Astudiaethau T Gwynn Jones/Uhland

Oddi ar Wicidestun
Don Quijote Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

Tennyson


UHLAND

UN wedd ar ramantusaeth y ddeunawfed ganrif fel cyfnod yng ngorllewin Ewrop oedd blino ar ddefod a disgyblaeth y clasuron, neu ar ddefodoldeb diffrwyth dynwaredwyr y clasuron, efallai. Wedi bod beirdd ac eraill yn Lloegr yn sôn am y "barbarous Gothic" cyhyd, daeth tro ar fyd. Dyer, peintiwr a bardd o Gymro a ganai yn Saesneg, oedd un o'r rhai blaenaf i gyfnerthu'r atro neu'r datro. Yn y tiriogaethau Celtig, yr oedd diddordeb yn yr hen amser wedi parhau er yn gynnar, heb i un ffasiwn newydd wanychu rhyw lawer arno-ceir ef yn helaeth yn y chwedlau a'r cerddi Osianaidd yn Iwerddon, a'r oldroad hwn, yn wir, sydd wrth wraidd mudiadau cenedlaethol pob tiriogaeth orchfygedig a lywodr aethir drwy orthrech, ac nid yw rhamantusaeth, hwyrach, ond buddugoliaeth y gorchfygedig, mewn rhyw wedd neu gilydd.

Ymhlith Celtiaid cyfarwydd â'r Saesneg fe gymysgodd yr hen ddiddordeb yn yr amser gynt â'r osgo newydd a ddaeth yn Lloegr, a daeth yr elfen Geltig hithau i mewn i'r peth yn y wlad honno hefyd. Felly y cafodd gwaith Macpherson groeso, ac yr aeth dynion, megis yr aeth Macpherson. ei hun, a rhai o'i feirniaid Seisnig a Chymreig, ar deithiau i chwilio am hen lawysgrifau a hynafiaethau (y mae lle i ofni, yn wir, mai un o'r beiau mwyaf ar Macpherson oedd iddo gael hyd i ddeunydd cymaint gwell, beth bynnag am hŷn, nag a gafodd y lleill!) Aeth yr ysfa yn gymaint o ffasiwn nes bod gwŷr bonheddig yn llogi crefftwyr i adeiladu "adfeilion" yn eu gerddi a'u parciau ac i blannu coed ar ddull arbennig o gwmpas eu tai, er mwyn peri i'r wlad edrych yn wledig a rhamantus. Cymerth dyn fel yr Esgob Percy ddiddordeb mewn hen faledi, gan eu casglu (a thrwsio tipyn arnynt hefyd, o ran hynny). Yr oedd gradd o'r un dylanwad ar ddiddordeb hynafiaethol y Morysiaid, Ieuan Brydydd Hir a Iolo Morganwg, er bod elfennau eraill yn y diddordeb hwnnw hefyd. Yr oedd Iolo yn sicr mai dyled y chwilotwyr oedd copïo pethau'n ffyddlon air am air fel y caent hyd iddynt, ac nid ffugio pethau fel y gwnâi Macpherson—sylw diddorol odiaeth, erbyn hyn. Enghraifft ychydig diweddarach a pheth o ôl y gymhleth Gymreig arni, ond odid, yw "Barzaz Breiz" Villemarqué yn Llydaw.

