Beibl (1620)/1 Maccabeaid

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

LLYFR CYNTAF Y MACABEAID

PENNOD i

1 A DIGWYDDODD, wedi i Alexander y Macedoniad, mab Philip, fyned allan o wlad Chettim, a lladd Dareius brenin y Persiaid a'r Mediaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y teyrnasai o'r blaen yn Groeg,

2 Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaear;

3 Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y ddaear, ac a ddug anrhaith oddi ar lawer 0 genhedloedd; a'r ddaear oedd yn llonydd ger ei fron ef: ac am hynny ei galon ef a ddyrchafwyd, ac a falchiodd.

4 Ac wedi iddo gasglu llu cadarn iawn, efe a lywodraethodd ar wledydd, a chenhedloedd, a theyrnasoedd, ac a'u gwnaeth hwy yn drethol iddo.

5 Ac wedi hyn, efe a glafychodd, ac a wybu y byddai farw.

6 Am hynny efe a alwodd am ei was-anaethwyr, y rhai anrhydeddus, a'r rhai a gydfaethesid ag ef o'i ieuenctid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe eto yn fyw.

7 Felly Alexander a deyrnasodd ddeu-ddeng mlynedd, ac a fu farw.

8 A'i dywysogion ef a lywodraeth-asant, bob un yn ei le.

9 A hwy oll a osodasant goronau ar eu pennau wedi ei farw ef, a'u nieibion ar eu hoi, lawer o flynyddoedd: a dryg-au a amlhaodd ar y ddaear.

10 Ac ohonynt hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epi-ffanes, mab Antiochus y brenin, yr hwn a fuasai yn wystl yn Rhufain: ac efe a deyrnasodd yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groegwyr.

11 Yn y dyddiau hynny dynion anwir a aethant allan o Israel, ac a hudas-ant lawer, gan ddywedyd, Awn, a gwnawn amod a'r Cenhedloedd sy o'n hamgylch: canys er pan y'n gwahaned oddi wrthynt hwy, ni a gawsom lawer o ddrygfyd.

12 A'r ymadrodd hwn oedd dda yn eu golwg hwy.

13 A rhai o'r bobl a fuant mor barod, ag yr aethant at y brenin; ac efe a roddes iddynt awdurdod i wneuthur defodau y Cenhedloedd.

14 A hwy a adeiladasant ysgol yn Jerwsalem, yn ôl arfer y Cenhedloedd;

15 A hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt eu hunain, ac a giliasant oddi with y cyfamod sanctaidd: ac wedi iddynt ymgysylltu a'r Cenhedloedd, hwy a ymroesant i wneuthur drwg.

16 Ac wedi sicrhau'r deyrnas o flaen Antiochus, efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aifft, fel y gallai deyrnasu ar ddwy deyrnas.

17 Ac efe a aeth i mewn i'r Aifft a thorf fawr, a cherbydau, ag eliffant-iaid a gwyr meirch, ac a llynges fawr;

18 Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft: a Ptol-emeus a ofnodd o flaen ei olwg ef, ac a ffodd; a llawer a syrthiasant yn archolledig.

19 A hwy a enillasant y dinasoedd amddiffynadwy yn nhir yr Aifft; ac Antiochus a gymerodd ysbail yr Aifft.

20 Ac Antiochus a ddychwelodd, wedi iddo daro'r Aifft, yn y drydedd flwyddyn a deugain a chant, ac a aeth i fyny yn erbyn Israel a Jerwsalem a thyrfa fawr.

21 Ac efe a aeth i mewn yn falch i'r cysegr, ac a gymerodd ymaith yr allor aur, a'r canhwyllbren oedd yn dal y goleuad, a'i holl offer ef,

22 A bwrdd y bara gosod, a'r cawg-iau, a'r dysglau, a'r llwyau aur, a'r lien, a'r coronau, a'r trwsiad aur oedd ar y tu wyneb i'r deml; ac efe a dyn-nodd yr aur oddi arnynt oll.

23 Ac efe a gymerodd yr arian a'r aur, a'r llestri gwerthfawr, ac a gymerodd y trysorau cuddiedig, y rhai a gafodd efe.

24 Ac wedi iddo gymryd y cwbl, efe a aeth ymaith i'w wlad ei hun, ac a wnaethai laddfa fawr, ac a ddywedasai yn falch dros ben.

25 Am hynny y bu galar mawr ymhlith yr Israeliaid ym mhob lie o'r eiddynt;

26 Canys y tywysogion a'r henuriaid a ochneidiasant, y morynion a'r gwyr ieuainc a lesgasant, a thegwch y gwragedd a gyfnewidiwyd.

27 Fob priodasfab a gymerodd alar, a'r hon oedd yn eistedd yn yr ystafell briodas oedd mewn tristwch;

28 A'r wlad a gynhyrfodd oherwydd ei thrigolion, a holl dy Jacob a wisg-asid a gwarth.

29 Wedi dwy flynedd lawn, y brenin a ddanfonodd y tywysog oedd yn derbyn y deyrnged, i ddinasoedd Jwda, yr hwn a ddaeth i Jerwsalem a thyrfa fawr.

30 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy eiriau heddychol yn dwyllodrus, a hwy a'i credasant ef: ac efe a ruthrodd ar y ddinas yn ddisymwth, ac a'i trawodd hi a phla mawr, ac a ddistryw-iodd lawer o bobl o Israel;

31 Ac a gymerodd ysbail y ddinas, ac a'i llosgodd hi a than, ac a ddistrywiodd ei thai hi a'i chaerau oddi amgylch.

32 A hwy a gaethiwasant y gwragedd a'r plant, ac a berchenogasant yr anifeiliaid.

33 Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd a chaer fawr gref, ac a thyrau cedyrn, ac a'i gwnaethant hi yn amddiffynfa gadarn iddynt eu hun.

34 Heblaw hyn, hwy a osodasant y genedl bechadurus yno, sef y dynion anneddfol; a hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.

35 A hwy a gludasant iddi arfau a bwyd: ac wedi iddynt hwy gasglu ysbail Jerwsalem ynghyd, hwy a'i gosod-asant ef yno; ac felly hwy a fuant yn rhwyd flin.

36 Canys yr oedd yn gynllwynfa yn erbyn y cysegr, ac yn wrthwynebwr blin i Israel bob amser.

37 Fel hyn y tywalltasant waed gwirion o amgylch y cysegr, ac yr halogasant y lie sanctaidd.

38 A thrigolion Jerwsalem a ffoesant o'u plegid hwy: a'r dref oedd yn breswylfa i ddieithriaid, ac oedd yn estronaidd i'wjneibion ei hun, a'i phlant ei hun a'i gadawsant hi.

39 Ei chysegr hi a wnaethid yn anghyfannedd fel y diffeithwch; ei gwyl-iau hi a drowyd yn alar, ei Sabothau yn waradwydd, ei hanrhydedd yn ddirmyg.

