Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Eto—eto

Oddi ar Wicidestun
Cyfieithiad o Awdl Anacreon Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Odlig arall

ARALL.

O'r eiddo ANACREON, 1754.

MAE'N ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dw'r a lwnc daear laith;
Awyr a lwne môr a'i li ;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, f loer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau:
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf!
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.


Nodiadau

[golygu]