Aeth dylanwad Macpherson, o leiaf, i'r Cyfandir, gan gymysgu, y mae'n ddiau, â thueddiadau'r cyfnod i'r un cyfeiriad yno, ac arwain i ddatblygiad y cerddi gwerinddull (os ceir llunio term cyfleus am gerddi wedi eu seilio ar hen chwedlau gwlad a'u cyfansoddi yn ôl dull y cerddi gwerin, neu fel datblygiadau ar oddeuon y tybid eu cael mewn cerddi felly). Y mae hanes cyfodiad, ymlediad a dadfeiliad y peth yn hanes hir a diddorol dros ben. Rhydd hanes a gweithiau Uhland yn arbennig oleuni ar yr ymweithiad yn yr Almaen. Ganed ef (1787) mewn cyfnod pryd yr oedd i ramantusaeth apêl gref at lawer o bobl. "Brodor oedd," medd un o'i fywgraffyddion, "o ardal brydferth; gwelir yma glogwyni coediog, adfeilion cestyll llawn diddordeb hanesyddol, ac acw drumau llwydoer yn gloywi yng ngoleuni machlud haul. Nid pell iawn oedd adfeilion cestyll Hohenzollern a Hohenstauffen, lle bu brenhinoedd grymus yn byw. Tueddai popeth at ddeffro'r elfen ramantus yn natur y bachgen." Dyna a geir yn ei gerddi, cestyll rhamantus a thristwch a dirgelwch coedydd mawrion o'u cwmpas; nodau cyfeiliorn clychau eglwys bell; llewych haul yr hwyr ar fynyddoedd, ceyrydd, cymylau a dyfroedd, marchogion a'u gwrhydri a'u gofid. Yr oedd hen lyfrau a chroniglau lawer yn nhŷ ei daid, a thyfodd ynddo yntau hoffter at hanes gweithredoedd marchogion ac arwyr oesau cynt. Daeth yn fedrus ar dynnu lluniau a gwneud cerddi Lladin yn hogyn yn yr ysgol, a gwnaeth lawer o ganiadau Lladin ac Almaeneg yn y cyfnod hwnnw, ond nid yr hen glasuron a ddug ei fryd. Ystori ag ynddi apêl at waed dyn ei hun yw gwreiddyn rhamant, honno sy'n troi golygfa hardd neu hyfryd i'r golwg yn "olygfa ramantus," a chrynswth o elfennau'r apêl honno yw rhamantusaeth. Clywodd Uhland ryw athro dysgedig yn darlithio, gan gymharu'r Odyssey, gweithiau "Osian" Macpherson a cherdd Ladin, gwaith rhyw fynach di-enw yn rhywle o'r wythfed i'r ddegfed ganrif, yn adrodd hanes Walthar o Aquitain, a gymerwyd yn wystl gan Attila ac a ddihangodd adref wedi hynny drwy anturiaethau lawer. Deffroes hynny ynddo gariad mawr at hen lenyddiaeth o'r fath yma. "Mor hapus fyddwn," medd ef ei hun, "pan allwn gario 'Saxo Grammaticus,' yng nghyfieithiad Müller, neu yr 'Heldensage' adref gyda mi. O'r olaf y cefais fy hoffter at yr hen chwedlau gogleddig. O'r 'Heldensage' y cymerais bwnc cerdd 'y Brenin Dall."" Hanesydd a bardd Danaidd o'r ddeu ddegfed ganrif oedd Saxo Grammaticus, a gasglodd draddodiadau'r Daniaid yn llyfr, a elwid "Gesta Danorum" neu "Historia Danica."

"Y peth yr oedd cerddi clasurol," medd Uhland yn un o'i lythyrau, "er gwaethaf dyfal ddarllen, yn methu a'i roddi i mi, am eu bod yn rhy glir, yn rhy orffenedig; y peth yr oeddwn yn methu â'i gael mewn barddoniaeth fwy diweddar, a'i holl addurn hyawdl, fe'i cefais yma. Yr oedd lluniau byw a ffurfiau, a thu draw iddynt bellter dwfn, yn synnu ac yn swyno'r dychymyg."

Y mae cerdd "Y Brenin Dall" cystal enghraifft ag a ellir ei chael o'i gerddi yn y cyfnod hwn, a rhydd i ni syniad da am grefft y gerdd werinddull hefyd. Seiliwyd hi ar chwedl am y brenin Danaidd Wermund. Pan oedd Wermund yn hen ac yn ddall, heriwyd ef gan frenin y Sacsoniaid i roi ei deyrnas iddo ef, gan na allai ef mwy edrych ar ei hôl ei hun; neu ynteu yn niffyg hynny ganiatáu i'w fab ymladd â mab y brenin Sacson amdani. Cynigiodd Wermund ymladd ei hun â'r Sacson, ond ni fynnai hwnnw ymryson â gelyn dall. Mynnai'r cenhadon ar hynny fod i'r ddau fab ymladd. Yr oedd i Wermund fab a'i enw Uffo, yn freisgach a chryfach na neb cyfoed. ag ef, ond ystyrid mai prin o ddeall ac ysbryd ydoedd. Pa un bynnag, cynigiodd Uffo ymladd â mab y brenin Sacson ac a'r glewaf y gallai hwnnw ei ddwyn i'w ganlyn hefyd. Llawenychodd yr hen frenin yn fawr glywed hyn, ac ni allai gredu mai ei fab ef ydoedd nes ei deimlo â'i ddwylaw. Yn ôl hen arfer, dewiswyd ynys yn afon Eider fel lle'r ymryson. Yr oedd "Skrep," cleddyf enwog na safai dim rhagddo, wedi ei gladdu yn y ddaear, am na allai'r brenin ei ymddiried i'w fab ac am nas rhoddai i arall. Cyrchwyd y llafn weithian a'i roddi i'r twysog. Safodd y bobl ar lan yr afon, ond safodd y Brenin Dall ar ben y bont, yn barod i'w fwrw ei hun i'r dwfr os trechid ei fab. Sylwer ar fanylion teimladus yr amgylchiadau. Y diwedd, fel y gellid disgwyl, yw bod Uffo yn lladd y ddau elyn—dyna'r gwahaniaeth rhwng anwes y cyfnod hwnnw ag eiddo'n cyfnod ni, er enghraifft, pryd y byddem debycach o roi'r fuddugoliaeth i'r treisiwr, a dyfnhau effaith ein crefft drwy deimlo bod rhywbeth yn arwraidd ynom fel dynion yn wyneb anesgorwch ein tynged, bron fel y bydd y dyn mewn claddedigaeth, a ddangoso ryw gadernid uwchraddol, megis. Ond dyma sut y trinodd Uhland y deunydd, gan ei ramantuso yn null ei gyfnod yntau. Rhwng y ddau yn rhywle, hwyrach, y down ninnau'r dynion cyffredin â'n hanwes ein hunain yn ein tro. Ni ddaw'r cyfieithiad, wrth gwrs, ddim yn agos at y gerdd gysefin:

