Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Bywgraffiad, gan y Llyfrbryf

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Nodweddion ei Farddoniaeth

GORONWY OWEN

(BYWGRAPHIAD).


MEWN bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, y ganwyd Goronwy Owen, a hyny Ddydd Calan, 1722—Calan yn ol yr hen ddull, ond Ionawr 13 yn ol y dull presenol o gyfrif. Ei dad, Owen Goronwy, oedd eurych meddw a diddaioni, meddir; a'i fam, Sian Parri, yr hon, yn ol arfer gwlad yn ei hoes, a adwaenid ar ol priodi wrth ei henw morwynol, oedd wraig ddiwyd, ac yn helpu ei bachgen yn ei ymdrechion am wybodaeth. Rhedeg o'r, ac nid i'r ysgol, y bydd plant yn gyffredin. Yr olaf ddarfu'r bachgen Gronwy: neu Gronow, canys felly y sillebid ei enw ac y gelwid ef yn mhob gweithred gyfreithiol y rhan gyntaf o'i oes. A'r ysgol agosaf i Rhosfawr ar y pryd, meddir, oedd yn Llanallgo—pellder o ddwy filldir. I'r ysgol hono y rhedodd y bachgen, a buasai ei dad wedi ei guro, onibai i Sian Pari godi'r hwyl fawr. Felly, fe aeth y llanc yn mlaen gyda'i fyfyrion tan nawdd ei fam dlawd a chefnogaeth cymydogion yr oedd ei anian ryfeddol. i ddysgu wedi tynu eu sylw ac enyn eu hedmygedd. Y penaf o'r rhai hyn oedd teulu Pentref Eirianell— cartref Lewis, Richard, a William Morris—y "tri-mab o ddoniau tramawr," a'u mam, y "wraig ddigymhar Marged," y canodd y llencyn tlawd wed'yn y farwnad dlosgain iddi a welir ar dudalen 34 o'r llyfr hwn. Bu y Morysiaid yn dra charedig wrtho, ac anhawdd eredu y buasai genym Oronwy Fardd o gwbl oddieithr am y nawdd a gafodd ganddynt hwy. Cydnebydd y bardd eu haelioni mewn geiriau tyner a diolchgar, y rhai a welir yn ei Farddoniaeth ac yn wasgaredig hyd ei Lythyrau.

Wedi dysgu yr hyn oedd i'w ddysgu yn Llanallgo, aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, lle y bu o 1737 hyd 1741. Y syniad cyffredin ydyw mai Lewis. Morris oedd yn talu traul yr ysgol, neu yn hytrach yn helpu'r fam ymdrechgar tra bu hi; canys erbyn i'r bachgen orphen ei gyfnod yn Mangor, yr oedd ei fam wedi marw a'i dad di-lun wedi ail briodi. Nid oedd yno gartref mwy iddo ef; ac yr oedd yn gyfyng arno. Yn ei gyfyngder danfonodd lythyr Lladin at "Owen Meyrick o Fodorgan, Ysw.," yn dweyd ei hanes, ac yn apelio am ei gymhorth fel ymddiriedolwr dwy ysgoloriaeth yn Môn i gynal dau wr ieuanc yn Rhyd— ychen neu Gaergrawnt. Nid ymddengys i'w gais lwyddo, ar y pryd, beth bynag: a chawn ef yn nesaf yn athraw cynorthwyol Ysgol Ramadegol yn Mhwllheli. Yno yr oedd yn 1742, pan ganai ei "Latin Ode" i Mr. Richard Rathbone—gweler tudal. 114; a "Chalendr y Carwr," tudal. 18, er y dywedir mai tua 1743 y cyfansoddodd y cywydd hwnw. Mehefin 3, 1742, a hyny trwy gymhorth Edward Wynne, Ysw., o Fodewryd, derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen. Mewn cyfarfod o Ymddiriedolwyr "Elusen William Lewis," a gynaliwyd Medi 1, 1743—Owen Meyrick ac eraill yn bresenol—gwnaed yr archeb a ganlyn:—" Ordered that Gronow Owen, now of Jesus Colledge, Oxford, be, and is, hereby admitted to receive the said Charity in the room of Mr. Langford, who has received the same for five years." Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1745—nid yn Mangor na Llanelwy—mae sicrwydd am hyn; tybir mai yn Rhydychen. Yna, ac ini ddyfynu geiriau'r bardd ei hun, "fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gytunodd â mi i fyned yno." Yn naturiol iawn yr oedd hyn wrth fodd calon y clerigwr ieuanc cael myn'd i Fôn, i'w blwyf genedigol, ac i blith ei hen gyfeillion. Ond, "Ni cheir mo'r melys heb. y chwerw. Dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr yn dweyd fod a young clergyman of very great fortune wedi bod yn hir daergrefu am ryw le yn yr esgobaeth, a rhaid oedd i hwnw gael y lle os dymunai."

