Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Nodweddion ei Farddoniaeth

Oddi ar Wicidestun
Bywgraffiad, gan y Llyfrbryf Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englynion i Dduw, 1741

"I'N chwaeth ni," ebai y diweddar Dr. Lewis Edwards, "mae canmawl barddoniaeth Goronwy yn un o'r pethau mwyaf diangenrhaid a allai fod, ac yn dwyn i'n cof yr hen ddywediad am baentio y lili." (Gwel Y Traethodydd, Ionawr, 1876, tudal. 77). Yn hollol felly ac nid ein hamean yn yr ychydig sylwadau hyn yw canmol, nac ychwaith feirniadu, gwaith y bardd, eithr yn unig alw sylw at un neu ddau o'i nodweddau. Diau y gwel. pawb a'i darlleno fod amrywiaeth cyfoethog yn nghyfansoddiadau Goronwy—yn codi i raddau helaeth o amrywiaeth cyfnodau oes a dadblygiad bywyd, cystal ag o'r amgylchiadau neillduol yr äi'r bardd drwyddynt.

Wrth gwrs, nis gallai awen Goronwy guddio ei hun pan ddechreuodd ysbrydiaeth wynfydig y "carwr," ei feddianu; ac y mae ei gywydd "Calendr y Carwr," yr hwn a gyfansoddodd yn y cyfnod hwnw, yn llawn o awenyddiaeth chwareus, ac yn addurnedig â'r gelfyddyd gynghaneddol fwyaf cain. Dyddorol iawn sylwi ar nwyfiant edmygol rhai o'r Prif—feirdd Cymreig wrth ganu i'r Rhyw Deg. Cymerer, er engraipht, Dafydd ab Gwilym, Dewi Wyn o Eifion, a Goronwy. Mae'n hysbys mai ei "Forfudd" gafodd oreu, ac agos y cwbl, o farddoniaeth D. ap Gwilym, Nid yw Dewi Wyn yn fwy hapus yn unman na phan yn nghymdeithas ei "Elen." A gwisgodd Goronwy rai o emau gwerthfawrocaf ei awen am ei "Fari fwyn;" a chredwn ef pan ddywed:—

Gwir yw i mi garu merch;
Trosais hyd holl ffyrdd traserch.

Desgrifia ei hun yn glaf o gariad, a'i fron wedi ei briwio:—

Wyf glwyfus, nid â gleifwaith,
Gwnaeth meinwen â gwên y gwaith.

Nid anfad—ddyn creulawn a frathodd ei galon â chledd, eithr gwên merch a'i trywanodd hi! A'r fath syniad barddonol a haner ymguddia yn y cwpled. nesaf:—

Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu.

Beth mwy ellid ddweyd am degwch naturiol wyneb merch na bod yn amhosibl i wên ychwanegu ato? Mae y cywydd hwn yn llawn o bethau cyffelyb, ac yn cynwys y symudiadau mwyaf medrus. Mor sydyn a tharawiadol y trydd oddiwrth degwch gwedd ei gariad i edliw iddi ei bod yn defnyddio ei harddwch i'w dwyllo, ac oherwydd hyny y dymunasai fod ei glendid yn llai:

Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach, anwadalwch dyn.

