Neidio i'r cynnwys

Athrylith Ceiriog/Pennod 4

Oddi ar Wicidestun
Pennod 3 Athrylith Ceiriog

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Pennod 5

Pennod 4.

YN y flwyddyn 1564, ganwyd Shakspere yn swydd Warwick, ar lan yr Avon; yn swydd Warwick, ac ar lan yr Avon hefyd, yn mhen tua dwy ganrif ar ol hyny ganwyd bardd arall—Walter Savage Landor. Yn holl gylch llenyddiaeth Seisnig ni fu dau mor debyg o ran teithi eu meddwl, na dau mor fedrus i ddarllen cyfrinachau y natur ddynol. Wrth sylwi ar hyn, gofyna un beirniad llygadgraff —"Beth sydd yn awyr Warwick i gynyrchu y fath ddynion ?" Yn yr un teimlad y canodd Landor ei hun:

I drank of Avon too, a dangerous draught,
That roused within the feverish thirst of song.

Dyddorol yw sylwi hefyd fod amryw o emynwyr goreu Cymru wedi eu magu yn yr un ardal yn Nyffryn Tywy—Dafydd Jones o Gaio, Morgan Rhys, a Williams, Pantycelyn;[1] ac awdwr "O fryniau Caersalem ceir gweled" mewn cymydogaeth gyfagos, Beth sydd yn y dyffryn tlws-dawel hwnw ymgeleddu awen y Salmydd? ac ai dychymyg rhy nwyfus sydd yn sibrwd fod golygfeydd Dyffryn Tywy yn meddu llawer o debygolrwydd i ddyffryn Bethlehem a'r bryniau o'i amgylch, lle y dysgodd "peraidd ganiedydd Israel" edrych ar y nefoedd i ganmol gwaith bysedd yr Iôr? Nid myntumio, ond awgrymu, wnawn yn hyn o beth.

Y mae arbenigrwydd dylanwadau natur ar feddwl y bardd yn un o gyfrinachau y byd ysprydol. Gallwn ddyfalu ac awgrymu, ond nis gallwn roddi dadganiad sicr. Beth sydd yn nyfroedd yr Avon, neu yn nyffryn Tywy, nis gwyddom: ond dyna'r ffeithiau. Y mae yr un dirgelwch anianyddol yn ein cyfarfod wrth olrhain y dylanwadau fuont yn darparu awen Ceiriog i ganu caneuon ei wlad. Yn y dyffryn lle y ganwyd Huw Morus yn 1622, y ganwyd ac y magwyd Ceiriog ddwy ganrif yn ddiweddarach. Y mae Llyfrbryf a Llew Llwyfo yn manylu ar olygfeydd ardal ei enedigaeth. Dywed yr olaf "mai ychydig gymoedd sydd yn Nghymru lle y gall y llygad mewn can lleied o gylch, gael trem ar gymaint o amrywiaeth ffurfiau mewn golygfeydd, o'r gwyllt i'r prydferth, o'r mawreddog i'r swynol, o'r ' echrys ac uchrol ochrau ysgythrawg' i'r 'parthoedd ardaloedd deiliawg"[2] Tueddir un i ddywedyd fod y cwm bychan rhamantus, o dan gysgod y Berwyn, yn ddelweddiad prydferth o awen y ddau fardd. Nid arwrol yw awen Huw Morus na Cheiriog: nid oes ganddi olygfeydd llydain i'w dadlenu, nac uchelderau bythwynion yn codi uwchlaw'r cymylau i orphwys dan lasliw tragwyddol y nef. Ehediadau bychain, tyner, yw ehediadau awen y ddau; yn llawn o dlysni cartrefol, yn llawn o agosrwydd a hyfrydedd Anian. Gweddiodd Ceiriog am fod fel nant y mynydd, ac "fel yr awel efo'r grug": cafodd ei weddi ei hateb i'w awen.

Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O, na bawn i fel y nant!

Grug y mynydd yn eu blodeu,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg—
O na bawn fel 'deryn bach!

Dyna farddoniaeth Ceiriog: y mae ei feddyliau yn rhedeg mor loyw ac mor fywiog a'r nant fynyddig; y maent mor ddirodres ac mor anwyl i bawb a'r grug yn eu blodeu; ac y maent mor ddirwystr a'r aderyn yn awel y gwanwyn.