Chwedl yntau, "Beth a wnai drwstan ?" Cefnu; beth arall? Ac o hyny allan, ni welodd ac ni throediodd ymylau Mon, nac un cwr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu iddo fyned i Lan Elwy i gael urdd offeiriad. Llawer cais a wnaeth am fywoliaeth yn Mon, neu ryw ran arall o Gymru, yn niffyg Mon; llawer ochenaid drom esgynodd o'i fynwes, a deigryn hallt ddisgynodd o'i lygaid, am gael sangu yr "ardd wen." Ond bu pob ochenaid a deigryn, a chân a chywydd, o'i eiddo yn gwbl ofer. "Nid oedd y Bardd Du yn ddigon da," ebe rhai; "arno ef ei hun yr oedd y bai," meddynt. Hach! ac i ni gredu y gwaethaf am Oronwy, a'r goreu am ei gydoeswyr offeiriadol, yr oedd haner pwlpudau Eglwys Loegr yn Nghymru yn cael eu llenwi gan ddynion annhraethol waeth nag ef.

Hwn oedd argyfwng mawr bywyd y Bardd. Trodd ei wyneb tua sir Ddinbych, lle yr oedd rhai o deulu ei fam a fuasent garedig wrtho droion o'r blaen; a chyda hwy y bu yn llechu (gresyn na ddywedasai yn mha gwr o sir Ddinbych) nes y cafodd hanes curadiaeth yn ymyl Croes Oswallt; ac meddai (gwel LLYTHYRAU, tudal. 8) " tuag yno y cyfeiriais. . . Mi fum yn Gurad yn nhref Groes Oswallt yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais yn Awst, 1747."

Dywed y Parch. R. Jones mai curadiaeth Selattyn, plwyf tua dwy filldir o Groesoswallt, a gafodd, ond nid yw'r Bardd ei hun yn son am Selattyn o gwbl, hyd yn nod mai yno y priodwyd ef, yr hyn sydd ddiamheuol, fel y prawf y cofnod canlynol a godwyd o Register y plwyf hwnw:—

Mar. The Revernd Gronow Owen and Mrs. Elen Hughes both of Owaldstree were married 21st day [of August, 1747].

Ac wedi dechreu son am ei briodas, ni waeth gorphen Gweddw ieuanc oedd ei wraig, medd y Parch. R. Jones; merch i Mr. Owen Hughes, aldramon yn Nghroesoswallt, gwr lled gefnog arno; ond ni fu'r Bardd fawr elwach o hyny, fel y tystia yn rhai o'i Lythyrau. Dywed y Parch. Rossendale Lloyd, rheithor presenol Selattyn, ac i hynawsedd yr hwn yr ydym yn ddyledus am y copi uchod, fod y registers yn cael ei cadw yn annhrefnus yn y misoedd hyny oblegyd afiechyd y rheithor. Tybed fod Goronwy yn gweinyddu yn Selattyn pan fyddai'r offeiriad yn rhy wael? Yn ol Cofrestrau Llanelwy, Awst 8, 1747, y trwyddedwyd ef yn gurad Croesoswallt, a thranoeth (Awst 9) yr urddwyd ef yn offeiriad. Dichon ei fod yn rhy dlawd i dalu am drwydded pan offeiriadai yn gynorthwyol, ac yn rhaid iddo ei chael i fod yn gurad Croesoswallt. Fe ddywed y Parch. R. Jones hefyd fod y Bardd yn un o athrawon Ysgol Ramadegol Croesoswallt.

