Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Marwnad unig ferch y Bardd
← Cywydd i'r Calan, 1755 | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd y Cryfion Byd → |
UNIG FERCH Y BARDD,
Yr hon oedd dra anwyl gantho, a fu farw yn Walton[1] yn Lancashire, Ebrill y 17, 1755, yn bum mis a blwydd o oed, ac yntau a gant y Farwnad hon iddi. [Gweler cyfeiriad at ei genedigaeth yn y LLYTHYRAU, 65; ac at ei marwolaeth yn tudal. 119.]
MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!
Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser (ni thâl son):
Oedd fwyn llais, addfain ei llun,
Afieuthus, groesawus swn,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!
Ymddifad ei thad, a thwn[2]
Archoll yn ei friwdoll fron,
Ynghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.
Er pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl,
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth[3] yw y galon
Erddi ac am dani'n donn,
A saeth yw son,
Eneth union.
Am anwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil ganaid ddwylo gwynion.
Yn iach, f'enaid, hoenwych fanon,
Neli,'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach lon,—f'angyles,
Gorphwys ym mynwes monwent Walton,
Nes hwnt dy gynull at saint gwynion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f'enaid, deg euraid goron—dithau,
A lle yn ngolau llu angylion.