Heblaw agweddau naturiol ardal ei febyd, yr oedd iddi hefyd ei chofianau hanesyddol. Gan fod blaen Dyffryn Ceiriog yn rhedeg i diriogaeth Lloegr, bu yma lawer brwydr waedlyd yn ystod yr ymrafael hir rhwng y Saeson a'r Cymry. Tra y mae y rhan fwyaf o'r brwydrau hyny wedi myned yn annghof, y mae un frwydr yn aros eto ar gôf a chadw. Brwydr Maes Crogen oedd hono; lle yr enillodd Owen Gwynedd fuddugoliaeth benderfynol ar Harri II., yn 1165. Diau i'r hanes gael ei adrodd lawer gwaith i Ceiriog yn ei faboed, yn nghydag aml draddodiad cynhyrfus am gampau milwrol ei gyndeidiau. Y mae yspryd yr oesau gynt yn fyw yn ei ganeuon, ond fod dialgarwch yr ysbryd hwnw wedi ei liniaru gan deimlad mwy dynol yr oesau diweddar.

Y mae ei farddoniaeth wedi ei phrydferthu yn fynych âg adlewyrchiadau tyner o olygfeydd a phrofiadau boreu oes. Y mae Burns wedi ysgrifenu ei gofiant yn ei ganeuon—a chofiant gofidus ddigon ydyw y mae creithiau ei fywyd yn aros yno byth. Wrth ddodi y geiriau canlynol yn ngenau y ferch ieuanc dwylledig ar lanau'r Doon,—

Wi' lightsome heart I pu'd a rose,
Fu' sweet upon its thorny tree:
But my fause lover stole my rose,
And, ah! he left the thorn wi' me;—

yr oedd yn adrodd ei hanes torcalonus ei hun. Tynodd yntau y rhosyn gwaharddedig; a dihunodd un diwrnod â dim ond draen chwerw yn ei law. Bywyd mwy tawel fu bywyd Ceiriog; ac mewn canlyniad tawel yw y profiadau cofianol a geir yn ei ganeuon, oddieithr pan rodia ei awen yn alarus ar faes y gwaed.

Pe byddai eisiau rhywbeth i brofi mor agos at ei galon oedd adgofion boreu oes, y mae y prawf wedi ei gael yn y ffaith fod y lle cyntaf yn ei lyfr cyntaf wedi ei roddi i gartref ei ieuenctyd. "Wrth dalcen y tŷ," medd Llyfrbryf, "rhed afonig fechan ar hyd ymyl y ffordd sydd yn arwain i fynu i'r wlad; ac ar fin y ffrwd hono y mae'r Gareg Wen'" sydd wedi rhoddi enw i'r gân. Wrth gofio hyn, y mae y penill syml hwn yn enill dyddordeb newydd:—

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan
Lle syrthia dros y dibyn bàn,
A choed afalau ar y làn,
Yn edrych ar y lli.


Ac yno cawn ddifyr ddilyn y llanc diofalon ar foreu o wanwyn, wedi'r cawodydd maethlon, yn crogi" pin plygedig " yn fâch wrth edau lin,—i fod yn ddiau yn fwy o ddigrifwch nac o alanas i'r pysgod. Ac er i lwybr bywyd ei arwain ar grwydriadau pell—

Wyf wrth y Gareg Wen o hyd,
A'r nant sydd yn fy nghlyw.

Credwn mai teimlad dwfn sydd yn siarad yn y geiriau, ac nid dychymyg chwareus. Yr oedd dyfroedd y gornant wedi bedyddio ei awen ieuanc, a chysgodau heulog bryniau Berwyn wedi dyfod i gartrefu yn ei feddwl. Nis gallodd dwndwr y dref na thrafferthion bywyd yru murmur y nant o'i enaid. I ddangos mai dwysder teimlad sydd yn canu, y mae yn y ddau benil olaf yn cysegru adgof mebyd yn ymyl ei fedd ei hun:—

'Rol gado "gwlad y cystudd mawr,"
Os byw fy enw haner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond Bardd y Gareg Wen.

Os y gornant a'r "gareg wen" sydd yn sirioli ei gân gyntaf, yn ei lyfr cyntaf, ni raid troi ond ychydig ddalenau cyn ei gael yn dringo llethrau'r Berwyn yn nghwmni Owain Wyn. Mor rhydd oddiwrth fydolrwydd yw ei awen, ac mor ysgafn y cerdda ar hyd y bryniau:—

Weithiau tan y creigiau certh,
Yn nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w wel'd ond creigiau serth,
A thyner lesni'r nefoedd;
Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog;
Gwel'd y nant, y cwm, a'r glyn,
Y ddol, y gors, a'r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau—
Bedd yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.


