Astudiaethau T Gwynn Jones/Don Quijote

Oddi ar Wicidestun
Dante Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

Uhland
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Don Quixote
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Miguel de Cervantes
ar Wicipedia

DON QUIJOTE

DEUTHUM i wybod gyntaf am y Don Quijote yn y dyddiau rhamantus hynny—a ddarfu cyn ebrwydded!—pan fyddem ninnau yn ein tro yn chwilio am yr anturiaethau oedd yn ein cyrraedd. Peth a ddôi rywdro, efallai, oedd myned i wledydd pell, ond yr oedd llenyddiaeth yn ein dwyn i wledydd ac i oesau pell, a hyd hynny nid yn gymaint yn faes turio ag yn faes anturio.

Ymhlith llyfrau fy nhaid yr oedd twr o rai a ddaethai o lyfrgell un o'i gyfeillion, ysgwier o Gymro, hen ŵr bonheddig, mi glywais fy mam yn dywedyd, a fyddai'n barod i wylo os dywedai neb wrtho fod rhyw anffawd yn debyg o ddigwydd i'r Gymraeg. Ymhlith y llyfrau hynny yr oedd nifer o rai Ffrangeg, cyfrol neu ddwy o waith yn dwyn y teitl "L'Hermite de la Chausée d'Antin, ou Observations sur les Moeurs et les Usages Parisiens au Commencement du xix siècle"; rhai cyfrolau o waith arall: "Correspondance de Mlle. Suzette-Césarine d'Arly," Paris, 1814; a gramadeg Ysbaeneg, yn Saesneg, gan y Don Felipe Fernandez, y seithfed argraffiad, a brintiwyd yn Llundain yn 1818. Diddorol gwybod bellach beth a fyddai yn llyfrgell ysgwier o Gymro yn agos i gan mlynedd yn ôl. Tebyg gennyf i'm. taid eu prynu ymhlith llyfrau eraill, o barch i'w hen gyfaill, pan werthid ei eiddo ar ôl ei farwol aeth, canys, er iddo ddysgu darllen a siarad Saesneg yn ddyn canol oed, ni wyddai fy nhaid ddim Ffrangeg nac Ysbaeneg. Ffawd dda i mi oedd gael y llyfrau Ffrangeg a'r gramadeg Ysbaeneg ymhlith yr ychydig o'i lyfrau yntau a ddaeth i'm rhan, er i'r copi o waith Talhaiarn, a gafodd gan yr awdur ei hun, fynd ar goll pan werthid ei eiddo yntau, yng nghwrs amgylchiadau.

Fel y bydd hogyn yn gwneuthur pethau, dysgais innau ddarllen Ysbaeneg oddi wrth ramadeg y Don Felipe, i ryw raddau. Ar dudalennau 157-159 o'r argraffiad hwnnw y mae "Descrip cion de la espantable aventura de los Molinos de Vento," allan o nofel Cervantes, "Don Quijote." Darganfyddiad. Deuthum yn ddiweddarach ar draws cyfieithiad Saesneg Jervis, a chopi arall Ysbaeneg wedi hynny. Ni wn i bellach, pe'm blingid, fel y dywedasai Talhaiarn, nad felly y dysgir pethau, wedi'r cwbl! Bid a fo, felly y deuthum i wybod am un o'r chwedlau gorau yn y byd i gyd, a dyddiau rhyfeddod oedd y dyddiau hynny.

