Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Hiraeth am Fon

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Maen Gwerthfawr Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cyfieithiad o Awdl Anacreon

CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Gywydd Huw Huws (y Bardd Coch), o Lwydiarth-Esgob
ym Mon, a ganwyd yn Walton yn Lancashire, 1753.

PAHAM i fardd dinam doeth,
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain[1] was main nas medd?
Duw nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant, Duw'n dwŵr imi!
Dieithryn adyn ydwyf,
Gwae fi o'r sud! alldud wyf.
Pell wyf o wlad fy nhadau,
Och son ac o Fon gu fau;
Y lle bum yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle'r oedd gynau gant;
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Mon estron wyf;
Dieithr i'n hiaith hydriaith hen,
Dieithr i berwawd awen.
Gofidus, gwae fi! ydwyf
Wrth son, a hiraethus wyf;
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoyw gân âg och;
Mewn canu namyn cwynaw
Ni chytgais na llais na llaw.

Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
O'u gwledydd tra dygludynt
Wyr Seion yn gaethion gynt.

Taergoeg oedd eu gwatworgerdd :
"Moeswch, ac nag oedwch, gerdd."
"Gwae ni o'r bryd dybryd hwn,"
Cwynent,[2] "Pa fodd y canwn,
Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mâd anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth,[3] tan orthrech,
Fy nhrem am Gaersalem sech[3]
Os hawdd yr annghofiais hi,
Dêl ammorth yn dâl imi;
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod fials gwamalsyth,
Ffered yn sych baeled byth."

Llyna ddiwael Israeliad!
Anwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Mon, dir[4] i minau
Yw, o chaf ffun i'w choffhau.
Mawr fy ngwynfan am dani;
Mal Seion yw Mon i mi;
O f'einioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw'n hwy, onibai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa, oni'm hadfer;
Duw nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im', a llwydd, a lles;
Crist, D'wysog, Eneiniog nef,
Ced-rwydd,[5] a'm dyco adref.


Nodiadau

[golygu]
  1. Crwydrol
  2. SALM cxxxvii
  3. 3.0 3.1 Y benywaidd am swrth a sych
  4. Sicr
  5. Rhodd rwydd