Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cywydd y Gwahawdd
← Arwyrain y Nenawr | Barddoniaeth Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd i Ddiawl → |
CYWYDD Y GWAHAWDD.
Sent from Northolt, Middlesex, to MR. WILLIAM PARRY, Deputy-Comptroller of the Mint, 1755.
[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 126, 136 etc.]
PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gwr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf inau.
A thi'n Llundain, wr cain cu,
On'd gwirion iawn dy garu?
On'd tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fyni deithiaw
O dref hyd yn Northol[1] draw,
I gael cân (beth diddanach ?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,[2]
A thori, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd[3] o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnai ti a gai gân,
Diod o ddw'r, doed a ddel,
A chywydd ac iach awel,
A chroeso calon onest,
Diddichell-pa raid gwell gwest?
Addawaf (p'am na ddeui ?)
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prif-fardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail
A diau pob blodeuyn
A ysbys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Ior-Duw a'i gwnaeth,
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw'r eira, uwchllaw'r arian,
Cofier it' guro cyfoeth
Selyf,[4] y sidanbryf doeth.
Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl,
Diffrwyth fan flodau'r dyffryn,
A dawl[5] wag orfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag[6] troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf ;
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrdd-ddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos heneiddiodd y rhai'n,
A henu wnawn ni'n hunain;
Ond cyn bedd, dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi :-
"Dybid i'n ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Myn'd yn ol, cyn marwolaeth
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd-yrfa,
CRIST yn Nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hyny fo."