunetto Latini, neu ei ymddygiad at y truan di-enw yng nghoed yr hunan-leiddiaid. Eto, y mae ef yn diolch i Dduw am weled yr ellyllon yn rhwygo Filipo Argenti, ac fe wrthyd godi'r cen rhew oddi ar lygad un truan, er iddo addo gwneuthur hynny os dywedai'r collddyn ei enw wrtho. Yn wir, y mae chwerwder yn ei galon ef yn y Purdan, a chof ganddo ym Mharadwys am ffalsedd ei gyd-alltudion. Onid un rheswm am afael ei gerdd ar feddyliau dynion drwy'r canrifoedd yw'r dynoldeb hwn yn un peth? Onid rhyw fath ar gysur i ni, feidrolion cyffredin, wybod bod un o'r anfarwolion yn gyfrannog â ni yn rhai o weddau etifeddiaeth ein natur?
Deddf anesgor sydd yn uffern Dante, pa un bynnag ai fel cyfle ai fel cyflwr y meddyliai ef amdani. Nid eiddo ef yn arbennig yw deunydd y disgrifiad-nid yw hwnnw onid y llun yr oedd profiad dynion eisoes wedi ei fwrw megis ar len parhad.[4] Ceir y deunydd yn llenyddiaeth pob gwlad, Cymru hithau yn eu plith, y tywyllwch, y gwres a'r oerfel, "y llech las haearn a'r sarn saethau," "y pydew llenrew llawn rhych cyllestrig," y seirff a'r nadredd, "y pryfed caled coliawcwrych," "y llygod pen-garn a'r gylfinau carn," "y cythraul corniawg a'r cyrn llym sodlawg ar ei sodlau," y cŵn duon, "y rhost byrnig," a chant a mil o bethau erchyll. Y modd y trinodd ef y deunydd hwn yw arbenigrwydd Dante, y modd y deallodd y mân ddernynnau profiad, ffrwyth canrifoedd o draddodiad, gan eu cyfuno a'u cyfannu yn un synthesis. Ys gwir ei fod ef hyd yn oed yn mynd ymhellach pan fynno nag y caniatâi ei gredo iddo, megis trwy osod Cato yn borthor y Purdan a dodi Trajan a Ripheus ym Mharadwys. Bu feio arno, yn wir, am hynny, ac am "gymysgu pethau paganaidd a phethau Cristnogol," sef drwy wneuthur hen dduwiau Groeg yn benaethiaid yn Annwfn, a thrwy gyfarch Apolo ar ddechrau'r Paradiso, fel pe mail ef fuasai'r unig un a wnaeth beth o'r fath, hyd yn oed yn Eglwys Rufain. Eto, faint y gwahan iaeth sydd rhwng ysbryd y peth a wnaeth ef ag ysbryd yr un gymysgedd yng ngwaith Milton, dyweder, heb sôn am y " clasuryddion a fu'n diwygio'r emynau eglwysig ymhell ar ôl ei oes ef, gan ddodi "Apolo" yn lle "Duw" a "Pharnassus" yn lle "nefoedd."[5] Ni ddianc dyn rhag teimlo bod ystyr yng nghymysgedd Dante, a dim ond ystum yn y lleill. Am ei gyfarchiad ef i Apolo a'r Awenau, yr oedd dylanwad yr hen glasuron yn fawr arno, nid o angenrheidrwydd am ei fod ef yn derbyn eu syniadau-yr oedd y peth byw sydd yn yr hen chwedlau-gwirionedd y mae Emerson yn ei alw[6] yn rhan o "deyrnas dragywydd y bardd," chwedl Lamennais.[7] Ni ellir osgoi'r casgliad bod ei feddwl ef yn feddwl cyfosodus. Yr oedd ynddo, medd Labitte, "rymus undeb dychymyg ac ysbryd traddodiad, ffrwythlon gyfwrdd. barddoniaeth amseroedd a fu â barddoniaeth yr oesau newyddion."