40 Fel y buasai ei pharch hi, felly yr oedd ei hamarch hi; a'i hardderchowgrwydd a droesai yn alar.

41 A'r brenin a sgrifennodd at ei holl deyrnas am fod o bawb yn un bobl,

42 Ac ymadael o bob dyn a'i gyfreith-iau ei hun: a'r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymyn y brenin.

43 A llawer o Israel a gytunasant a'i grefydd ef, ac a aberthasant i eilunod, ac a halogasant y Saboth:

44 Canys y brenin a ddanfonasai lythyrau gyda chenhadon i Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ar iddynt fyned ar ôl deddfau dieithr y wlad,

45 A gwahardd poethoffrymau, a bwydoffrwm a diodoffrwm, yn y cysegr; a halogi'r Sabothau a'r gwyliau;

46 A difwyno'r cysegr a'r bobl sanctaidd:

47 Adeiladu allorau, a llwyni, a thernl- au eilunod, ac aberthu cig modi, ac anifeiliaid aflan;

48 A gadael eu meibion yn ddienwaededig, a gwneuthur eu heneidiau yn ffiaidd a phob aflendid a halogrwydd;

49 Fel y gollyngent hwy y gyfraith dros gof, ac y cyfnewidient yr holl ddeddfau.

50 A'r hwn ni wnelai yn ôl gorchymyn y brenin, y byddai raid iddo farw,

51 Efe a sgrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wyliadwyr ar yr holl bobl, gan orchymyn i ddinasoedd Jwda aberthu o ddinas i ddinas.

52 Am hynny llawer o'r bobl a ym-gasglasant atynt hwy, sef pwy bynnag a adawsai'r gyfraith: a hwy a wnaethant ddrwg yn y wlad.

53 A hwy a wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedig, sef yn eu holl lochesau.

54 A'r pymthegfed dydd o'r mis Casleu, yn y burned flwyddyn a deugain a chant, hwy a osodasant y ffieidd-beth anrheithiol ar yr allor; ac o fewn dinasoedd Jwda oddi amgylch hwy a adeiladasant allorau eilunod;

55 Ac a arogldarthasant yn nrysau'r tai, ac yn yr heolydd;

56 Ac a rwygasant lyfrau'r gyfraith y rhai a gawsant hwy, ac a'u llosgasant a than.

57 A pha le bynnag y ceid llyfr y cyfamod gyda neb, neu os cytunai neb a'r gyfraith, efe a leddid wrth orchymyn y brenin.

58 Wrth eu cryfder hwy a wnaent felly i'r Israeliaid a geid bob mis yn y dinasoedd.

59 A'r unfed dydd ar hugain o'r mis, wrth aberthu ar allor yr eilunod, yr hon oedd ar allor Duw,

60 Hwy a laddasant rai gwragedd wrth orchymyn Antiochus, y rhai a barasai enwaedu ar eu meibion;

61 Ac a grogasant y plant by chain wrth eu gyddfau hwy, ac a ysbeiliasant eu tai hwy, ac a laddasant y rhai a enwaedasai arnynt.

62 Er hynny llawer yn Israel a roesant eu bryd yn gwbl, ac a ymsicrhasant ynddynt eu hunain, na fwytaent beth-au aflan.

63 A hwy a ddewisasant farw, rhag eu llygru a bwydydd, a rhag halogi ohonynt y cyfamod sanctaidd: a hwy a ddioddefasant farwolaeth.

64 A bu digofaint mawr iawn ar Israel.

PENNOD 2

1 YN yr amseroedd hynny, Matatheias mab loan, fab Simeon, offeiriad o hiliogaeth Joarib, a gododd i fyny o Jerwsalem, ac a breswyliodd ym Modin.

2 Ac iddo ef yr oedd pum mab; Joannan, yr hwn a elwid Cadis;

3 Simon, yr hwn a elwid Thassi;

4 Jwdas, yr hwn a elwid Macabeus;

5 Eleasar, yr hwn a elwid Abaron; a Jonathan, yr hwn a elwid Apffus.

6 Pan welodd efe y cabledd a wnaeth-id o fewn Jwda a Jerwsalem,

7 Efe a ddywedodd, Gwae fi fy ngeni i weled cystudd fy mhobl, a chystudd y ddinas sanctaidd, a'm bod yn trigo yno pan roddwyd hi yn llaw y gelynion, a'r cysegr yn llaw dieithriaid!

8 Ei theml a wnaethpwyd fel gwr heb ogoniant.

9 Ei llestri parchedig hi a dducpwyd ymaith i gaethiwed; ei phlant by chain a ladded yn yr heolydd, a'i gwyr ieu-ainc 4 chleddyf y gelyn.

10 Pa genedl sydd a'r ni chafodd ran o'i theyrnas hi, ac ni ymaflodd yn ei hysbail hi?

11 Ducpwyd ymaith ei holl harddwch hi: gwnaethpwyd hi'n forwyn gaeth o wraig rydd.

12 Canys wele, ein cysegr, a'n harddwch, a'n gogoniant, a anrheithiwyd; a'r Cenhedloedd a'u halogasant hwy.

13 I ba beth y byddwn fyw yn hwy na hyn?

14 A Matatheias a'i feibion a rwyg-asant eu dillad, ac a ymwisgasant mewn lliain sach, ac a alarasant yn ddirfawr.

15 Yna gweinidogion y brenin, y rhai a gymhellent y bobl i wrthgiliad, a ddaethant i ddinas Modin, i'w gyrru hwy i aberthu.

16 Llawer o Israel a ddaethant atynt hwy, Matatheias hefyd a'i feibion a gasglwyd ynghyd.

17 A gweinidogion y brenin a ateb-asant, ac a lefarasant wrth Matatheias, gan ddywedyd, Tywysog, a pharchedig, a mawr wyt ti yn y ddinas hon, a chadarn o feibion ac o frodyr;

18 Gan hynny tyred yn gyntaf yr awron, a gwna orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl genhedloedd, a gwyr Jwda, a'r rhai a adawed yn Jerwsalem; felly ti a gei fod a'th dylwyth ymhlith cyfeillion y brenin; a thydi a'th feibion a anrhydeddir ag arian, ac ag aur, ac a rhoddion lawer.

19 A Matatheias a atebodd ac a ddywedodd a lleferydd uchel, Pe gwran-dawai'r holl genhedloedd a'r sy dan lywodraeth y brenin arno ef, ac ym-ado o bawb allan o grefydd eu hynaf-iaid, a chytuno a'i orchmynion ef;

20 Eto myfi, a'm meibion, a'm brodyr, a rodiwn yng nghyfamod ein tadau.

21 Duw a drugarhao wrthym, rhag gadael ohonom y gyfraith a'r deddf-au.

22 Ni wrandawn ni ar eiriau'r brenin i wyro oddi wrth ein gwasanaeth tua'r llaw ddeau, na'r llaw aswy.

23 Pan beidiodd efe a dywedyd y geiriau hyn, rhyw Iddew a ddaeth yn eu gwydd hwy i aberthu ar yr allor ym Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.

