Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i'r Calan, 1755

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Cynghorfynt, neu'r Genfigen Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Marwnad unig ferch y Bardd

CYWYDD I'R CALAN.
Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.
[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 112.]

Ow! Hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau;[1]
On'd diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni.
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran.

A gwelwyd, ben pob Gwyliau,
Mae tycio wnaeth y maeth mau;
Er yn faban gwan gwecry,[2]
Hyd yn iefanc hoglanc hy';
O ddiofal hydd iefanc
Yn wr ffraw,[3]. goruwch llaw llanc.
Ac ar Galan (yn anad
Un dydd) bu'm o wr, yn dad;
Finau ni bu'm yn f'einioes
Eto'n fyr it' o iawn foes.
Melys im' ydoedd moli,
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio ti, Galan,
Ryw geliydd gywydd neu gân.

Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl, buost gedawl gynt;
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf i mor dost?
Rhoddaist im' ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys;
Menaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A dirwayw'r poethgryd eirias, Y
nglŷn â phigyn a phas.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf?
(Bernwch) ai cudab arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm!
Ai cudab[4] yw rhoi codwm,
A chystudd di fudd i f'ais
I'm gwanu am a genais ?
Ar hwrdd[5] os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu;[6]
Diengaist yn rhydd, y Dydd du;
Rhedaist, fal llif rhuadwy
I'r môr, ac ni'th weler mwy;

A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[7] er fy mygwl[8] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy[9] fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.


Nodiadau

[golygu]
  1. Dengys hyn mai ar yr Hen Galan (Ionawr 12) y ganed Oronwy, ac nid ar Ionawr 1af, fel y dywedir yn yr Almanaciau
  2. Gwael.
  3. Teg
  4. Serch, hoffder.
  5. Ar ddamwain; ar ruthr annheg
  6. Ymliw, herio.
  7. Bai
  8. Bygwth
  9. Hen ffurf i'r gair rhy