[8] Y mae Mazzini yn mynd ymhellach fyth. "Nid oedd Dante," medd ef, na Chatholig na Gwelff na Gibelin: Cristion ac Italiad ydoedd ef." Pa un bynnag, yr oedd Dante yn cydio dau gyfnod â'i gilydd. Anturus hefyd fyddai wadu gosodiad Mazzini. "Am y syniad oedd ganddo ar hyd ei oes," meddai, "y mae ei leferydd ffilosoffig i'w gael yn y Convito, y gwleidyddol yn y De Monarchia, y llenyddol yn y traethawd De Vulgari Eloquio, y gwleidyddol a'r crefyddol ynghyd yn y Commedia. Peth ar wahân yw'r Vita Nuova. Persawr ieuenctid cynnar Dante yw, y breuddwyd serch a rydd Duw i'w blant breiniol i'w dysgu i beidio byth ag anobeithio am fywyd, nac amau nac anghofio anfarwoldeb yr enaid."[9]
Anodd peidio â chredu gyda Mazzini bod cysylltiad rhwng y Vita Nuova a'r Commedia. Pa wedd bynnag a pha beth bynnag yw'r ddysgeidiaeth, y mae'r farddoniaeth yn clymu'r cwbl yn un campwaith. O'm rhan fy hun, y Purdan yw'r rhan orau gennyf o'r tair, am mai hi yw'r rhan fwyaf dynol. Gwae ac anobaith sydd yn Uffern, ac y mae hyd yn oed dynerwch a thosturi'r bardd yn dyfnhau'r argraff. Am ei Baradwys, y mae yn honno lawer o ffilosoffi'r ysgolheigion ac o alegori anodd i'w deall. Yn y Purdan y mae llawer gofid, ond y mae yno hefyd lennyrch hyfryd, peroriaeth fwyn, ymdrech wastadol am wellhad, gobaith parhaus. Yn ymdrech bywyd y mae'r swyn, y mae rhywbeth yn brudd mewn gorffen. Fe wnâi les hyd yn oed i'r sawl a fo sicraf o awdurdod ei feddwl ef ei hun ddarllen y Purgatorio o leiaf unwaith bob blwyddyn.
Y mae pob rhan o'r Commedia yn llawn o gyffelybiaethau barddonol prydferth, megis y disgrifiad o'r enaid yn dyfod o law Dduw fel geneth fach, "yn wylo ac yn chwerthin yn ei hafiaith"; cymharu torf o eneidiau yn y Purdan i yrr o ddefaid yn dyfod yn ofnog allan o gorlan, gan sefyll, llygadu a ffroeni, ac yna wneud y peth a wnêl y gyntaf; cyffelybiaethau lawer, o ddigwydd iadau cyffredin bywyd. Yn y Purdan eto y mae mwyaf o farddoniaeth Natur, lliwiau'r wawr a'r blodau a'r dail, cryndod tonnau'r môr, goleuni'r haul a'r sêr, y "bywyd araul" yr oedd cynifer o'r colledigion yn hiraethu amdano. O bopeth yn Natur, goleuni oedd hoffaf gan Dante, ac yn ei Baradwys, goleuni yw'r cwbl, yn y pwynt hwnnw. o wawl na ellid edrych arno yr oedd Duw—
Un punto vidi che raggiava lume
Acuto si, che il viso ch'egli affoca
Chiuder conviensi, per lo forte acume.
Sylwedydd craff ydoedd ef, meddyliwr manwl a dwfn. Un peth sydd na cheir yn ei gân ddisgrif iad manwl ohono, sef harddwch Beatrisia, eto y mae'r harddwch hwnnw yn llenwi pob cyfeiriad ati, weithiau yn ei gosgedd, weithiau yn ei gwallt, weithiau yn ei llygaid. Pan yw hi'n disgyn i'w gyfarfod yn y Purdan, y mae popeth o'i chwmpas yn hardd, lliw rhos a goleuni araul ar yr wybren, a hithau'n dyfod i lawr yng nghanol cwmwl o flodau. Yn ei ddyfnder y mae mawredd Dante, y mae'n eich argyhoeddi ei fod ef wedi teimlo'r pethau a ddisgrifia, nad oes dim yn ysbryd dyn nad yw ef yn ei chwilio. Y mae dwyster a chywirdeb ei gerdd cymaint a'i glwyster a'i chywreindeb.