Ni adawodd amgylchiadau i mi ddarllen onid hanes y Don o weithiau lluosog Cervantes, ond nid hawdd amau'r rhai a ŵyr pan ddywedant mai dyna'r pennaf o'i weithiau. Digwyddodd i Cervantes yr un anffawd ag a ddigwyddodd i awdur pob gwaith mawr-daeth yr esbonwyr ar ei draws. Esboniwyd mai diwygiwr cymdeithasol ydoedd ef; ei fod yn pregethu goruchwyliaeth newydd mewn gwleidyddiaeth a chrefydd; ei fod yn pregethu purdeb dan glog donioldeb; bod ganddo neges gudd nad adnabu awdurdodau ei oes a'i wlad; ei fod yn ddiwinydd mawr, a'i fod yn weriniaethwr. Fel y digwydd i esbonwyr yn gyffredin, nid oedd odid neb ond hwy eu hunain yn credu eu hesboniadau. Un peth sydd yn sicr ac yn ddigon yw bod Cervantes yn llenor ac yn gelfydd. Y mae'r rhamant yn ei hegluro'i hun i'w darllenwyr drwodd a thro, ac nid oes ynddi-onid a ddysgo dyn oddi wrthi, fel y dysg oddi wrth fywyd ei hun-neges yn y byd amgen na'r hyn a ddododd yr awdur ei hun mewn geiriau plaen, yn ei ragymadrodd, yng ngenau cyfaill dychmygol a'i tynnodd o'r benbleth yr oedd ef ynddi sut i gael anerchiadau barddonol i'w gosod ar ddechrau'r llyfr, sut i gael dyfyniadau dysgedig i'w dodi yng nghorff y llyfr, ac ar y diwedd res o awduron yr "ymgynghorwyd â hwy." Dyma eiriau'r "cyfaill" ar neges y llyfr:

A chan na chynnwys eich gwaith fwy na dinistrio'r awdurdod a'r derbyniad y sydd yn y byd ac ymhlith y cyffredin i'r llyfrau marchogwriaeth, nid rhaid i chwi fenthyca ymadroddion ffilosoffyddion, adnodau o'r Ysgrythur Lân, chwedlau'r beirdd, areithiau'r areithyddion na gwyrthiau'r saint. Perwch hefyd, yn narllen eich historia, fod i'r trist deimlo ar ei galon chwerthin, i'r llawen fwy o lawenydd, i'r syml beidio â blino, i'r call edmygu'r ddyfais, i'r difrif beidio â'i dibrisio, ac na omeddo'r doeth ei chymeradwyo.

Pa beth fwy a fynnai'r esbonwyr am amcan a neges dyn? Cymerer Cervantes ar ei air. Cyflawnodd bob un o'r amcanion uchod, beth bynnag. Nid dibwys, gan ei fod ef yn sôn am "ddinistrio awdurdod a derbyniad y llyfrau marchogwriaeth" yw cofio natur a maint dylanwad y llyfrau hynny yn Ysbaen yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Oherwydd yr hir ymladd â'r Mwriaid, bu'r Marchog Crwydrad fyw'n hwy yn Ysbaen nag yn unman arall yn Ewrop, ac yr oedd ef yn llawer mwy o ddifrif nag y bu yn Ffrainc a Phrydain. Yr oedd ei elynion o dras a chrefydd wahanol iddo; yr oedd swyn rhamant yn ei orchestion, a bendith Dduw arnynt yr un pryd. Yr oedd y Marchog Crwydrad yn fawr ei fri yn Ysbaen yn y bymthegfed ganrif, yn chwilio am orchestion i'w gwneud ac yn herio ac yn ymladd â'r sawl na chydnabyddai fod ei riain ef yn degach na holl rianedd y byd. Tyfodd o'r arferion hyn lenyddiaeth doreithiog, ond ei bod wedi colli swyn yr hen ramantau cynnar, am ei bod wedi colli eu symledd a'u syndod. Syndod yw enaid rhamant. Lle y mae'r chwedlau Arthuraidd cynaraf heddiw yn fyw, y mae gwaith dynwaredwyr diweddarach. wedi marw. Rhydd Cervantes ei hun beth canmoliaeth i ramant "Amadis de Gaul," fel "yr orau o'r holl lyfrau o'r rhyw yma a gyfansoddwyd." Am y rhai a'i dilynodd, mynnai ef eu bwrw i'r tân bron i gyd-o leiaf, felly y dywed yr offeiriaid wrth fynd drwy lyfrgell y Don. Rhai gwrthun a salw oeddynt, meddai ef, a'u dylanwad ar foes a chwaeth yn ddrwg iawn. Eto, dyma'r llyfrau yr oedd pawb yn eu darllen ac yn byw ac yn ymddiddan yn ôl eu hesiamplau. Torri crib y chwedlau hyn, ynteu, oedd un o amcanion Cervantes, a gwnaeth hynny mor llwyr fel nad ysgrifennwyd un llyfr marchogwriaeth newydd yn Ysbaen ar ôl 1605, ac na chyhoeddwyd un o'r hen rai.

