Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Marwnad Marged Morys

Oddi ar Wicidestun
Ieuan Brydydd Hir Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd i Lewis Morys

CYWYDD MARWNAD

MARGED MORYS[1], gwraig Morys ap Rhisiart Morys, o
Bentre Eirianell ym Mon, 1752.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 17, 19, 20, 23, 24 a 74].

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist sydd ym Mon draw,
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn,[2]
Llwyr brudd, a chystudd a chŵyn;
Tristaf man, Pentre' Rianell,
Ni fu gynt un a f'ai gwell.
Ni fu chwerwach, tristach tro
I Fon, nag a fu yno.
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochain sydd;
Digroyw lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhêd y rhai'n;
Didaw am Farged ydynt,
Marged law egored gynt;
Bid hapus haelionus law,
Ffrawddus[3] i fil ei phriddaw!
Rhy fawr san[4] ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gwr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon, un galon, gynt.
Mâd enaid ! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi,
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod, ni fu weddwdod waeth!

Toliant[5] ar lawer teulu
Ar led, am Farged a fu;
Ymddifaid a gweiniaid gant
Uchenawg,[6] a achwynant
Faint eu harcholl, a'u colled,
Farw gwraig hael, lle bu cael ced.

Llawer can-torth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreu-Dduw,
Gynes weinidoges Duw.
Gwraig ddigymhar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged;
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball, yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth;
Dilys, lle b'ai raid eli,[7]
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aeth i nef a thangnefedd,
Lawenfyd, hawddfyd a hedd;
Nid aeth mad wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy:
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wa mil o'i hil hi.

Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes;
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael;
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg,[8] lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw[9] fwyn,

Diwyd warcheidwad Awen,
Oreu gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART, am gerdd ber hoywsain
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Anhebyg tra bo'n hybarch
Y Beibl[10] na bydd iddo barch,
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILLIAM?[11]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion.
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gŵraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant, fawl.
Da'r had na newid eu rhyw,
D'wedant ym Mon nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam,"
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw Iesu a'i dewisawdd;
Uniawn y farn wna fo,
Duw Funer,[12] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad.
Adref i oleunef wlad.

Gwae'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen Awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd.
Cynes i feirdd tra cenynt
Oedd canu ffordd Gymru gynt,

Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chlêr er yn amser Nudd ;
Boed heddwch a byd dyddan
Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid ;
Newidio cân (enaid cu !)
Monwysion am un Iesu;
Clywed llef y côr nefawl,
Gwyn dy fyd-hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd,
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau cyhydlef.
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.
Dedwydd, O! enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dyco lle'dd wyt!
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[13]


Nodiadau

[golygu]
  1. Mam y brodyr enwog, Lewis, Richard, a William Morys.
  2. Brwyn-athrist.
  3. Dolurus.
  4. Syn.
  5. Tolliant
  6. Annghenog.
  7. Yr oedd Marged Morys yn lysieuwraig enwog.
  8. Yr amryddawn Lewys Morys, Mon.
  9. Celfydd.
  10. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl, 1746 a 1752.
  11. Llysieuwr rhagorol
  12. Cynhaliwr.
  13. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M. Morys.