Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Darn o Awdl i Dywysawg Cymru

Oddi ar Wicidestun
Ateb i Ieuan Brydydd Hir Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
An Bona Opera

DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.

(Ar Ddydd Gwyl Dewi)

Ar fesur Gwawdodyn Hir.
DWYRE[1] wawr fore erfai,[2] arwain
Dymmawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddiaith ar euriaith i arwyrain
Drudfawr briodawr, Eryr Brydain,
D'wysawg llyw aerawg llu mirain-Dewi
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain.[3]

Dithau, 'r pôr gorau, ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi genad,
Dygwn, cynyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon[4]
Drudion[5] dirolion dy oreuwlad.

Cymer, nid ofer yw ein defod,
Cymer, anhyber[6] gwyl in' hebod,
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri'n diwrnod,—cymer
O ber hyfodd-der ein hufudd-dod.

D.S.-Yr achos na orphenwyd yr awdl hon ydoedd i
Oronwy gael ei daro yn glaf gan y Cryd, pan oedd yn
preswylio yn Walton.


Nodiadau

[golygu]
  1. Dyred.
  2. Difai.
  3. Dyrchafedig.
  4. Deiliaid.
  5. Dewrion.
  6. Anniddan.