Gadawodd Groesoswallt yn Medi, 1748, gan dderbyn curadiaeth Uppington, sir Amwythig, a chael gyda hyny y swydd o feistr ysgol fechan waddoledig yn Donnington, lle y trigianai. Ysgotyn calongaled a chribddeilgar oedd ei rector o'r enw Douglas, yr hwn a ddyrchafwyd yn olynol yn Esgob Carlisle a Salisbury. Gwaith anhawdd enbyd oedd dwyn deupen y llinyn yn nghyd yn Donnington. Tua £26 yn y flwyddyn a dderbyniai oddiwrth y ddwy swydd; ac yr oedd ei ofynion teuluaidd yn cynyddu. Flwyddyn wedi iddo fyned i'r porfeydd gwelltog hyn, ganwyd ei fab hynaf, Robert, y rhodd bert bach;" a deuddeg mis yn ddiweddarach, daeth iddo ail fab, sef Goronwy. Ond ymdrechodd y Bardd ei oreu i gadw ei ben uwchlaw'r dwfr, ac er amled ei ddyledswyddau, mynodd hamdden i ddysgu cryn lawer ar yr ieithoedd Syriaeg ac Arabaeg. Yma hefyd, yn nghanol Lloegr, y cyfansoddodd ei "Gywydd y Farn Fawr." Y mae'n cwynaw ei fyd yn dost,—a chwynwr doniol ydoedd. (Gweler LLYTHYRAU, tudal. 21,.)

Ond fel y dywed ef ei hun, "Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw." Llwyddodd ei gyfaill, Wm. Morris o Gybi, i gael lle iddo fel curad Walton, ger Lerpwl, lle y dechreuodd ar ei orchwyl Ebrill 29, 1753. Yr oedd Walton o gryn lawer yn well iddo na Donnington, canys nid oedd lai ei gyflog yma na £35; heblaw tâl fel meistr Ysgol Rad o £13, a Thŷ'n y Fynwent i fyw ynddo.

Tua dwy flynedd fu hyd ei drigfan yn Walton. Yma ysgrifenodd y nifer luosocaf o'i lythyrau sydd ar gael a chadw. Dichon na fu ei awen firain mor gynyrchiol ag yn Donnington, a phriodola un o'r Morysiaid hyny i'w agosrwydd at dref fawr Lerpwl, a'r temtasiynau yr oedd yn agored iddynt trwy fynych gyfarfod capteniaid llongau a chyfeillion eraill o Gymru. Gwell genym ni gredu mai ei aml ddyledswyddau mewn plwyf mawr, y mynych wasanaethau i'w cyflawni yn Eglwys y Plwyf, a hyny heb gymorth y Rector glwth, fu'r prif achosion na chanodd yma gymaint ag a fuasid yn disgwyl. Yn gynar yn 1755, bu yn glaf iawn tan y cryd; ac Ebrill 17, bu farw ei unig eneth, yr hon oedd yn dra anwyl gantho." Archoll lem i'w deimladau tyner oedd ei cholli. Meddai mewn llythyr at Wm. Morris:—

Mae fy holl dylwyth i yma [Llundain] bod y pen, ond fy merch fach a fynai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi.

