Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Ateb i Huw ap Huw (Molawd Mon)

Oddi ar Wicidestun
Cyfieithiad o Psalm cvii Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Pedwar Englyn Milwr

CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Anerch Huw AP Huw'r Bardd,[1] o Lwydiarth Esgob, yn Mon, 1756.

[Adwaenir y Cywydd hwn fel un o gynyrchion goreu y Bardd. Sier fod ynddo frawddegau fyddant byw oesau lawer; a chryfach efallai nag a geir yn yr un o' gywyddau eraill.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch anerch,
A didawl eich mawl im' oedd.
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythawl lle bo.
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf,
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel.
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;[2]
O farddwaith od wyf urddawl
Poed i wau emynau mawl-
Emynau dal am einioes,
Ac awen i'r Rhen[3] a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth;
Dég Ion, os gweinidog wyf,
Digwl[4] y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,[5]
Bagad[6] gofalon bugail;

Ateb a fydd rhyw ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes "Barch," dwys yw y boen;
Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch:
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Y dinam Ion a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein Perchen.
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a'i wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gŵyr, dyna gaf.
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed i un dyn byth
Nag eiddun[7] mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o nef;
Gwae rodres gwyr rhy hydron,ref>Hyfion.</ref>
Gwae leidr a eirch glod yr Ion;
Gocheler, lle clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.

Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi :
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu-
Cerais, ond ofer caru!
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef na'm didol,
Gair o'i nef a'm gyr yn ol;

Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon[8] a mi :
Neu ddeuwr awen ddiell,[9]
I ganu gwawd[10] ugain gwell,
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.

Brodir gnawd ynddi brydydd:
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[11]
Mae Gwalchmai[12] erfai eurfawr?
P'le mae Einion[13] o Fon Fawr?
Mae Hywel[14] ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,[15]
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[16]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[17] yn bygylu?

Dau gydgwys, gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robin[18] edlin odlau,
A Gronwy[19] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw[20] Mae Caw?[21] Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif Dywod Llifon?[22]
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar, gynt.[23]

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr a fu'n harddu Mon?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
O'ch alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial[24] i'm calon
A'm gwythi, grym ym Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw,[25] don, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir, fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf:—

"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut,[26] neu Baradwys hen:

Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan' tŵr it' oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail;
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhod trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd yt', ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron, sydd;
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.

"O! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy dda gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant,
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion sywion[27] saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.

Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith:
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid!
Gwiw ganaid dŷ gogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghôr Sant:
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy:
Cyduned a llefed llu
Monwysion, "Amen, Iesu!"

Nodiadau

[golygu]
  1. Y BARDD COCH. Boneddwr yn byw ar ei dir ei hun ydoedd, gerllaw Llanerchymedd. Heblaw ei fod yn fardd adnabyddus, cyfieithiodd amryw draithodau o'r Saesneg. Yr oedd yn gyfaill mawr hefo'r Morysiaid a thrwyddynt hwy daeth i gydnabyddiaeth â Goronwy. Bu farw yn 1776, yn 83 oed.
  2. Sef Bardd ac Offeiriad.
  3. Enw ar y Goruchaf.
  4. Diwael.
  5. Corlan.
  6. Lluaws.
  7. Deisyf.
  8. Lewys Morys.
  9. Diwall.
  10. Yr ystyr a roddid i'r gair gwawd hyd yn ddiweddar ydoedd mawl, clod.
    Medd yr Archddiacon Prys:—
    Parod yw fy nghalon, O Dduw,
    O parod yw fy nghalon;
    Canaf it' a datganaf wawd
    O fawl fy nhafawd ffyddlon
  11. Meilir ab Gwalchmai.
  12. Gwalchmai ab Meilir.
  13. Einion ab Gwalchmai.
  14. Hywel ap Owen Gwynedd.
  15. Tywysog Cymru.
  16. Madog Benfras.
  17. Dafydd ap Gwilym
  18. Robin Ddu o Fon
  19. Yr hen Goronwy Ddu o Fon.
  20. Dafydd Alaw, bardd, a brodor o Fon?
  21. Caw ab Geraint ab Erbyn, o'r Twr Celyn, ym Mon.
  22. Cantref ym Mon.
  23. Gweler Caesar's Commentaries, llyfr vi., pen. 13.
  24. Bywiogrwydd.
  25. Dystawa.
  26. Dy lun.
  27. Syw, doeth.