Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Twm Sion Twm

Oddi ar Wicidestun
Ellis Roberts y Cowper Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
I Gyfarch y Cymmrodorion

ENGLYNION

Englynion proest cyfnewidiog wyth ban

I TWM SION TWM,[1] a'r arddwrn mawr.


Twм Sion Twm y cidwm cas,[2].
Twm Sion Twm, blerwm[3] heb les,
Twm, Twm, os codwm os cis,[4]
Twm achrwm a glwm ei glôs;
Twm Sion Twm, ruddlwm, ni rus,[5].
Twm Sion Twm, drwm droir i'r drws,
Twm Sion Twm, grwm yn ei grys,
Twm Twm y cawr hendrwm, hys![6].

Twm Sion Twm bendrwm mewn bâd,
Twm â rhwyf, ond twym y rhed?
Twm i'r lan hwnt à mawr lid,
Twm a nawf atom i'w nôd;
Twm yw'n tŵr bob tam o'n tud,
Twm o aine yrr Ffrainc i'r ffrwd,
Twm, Twm, a botwm i'r byd,
Twm freichdrwm, i Dwm dyd! dyd!
Twm Sion Twm, bonwm a'i bar,
Twm Sion Twm, gidwm a'i ger;
Twm lân yw tarian y tir;-
Twm, o thrŷ câd fad i fôr;
Twm yn un cwrwm a'i cur,
Twm ddistaw o daw o'r dw'r,
Twm fwyn yn addfwyn i'w nŷr:[7]
Twm ffraeth; i'ch gwasanaeth, Syr.


Nodiadau

[golygu]
  1. Paffiwr mawr yn Nulas, Mon, oedd y rhychor hwn, ebe Lewys Morys; dangos ei feistrolaeth ar y caeth-fesurau, mae'n dra thebyg, oedd amcan y bardd wrth ganu iddo.
  2. Ciaidd
  3. Haner call.
  4. Ergyd, tarawiad.
  5. Tynu'n ol, bacio
  6. Hysio ydyw anos cŵn
  7. Nyr-lluosog am ner-meistr.