Ni ellir byth dalu yr awen am ddarlun mor swynol. Ond, o ran hyny, nid oes arni eisiau tâl; y mae ei naturioldeb ei hun yn ei thalu. Ar ol deugain gauaf brigwyn," arweinir ni eilwaith "ryw noson ddystaw oer" dros y Berwyn, i glywed Owain Wyn arall yn canu:

Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd yn nghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu penau'n fud.

Ac ar ddiwedd y gân, y mae y bardd yn ei hwyl yn tori allan, "Mynyddau'r hen Ferwyn i mi!"

Un o deithi yr athrylith Geltig yw anwyldeb at Natur yn ei hagweddau lleol, yn hytrach nag yn ei hymddangosiadau cyffredinol. Yn marddoniaeth Groeg cyffredinolrwydd Natur a adlewyrchir fynychaf—yr haul, y nos, y wawr, yr wybren. Ond mwy dymunol i awen y Celt yw gwylio yr haul, y wawr, a'r nos ar fryn neu fro gynefin.

Nos dywell yn dystewi—caddug
Yn cuddio'r Eryri,

medd Gwallter Mechain.

Lliw eiry cynar pen Aran,

medd Hywel ap Einion, bardd—gariad Myfanwy, yn ei awdl iddi,

Ar uchaf gopa Berwyn bàn
Dydd newydd rodd ei droed,

medd Ceiriog.


Gellir dilyn yr un elfen yn ngherddi yr holl gymrodoriaeth Geltig. Yn ei ddarlithiau ar a barddoniaeth Ucheldiroedd yr Alban, geilw y diweddar Brifathraw Shairp sylw fwy nag unwaith at hyn. Wrth son am Donacha Ban neu Oran—a elwir yn aml yn Burns yr Ucheldiroedd a'i gân adnabyddus i "Ben Doran," dywed y Prifathraw—"Y mae y bardd gyda'r manylder mwyaf cariadus, yn sylwi ar nodweddion amrywiol ac agweddau byth-newidiol y mynydd, yr hwn a gerid ganddo fel pe byddai yn greadur byw ac yn gyfaill."[3]. Daw yr un teimlad ardalgar i'r golwg yn un o'r caneuon hynaf yn nhafodiaith y Gael—y gân ar alar Deirdre.[4] Gorfodid Deirdre trwy drais i adael gwlad ei serch: ac y mae y gân wedi ei gosod yn ei genau i draethu gofid ei chalon wrth gefnu ar un glyn ar ol y llall—Glyn Massan, gyda'i "lysiau uchel a'i ganghenau teg"—Glyn Etive, "lle codwyd fy nghartief boreuol: hardd yw ei goed pan gyfyd yr haul "—Glyn Urchay—Glendaruadh, "mwyn yw llais y gog ar y ganghen grymedig "—a Draighen: "anwyl yw Draighen a'i draeth soniarus, anwyl yw llif ei ddyfroedd dros y tywod gloyw"

Eto, i groesi am enyd i diriogaeth Geltig arall, wrth sylwi ar ganeuon un o chanseurs poblogaidd Ffrainc oedd wedi ei eni yn Llydaw, dywed cyfieithydd hyddysg mai y teimlad amlycaf sydd yn rhedeg trwy ei ganeuon yw yr hiraeth a deimlir gan wladwr, wedi dyfod i fyw i'r dref, am fwynderau ei gartref genedigol; ac mai y cartref hwnw bron yn ddyeithriad ydyw Llydaw."

Y Celt yn Ucheldiroedd yr Alban—y Celt yn Llydaw—y Celt yn Ngwalia: yr un ydynt i garu. golygfeydd mebyd, i edmygu Anian yn ei phrydferthwch lleol. Donacha Ban wrth droed Ben Doran, a Cheiriog wrth odreu'r Berwyn—yr un gwlith cysegredig sydd yn disgyn ar awen y ddau.

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt:
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megys cynt.

Tra parhao awen y Celt, erys cân ar y bryniau.

Nodiadau

[golygu]
  1. Yn yr un ardal yr ysgrifenodd Ficer Pritchard "Canwyll y Cymry"; ac y mae llawer o'i benillion bron bod yn emynau.
  2. Y Geninen, v 149.
  3. Aspects of Poetry, 298; s. v. Modern Gaelic Bards
  4. Yr oedd Ceiriog wedi syrthio mewn cariad â'r gân hon; gwel Y Bardd a'r Cerddor, 115, 116.