Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Pedwar Englyn Milwr
Gwedd
← Ateb i Huw ap Huw (Molawd Mon) | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Ateb i Ieuan Brydydd Hir → |
PEDWAR ENGLYN MILWR.
Yn cyfarch y Bardd, o waith IEUAN BRYDYDD HIR,o Geredigion.
HANBYCH Well, Goronwy Ddu,
Y Dryw o Fon, fam Gymru:
Gwr prif y rhif am fydru.
Ni wybuum dy elfydd,
Am offrydiaw awenydd,
O Gybi Mon i Gaerdydd.
Yn yr oesoedd cyssefin,
Oeddynt feirdd prif: Taliesin,
Llywarch Hen, a'r ddau Ddewin.[1]
Daroedd heddyw arwyrain,
Etwa gwell nag un o'r rhain,
Y prif-fardd Gronwy Owain.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y Ddau Fyrddin.