Paham y mae'r gogleddig lu
Yn sefyll ar y lan?
A'r brenin dall a phenwyn fry,
Beth fynnai yn y fan?
Mewn chwerw ing resynus,
A'i bwys ar ben ei ffon,

Fe eilw nes yw'r ynys
Yn datsain dros y don.

"O'th ogof, dreisiwr," meddai ef,
"Rhyddha fy merch i mi!
Ei thelyn hi a'i pheraidd lef
Oedd braint fy henaint i;
O'r ddawns ar lan flodeuog
Drwy drais y dygaist hi;
I ti mae gwarthrudd euog
A phlygu 'mhen 'rwyf i."

Ar hyn y treisiwr yntau'n hy
O'i ogof allan daeth,
A chwyfio'i gawraidd gleddyf fry
A tharo'i darian wnaeth;
"Mae iti lu o wylwyr,
Pam y'th adawant di?
Onid oes un o'th filwyr
A ymladd erddi hi?"

A mud yw'r llu ac ni ddaw un
Ymlaen ohonyn' hwy;
Medd yntau'r Brenin Dall ei hun.
Ai unig ydwyf mwy?"
Ond ar ei fraich mae gafael
Ei fab ieuengaf ef:
"Gad imi yr ymrafael,
Y mae fy mraich yn gref!"

"O fab! mae'r gelyn megis cawr,
Nid oes a'i ceidw draw!
Ond ynot ti mae mêr y dewr,
Mi wn wrth bwys dy law;

Dwg im' hen gledd y teulu-
Pen moliant beirdd di-rif,
A llyncer fi os ffaeli,
Hen llwyd o dan y llif!"

Ust! sua'r dyfroedd draw a ylch
Y cwch yn ewyn gwyn,
A gwrendy 'r Brenin Dall; o'i gylch
Mae pawb yn tewi'n syn;
A chlywir acw dincian
Y dur ar darian lefn,
Rhyfelgri groch a rhincian
Ac atsain gwag drachefn.

Rhwng ofn a gobaith, cyfyd cri
Yr henwr: "Beth y sy?
Fy nghledd, ei dinc a adwaen i,
O rym ei fath ni fu."
"Fe gwympodd yr ysbeilydd.
A gwobrwy gwaed a gadd;
Hawddamor, fab di-eilydd
O rym a breiniol radd!"

Distawrwydd eto ar bob tu,
A gwrendy'r henwr syn:
"Pa beth yw'r siffrwd draw a'r su
A glywaf dros y llyn?"
"Dy fab a'i gledd a'i darian
Sy weithian dros y lli
Yn nesu at y marian,
A'th ferch ben-felen di!"

"Hawddamor!" medd y Brenin Dall
O ben y clogwyn mawr,

"Fy henaint, llawenhau a all
A'm bedd fydd gwiw yn awr;
I mi fy nghywir gleddyf,
Fy mab, a ddygi di,
A'm merch, cei mewn tangneddyf
Ganu fy marwnad i!"

Tebyg yw "Die Sterbenden Helden," cerdd arall a wnaeth y bardd yn ei ieuenctid dan ddylanwad Saxo Grammaticus. Yn honno y mae tad a mab yn marw ar faes brwydr. Cwyna'r mab ei gipio ymaith oddi wrth ei gariad a'i gerddau, ond dywed y tad wrtho y caiff ei dderbyn i deml Odin, lle rhydd ei gariad eto iddo'r cawg aur yn y wledd. Yr un teimlad sydd yn y cerddi hyn ag a gawn yn "Osian" Macpherson, ac apêl rhamant bore oes dyn sydd ynddynt, y mae'n ddiau, apêl sy'n pylu gyda blynyddoedd o ddidwyllad dyn i raddau mawr, efallai, ond nad annaturiol moni i'r rhai a all, chwedl Lessing, droi oddi wrth heddiw a'i oddef ac yfory a'i farw at ddoe a'i ddiniweidrwydd!

