Beibl (1620)/Obadeia

Oddi ar Wicidestun
< Beibl (1620)(Ailgyfeiriad oddi wrth Beibl/Obadeia)
Jump to navigation Jump to search

PENNOD 1

1:1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi with yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i yfela yn ei herbyn hi.

1:2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.

1:3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr?

1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhiith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.

1:5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?

1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!

1:7 Yr holl w^yr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwy^r yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.

1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau?

1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.

1:10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.

1:11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.

1:12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.

1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:

1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.

1:15 Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.

1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, al lyncant, a byddant fel pe na buasent.

1:17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thy^ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.

1:18 Yna y bydd ty^ Jacob yn dân, a thy^ Joseff yn fflam, a thy^ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd un gweddill o dy^ Esau: canys yr ARGLWYDD a’i dywedodd.

1:19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;

1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.

1:21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.