Pa beth ynteu sy'n cyfrif am ddylanwad y gerdd, o oes i oes? Ei manyldeb, medd Macaulay; ei chywirdeb ebr Carlyle. Diau fod manyldeb a chywirdeb yn ddigon i gadw gwaith llenyddol yn fyw. Yn ein cyfnod ni, sonnir llawer am "gelfyddyd er mwyn celfyddyd," a bydd weith iau'n bechod sôn am ddysgeidiaeth gwaith llenyddol. Er hynny, myn llawer ofyn pa beth yw dysgeidiaeth Dante. Deil ysgrifennydd Americanaidd, C. A. Dinsmore, mai dysgeidiaeth yr Inferno yw bod pechod yn ffaith a'i fod yn dwyn ei benyd arno'i hun lle bynnag y bo, canys cysgodau eu pechodau sy'n cosbi'r colledigion yn uffern. Nid oes yno edifeirwch, canys collwyd dawn y deall, ac nid oes borthor wrth y porth i rwystro dianc oddi yno. Dysgeidiaeth y Purgatorio yw mai drwy gyffes, edifeirwch ac iawn y mae i ddyn ei ryddhau ei hun oddi wrth ei bechod, canys profiad yw'r Purdan, nid lle. Yn y Paradiso y mae'r bardd yn dysgu pa beth yw twf bywyd Cristion, gan ei gyffelybu i esgyn o seren i seren, nes cyrraedd y gwynfyd pennaf, sef gweled Duw. A gwerth y ddysgeidiaeth i'n cyfnod ni, ebr Mr. Dinsmore, yw bod Dante, yn groes i hen ddramadyddion Groeg, yn groes i Shakespeare, yn groes i Tennyson, yn dysgu bod dyn, drwy ei ewyllys rydd, yn feistr ar ei dynged.[10]
Yn ei lythyr at ei gyfaill a'i noddwr, Can Grande, wrth gyflwyno'r Paradiso iddo, dywedodd Dante ei hun pa beth oedd ei amcan. "Y mae amcan y cwbl a'r rhannau ar wahân," meddai, "yn ddwbl, un nes ac un pellach; ond os chwiliwn y mater yn fanwl, gallwn yn gryno ddywedyd mai amcan y cwbl a'r rhannau gwahân yw dwyn y rhai sy'n byw yn y bywyd hwn allan o gyflwr trueni a'u tywys i gyflwr dedwyddwch." Dyna beth a ddywedodd ef ei hun, ac ni wn i nad gorau i ni ei gymryd ar ei air. Nid yw o lawer o bwys, efallai, pa un ai merch o gig a gwaed oedd Beatrisia, ai ffilosoffi neu ddatguddiad dwyfol, fel y myn rhai. Os cymerwn mai rhyw symbol yn unig yw hi yn y gerdd, yr ydys yn ddiau yn torri'r cysylltiad rhwng y Commedia a'r Vita Nuova, un o'r pethau prydferthaf yn llenyddiaeth y serch rhamantus. Ar ddiwedd y Vita Nuova, dywed y bardd:
A gwelais weledigaeth dra rhyfeddol, ac ynddi bethau a barodd i mi benderfynu na ddywedwn i ddim yn rhagor am yr un fendigaid hon hyd oni ddeuai'r amser pryd y gallwn draethu'n deilyngach amdani. Ac i'r diben hwnnw yr wyf yn llafurio hyd y gallaf, megis y gŵyr hithau'n dda.
