Beibl (1620)/Micha

Oddi ar Wicidestun
(Ailgyfeiriad o Beibl/Micha)
Jona Beibl (1620)
Micha
Micha
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Nahum

LLYFR MICHAH.

PENNOD 1

1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.

1:2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.

1:3 Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear.

1:4 A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.

1:5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem?

1:6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.

1:7 A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.

1:8 Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.

1:9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.

1:10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.

1:11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.

1:12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem.

1:13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.

1:14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.

1:15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswyl ferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel.

1:16 Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.


PENNOD 2

2:1 Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ui eu dwylo.

2:2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd w^r a'i dŷ , dyn a'i etifeddiaeth.

2:3 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.

2:4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.

2:5 Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.

2:6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.

2:7 O yr hon a elwir tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau i'r neb a rodio yn uniawn?

2:8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.

2:9 Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.

2:10 Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost.

2:11 Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.

2:12 Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.

2:13 Daw y rhwygydd i fyny o'u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'u blaen, a'r ARGLWYDD ar eu pennau hwynt.


PENNOD 3

3:1 Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn wybod barn?

3:2 Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a'u cig oddi wrth eu hesgyrn;

3:3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a'u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell.

3:4 Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant drwg yn eu gweithredoedd.

3:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.

3:6 Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt.

3:7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb.

3:8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.

3:9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.

3:10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd.

3:11 Ei phenaethiaid a roddant fam er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a'r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i'n plith? ni ddaw drwg arnom.

3:12 Am hynny o'ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.


PENNOD 4

4:1 A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato.

4:2 A.chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4:3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

4:4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd.

4:5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd.

4:6 Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:

4:7 A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.

4:8 A thithau, tw^r y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.

4:9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.

4:10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes, ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir, yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion.

4:11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i'th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion.

4:12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a'u casgl hwynt fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

4:13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r ARGLWYDD eu helw hwynt, a'u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.


PENNOD 5

5:1 Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.

5:2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel, yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.

5:3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel,

5:4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.

5:5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathru o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.

5:6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.

5:7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.

5:8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.

5:9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.

5:10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:

5:11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:

5:12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:

5:13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:

5:14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd, a dinistriaf dy ddinasoedd.

5:15 Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.

PENNOD 6

6:1 Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

6:2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gw^yn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.

6:3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais ? tystiolaetha i'm herbyn.

6:14 Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

6:5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.

6:6 A pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethonrymau, ac â dyniewaid?

6:7 A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd oi feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?

6:8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th DDUW?

6:9 Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.

6:10 A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gw^r anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?

6:11 A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?

6:12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

6:13 A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.

6:14 Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.

6:15 Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.

6:16 Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.


PENNOD 7

7:1 Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf.

7:2 Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.

7:3 I wneuthur drygioni â'r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a'r barnwr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef.

7:4 Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a'th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.

7:5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes.

7:6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gw^r yw dynion ei dŷ .

7:7 Am hynny mi a edrychaf ar yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth DDUW fy iachawdwriaeth: fy NUW a'm gwrendy.

7:8 Na lawenycha i'm herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr ARGLWYDD a lewyrcha i mi.

7:9 Dioddefaf ddig yr ARGLWYDD, canys pechais i'w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef.

7:10 A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.

7:11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf.

7:12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.

7:13 Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.

7:14 Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt.

7:15 Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.

7:16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant.

7:17 Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o'u llochesau: arswydant rhag yr ARGLWYDD ein DUW ni, ac o'th achos di yr ofnant.

7:18 Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.

7:19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.

7:20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i'n tadau er y dyddiau gynt.