Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Englynion i Dduw, 1741

Oddi ar Wicidestun
Nodweddion ei Farddoniaeth Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Calendr y Carwr

BARDDONIAETH

GORONWY OWEN.


ENGLYNION I DDUW.

A ganwyd ychydig cyn myned i Rydychen, 1741.

Duw Tad, un (o'th rad) a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred—clyw fy nghri.

Dy eiriau, Ion clau, clywais,—yn addo
Noddi pawb a'th ymgais;
Ymagored (mi gurais)
Y Nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist (i'th nerthog allu—nid yw boen)
Wneud y byd a'i brynu,
Yn D'wysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—Dy weision,
Dewisaist eu noddi;
A minau wyf, o mynni,
Duw Iesu dêg, dy was Di.

Gwaelaidd gynt yn bugeilio—fu Moesen[1]
Ym maesydd hen Jethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.


A'r Salmydd, cynydd[2] Duw cu,— cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.

Minau, Duw Nef, o mynni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail[3] Celi[4];
A doed im' dy eglwys Di.

Ni cheisiaf gan Naf o nefoedd—gyfoeth,
Na gofal breninoedd;
Ond arail[5] ŵyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel, a digon oedd.

(A bendigaid fo'i enw, fo'i gwnaeth)

Nodiadau

[golygu]
  1. Moses
  2. Heliwr
  3. corlan
  4. Enw ar y Goruchaf
  5. 'Bugeilio.