Beibl (1620)/Jona

Oddi ar Wicidestun
Obadeia Beibl (1620)
Jona
Jona
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Micha

LLYFR JONAH.

PENNOD 1

1:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd,

1:2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron.

1:3 A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr ARGLWYDD.

1:4 Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.

1:5 Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai.

1:6 A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy DDUW: fe allai yr ystyr y DUW hwnnw wrthym, fel na'n coller.

1:7 A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona.

1:8 A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti?

1:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.

1:10 A'r gwŷ r a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt.

1:11 A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrth ym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.

1:12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.

1:13 Er hyn y gwŷ r a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent; fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.

1:14 Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gw^r hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

1:15 Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr a'i gyffro.

1:16 A'r gwŷ r a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau.

1:17 A'r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.


PENNOD 2

2:1 A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn,

2:2 Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.

2:3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.

2:4 A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o w^ydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd.

2:5 Y dyfroedd a'm hamgylchasani hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen.

2:6 Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O ARGLWYDD fy NUW.

2:7 Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD, a'm gweddi a ddaeth i mewn atat i'th deml sanctaidd.

2:8 Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.

2:9 A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD.

2:10 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.


PENNOD 3

3:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,

3:2 Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.

3:3 A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr ARGLWYDD. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.

3:4 A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.

3:15 A gwŷ r Ninefe a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.

3:16 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a diosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.

3:17 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr.

3:18 Gwisger dyn ac anifail a sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo.

3:9 Pwy a w^yr a dry DUW ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na difether ni?

3:10 A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.


PENNOD 4

4:1 A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.

4:2 Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

4:3 Am hynny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw.

4:4 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot?

4:5 A Jona a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.

4:6 A'r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion.

4:7 A'r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd.

4:8 A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poethwynt y dwyrain; a'r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o'i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw.

4:9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd. Da yw i mi ymddigio hyd angau.

4:10 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu:

4:11 Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a'u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?