Gwnaeth hyn drwy adrodd hanes y Don Quijote (seinier, Don Cichôte). Gŵr bonheddig gwledig oedd Alonzo Quijano, wedi darllen y llyfrau marchogwriaeth nes iddynt godi i'w ben. Yn ei wallgof, gwnaeth ddiofryd y codai urdd y marchogion crwydrad i fri ac arfer drachefn. Cymerth enw newydd iddo'i hun, nid amgen "Don Quijote de la Mancha." Glanhaodd hen arfau ei hendaid, a rhoes enw newydd i'w hen geffyl, sef "Rocinante" (rocin—ceffylyn tenau gwachul; ante—cyn neu gyntaf, enw yn dangos. mai rocin a fu cynt, ac mai ef bellach oedd y blaenaf o holl rocinos y byd). Gan na thalai Marchog Crwydrad heb riain i'w charu, dewisodd y Don eneth wledig o'r ardal, un y bu ef yn ei charu heb yn wybod iddi, i fod yn arglwyddes iddo yntau, a chan mai yn Toboso y ganed hi, galwodd hithau "Dulcinea del Toboso." Y mae rhywfaint o'r Don hyd yn oed yn y callaf ohonom, pe'i gwypem!

Ar fore yng Ngorffennaf, dyma'r Don yn cychwyn ar ei grwydr. Teithio drwy wres digon poeth i doddi ei ymennydd, pe buasai ganddo beth." Dyfod at dafarn tua'r hwyr, yn flin a newynog. Tafarn? Na, castell mawr, i'r Don. Yno, ymddwyn a llefaru yn gymwys yn ôl defod y marchogion yn y llyfrau. Cofiodd yn ystod y dydd nad urddwyd ef yn farchog. Ni allai ond marchog arall wneuthur hynny. O'r gorau. Onid marchog oedd y tafarnwr, yn byw yn y castell mawr? Mynnu o'r Don gan hwnnw ei urddo. Tipyn o gnaf oedd y tafarnwr—ie, wrth gwrs, marchog oedd ef, a urddwyd gan un arall yn ei dro. Felly, urddo'r Don o ddireidi, a dywedyd wrtho fod eto un peth ar ôl-nid oedd ganddo Yswain i'w ganlyn. Rhyfedd fu gan y Don anghofio peth mor anhepgor, ac wedi amryw helyntion digrif yn y dafarn ac ar y ffordd, adref ag ef, a llogi gwladwr o'r ardal, Sancho Panza wrth ei enw, yn yswain iddo. Er bod lle i gasglu oddi wrth y disgrifiad nad oedd Sancho yn ŵr golygus, y mae ef yn sicr yn llawenydd tros byth.