Nid ydym yn sicr beth barodd i Oronwy symud i Lundain. Rhai a ddywedant mai bwriad y Cymmrodorion i godi Eglwys Gymraeg yn y Brifddinas; ac yntau yn awyddus am y gaplaniaeth, a daflodd guradiaeth Walton i fynu. Modd bynag, treuliodd rai misoedd yn Llundain yn segur; a dyna'r adeg y cyfansoddodd "Gywydd y Nenawr" (gwel tudal 85). Cyrhaeddodd Goronwy a'i deulu i'r Brifddinas ddechreu Mai, 1755. Ond siom oedd yn ei aros yno. drachefn. Methwyd cael eglwys i gynal gwasanaeth Cymraeg ynddi, ac nid oedd yno felly gaplaniaeth iddo yntau. Bu y Morysiaid ac amryw gyfeillion eraill yn dra charedig wrtho ef a'i deulu hyd nes agorodd drws ymwared yn mhen rhyw ddeufis neu dri trwy iddo gael curadiaeth Northolt, plwyf gwledig rhyw ddeuddeg milldir o Lundain. Ei gyflog yno oedd £50, a thy, a gardd helaeth. Rhwng pobpeth, gydag ychydig gynildeb a darbodaeth, gallasai fod yn ddigon clyd arno; ac felly yr oedd am gryn amser. Gwahoddai Lewis a Richard Morris i ymweled â Northolt gan addaw lletty cysurus a phorthiant gweddaidd i'w sefyllfa; a danfonodd "Gywydd Gwahawdd" godidog at "Parry o'r Mint." Ymroddodd i fyfyrio yn nhawelwch ei neullduedd, a thorai ar ddiflasdod y fyfyrgell trwy bysgota yn yr afon Brent gerllaw. Ond ymwelai'n achlysurol â'r Brifddinas, lle cyfarfyddai rai o'i hen gymdeithion, yr hyn a'i taflai oddiar ei echel yn lân a chollai bob llywodraeth arno ei hun. Yr oedd, er hyny, yn fôd mor frac a llawn o athrylith fel mai hawdd maddeu iddo. Nid oes le i gredu fod undyn wedi digio drwyddo wrtho ond Lewis Morris; ac ar dudal. 127 o'r LLYTHYRAU ceir awgrym gynil paham. Mae desgrifiad L. Morris o'r bardd, sydd yn dechreu, "I wonder how the poor d——l of an offeiriad," wedi ei ddyfynu ar yr amlaf, ac ni fuasem yn ei grybwyll ond er dangos fod ochr arall i'r darlun a geir yn "Cywydd y Diawl." Ni chafodd bardd erioed ffyddlonach cyf- eillion na Goronwy yn y Morysiaid, waeth beth ddywed neb i'r gwrthwyneb.

Bu ddwy flynedd yn Northolt; a chan weled nad oedd ond gobaith gwan iddo byth am bersoniaeth yn Nghymru, penderfynodd dderbyn cynyg o £200 yn y flwyddyn am fyned i Williamsburgh, Virginia, fel athraw ysgol. Ond pa fodd yr oedd ef, ei briod, a'i dri phlentyn i gyrhaedd yno? Ugain punt a ganiatai'r llywodraeth at y gost. Apeliodd at y Cymmrodorion am help yn yr anerchiad a welir yn y LLYTHYRAU, 133; a chyfranodd Mr. Richard Morris ac ychydig o gyfeillion eraill iddo bum' gini. Dechreu Rhagfyr, 1757, hwyliodd yr hunan-alltudiedig a'i deulu o Lundain, nid, fel y dywed yntau, am wlad newydd ond am fyd newydd. Golygfa gyffrous oedd gweled yr hen Gymro gwladgar Richard Morris a Goronwy yn ffarwelio ar lan y Dafwys byth i weled eu gilydd mwy. Trial oedd enw ei long, ac ysgubion cymdeithas yn cael eu hel i'w halltudiaeth oedd ei gyd-fordwyaid, a'r capten yr adyn mwyaf ysgeler ohonynt. Felly y mae pob sicrwydd mai mordaith orlawn o annghysur a gafodd; ac yn ben ar y cwbl, bu farw ei briod hoff a'u bachgen ieuengaf cyn cyrhaedd yr ochr draw.