24 Pan welodd Matatheias hyn, efe a wynfydodd, a'i arennau a grynasant, ac ni fedrodd ymatal rhag dangos ei lid yn ôl barn, ac a redodd, ac a'i lladdodd ef ar yr allor.

25 Ac efe a laddodd yr amser hwnnw wasanaethwr y brenin, yr hwn oedd yn eu cymell hwy i aberthu, ac a ddistrywiodd yr allor.

26 Ac efe a ddug sel tuag at gyfraith Dduw, fel y gwnaeth Phinees i Sambri fab Salom.

27 A Matatheias a lefodd yn y ddinas a lief uchel, gan ddywedyd, Pwy bynnag sy'n dwyn sel i'r gyfraith, ac sy'n cadw'r cyfamod, canlyned fi.

28 Ac efe a'i feibion a ffoesant i'r mynyddoedd, ac a adawsant beth bynnag oedd ganddynt yn y ddinas.

29 Yna llawer, y rhai oedd yn ceisio cyfiawnder a barn, a ddaethant i waered i'r anialwch hwnnw, i aros yno,

30 Hwynthwy, a'u meibion, a'u gwrag-edd, a'u hanifeiliaid; canys llawer o ddrwg a ddaethai arnynt hwy.

31 A mynegwyd i wyr y brenin, ac i'r lluoedd y rhai oedd yn Jerwsalem yn ninas Dafydd, fyned o wyr a dorasai orchymyn y brenin i waered i lochesau yn yr anialwch.

32 A llawer a erlidiodd ar eu hoi hwy, ac a'u goddiweddasant hwy, ac a wersyUasant yn eu herbyn, ac a osodasant ryfel yn eu herbyn ar y dydd Saboth,

33 Ac a ddywedasant wrthynt hwy, Digon yw hyn a wnaethoch; deuwch allan, a gwnewch yn ôl gorchymyn y brenin, a chwi a gewch eich hoedl.

34 A hwy a ddywedasant, Ni ddeuwn ni allan, ac ni wnawn ni orchymyn y brenin, i haiogi y dydd Saboth.

35 Am hynny hwy a brysurasant i ryfel yn eu herbyn hwynt.

36 Ond nid atebasant hwy iddynt, ac ni thaflasant garreg atynt, ac ni chaeasant y llochesau, gan ddywedyd,

37 Ni a ddioddefwn farwolaeth oll yn ein diniweidrwydd: y nef a'r ddaear a dystiolaetha trosom ni, eich bod chwi yn ein difetha heb farn.

38 Felly hwy a godasant yn eu herbyn hwy mewn rhyfel ar y dydd Saboth; a hwy, a'u gwragedd, a'u plant, a'u hanifeiliaid, a fuant feirw, hyd fil o ddynion.

39 Pan wybu Matatheias a'i gyfeillion hynny, hwy a alarasant amdanynt hwy yn ddirfawr.

40 Yna'r naill a ddywedodd wrth y 1 " " — -: "" fi>1 v gwnaeth a'n deddfau, hwy a'n llwyr ddifethant ni yr awron ar frys oddi ar y ddaear.

41 A hwy a gymerasant gyngor y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Pwy bynnag a ddelo i'n herbyn i ryfela ar y dydd Saboth, ni a ymladdwn yn ei erbyn ef; rhag ein meirw oU, fel y bu feirw ein brodyr yn y llochesau.

42 Yna cynulleidfa o'r Assideaid a ymgasglasant atynt hwy, y rhai oedd wyr cryfion o Israel, sef pwy bynnag oedd yn ewyllysgar yn ymroddi i'r gyfraith.

43 A phawb a'r oedd yn ffoi rhag erlid a ymgysylltasant a hwy, ac a fuant yn gadernid iddynt.

44 A hwy a gasglasant lu o wyr, ac a laddasant y pechaduriaid yn eu dig, a'r gwyr anneddfol yn eu llidiowgrwydd: a'r lleill a ffoesant at y Cenhedloedd am help.

45 Yna Matatheias a'i gyfeillion a dramwyasant o amgylch, ac a ddistryw-iasant yr allorau.

46 A thrwy nerth hwy a enwaedasant ar y plant dienwaededig, cymaint ag a gawsant hwy o fewn terfynau Israel;

47 Ac a erlidiasant y dynion beilchion: a'r gwaith hwn a Iwyddodd yn eu dwylo hwynt.

48 A hwy a waredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd, ac o law y brenhinoedd; ac ni roesant hwy gryfder i'r pechadur.

49 A phan nesaodd dyddiau Matatheias i farw, efe a ddywedodd wrth ei feibion, Balchder ac argyhoeddiad a gawsant gryfder yr awron, ac amser distryw a dig llidiog:

50 Gan hynny, fy meibion, dygwch sel yr awr hon i'r gyfraith, a rhoddwch eich hoedl dros gyfamod eich tadau.

51 Cofiwch weithredoedd ein tadau, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd: felly chwi a dderbyniwch fawr barch ac enw tragwyddol. Oni chaed Abraham yn ffyddlon gadwodd y gorchymyn, ac a wnaeth-pwyd yn arglwydd ar yr Aifft.

54 Phinees ein tad, wrth ddwyn sel, a gafodd amod am offeiriadaeth dragwyddol.

55 Josua, am gyflawni gair Duw, a wnaethpwyd yn farnwr ar Israel.

56 Caleb, am dystiolaethu gerbron y gynulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir.

57 Dafydd yn ei drugaredd a etifeddodd orseddfainc y deyrnas dragwyddol.

58 Eleias, wrth ddwyn sel i'r gyfraith, a gymerwyd i fyny i'r nefoedd.

59 Ananeias, Asareias, a Misaelj am iddynt gredu, a achubwyd o'r tan.

60 Daniel yn ei wiriondeb a waredwyd o safnau'r llewod.

61 Ac felly ystyriwch, ym mhob oes, pwy bynnag sydd yn ymddiried ynddo ef3 ni orchfygir ef.

62 Am hynny nac ofnwch rhag geiriau gwr pechadurus: canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed.

63 Heddiw efe a ddyrchefir, ac yfory ni bydd efe i'w gael; canys trodd i'w bridd, a darfu am ei amcan.

64 Gan hynny fy meibion, cymerwch galonnau, ac ymwrolwch ym mhlaid y gyfraith; canys chwi a gewch barch oddi wrthi hi.

65 Ac wele Simon eich brawd, mi a wn mai gwr cynghorus yw efe; gwran-dewch arno ef bob amser; efe a fydd yn dad i chwi.

66 Ac am Jwdas Macabeus, yr oedd efe yn gryf ac yn nerthol o'i ieuenctid; bydded efe gapten i chwi, ac ordeiniwch ryfel y bobloedd.