Wedi cael yr yswain, er gwaethaf y ferch oedd yn cadw ei dŷ, ei nith a'i gyfeillion yr offeiriad a'r barbwr, cychwynnodd y Don eilwaith ar ei grwydr ben bore, a Sancho i'w ganlyn. O hynny allan cyferfydd y Don â'r anturiau digrifaf a gyfarfu marchog crwydrad erioed, megis ymosod ar felin wynt gan gredu mai cawr ydoedd; rhuthro ar ddwy yrr o ddefaid gan dyngu mai dwy fyddin anferth oeddynt; ymosod ar deithwyr ar y ffordd, gan eu cyhuddo o bob math o drosedd; dwyn dysgl bres oddi ar farbwr pentref gan daeru mai helm Mambrino (arwr un o'r rhamantau) ydoedd; gollwng yn rhydd haid o ladron oddi ar y swyddogion oedd yn eu dwyn i garchar. Un o'r anturiau digrifaf yn rhan gyntaf y rhamant, onid yn y llyfr i gyd, yw Cyfranc y Melinau Gwynt, ac ni ellir mewn ysgrif fer roi gwell syniad am y gwaith, efallai, na thrwy gyfieithu'r hanes yn lled lawn. Gwasanaethed hyn o gynnig hyd oni chaffer ei well: {{quote| Ar hyn, gwelsant ddeg ar hugain neu ddeugain o felinau gwynt sydd yn y fro honno. Cyn gynted ag y canfu'r Don hwy, meddai ef wrth gludwr ei darian:

"Y mae ffortun yn trefnu pethau yn amgenach i ni nag y gallem ei ddymuno, oherwydd gwêl acw, gyfaill Sancho Panza, dacw ddeg ar hugain neu dipyn rhagor o gewri anferth, a meddwl yr wyf am ymladd â hwy, a dwyn oddi arnynt eu bywydau i gyd. Ac â'r ysbail a gawn, dechreuwn ymgyfoethogi, canys rhyfel da yw hwn, a mawr wasanaeth i Dduw yw symud y fath hil ddrygionus oddi ar wyneb daear."

"Pa gewri?" ebr Sancho.

"Y rhai a weli draw," medd ei gyfaill, "a'r breichiau hirion, canys y mae i rai ohonynt freichiau dwy lêg (dos leguas) o hyd."

"Gweled eich mawredd," medd Sancho, "nad cewri mo'r pethau a welir yn y fan acw, ond melinau gwynt; a'r pethau sy'n edrych fel breichiau, esgyll ydynt, a'r rheiny, wrth i'r gwynt eu troi, sy'n gyrru maen y felin."

"Hawdd gweled," meddai'r Don, "na wyddost ti nemor am anturiau fel hyn! Cewri ydynt, ac od oes arnat ofn, cilia draw, a gweddïa tra bwyf innau mewn ffyrnig ac anghyfartal gyfranc â hwy."

A chan ddywedyd hyn, ysbarduno ei farch Rocinante a wnaeth ef, heb wrando ar grïau Sancho,pan oedd hwnnw eilwaith yn dywedyd wrtho mai melinau gwynt ac nid cewri oedd y pethau yr âi ef i ymosod arnynt. Ond cyn sicred oedd ef mai cewri oeddynt fel na chlywodd lefau ei yswain Sancho, ac na welodd ychwaith pa beth oeddynt er agosed atynt ydoedd. Myned a wnaeth gan ddywedyd â llef uchel: "Na ffowch, y creaduriaid salw, canys un marchog sydd yn dyfod i'ch erbyn!"

Cododd ar hynny chwa o wynt, a dechrau ymsymud o'r esgyll mawrion, ac wrth weled hynny, meddai'r Don Quijote: "Pe symudech fwy o freichiau na'r cawr Briareus, mi baraf i chwi orfod talu!"

A chan ddywedyd hynny, ac ymgymeradwyo â'i holl galon i'w arglwyddes Dulcinea, a chrefu arni yn y fath berygl ei swcro, yng nghysgod ei fwcled, a'i baladr yn ei le, cyrchu a wnaeth â holl nerth carlam Rocinante, ac ymosod ar y felin gyntaf rhagddo. A phan oedd ef yn gwanu'r asgell â'i baladr, fe'i troes y gwynt hithau mor chwyrn nes hollti'r paladr yn ddellt, a chodi gyda'r asgell farch a marchog, a'u rholio'n ddrwg iawn eu sut ar y maes.

Cyn gynted ag y gallai ei asyn redeg, prysurodd Sancho i'w swcro, a phan ddaeth ato, cafodd na allai symud, gan mor dost fu ei gwymp ef a Rocinante.