Y dyb gyffredin yw mai cywydd Y Farn Fawr yw gorchestgamp Goronwy; ac y mae yn debyg fod y dyb hon yn gywir. Yr oedd y fath destyn cyffrous â hwn yn gofyn am y nerthol a'r arswydlawn yn y portread o hono, yr hyn, yn ddiau, a gaed gan ein bardd. Cywir iawn, i'n bryd ni, y sylwa y diweddar Dr. Lewis Edwards-yn yr erthygl y cyfeiriwyd ati eisoes-na chymerodd Goronwy Owen yr elfen bersonol i fynu yn ddigon helaeth yn ngweithrediadau y Farn-nad ymwthiodd i fewn i feddyliau a theimladau gwahanol gymeriadau. Ac fel na ddarfu i'r bardd roddi nemawr o le i'r personol yn ei gerdd, ni threiddiodd i fewn at yr egwyddorion a roddent ystyr i'r "Ymweliad Mawr " ag y gelwid dynolryw iddo. Y canlyniad fu iddo. roddi i ni ddarlun mawreddog o'r olygfa ofnadwy, heb roddi i ni fawr o oleuni ar yr egwyddorion nad oedd yr olygfa onid gwisg iddynt. Ond yr hyn a wnaeth Goronwy, fe'i gwnaeth yn y fath fodd ag i hawlio iddo anfarwoldeb. Ond credwn, er hyny, fod ganddo gyfansoddiadau eraill ydynt, yn ol eu rhywogaeth a'u hansawdd, eu golygiad a'u gweithiad allan, yn agos iawn, beth bynag, i "Gywydd y Farn." Tra nad ydym yn tybio fod y cyfansoddiad ardderchog hwnw wedi cael gormod o sylw, dywedwn yn ddibetrus fod rhai o'i gyfansoddiadau eraill wedi cael rhy fychan, megys "Y Maen Gwerthfawr," "Y Cynghorfynt," "Y Nenawr," ac yn arbenig ei "Gywydd Ateb i Anerch Huw ap Huw "-lle y barddona ei hiraeth am ei anwyl Fon." "Dedwyddwch," mewn gwirionedd, yw testyn "Y Maen Gwerthfawr." Nid yw yn faith, ond y mae yn wir farddonol. Mae ganddo beth lled brin mewn cyfansoddiadau prydyddol Cymreig, sef golygwel (conception) barddonol: heblaw fod ei syn-. iadau yn odidog, a'i gynghaneddion yn naturiol a tharawiadol. Try allan i'r byd i chwilio am y "gêm gwerthfawr":—

Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr.

Ymwibia i bob cwr o'r greadigaeth, drwy dir a môr daear ac wybren, ond yn ofer :—

Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gêm, a chael gwmon.

Ond o'r diwedd, wedi ei siomi yn mhob man arall, daw o hyd i'r "gêm" a geisiai yn "Efengyl Duw." Mor odidog y gesyd allan olud y nef yn y llinellau hyn:—

Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid.

Ymfoddlona ei ysbryd ymofyngar yn Nuw:—

Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall,

"Gem" oedd y testyn; gêm hefyd yw y cyfansodd- iad arno. Pair darllen "Cywydd i Ddiawl" ini synu at allu calon i gashau, a medr awen i watwor. Amlwg yw fod yma ddau wrthrych dan lygad y bardd; y naill yn Satan ei hun, a'r llall, fel y bernir yn gyffredin, yn un o gydwladwyr Goronwy, â'r hwn y syrthiasai allan. Gallesid meddwl ei fod wedi dihysbyddu ei allu duchanol yn ei ddesgrifiad o ddiafol. Nid hawdd dychmygu diafol hyllach na hwn! Er hyny, pan ddeuwn at y llinellau a ddechreuant gyda—

Gŵr y sy', gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion.

gwelir yn wahanol. Cymaint oedd dyfais a medr y bardd fel y gallodd wneud Satan yn foneddwr o'i gymharu â'r gŵr" y cwerylasai âg ef. Mor gyflym a deheuig y teifl y naill bicell ar ol y llall, fel y gorfodir ni i dosturio wrth yr hwn sydd yn nôd iddynt, yn fwy nag i edmygu yr hwn sydd yn eu bwrw. Y syniad mwyaf eithafol a goleddir fel rheol am ddyn drwg yw y dylid ei gyflwyno i Satan"; ond yr oedd Goronwy yn ddigon athrylithgar fel ag i feiddio cynghori Satan rhag ymgyfeillachu â'r "gŵr " a ddesgrifid ganddo:—

Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef,
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.