67 Felly y dygwch atoch bawb a'r y sy'n cadw'r gyfraith; a dielwch gam eich pobl.

68 Telwch hyd adref i'r Cenhedloedd; a gwyliwch ar orchmynion y gyfraith.

69 Yna efe a'u bendithiodd hwy: ac efe a roddwyd at ei hynafiaid.

70 Ac efe a fu farw yn y chweched flwyddyn a deugain a chant: a'i feibion a'i claddasant ef ym medd ei hynafiaid ym Modin; a holl Israel a alarodd am-dano ef a galar mawr.

PENNOD 3

1 YNA Jwdas, yr hwn a elwid Maca-beuSj ei fab ef, a gododd i fyny yn ei le ef.

2 A'i holl frodyr a'i cymorthasam ef, a phawb a'r a lynasai wrth ei dad ef: a hwy a ymladdasant ryfel Israel yn llawen.

3, Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wisgodd ddwyfronneg fel cawr, ac a ymwregysodd a'i arfau rhyfel, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddiffynnodd y gwersyll a'r cleddyf.

4 Ac yr oedd efe yn debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenau llew yn rhuo am ei ysglyfaeth.

5 Ac efe a erlidiodd y rhai drwg, gan chwilio amdanynt; ac a losgodd y rhai oedd yn cythryblu ei bobl ef.

6 A'r rhai drwg a giliasant rhag ei ofn ef, a phawb a'r oedd yn gwneuthur drygioni a gyd-drallodwyd, am fod iachawdwriaeth yn llwyddo yn ei law ef.

7 Ac efe a wnaeth i lawer o frenhinoedd ofidioj ac a lawenychodd Jacob a'i weithredoedd: ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendigedig yn dragywydd.

8 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Jwda, ac a ddistrywiodd y rhai annuwiol allan oddi yno, ac a drodd heibio ddigo-faint oddi wrth Israel.

9 A'i enw ef a gerddodd hyd eithafoedd y ddaear; ac efe a gasglodd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.

10 Yna Apolonius a gasglodd y Cenhedloedd ynghyd, a llu mawr o Samaria) i ryfela yn erbyn Israel.

11 Pan wybu Jwdas, efe a aeth i'w gyfarfod ef, ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd ef: a llawer a syrthiasant yn archollsdig, a'r lleill a ffoesant.

12 Ac efe a gymerodd eu hysbail hwy; a Jwdas a gymerodd gleddyl Apolonius, ac a ymladdodd ag ef ei holl ddyddiau.

13 Pan glywodd Seron tywysog llu Syria, gasglu o Jwdas dyrfa a chynull-eidfa o ffyddloniaid i fyned i ryfela gydag ef,

14 Efe a ddywedodd, Myfi a enillaf enw i mi fy hun, ac a gaf barch yn y deyrnas, ac a ryfelaf yn erbyn Jwdas a'r rhai sy gydag ef, a'r rhai sy'n diystyru gorchymyn y brenin.

15 Ac efe a ymrodd i ddyfod i fyny: a chydag ef y daeth llu cryf o rai annuwiol i fyny i'w gymorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.

16 Pan nesaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Jwdas a aeth allan i'w gyfarfod ef a thorf fechan.

17 A phan welsant hwy y llu yn dyfod i'w cyfarfod, hwy a ddywedas-ant wrth Jwdas, Pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychydig, ymladd yn erbyn lliaws cymaint a chyn gryfed? yr ydym ni hefyd yn barod i ddiffygio, heb fwyd heddiw.

18 A Jwdas a ddywedodd, llawdd ydyw cau llawer yn nwylo ychydig: ac nid oes ragoriaeth gerbron Duw nef rhwng achub a llawer neu ag ychydig.

19 Canys nid yn lluosowgrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond o'r nef y mae cadernid.

20 Maent hwy yn dyfod atom ni mewn mawr draha a chamwedd, i'n difetha ni, a'n gwragedd, a'n plant, ac i'n hysbeilio.

21 Ond nyni ydym yn ymladd am ein heinioes a'n cyfreithiau.

22 A Duw a'u dryllia hwy ger ein bron ni: gan hynny nac ofnwch rhag-ddynt hwy.

23 A phan beidiodd efe a dywedyd, efe a neidiodd yn ddisymwth arnynt hwy: ac felly y difethwyd Seron a'i wersyll o'i flaen ef.

24 A hwy a'u herlidiasant ar hyd goriwaered Bethoron, hyd y gwastad-edd; ac yno y lladded ynghylch wyth /cant o wyr ohonynt: a'r lleill a ffoes-| ant i wlad y Philistiaid.

25 Yna ofn Jwdas a'i frodyfj ac arswyd mawr, a ddechreuodd syrthio ar y Cenhedloedd o'u hamglych hwy.

26 A'i enw ef a gyrhaeddodd hyd at y brenin: a phob cenedl a fynegai ryfeloedd Jwdas.

27 A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasglodd holl fyddinoedd ei deyrnas, llu cryf iawn.

28 Ac efe a agorodd ei drysordy, ac a roddes gyflogau i'w luoedd dros flwyddyn, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod dros flwyddyn, pa bryd bynnag y byddai raid iddo wrthynt hwy.

29 Ond pan welodd efe yr arian o'i drysorau yn pallu, a'r rhai oedd yn casglu teyrnged y wlad yn anaml, oblegid yr anghytundeb a'r aflwydd a wnaethai efe yn y wlad wrth dynnu ymaith y cyfreithiau a fuasai er y dydd-iau cyntaf;

30 Yna efe a ofnodd rhag na byddai ganddo ddigon i ateb unwaith neu ddwywaith y draul, a'r rhoddion a roddasai efe o'r blaen a llaw helaeth: canys efe a fuasai helaethach na'r brenhinoedd o'r blaen mewn haelioni.

31 Am hynny yr oedd efe mewn cyfyngder meddwl: ond efe a gymerodd gyngor i fyned i Persia, i gymryd teyrnged y gwledydd, ac i gasglu llawer o arian.

32 Am hynny efe a adawodd Lysias, gwr anrhydeddus, ac o genedl y brenin, ar faterion y brenin, o'r afon Ewffrates hyd derfynau'r Aifft,

33 Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fyny hyd oni ddychwelai efe.

34 Ac efe a roddes iddo ef banner y lluoedd, a'r eliffantiaid, ac a roes orchmynion iddo am bob peth a'r a ewyllysiai efe ei wneuthur, ac ynghylch y rhai oedd yn trigo yn Jwda ac yn Jerwsalem;

35 I ddanfon llu yn eu herbyn hwy, i ddistrywio ac i ddiwreiddio nerth Israel a gweddill Jerwsalem, ac i dynnu ymaith eu coffadwriaeth hwy o'r lie hwn-nw;

36 Ac i osod dynipn djeithr i drigo yn eu holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goelbrennau.

37 A'r brenin a gymerodd hanner y lluoedd, y rhai a weddillasid, ac a gychwynnodd o Antiochia, dinas ei deyrnas ef, y seithfed flwyddyn a deu-gain a chant; ac efe a aeth dros yr afon Ewffrates, ac a dramwyodd trwy'r gwledydd uchaf.

