Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cyfieithiad o Psalm cvii

Oddi ar Wicidestun
Cywydd i Arglwydd Llwydlo Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Ateb i Huw ap Huw (Molawd Mon)

PSALM CVII.

Dyledswydd a Doethineb Dyn yw ymfoddloni i ewyllys ei Greawdwr.[1]

Through all the various shifting scene
Of life's mistaken ill or good,
The hand of God conducts unseen,
The beautiful vicissitude, etc., etc.,

TRWY droiau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Dduw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadawl ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur
Ond da'i gymhesur fantol?


Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyff cler[2] a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i foddlonrwydd.

Fe weryd wirion yn y frawd,[3]
Rhag ynllib tafawd atcas:
Fe rydd orphwysfa i alltud blin,
Mewn annghynefin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y penau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.

Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfieithiad o Saesneg Dr. SAMUEL COLLETT.
  2. Testyn dirmyg.
  3. Yn y farn.