Er mwyn dilyn ei hoffter, astudiodd Uhland Ffrangeg, Saesneg ac Ysbaeneg, a chwiliodd yn ddyfal am hen gerddi cenedlaethol, er mwyn deall pa leferydd a roddid i fywyd gwerin y gwledydd ynddynt. Ceir yr un elfen yn ei gerddi natur. Ysgrifennodd rai dramâu, ond y delyneg a'r faled oedd ei gyfryngau naturiol ef. Gyda'i ddysg a'i flynyddoedd, cynhyddodd ei fedr, y mae'n ddiau, fel y dywed y beirniaid, ond ceir y syndod a'r peth anghyffwrdd yn ei waith o hyd. Un o'i faledau gorau yw "Harald." Seiliwyd hi ar chwedl a geir mewn hen faled Ysgotaidd, a bwriadwyd iddi fod yn rhan o ddrama nas gorffennwyd:

Marchogaeth draw ar flaen ei gad
O Harallt bennaeth hy,
A hwylio o'r llu wrth olau'r lloer
Drwy ganol coedwig ddu.

Yn uchel chwyfiant yn y gwynt
Faneri llawer cad,
A chanant lawer rhyfel gerdd
Yn uchel dros y wlad.

Pa ruthro a llithro drwy y llwyn ?
Drwy'r coed ba symud sy?
Pa beth yn ewyn dwfr y nant
A syrth o'r cwmwl fry?

Pa daflu blodau o bob tu ?
Pa ganu o ryfedd rin?
A phwy a naid ar gefnau'r meirch,
A ddawns drwy rengau'r drin?

Pa fannu mwyn, pa finio mêl,
Pa beth sy'n dal pob un ?
Yn taflu'r marchog, dwyn y cledd,
Heb ado hedd na hun?

Llu mân y Tylwyth Teg yw'r rhain,
Ni thycia ymladd drud;
Mae'r milwyr eisoes wedi mynd,
Maent oll yng ngwlad yr hud.

Nid ery ond y rhi ar ôl,
Sef Harallt bennaeth pur;
Ac ef o'i ben i wadn ei droed
Mewn gwisg o galed ddur.

Ei lewion oll, cymerir hwy,
Mae'u harfau ar y llawr,
A'u meirch yn weilydd drwy y coed
Yn crwydro'n wyllt yn awr.

O le i le yn drist ei fryd
A Harallt bennaeth hy,
Yn unig wrth oleuni'r lloer
Ar hyd y goedwig ddu.

Gwêl ffrwd o'r graig yn llifo'n glir,
O'r cyfrwy naid y gŵr,
A thynnu'r helm oddi am ei ben
I yfed diod ddŵr.

Ond cyn bod torri ei syched ef,
Diffygia droed a llaw,
Rhaid iddo eistedd wrth y graig,
A thrymgwsg drosto a ddaw.

A huno ers llawer canmlwydd hir
Mae e ar odre'r allt,
A'i ben yn gorffwys ar ei fron,
Yn wyn ei farf a'i wallt.

Pan fo daranau croch a mellt
Yn crynu'r goedwig ddu,
Palfalu am ei gledd drwy'i hun
Y bydd y pennaeth hy.

Cyfieithwyd "Das Schloss am Meere" o'r eiddo i'r Gymraeg fwy nag unwaith eisoes, ac eraill o'i delynegion hefyd, ac ni buont heb ddylanwadu, gyda thelynegion beirdd eraill o'r Almaen, Heine yn enwedig, ar delynegion Cymraeg y ganrif hon. Peth diddorol iawn i ddarllenwyr Cymraeg hefyd yw sylwi bod ganddo'n fynych gynghanedd a alwem ni yn gywir wrth ein rheolau ein hunain, megis y llinellau a ganlyn o gerdd "Harallt," er enghraifft:

Durch einen wilden Wald
(Drwy ryw goedwig wyllt).

Was kost so sanft, und küsst so süss
(Pa beth sy'n cyffwrdd mor esmwyth ac yn cusanu mor felys).

Wohl durch den weiten Wald
(Ar hyd y goedwig lydan).

Gellid yn hawdd bigo llawer o enghreifftiau tebyg o'i waith, a rhagor fyth heb ateb yn llwyr i'r rheolau Cymraeg.

(1905).

Nodiadau[golygu]