38 A Lysias a ddewisodd Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor, a Gorgias, gwyr galluog, a chyfeillion y brenin:

39 Ac efe a ddanfonodd ddeugain mil o wyr traed gyda hwy, a seithmil o wyr meirch, i fyned i wlad Jwda, i'w distrywio hi yn ôl gorchymyn y brenin,

40 A hwy a gychwynasant a'u holl lu, ac a ddaethant, ac a wersyllasant yn gyfagos i Emaus, ar y tir gwastad.

41 Pan glybu marchnadwyr y wlad son amdanynt, hwy a gymerasant arian, a llawer iawn o aur, a gweinidogion, ac a ddaethant i'r gwersyll, i brynu meibion Israel yn gaethion: a llu o Syria, ac o wlad y dieithriaid, a ddaeth atynt hwy.

42 Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod drygau yn amlhau, a gwersyllu o'r lluoedd o fewn eu terfynau hwy; a hwy a wyddent eiriau'r brenin, y rhai a orch-mynasai efe i wneuthur dinistr a phen am y bobl;

43 Yna'r naill a ddywedodd wrth y llallj Gosodwn ein pobl drachefn allan o orthrymder, ac ymladdwn dros ein pobl a'r cysegr.

44 A'r gynulleidfa a ymgasglodd i fod yn barod i ryfela, ac i wedd'io, ac i ofyn trugaredd a thosturi:

45 Canys anghyfannedd oedd Jerwsalem fel anialwch: nid oedd neb o'i phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan: a'r cysegr oedd wedi ei sathru, a meibion alltudion yn cadw'r castell; llety oedd hi i'r Cenhedloedd: a'r hyfrydwch a dynasid ymaith oddi wrth Jacob, a'r bibell a'r delyn a beidias-ent.

46 A'r Israeliaid a ymgasglasant ynghyd, ac a ddaethant i Masffa, gyf- erbyn a Jerwsalem: canys y lie o'r blaen i Israel i weddio oedd ym Masffa.

47 A hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wisgasant liain sach, ac a fwriasant ludw ar eu pennau, ac a rwygasant eu dillad,

48 Ac a ledasant lyfrau'r gyfraith, am y rhai yr oedd y Cenhedloedd yn chwilio, i argraffu lluniau eu delwau ynddynt;

49 Ac a ddygasant ddillad yr offeiriaid, a'r blaenffrwythau, a'r degym-au, ac a gyffroesant y Nasareaid, y rhai a gyflawnasent eu dyddiau;

50 Ac a lefasant a lief uchel tua'r nef, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ni i'r rhai hyn? ac i ba le y dygwn ni hwy ymaith?

51 Dy gysegr di a fathred ac a halogwyd, a'th offeiriaid sy mewn galar a gostyngiad.

52 Ac wele'r Cenhedloedd a ymgasglasant yn ein herbyn ni i'n distrywio: ti a wyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.

53 Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy, oddieithr i ti ein cynorthwyo ni?

54 Yna hwy a ganasant ag utgyrn, ac a waeddasant a lief uchel.

55 Yna Jwdas a osododd gapteiniaid ar y bobl, capteiniaid ar fil, ar gant, ar ddeg a deugain, ac ar ddeg.

56 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu teiau, ac a ddyweddi-asid a gwragedd, ac oeddynt yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd o bob un i'w dy, yn ôl y gyfraith.

57 A'r llu a symudodd, ac a wersyllodd o'r tu deau i Emaus.

58 A Jwdas a ddywedodd, Ymwregyswch, a byddwch wyr gwrol, a byddwch barod i ymladd yfory a'r Cenhedloedd hyn a ymgasglasant yn ein herbyn, i'n distrywio ni a'n cysegr.

59 Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel na gweled drygfyd ein cenedl a'n cysegr.

60 Ond fel y byddo ewyllys Duw yn y nef, felly gwneled.

PENNOD 4

1 YNA Gorgias a gymerodd bum mil o wyr traed, a mil o wyr meirch detholedig, ac a osododd allan o'r gwersyll liw nos;

2 Fel y gallai efe ruthro i wersyll yr Iddewon, a'u taro yn ddisymwth: a milwyr y castell oedd yn ei gyfarwyddo ef ar y ffordd.

3 Pan glybu Jwdas, efe a aeth allan ei hun, a'r gwyr galluog gydag ef, i daro llu'r brenin, yr hwn oedd yn Emaus,

4 Tra fyddai'r lluoedd eto wedi ym-daenu oddi wrth y gwersyll.

5 A Gorgias a ddaeth i wersyll Jwdas liw nos, ac ni chafodd efe neb; ond efe a'u ceisiodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywedodd, Y maent hwy yn ffoi oddi wrthym.

6 Ond gyda'i dyddhau hi, Jwdas a ymddangosodd yn y maes, a thair mil o wyr; ond nid oedd ganddynt na llurig-au na chleddyfau fel yr ewyllys-ient.

7 Pan welsant hwy wersyll y Cenhedloedd yn gryf, wedi ei wisgo mewn llurigau, a'r gwyr meirch yn eu ham-gylchu hwynt, a'r rhai hynny wedi eu dysgu i ryfela,

8 Yna Jwdas a ddywedodd wrth y gwyr oedd gydag ef, Nac ofnwch eu lluosowgrwydd, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.

9 Cofiwch fel yr achubwyd ein hynaf-iaid ni yn y mor coch, pan erlidiodd Pharo hwy a llu.

10 Felly yr awron, gadewch i ni lefain tua'r nef, i edrych a drugarhao efe wrthym ni, ac a gofia efe amod ein hynafiaid, ac a ddryllia efe y gwersyll hwn o flaen ein hwyneb ni heddiw;

11 Fel y gwypo'r holl Genhedloedd fod un yn gwared ac yn achub Israel.

12 Yna y dieithriaid a godasant eu golwg i fyny, ac a'u canfuant hwy yn dyfod ar eu cyfer hwynt; ii Ac a ddaethant allan o'r gwersyll V ryfela: a'r rhai oedd gyda Jwdas a utgyrn.

14 A hwy a drawsant ynghyd: a'r Cenedloedd a orchfyged, ac a ffoesant i'r maes gwastad.

15 A'r holl rai olaf a laddwyd a'r cleddyf: a hwy a'u herlidiasant hwy hyd Gasera, a hyd at feysydd Idumea, ac Asotus, a Jamnia: ac ynghylch teirmil o wyr ohonynt a laddwyd.

