Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/I Gyfarch y Cymmrodorion

Oddi ar Wicidestun
Twm Sion Twm Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Marwnad Lewis Morris

I GYFARCH Y CYMMRODORION.

Yn Llundain pan y cyflwynwyd iddynt Anerch—Gywydd
gan IEUAN BRYDYDD HIR.

[Y trylen Ganon Silvan Evans gafodd y Ddau Wawdodyn canlynol yn ddiweddar yn mysg ysgrifau'r Prydydd Hir, ac a'u trosglwyddodd i Mr. Jones o Rotherhithe, yn argraffiad yr hwn o waith Goronwy y rhoed hwy, am y gwyddom, gyntaf mewn argraff.]

CALAN Mehefin, hin yn hoeni,[1]
Cein[2] trydar adar, hyar[3] heli;
Cein rhawd cân wasgawd, trawd trwy erddi,
Cein tawel awel o wyrdd lwyni;
Ceinmyccach, mwynach i mi—oedd accen
Cân awen lawen lên barddoni.

Canfum ddillynion gysson gerddi,
Ceinfoes, cân eirioes, eres odli
Ceinfardd Deheudir Hir hoywfri,.
Cywyddwawd moliant a gânt ichwi;
Cyfarch hy barch heb eich coddi,—Frython,
Ceidr Gymmrodorion dewrwych ynni.


Nodiadau

[golygu]
  1. Ysgafnu.
  2. Tlws, prydferth.
  3. Hydrin, rhowiog.