Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Ieuan Brydydd Hir

Oddi ar Wicidestun
I'r Awen Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Marwnad Marged Morys

IEUAN BRYDYDD HIR.[1]

A brydws FARWNAD I FFREDRIG TYWYSAWG CYMRU, ac Offeiriad Tregaron a ddywawd, Nad oedd ynddi nac iaith na chynghanedd; am hyny yr heriawdd yr Ieuan ef; a chanu o Oronwy i'r IEUAN fal hyn. 1752.

CWYNFAN a fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd ar goegni byd;
Tra fo llên ac awenydd,
A chân fwyn, achwyn a fydd.
Gwyfyn, du elyn dilyth
Awen, yw Cenfigen fyth;
Cenfigen ac awenydd
Yn mhob llin, finfin a fydd;
O dwf llawn, dwy efell y'nt,
O chredi, dwy chwaer ydynt;
Dwy na wnaed i dynu'n ol,
Dwy ydynt, pwy a'u didol?
Ni wneir o fron anaraul
Ond cysgod, er rhod yr Haul.

A diwad ydyw, Ieuan,
Bron sydd na chydfydd â chân.
Wrth Homer wiw, gerddber gynt,
Gwyddost mor eiddig oeddynt;
Hurtaf o ddyn a'i hortiai,
Miwail[2] ei fydr, aml ei fai;
Gwael oedd ei gerdd, pencerdd per
Os coeliwn Soyl[3] ysceler.
Maro[4] a orug mowrwaith,
Bas y gwyl Bawas[5] y gwaith;
Ni pharchwyd gradd o naddun,
Mawr oedd cas Horas ei hun.
Er Dafydd, pwy'n wr difai
A fu 'rioed, na feiai rai?
Bu gylus gwaith Mab Gwilym,"[6]
A'i gerdd gref, agwrdd ei grym.
Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A bawddyn, er na byddai:
A diau, boed gau, bid gwir,
Buan ar fardd y beiir.
E geir, heblaw'r Offeiriad,
Gan' bron yn dwyn gwŷn a brad,
Milweis eiddig, mal Suddas,
Heb son am Dregaron gas.
Dos trwy glod, rhagod er hyn,
Heria pob coeg ddihiryn,
A dilyn fyth hyd elawr
O hyd y gelfyddyd fawr.
Od oes wyr â drygfoes draw,
Afrywiog i'n difriaw,
Cawn yn hwyr, gan eu hwyrion,
Na roes y ddihiroes hon.


Nodiadau

[golygu]
  1. Y bardd gorchestol a'r llenor gwych hwn a anwyd yn 1730; ac wedi oes hafal i'w gyfaill Goronwy o ran helbul a fu farw yn 1789.
  2. Esmwyth.
  3. Zoilus.
  4. Bardd Lladin.
  5. Bavius.
  6. Dafydd ap Gwilym.