16 A Jwdas a'r llu a ddychwelodd o'u herlid hwy.

17 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Na fyddwch awyddus i'r ysbail, oblegid y mae rhyfel yn ein herbyn ni;

18 Oblegid y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd yn agos atom: ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynion, a gorch-fygwch hwy, ac wedi hynny cymerwch yr ysbail yn ddiofn.

19 Pan oedd Jwdas eto yn dywedyd hyn, rhan ohonynt a welid yn edrych allan o'r mynydd.

20 Pan welsant yrru o'r Iddewon eu llu hwynt i ffoi, a'u bod yn llosgi'r gwersyll; canys y mwg, yr hwn a welid, a ddangosodd yr hyn a wnaethid:

21 Pan welsant y pethau hyn, hwy a ofnasant yn ddirfawr: a phan welsant hwy lu Jwdas yn y maes yn barod i ymladd,

22 Hwy a ffoesant oll i wlad y dieithriaid.

23 A Jwdas a ddychwelodd i gym-ryd ysbail y gwersyll: a hwy a gaws-ant lawer o aur, ac arian, a dillad, a sidan glas, a phorffor y mor, a chyfoeth mawr.

24 Felly hwy a aethant adref, ac a ganasant gan diolch, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod ef yn ddaionus, a'i drugaredd yn dragywydd.

25 Ac felly Israel a gafodd ymwared mawr y diwrnod hwnnw.

26 A'r Cenhedloedd oll a'r a ddianghasent, a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a ddigwyddasai.

27 A Lysias oedd yn gywilydd ganddo, ac a ddigalonnodd, am na ddigwydd-asai'r cyfryw bethau i Israel ag a fyn-asai efe, ac am na wnaethid y cyfryw bethau ag a orchmynasai'r brenin.

28 A'r flwyddyn nesaf ar ôl hyn, Lysias a gasglodd dri ugain mil o wyr traed detholedigj a phum mil o wyr meirch, i'w gorchfygu hwynt.

29 A hwy a ddaethant i Idumea, ac a wersyllasant yn Bethsura, lie y daeth Jwdas yn eu herbyn hwy a deng mil o wyr.

30 A phan welodd efe y llu mawrgryf, efe a wnaeth ei weddi, ac a ddywedodd, Bendigedig wyt ti, O Achubwr Israel, yr hwn a gystwyaist ruthr y cadarn trwy law Dafydd dy was, ac a roddaist wersyll y dieithriaid yri llaw Jonathan fab Saul, ac arweinydd ei arfau ef.

31 Cae y llu hwn yn llaw dy bobl Israel; a chywilyddier hwy yn eu lluosowgrwydd a'u gwyr meirch.

32 Gwna iddynt ofni, a thawdd ym-aith hyfder eu cadernid hwynt, a chryn-ant wrth eu dinistr.

33 Tan hwy i lawr a chleddyf y rhai sy'n dy garu di; a'r sawl oll a adwaenant dy enw, clodforant di a hymnau.

34 Yna hwy a drawsant ynghyd: ac fe a laddwyd yngbylch pum mil o wyr 0 lu Lysias; ger eu bron hwy y lladdwyd hwynt.

35 Pan welodd Lysias yrru ei lu ef i ffoi, a gwrolaeth y rhai oedd gyda Jwdas, fel yr oeddynt hwy'n barod, pa un bynnag ai i fyw, ai i farw fel gwyr, efe a aeth i Antiochia, ac a gasglodd ryfelwyr dieithr; ac wedi gwneuthur ei lu yn fwy nag y buasai, a feddyliodd ddyfod drachefn i Jwdea.

36 Yna y dywedodd Jwdas a'i frodyr, Wele, gorchfygwyd ein gelynion; awn i fyny i lanhau ac i adnewyddu'r cysegr.

37 Wrth hyn yr holl lu a ymgasglodd; a hwy a aethant i fyny i fynydd Seion.

38 A phan welsant hwy y cysegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dorau wedi eu llosgi, a'r manwydd yn tyfu yn y neuaddau fel mewn coed neu ar un o'r mynyddoedd, ac ystafelloedd yr offeiriaid wedi eu tynnu i lawr;

39 Hwy a rwygasant eu dillad, ac a alarasant a galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau,

40 Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwyn-ebau, ac a wnaethant swn mawr ag utgyrn, ac a waeddasaut tua'r nef.

41 Yna Jwdas a osododd wyr i ym. ladd yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfyddai iddo ef lanhau'r cysegr.

42 Ac efe a ddewisodd offeiriaid diargyhoedd, y rhai oedd ewyllysgar i'r gyfraith:

43 A hwy a lanhasant y cysegr, ac a ddygasant allan y cerrig halogedig i le aflan.

44 A chan fod allor y poethoffrym-au wedi ei halogi, hwy a ymgyngorasant beth a wnaent iddi hi.

45 Felly hwy a feddyliasant mai gorau oedd ei thynnu hi i lawr, rhag iddi fod yn gywilydd iddynt, canys y Cenhedloedd a'i halogasent hi: am hynny hwy a dynasant yr allor i lawr,

46 Ac a osodasant y cerrig ar fynydd y ty mewn lie cyfaddas, hyd oni ddelai proffwyd i fynegi pa beth a wneid a hwynt.

47 A hwy a gymerasant gerrig cyf-ain yn ôl y gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd, yn ôl dull y gyntaf;

48 Ac a wnaethant y cysegr i fyny, a'r pethau o fewn y ty, ac a sancteidd-iasant y cynteddau;

49 Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd; ac a ddygasant y canhwyll-bren, ac allor y poethoffrymau a'r arogl-aberthau, a'r bwrdd, i mewn i'r deml.

50 A hwy a losgasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau oedd yn y canhwyllbren, i oleuo yn y deml.

51 A hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a ledasant y llenni, ac a orffenasant yr holl waith a ddechreu-asant ei wneuthiir.

52 Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r nawfed mis, yr hwn a elwir nus Casleu, yn yr wythfed flwyddyn deugain a chant, hwy a godasant y° fore i fyny,

53 Ac a aberthasant yn ôl y gyfraith ar allor newydd y poethoffrymau, yr hon a wnaethent hwy.

54 Ar gyfenw i'r amser a'r diwrnod yr halogasai'r Cenhedloedd hi, yn union, y gosoded hi i fyny o newydd, I chaniadau, & thelynau, a phibau, ac a symbalau.

55 A'r holl bobl a syrthiasant ar eu hwynebau, gan addoli a diolch i Dduw y nef, yr hwn a'u llwyddasai hwy.

56 Ac felly hwy a gadwasant gysegriad yr allor wyth niwrnod, gan offrymu poethoffrymau ac aberthu aberthau iachawdwriaeth a moliant mewn llaw-enydd.

57 A hwy a harddasant dalcen y deml a choronau o aur ac a tharianau, ac a adnewyddasant y pyrth a'r ystafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.

