Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd i Ddiawl

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Gwahawdd Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
I Gymmrodorion Llundain

CYWYDD I DDIAWL.

[Mae efrydwyr gwaith Goronwy Owen yn barod i addef yn lled gyffredinol erbyn hyn mai Lewys Morys, ei hen gyfaill a'i noddwr, sydd ganddo tan ei fflangell yn y rhan o'r cywydd canlynol sy'n dechreu gyda'r llinell, "Gwr y sy gwae yr oes hon!" Yr oedd y ddau wedi digio'n enbyd wrth ei gilydd pan oedd y Bardd Du yn tario tua Llunden; ac os darllenir y LLYTHYRAU, tudal. 127, ceir awgrym led amlwg beth oedd yr achos. Yn y cywydd hwn rhydd Goronwy ei ochr ef i'r ffrwgwd; yn y Bywgraffiad sydd ar ddechreu'r gyfrol hon, ceir mynegiad Llywelyn Ddu o'i ochr yntau; ac anhawdd gwybod pa'r un ydyw'r mwyaf doniol yn dweyd ei gwyn a mwyaf ys. gorpionog ei fflangell. Tan ei fynych drallodau a'i aflwyddiant, mae lle i ofni i Oronwy droi i yfed yn y Brifddinas, yr hyn, yn naturiol, ni wnai ond chwanegu ei drybini ac oeri mwy ar ei gyfeillion. Ond ni bydd doeth, na beirdd, yn hir mewn dig; ac y mae'r Awdl Farwnad ysplenydd a ganodd Oronwy i'r "Pen Bardd, Hanesydd," etc., ddeng mlynedd ar ol y "Cywydd i Ddiawl" yn brawf digonol fod tân serch wedi ei ail-gyneu ar yr hen aelwyd.]

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 128.]

Y DIAFOL, arglwydd dufwg,
Ti, du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti.
Nid adwaen—yspryd ydwyt—
Dy lun, namyn mai Diawl wyt;
Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Ynghyrau'th siol[1] anghywraint
Clustiau mul (clywaist eu maint);
Ac ael fel cammog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn[2] oedd, waith arall,
Fal trwyn yr ab, fab y fall;
A 'sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn danedd og miniog mawr;
Cammog o ên fel cimmwch;[3]
Barf a gait, fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd
Crefyll[4] cyd ag esgyll gwydd;
Palfau'n gigweiniau[5] gwynias;
Deg ewin ry gethin gas;
A'th rummen,[6] anferth remmwth,[7]
Fal cettog,[8] was rhefrog rhwth;
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolenau!

Pedrain[9] arth, pydru a wnel:
A chynffon, fwbach henffel,
Llosgwrn[10] o'th ol yn llusgo—
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn llo;
A gwrthffyrch tinffyrch tanffagl,
Ceimion wrth y gynffon gagl;
A charnau'n lle sodlau sydd,
Gidwm, islaw d'egwydydd.
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf;
Dyna'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw;
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun,
Diawl wyt, os cywir dy lun.

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd.
Gwir ydyw rhai a gredynt
It' ddwrdio Angelo[11] gynt;
Sorri am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd Annwn;
A thrychu fyth o'r achos,
Hyn a wnai'n nydd yn y nos,
Nes gwneuthur parch, wrth d'arch di,
Satan, a llun tlws iti.

Minau, poed fel y mynych,
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddŷd nemawr un i Ddiawl:—

Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy'th genad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;

Canys os hyn a fyn fo
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gwr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost;
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog[12] ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw, ond heb un dawn iach,
Herwr, ni bu ddihirach;
Gŵr o gyneddf anneddfawl:
Lledfegyn,[13] rhwng dyn a diawl;
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damnio'r holl fyd yma:
Dylaith[14] i bawb lle delo,
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Ni chewch wyth yn y chwe chant,
O chuchia ef na chachant.
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch;
Marchog oedd ef (merchyg ddiawl);
Gorddwy (nid marchog urddawl);
Marchog gormail, cribddail, cred,
Marchog y gwŷr a'r merched.

Nis dorai, was di-arab,
Na chrefydd, na ffydd, na Phab.
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas,
A'i oreudduw oedd ruddaur
A'i enaid oedd dyrnaid aur.
A'i fwnai yw nef wiwnod,
A'i Grist, yw ei gist a'i god;

A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloeyw-aur glud;
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad ddegwm yn hon;
A'i brif bechod yw tlodi—
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi;
A'i burdan ymhob ardal,
Yw gwario mwn, ac aur mâl;
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân, gloywlan glwys.

Dyna yt, Suddas[15] dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gwr,
Rhyw swrn o'r rhai sy arnaw,
Nid cyfan, na'i draian, draw.
Os fy nghynghor a ddori,
Gŷr yn ol y gŵr i ni.
Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef:
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd;
Diflin yw, o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;
Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen,
Ac od oes yna gŵd aur,
Mál annwn er melynaur,
O gŵr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law;
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl cist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d'orddrws
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiaw un diawl ond ef.

Nodiadau

[golygu]
  1. Penglog.
  2. Trwyn, pig.
  3. Lobster.
  4. crafell—crafangau.
  5. A flesh fork.
  6. Y bola
  7. Glwth
  8. Satchel, i gadw ced
  9. Crupper, crwper.
  10. Enw arall ar gynffon.
  11. MICHAEL ANGELO, lluniedydd cywraint yn yr Eidal; ni a ddarllenwn am ffrwgwd a fu rhwng Diawl ag ef, am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i ANGELO wneuthur llun prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen.
  12. Gwerinaidd.
  13. Half-breed.
  14. Dinystr.
  15. Judas.