"Duw fo'm gwarchod!" ebr Sancho, "oni pherais i'ch mawredd edrych pa beth yr oeddych yn ei wneud, ac nad oedd yma ond melinau gwynt ? Ac ni phallai neb wybod hynny chwaith, ond a fynnai beidio!"

"Taw dithau, gyfaill Sancho," meddai'r Don Quijote, "canys bydd troeon rhyfel, yn fwy nadim arall, yn agored i newid parhaus. Credu'r wyf, a gwir yw hynny hefyd, mai'r dewin Freston, hwnnw a'm hysbeiliodd eisoes o'm cell a'm llyfrau, a droes y cewri hyn yn felinau, er mwyn dwyn oddi arnaf y glod o'u trechu-cymaint yw ei elyniaeth ataf. Ond gwnaed ei waethaf, ni thâl ei ddrwg swynion ond ychydig rhag grym fy nghleddyf i!'

"Duw a roddo mai felly y bo, yn ôl ei allu!" meddai Sancho, gan ei gynorthwyo i godi a'i ddodi ar gefn Rocinante, oedd eisoes wedi hanner rhoi ei ysgwydd o'i lle.

Diwedd y rhan gyntaf o'r llyfr yw bod yr offeiriad a'r barbwr yn dyfod, wedi ymddieithro, ac yn dal y Don yn ei gwsg, ei ddodi mewn cawell a'i ddwyn adref, yn gadarn yn ei gred bod ei elynion, y dewiniaid, wedi dodi hud arno. Gobaith ei gyfeillion oedd y buasai ef yn dyfod i'w bwyll ar ôl ei gael adref, ond gobaith ofer fu.

Yn yr ail llyfr ceir hanes trydydd cynnig y Don. Cychwynnodd a Sancho i'w ganlyn fel o'r blaen, ac y maent yn cyfarfod â lliaws o helyntion tebyg i rai'r cynnig cyntaf a'r ail. Y mae'r awdur erbyn hyn yn manteisio ar gyhoeddiad y rhan gyntaf o'r llyfr drwy ddangos bod pobl yn gwybod hanes y Don, a thrwy hynny yn darparu pethau rhyfedd ac ofnadwy i'w dwyllo, er mwyn difyrrwch. Cyrhaedda'r ddau i gastell rhyw Ddug goludog, ac yno y mae'r Don yn gwneud gwrhydri anhygoel yn ei feddwl ei hun, er mawr ddi- fyrrwch i bawb arall. Yno hefyd gwneir Sancho yn llywodraethwr ar ynys ddychmygol Barataria- yr oedd ei feistr wedi addo iddo ar y dechrau y caffai swydd urddasol felly wedi iddo yntau orfod ar ei elynion. Y mae barnedigaethau Sancho yn ystod y deng niwrnod y bu yn y swydd honno yn rhyfeddol o ddoeth. Wedi llawer cyfranc, y diwedd yw bod Sanson Carasco, ysgolor o ardal y Don, wedi ymddieithro fel marchog, yn dyfod ac yn herio'r Don i ymladd, yn ei orchfygu, ac yn rhoi arno, yn ôl yr amodau, fyned adref ac ym wrthod am flwyddyn â dwyn arfau, gan obeithio y deuai felly i'w synhwyrau. Ufuddha'r Don yn drist i'r amodau, ond wedi cyrraedd adref, y mae'n clafychu ac yn marw, ond nid cyn gweled ei ffolineb a melltithio'r llyfrau marchogwriaeth yn eu crynswth.