58 Ac yr oedd llawenydd mawr ymhlith y bobl, am droi gwaradwydd y Cenhedloedd ymaith.

59 Felly Jwdas a'i frodyr, a holl gynulleidfa Israel, a ordeiniodd gadw dyddiau cysegriad yr allor yn eu hamserau, yn uchel wyl bob blwyddyn dros wyth niwrnod, gan ddechrau y pumed dydd ar hugain o'r mis Casleu, trwy orfoledd a llawenydd.

60 Ac ar yr un amser, hwy a adeiladasant fynydd Seion i fyny a chaerau uchel, ac a thyrau cedyrn oddi amgylch, rhag dyfod o'r Cenhedloedd, a'i fathru ef i lawr, fel y gwnaethent o'r blaen.

61 A hwy a osodasant ynddo gryfdwr i'w gadw ef, ac a gadarnhasant Bethsura i'w gadw ef, fel y cai'r bobl am-ddiffynfa yn erbyn Idumea.

PENNOD 5

1 "T\IGWYDDODD hefyd, pan glybu'r •*-' Cenhedloedd oddi amgylch ddarfod adeiladu'r allor, ac adnewyddu'r cysegr, fel y buasent o'r blaen, yna 4igio yn ddirfawr a wnaethant.

2 Am hynny hwy a ymgyngorasant > ddistrywio cenedl Jacobs yr hon oedd yi eu plith hwy, ac a ddechreuasant 'add ac erlid y bobl.

3 Yna Jwdas a ymladdodd yn erbyn plant Esau yn Idumea, yn Arabatthane, am eu bod yn gwarchae ar Israel: ac efe a'u trawodd a phla mawr, ac a'u darostyngodd, ac a ddug eu hysbail hwynt.

4 Efe a gofiodd hefyd falais ac an-ffyddlondeb plant Bean, fel yr oeddynt hwy'n rhwyd ac yn rhwystr i'r bobl, ac yn eu cynllwyn hwy yn y ffyrdd.

5 Am hynny efe a'u caeodd hwy mewn tyrau, ac a wersyllodd yn eu herbyn, ac a'u distrywiodd hwy yn llwyr, ac a losgodd eu tyrau, a phawb a'r oedd ynddynt.

6 Wedi hynny efe a aeth trosodd at blant Ammon, ac a gafodd yno lu cadarn, a llawer o bobl, gyda Thimotheus eu capten:

7 Ac efe a ymladdodd a hwynt mewn llawer o ryfeloedd, a hwy a ddistrywied o'i flaen ef; ac efe a'u trawodd hwynt.

8 Ac wedi iddo ennill Jasar, a'r trefydd oedd yn perthynu iddi, efe a ddychwelodd i Jwdea.

9 Yna y Cenhedloedd yn Galaad a ymgasglasant yn erbyn yr Israeliaid, y rhai oedd o fewn eu terfynau hwy, i'w lladd hwy: ond hwy a ffoesant i gastell Dathema,

10 Ac a anfonasant lythyrau at Jwdas a'i frodyr, gan ddywedyd, Y cenhed-loedd, y rhai sy o'n hamgylch ni, a ymgasglasant yn ein herbyn ni, i'n distrywio.

11 Ac yr awron y maent hwy yn ymbaratoi i ddyfod, ac i amgylchu'r castell, lie y ffoesom ni: a Thimotheus ydyw capten eu llu hwy.

12 Tyred yn awr gan hynny, a gwared ni allan o'u dwylo hwy: canys llawer ohonom ni a laddwyd eisoes.

13 A'n holl frodyr, y rhai oedd yn lleoedd Tobie, a laddwyd: eu gwragedd hefyd a'u plant a ddygasant hwy ymaith yn gaethion, a'u da a ddygasant, ac a laddasant yno ynghylch mil o wyr.

14 Pan oedd y llythyrau hyn eto yn eu darllen, wele, cenhadon eraill a ddaeth o Galilea, wedi rhwygo eu dillad, y rhai a fynegasant yn ôl y geiriau hyn,

15 Ac a ddywedasant, Ymgasglodd y rhai sy o Ptolemais, a Thyrus, a Sidon, a holl Galilea y Cenhedloedd, yn ein herbyn ni, i'n distrywio.

16 Pan glybu Jwdas a'r bobl hyn yma, cynulleidfa fawr a ymgasglodd i ymgynghori pa beth a wnaent i'w brodyr oedd mewn gorthrymder, ac a rhyfel yn eu herbyn.

17 A Jwdas a ddywedodd wrth Simon ei frawd, Dewis alian wyr, a dos i achub dy frodyr yn Galilea, a myfi a'm brawd Jonathan a awn i wlad Galaad.

18 Ac efe a adawodd Joseff fab Sachareias, ac Asareias, yn gapteiniaid ar y bobl a gweddill y llu yn Jwdea, i'w chadw hi.

19 Ac efe a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Llywodraethwch y bobl yma, a mogelwch osod rhyfel yn erbyn y Cenhedloedd, hyd oni ddychwelom ni.

20 Ac fe roddwyd teirmil o wyr Simon, i fyned i Galilea; ac wyth mil o wyr Jwdas, yn erbyn gwlad Galaad.

21 Yna Simon a aeth i Galilea, ac a drawodd ar y Cenhedloedd mewn llawer o ryfeloedd, ac a'u gorchfygodd hwy.

22 Ac efe a'u canlynodd hwy hyd byrth Ptolemais: ac ynghylch teirmil o wyr o'r Cenhedloedd a laddwyd; ac efe a gymerodd eu hysbail hwy;

23 Ac a ddygodd yr Israeliaid ym-aith, y rhai oedd yn garcharorion yn Galilea, ac yn Arbattis, a'u gwragedd, a'u plant, a chymaint ag a feddent, ac a'u dygodd hwy i Jwdea a llawenydd mawr.

24 A Jwdas Macabeus, a'i frawd Jonathan, a aethant dros yr lorddonen, ac a aethant daith tridiau yn yr anialwch;

25 Lie y cyfarfuant hwy a'r Nabath-iaid, y rhai a ddaethant atynt yn heddych-°1, ac a fynegasant iddynt bob peth a ddigwyddasai i'w brodyr hwy yng ngwlad Galaad;

26 Ac fel y caeasid llawer ohonynt hwy yn Bosora, Bosor, Alima, Chas-cor, Maceda, a Charnaim; (dinasoedd cryfion a mawrion ydyw y rhai hyn oll:)

27 A'u bod wedi cau arnynt yn y lleill o ddinasoedd gwlad Galaad, a'u bod hwy wedi bwriadu dwyn eu llu yn erbyn yr amddiffynfaoedd i'w dal hwy, ac i'w difetha oll yn yr un dydd.