Ni all nad dyma wreiddyn y Commedia. Ni all ychwaith na ddatblygodd y gwreiddyn hwnnw. Dyna, ond odid, a feddyliai'r awdur wrth sôn am amcan dwbl, un nes ac un pellach, a'r ddau hynny'n tyfu'n un. Odid nad yr amcan nesaf oedd dywedyd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall—"spero di dire di lei quelle che mai non fu detto d'alcuna," yng ngeiriau'r bardd ei hun. Dyma beth tebyg iawn i dra—dyrchafu rhyw wedd ar anwes y serch cwrtais. Aeth yr amcan yn ddihangfa i'r bardd rhag anffodion a gofidiau ei fywyd helbulus, ac wrth hynny fe ddaeth yr amcan pellach hefyd. Eto fe gyfiawnhawyd. gobaith y bardd—fe ddywedodd am Beatrisia beth nas dywedwyd erioed am arall, hyd yn oed os aeth hi cyn y diwedd yn ffilosoffi neu ddatgudd iad dwyfol. Y mae hi, lle bynnag y sonnir amdani, megis ffigur ar wastad uwch na'r bardd, weithiau yn wir, yn nesaf peth i ryw amgyffrediad di—gorff. Os gellir deall dechreuad y Vita Nuova yn llythrennol—ac ni wedd un ystyr arall arno— nid oedd ef ond naw mlwydd oed pan welodd hi gyntaf, a hithau ychydig gydag wyth, ac fe'i carodd hi yn y fan. Yr oedd hi felly yn ferch a garwyd yn gynnar iawn, ac a gollwyd, canys priodwyd hi ag arall, a bu farw yn bedair ar hugain oed. O hynny, ideoli'r ferch fach honno ar hyd bywyd o siomiant, unigrwydd a myfyrdod, nid rhaid ond deall hynny i ddeall y gyfrinach— onid hi yw'r eneth fach y cyffelybir iddi yr enaid pan ddêl gyntaf o law ei grewr?—
Esce di mano a lui, che la vagheggia
prima che sia, a guisa di fanciulla
che piangendo e ridendo pargoleggia,
l'anima semplicetta, che sa nulla,
salvo che, mossa da lieto fattore,
volentier torna a ciò che la trastulla.
Tywyllwch sydd yn nechrau'r gerdd, goleuni yn ei diwedd. A feddo brofiad o'r ddihangfa o dywyllwch i oleuni, a medr i'w adrodd yn ddilys ac yn ddilin, ni all na bydd byw ei waith, canys yn fuan neu hwyr fe'i caiff pob dyn ystyriol ef ei hun wedi colli'r union lwybr yn y coed tywyll, a hir ac anodd fydd yr ymchwil amdano a chyrraedd i oleuni. A pho cymhlethaf y cymeriad, hwyaf ac anhawsaf yn y byd. Y mae astudio Dante yn uno dyn â'r canrifoedd, yn ei ddysgu i adnabod y pethau sy dragywydd.
(1902).
Nodiadau
[golygu]- ↑ Drysorfa, 1895.
- ↑ Hanes Athroniaeth y Groegiaid... R. Llugwy Owen, Ph.D. (Tübingen)... Conwy, 1899.
- ↑ Bibliografia Dantesca. M. de Batines. 1845-6.
- ↑ Gweler Das mittelalterliche Gesicht der Göttlichen Komödie ... Rudolf Palgen. Heidelberg, 1935. Astudiaeth odidog ei dysg a'i manylder.
- ↑ Pange Lingua... A. G. 5 McDougal... Introduction by Adrian Fortesque, 1916.
- ↑ History, yn Complete Prose Works of Emerson. Llundain, 1900.
- ↑ Introduction sur la vie et les oeuvres de Dante. Paris, 1863.
- ↑ La Divine Comédie avant Dante. 1853.
- ↑ Erthygl ar " Weithiau Lleiaf Dante," mewn rhyw gasgliad llawn o ysgrifeniadau Mazzini.
- ↑ The Teachings of Dante. Charles Allen Dinsmore. 1901.