Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i Arglwydd Llwydlo

Oddi ar Wicidestun
Tri Englyn Milwr Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cyfieithiad o Psalm cvii

CYWYDD
AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD LLWYDLO,
Cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.[1]
[Am y gwreiddiol (Lladin) gweler tudal. 115; gweler hefyd LLYTHYRAU, tudal. 123, 126.]

MOES erddigan[2] a chanu;
Dwg in' gerdd dêg, awen gu;
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.

Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd:
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;

Prydyddwch, wŷr pêr diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cânt Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;[3]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo[4] fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninau gynnawr,[5]
Un a haedd gân, maban mawr!

Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddyfnder calon,
Am yr oes aur eu mawr son.

Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, ŵyr gwychion, gwiw!
Cynydd, fachgen! gwên gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.

Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;
Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad!
A phoed i'w taid goflaidiaw
Eich meibion llon ym mhob llaw:
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal a gofal âg ef.

Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr.
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch, yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;

O deg irdwf had gwyrda,
A gnawd[6] oedd, o egin da!
Nid oes gêl o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.

Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer[7] gan dy law di—
Pa esgar[8] pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd[9] rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw:
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain[10] lew,
Adwyth[11] i dylwyth dilew;
Anog bygylog[12] elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.

Ai arwylion, oer alaeth
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf[13][14]
Pa les a wna'u diles dorf ?
Torf yn ffwyr[15] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior,[16] oreubor, o rym
Rhyfelwyr, ac eirf Wilym,[17]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffraine i'ch dwylaw;

A deled, Duw a iolaf,![18]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch[19]
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen!
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau,
Fardd dwyiaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen[20]
Hyfryd, tra rheto Hafren
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


Nodiadau

[golygu]
  1. Canghen o deulu clodfawr yr Herbertiaid ydyw Ieirll Powys.
  2. Cynghanedd gerddorol.
  3. Jupiter.
  4. Heddychu.
  5. Penaeth.
  6. Arfer.
  7. Aer, aerawg—yn perthyn i ryfel
  8. Gelyn.
  9. Tylwyth.
  10. Carwieuanc.
  11. Drwg.
  12. Dilwfr.
  13. Dilwfr.
  14. Bygythiol.
  15. Niweidiol.
  16. Sior II. oedd hwn.
  17. Duc Cumberland.
  18. Gweddiaf.
  19. Ger y Trallwng, ac a elwir yn awr Powis Castle.
  20. Rhenid Cymru gynt yn dair talaith-Gwynedd, Powys, a Deheubarth.