Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Cyfieithiad o Awdl Anacreon

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth am Fon Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Eto—eto

CYFIEITHIAD

O ail awdl ANACREON, 1754.

NATUR a wnaeth—iawn ytyw,
Ei rhan ar bob anian byw;
I'r cadfarch dihafarchwych
Carnau a roes; cyrn i'r ych!
Mythder[1] i'r ceinych[2] mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr:[3]
I ddrywod[4] dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywaid—bu'n ol;
Ba radau gânt? Pryd a gwedd:
Digon i fenyw degwedd,
Rhag cledd llachar, a tharian,
Dor yw na thyr dŵr na thân:
Nid yw tân a'i wyllt waneg,
Fwy na dim wrth fenyw deg.


Yn ol y copi oedd gan William Morris, Caergybi, o'r cywydd hwn, mae y ddwy linell gyntaf yr un fath, ond o'r drydedd linell yn mlaen, darllená fel hyn:—

I lew swrth hoewal o safn;
Esgud ceinach ac ysgafn;
I'r aig rhoes nofiaw'r eigiawn;
A dir i'r adar ou dawn,—
Rhoes iddynt helynt hylwybr,
Uchel ar awel yr wybr;
Rhoes i wŷr rym llym a llwyr,
Goreu senedd! a gwir synwyr!
Gwae i'r merched! arbedodd
Rannu i'r rhai'n yr un rhodd.
Pa rodd i'r glân rianedd
Ynteu a geid? Ond teg wedd;
Digon i fenyw degwch,
Rhag byddinoedd, trinoedd trwch,
Rhag cledd llachar na tharian:
Dur yw na thyr dŵr na thân;
Dŵr na thân ni wna 'chwaneg
Na dim, wrth wna fenyw deg.


Nodiadau

[golygu]
  1. Buandra
  2. Ysgafarnog.
  3. Moroedd
  4. Wrens