Nid llawer a wyddis o'i hanes yn Williamsburgh. Ond daeth newydd i'r wlad hon yn fuan ei fod wedi priodi drachefn; mai Mrs. Blayton, chwaer i Brifathraw y Coleg, oedd ei wraig; ac iddo ei cholli hithau wed'yn o fewn llai na blwyddyn i'w briodas. Hanes arall a ddywed ei fod yn bur lwyddianus fel athraw ond mai rum, yr hwn a ddyfethodd fwy na'r cleddyf, oedd. ei brofedigaeth; iddo ymadael â'r coleg tan dipyn o gwmwl-fe aeth i chwareu ystranciau direidus trwy anos myfyrwyr y coleg a llanciau'r dref i ymladd â'u gilydd, am yr hyn y diswyddwyd ef ac un o'r Proffeswyr. Nid yw'r newyddion hyn yn hollol gyson â'i fod wedi cael bywoliaeth plwyf St. Andrew yn yr un dalaeth, yn union, os nid cyn yr amser y dywedir iddo adael y Coleg. Mewn gohebiaeth ddyddorol sydd yn taflu llawer o oleuni newydd ar fywyd y Bardd yn yr Amerig, a ymddangosodd yn y Geninen, 1889, o waith Isaled, dywedir mai ar y 15fed o Fai, 1760, y penodwyd ef yn rector Llanandreas, a hyny gan. Raglaw-lywodraethwr Talaeth Virginia. Yn yr un ohebiaeth, gan ddyfynu o lythyr gor-wyr i'r Bardd a ymddangosodd gyntaf yn y Drych Americanaidd, 1875, dywedir farw o Oronwy yn nhŷ ei frawd-yn-nghyfraith yn Blandford, Virginia, fis Gorphenaf, 1769, a'i gladdu ar ei etifeddiaeth ei hun, yn swydd Brunswick, a bod pobl yn fyw yn 1840 allent ddangos. yr ysmotyn. Yn yr un ohebiaeth fyth, ceir rhestr o'i blant o'r drydedd wraig, pedwar mewn nifer, sef Jane, Richard Brown (taid P. A. Owen, awdwr y llythyr a ddyfynir), Goronwy, a John Lloyd. Mae'n amlwg fod P. A. Owen wedi cymeryd trafferth lawer i olrhain hanes ei hendaid clodfawr; ac yr oedd ganddo frawd o'r enw Goronwy Owen yn feddyg parchus yn Mobile, yr hyn a ddengys fod yr hen enw yn dal yn y teulu. Y newydd-beth rhyfeddaf yn llythyr P. A. O. ydyw'r copi a rydd o lythyr a ddanfonodd Goronwy at ei wraig oddiar ei glaf wely yn deisyf arni brysuro ato o'r blanigfa, os oedd hi am ei weled yn fyw; llythyr ydyw dyddiedig "Blandford, Sadwrn, Mehefin 24ain, 1769, i Mrs. Jeaney Owen, yn Brunswick, gyda'r bachgen negroaidd Daniel." Nid yw yn hawdd deall beth oedd a wnelai ef na'i briod â phlanigfa, na phaham yr oedd hi tan yr angenrheidrwydd o fyw ar y blanigfa.

Bu Goronwy, ei ail fab, o'r briodas gyntaf farw yn mhell o flaen ei dad, ond yr oedd Robert ei fab hynaf, yn fyw yn 1796. Y llythyr olaf o'i eiddo sydd ar gael yw'r un a ddanfonodd at Richard Morris gyda'r farwnad benigamp i Lewis Morris), ac a welir yn y LLYTHYRAU, 135.

Gwnaed aml gais i gyhoeddi barddoniaeth Goronwy cyn ei fyned i'r Amerig, a pharhaodd ei gyfeillion ar ol ei fyned i hyrwyddo'r amcan hwn; ac yn 1763, ymddangosodd tan y teitl canlynol:-

DYDDANWCH TEULUAIDD; y Llyfr Cyntaf; yn cynnwys Gwaith y Parchedig Mr. GORONWY OWEN, Lewis Morris Esq., a Mr. Huw Huws, etc., Beirdd Mon Mam-Gymru, ac aelodau o Gymdeithas y Cymmrodorion. O Gasgliad Huw Jones o Langwm, C.C.C. Llundain: Argraphwy gan William Roberts, Printiwr y Gymdeithas, M.DCC.LXIII.

Cyhoeddwyd ail argraphiad o'r Dyddanwch Teuluaidd yn Nghaernarfon, yn 1817. Yn 1860, daeth Gronoviana allan, sef casgliad o'i farddoniaeth a'i lythyrau (yr olaf yn benaf o gasgliad Owen Williams o'r Waenfawr) o wasg John Jones, Llanrwst; a than olygiad ei fab, y Parch. Edward Jones, M.A., Ficer Llanrhaiadr-yn-Mochnant. Yr oedd Gronoviana yn taflu y Dyddanwch i'r cysgodion, fel y taflwyd Gronoviana, yn 1876, gan argraphiad rhagorol y Parch. Robert Jones, B.A., Rotherhithe. Pris y Dyddanwch (arg. laf) oedd 2s.; 2il arg. 3s. 6ch. ; arg. Llanrwst, 5s. 6ch.; arg. Rotherhithe, £1 10s. Yn 1877, cyhoeddwyd BARDDONIAETH Goronwy Owen mewn llyfr swllt, yn rhif 5 o Gyfres y Ceinion, yn y swyddfa hon; a'i LLYTHYRAU, tan olygiad yr Athraw Morris-Jones, M.A., yn 1895, fel rhif 18 o'r un Gyfres.

ISAAC FOULKES.

Nodiadau

[golygu]