Ond, oddiwrth yr arwyddion hyn o gâs, gallwn droi at arwyddion diamheuol o gariad. Mor dyner yw yr ysbryd a anadla hiraeth am ei wlad a'i genedl mewn amryw gywyddau o eiddo'r bardd! Y mae ei "Ateb i Annerch Huw ap Huw," yn ein tyb ni, cystal a nemor ddim a gyfansoddodd, yn enwedig mewn cynllun, ac angerddoldeb. Dyma gerdd ymadawol Cymro diledryw i wlad ei dadau, a'r Ynys yr hiraethodd gymaint am gael dychwelyd iddi. Siomiant a gafodd ar ddechreu ei yrfa, a dyna a'i dilynodd drwy ei oes. Bu yn preswylio yn Lloegr, a'i galon yn Môn! Bu am flynyddoedd yn disgwyl i ffawd ei arwain yn ol dros y Fenai. Ond Ow! chlywodd hi mo'i ocheneidiau, ac ni wrandawodd ei gri. Erbyn hyn mae ei obaith wedi blino'n disgwyl, ac ymollynga i'w dynged. Dechreua ei gerdd mewn ymostyngiad gerbron Duw, gan ei gydnabod Ef fel ffynonell pob da a pherchen. pob clod:—

O farddwaith ôd wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl,
Emynau'n dâl am einioes
Ac Awen i'r Rhên a'u rhoes.

Anadla y dymuniadau mwyaf difrif—ddwys am allu cyflawni ei weinidogaeth yn iawn, ac edrycha tua'r Farn gydag arswyd wrth sylweddoli ei gyfrifoldeb i ddynion a Duw:—

 
Ateb a fydd rhyw—ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.

Mae ei eiriau yn llosgi mewn sel dros ogoniant Duw, ac yn erbyn balchder dynion a fynent ladrata y clod dyledus iddo Ef:—

Ein Perchen iawn y parcher:
Pa glod sy'n ormod i Nêr?
*****
Gwae rodres gwyr rhy hydron!
Gwae leidr a eirch glod yn Ion!


Llefara y bardd fel prophwyd o dan ysbrydoliaeth o'r nef, ac edrycha ar bobpeth oddiar safbwynt uchel un yn gweled Duw, gan ymostwng iddo am y sydd, ac ymddiried iddo am a ddaw. Beth bynag allai fod ei ofid ef oherwydd colli ei Fon, ni fyn gredu ei bod yn anffawd i Fon ei golli ef:—

Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi.
Cerais fy ngwlad geinfad gu—
Cerais, ond ofer caru!

Cyfyd o flaen ei feddwl y llu enwogion fuont o dro i dro yn ogoniant i'r Ynys:—

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?

Ond mae angau wedi ateb yr her gyda'r nifer luosocaf o'r cewri hyn. Eto, y mae Mon yn derbyn "eppil" y mawrion o hyd, a'i gogoniant yn parhau. Cyfyd y bardd o'r diwedd i'r fath uchelbwynt mewn teimlad hiraethlawn, fel ag y geilw ar y dòn i ddystewi, er mwyn i Fon glywed ei eiriau olaf wrthi! Gwna i ni sylweddoli distawrwydd synllyd, a chlywn yntau, gyda galar yn ei galon, a dagrau ar ei rudd, a chryn— dod yn ei lais, yn llefaru:—

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.

Yn mhen ysbaid, teimla ei ysbryd yn llesgau, a llewyg yn d'od drosto:—

Bellach, f'ysbryd a ballawdd.

Modd bynag, cafodd nerth i orphen ei anerchiad ymadawol i'w fam-ynys gyda llinellau a fyddant byw am lawer oes. Bu yn hir yn gobeithio cael byw yn ei Fon; ond erbyn hyn nis gall obeithio cael bedd ynddi:—

Poed yt hedd pan orweddwyf
Yn mron llawr estron lle'r wyf!
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen i orwedd ynod!

Eto, ymeifl mewn dymuniad uwch na chael bedd yn naear Mon, ac y mae ei ffydd yn enill iddo fuddugol—

iaeth ar ei hiraeth am ei wlad, gan ddangos iddo "dŷ i'r enaid:—

Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur, yn fflam dân.

Mor ddwys-dyner yw yr olwg ar Oronwy, yn fuan wedi gorphen ohono y cywydd hwn, yn cychwyn i'w daith helbulus, ys dywed Ioan Madog:—

"O'r dwyrain hyfryd araul,
I waelod tir machlud haul."

Credwn nad yw Goronwy, fel bardd, ond megys yn ngwawr ei boblogrwydd, ac y gwirir eto y cwpled:

Ceir yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy.


Nodiadau

[golygu]