Dyna rediad y chwedl. Galwodd Heine hi "y gogan mwyaf yn y byd ar frwdfrydedd Yr oedd Cervantes yn oganwr heb ei ail. Nid ysgrifennwyd erioed ddim mwy miniog, ond odid, na'i ragymadrodd i'r rhan gyntaf o'r llyfr. Cymer arno ei fod wedi anobeithio cyhoeddi'r gwaith, o ddiffyg anerchiadau gan wŷr enwog i'w rhoi ar y dechrau, dyfyniadau dysgedig, a rhes o awduron ar y diwedd. Dywedodd ei benbleth wrth gyfaill, fel y crybwyllwyd eisoes. Dyma gyngor y "cyfaill":

Am nodi ar yr ymylau ym mha lyfrau a chan ba awduron y cawsoch yr ymadroddion a'r dywed— iadau a ddodasoch yn yr hanes, nid oes ond dwyn i mewn yn gymwys bethau a wypoch ar eich cof, neu o leiaf bethau na chostio ond ychydig drafferth i chwi ddyfod o hyd iddynt, megis, pan sonioch am ryddid a chaethiwed, dodi: Non bene pro toto libertas venditur auro, ac ar yr ymyl nodi Horas, neu bwy bynnag a'i dywedodd. Os trin y boch am gryfder angau, dodwch yno—

Pallida mors æquo pulsat pede
Pauperum tabernas, regumque turres.

Os am garu gelynion yn ôl gorchymyn Duw, ewch at yr Ysgrythur Lân, lle gellwch ei gael ag ychydig chwilio, a dodi geiriau Duw ei hun: "Ego autem dico vobis diligite inimicos vestros." Os trin y boch am feddyliau drwg, ewch at yr Efengyl: "De corde exeunt cogitationes malæ." Os am anwadalwch cyfeillion, dyry Cato ei bennill:

Donec eris felix, multos numerabis amicos,
Tempora si fuerint nubila, solus eris.

A rhwng y darnau Lladin hyn ac eraill tebyg, odid na chyfrifir chwi yn ramadegwr. Dyma ni yn awr yn dyfod at y rhestr o'r awduron Hawdd iawn gwella hynny, canys nid oes i chwi ddim arall i'w wneud ond chwilio am lyfr yn eu cynnwys oll o'r dechrau i'r diwedd (desde la A hasta lo Z).. Pe bai'n gelwydd golau, oherwydd lleied angen a fyddai arnoch eu chwilio, nid yw bwys yn y byd; dichon y bydd rhywun mor syml a chredu ddarfod i chwi eu chwilio i gyd yn eich hanes syml a chywir. A phe na wasanaethai ddim arall, o leiaf fe wasanaetha'r rhes hir o awduron. i roi rhyw awdurdod i'r llyfr. A rhagor, pwy a ymrydd i brofi a ddarfu i chwi eu canlyn pryd na chaffo ddim am hynny?

Dyma ddinoethi crach ddysgeidiaeth yr oes (a phob oes, o ran hynny), ac nid rhyfedd dynnu o'r awdur lawer yn ei ben. Y mae rhagymadrodd yr ail rhan, a darnau eraill ohoni cyn llymed a'r uchod neu lymach, ond er y cwbl nid oes wenwyn yn Cervantes. Os ei waith ef yw'r "dychan mwyaf ar frwdfrydedd dyn," da oedd ei sgrifennu. Hen gamgymeriad yw meddwl na ddichon neb ddychanu heb falais a surni. Y mae cydymdeimlad Cervantes â phob math o ddynion mor eang, a'i ddoniolwch mor siriol a rhadlon fel nad oes ynddo le i wenwyn. Er mai goganu'r llyfrau marchogwriaeth oedd un o'i amcanion, tyfodd y gwaith yn fwy na hynny dan ei ddwylaw. Onid yw ef yn caru ei gymeriadau, y Don, Sancho, yr offeiriad, y barbwr, Carasco a'r Dug a'r Dduges, a hyd yn oed y rhai sy'n sefyll dros ddosbarthiadau neilltuol, megis y tafarnwyr, y gweision a'r gyrwyr mulod? Ni buasai hyd yn oed y Don yn wrthun pe na bai'n rhywbeth mwy na delw bren i'w

Nodiadau[golygu]