28 Ac ar hyn Jwdas a'i lu a drodd ar frys, ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosor, ac a enillodd y ddinas, ac a laddodd yr holl rai gwrywiaid a'r cleddyf, ac a gymerodd eu holl ysbail hwy, ac a losgodd y ddinas a than.

29 Ac efe a symudodd oddi yno liw nos, ac i ddaeth tua'r castell.

30 A phan oedd hi yn fore ddydd, hwy a godasant eu golwg i fyny, ac wele lu annifeiriol o bobl yn dwyn ysgolion ac offer rhyfel i fyny i ennill y castell: ac yr oeddynt wedi gosod arnynt hwy.

31 Pan welodd Jwdas ddechrau o'r rhyfel, a bod gwaedd y ddinas yn dyrchafu tua'r nef gan utgyrn a lief uchel,

32 Efe a ddywedodd wrth ei lu, Ym-leddwch heddiw dros eich brodyr.

33 Ac efe a ddaeth o'r tu ôl iddynt mewn tair byddin; a hwy a ganasant yr utgyrn, ac a lefasant ynghyd a gweddi.

34 Pan wybu gwersyll Timotheus mai Macabeus oedd yno, hwy a ffoesant rhagddo ef: ond efe a'u trawodd hwy a lladdfa fawr; ac ynghylch wyth mil o wyr a ladded ohonynt y diwrnod hwn-nw.

35 Yna Jwdas a drodd tua Masffa, ac a osododd arni, ac a'i henillodd hi, ac a laddodd bob gwryw ynddi, ac a gymerodd ei hysbail, ac a'i llosgodd hi a than.

36 Efe a aeth oddi yno, ac a enillodd Casffon, Maged, Bosor, a'r dinasoedd eraill yn Galaad.

37 Wedi hyn Timotheus a gasglodd lu arall, ac a wersyllodd o flaen Raffon, o'r tu draw i'r afon.

38 A Jwdas a anfonodd i sbio'r gwersyll; a hwy a ddygasant air iddo, gan ddywedyd, Y mae'r holl genhedloedd sy o'n hamgylch ni wedi ymgasglu ato ef, yn llu lluosog iawn:

39 Ac efe a gyflogodd yr Arabiaid i'w cymorth hwy; a hwy a wersyll-asant o'r tu draw i'r afon, ac y maent yn barod i ddyfod, ac i ymladd a tbi: a Jwdas a aeth i gyfarfod a hwynt.

40 A Thimotheus a ddywedodd wrth gapteiniaid ei lu, Pan ddelo Jwdas a'i lu yn agos at yr afon, os daw efe trosodd yn gyntaf atom ni, ni allwn ni ei wrthwynebu ef, oblegid efe a fydd trech na nyni o lawer.

41 Ond os arswyda efe ddyfod trosodd, a gwersyllu o'r tu draw i'r afon, nyni a awn trosodd ato ef, a nyni a fyddwn gryfach nag ef.

42 Ond pan nesaodd Jwdas at yr afon, efe a osododd ysgrifenyddion y bobl yng nglan yr afon, ac a orchmynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, Na adewch i un dyn aros yn y gwersyll, ond deued pawb i'r rhyfel.

43 Ac efe a aeth trosodd yn gyntaf atynt hwy, a'i holl bobl ar ei ôl: a'r holl Genhedloedd a orchfyged ger ei fron ef; a hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant i'r deml oedd yn Carnaim.

44 A Jwdas a enillodd y ddinas, ac a losgodd y deml a phawb a'r oedd ynddi hi: felly y gorchfyged Carnaim, ac ni allodd hi wrthwynebu Jwdas.

45 A Jwdas a gasglodd yr holl Israeliaid oedd yng ngwlad Galaad, o'r lleiaf hyd y mwyaf, a'u gwragedd, a'u plant, a'u mud, llu mawr iawn, i ddyfod i wlad Jwdea.

46 A hwy a ddaethant i Effron; yr hon oedd ddinas fawr gadarn iawn, ar y ffordd yr elent hwy; nid oedd fodd iddynt fyned heb ei llaw hi, nac ar y llaw ddeau, nac ar y llaw aswy, ond myned trwy ei chanol hi oedd raid iddynt.

47 Yna gwyr y ddinas a'u caeasant hwynt allan, ac a gaeasant y pyrth a Cherrig.

48 A Jwdas a ddanfonodd atynt hwy a geiriau heddychol, gan ddywedyd, Gadewch i ni fyned trwy eich gwlad chwi, fel y gallom fyned i'n gwlad ein hun, ac ni chaiff neb wneuthur i chwi ddrwg; nid awn ni drwodd ond ar draed: ond ni fynnent hwy agoryd iddo.

49 Am hynny Jwdas a orchmynnodd gyhoeddi trwy'r llu, ar i bob un wersyllu yn y fan yr ydoedd efe.

50 Ac felly gwyr y llu a wersyllasant, ac a ryfelasant yn erbyn y ddinas yr hoU ddiwrnod hwnnw, a'r holl noson honno; a'r ddinas a roddwyd yn ei law ef.

51 Ac efe a laddodd yr holl rai gwrywiaid a min y cleddyf, ac a ddiwreidd-iodd y ddinas, ac a gymerodd ei hysbail hi, ac a dramwyodd trwy'r ddinas, ar draws y rhai a laddasid.

52 Yna hwy a aethant dros yr lorddonen, i'r gwastadedd mawr sydd o flaen Bethsan.

53 A Jwdas oedd yn casglu ynghyd y rhai olaf, ac yn cynghori'r bobl ar hyd yr holl ffordd, hyd oni ddaeth efe i wlad Jwdea.

54 A hwy a aethant i fyny i fynydd Seion mewn gorfoledd a llawenydd, ac a offrymasant boethoffrymau, am na laddasid neb ohonynt hwy, oni ddychwel-asant mewn heddwch.

55 Ac yn y dyddiau hynny, y rhai yr oedd Jwdas a Jonathan yng ngwlad Galaad, a Simon eu brawd hwy yng ngwlad Galilea, o flaen Ptolemais,

56 Yna Joseff mab Sachareias, ac Asareias, capteiniaid y llu, a glywsant y gweithredoedd ardderchog a'r rhyfeloedd a wnaethent hwy.

57 A hwythau a ddywedasant, Gadewch i ninnau hefyd ennill enw i ni, a myned i ymladd yn erbyn y Cenhedloedd sy o'n hamgylch.

58 A hwy a roddasant orchymyn i'r rhai oedd yn y llu oedd gyda hwynt, ac a aethant tua Jamnia.

59 Yna Gorgias a'i wyr a ddaeth allan o'r ddinas i ymladd yn eu herbyn hwy.

60 Ond Joseff ac Asareias a yrrwyd i ffoi, ac a ymlidiwyd hyd derfynau Jwdea: a dwy fil o wyr o bobl Israel a laddwyd y diwrnod hwnnw.

61 Fel hyn y bu colled fawr ymhlith pobl Israel, am na wrandawsent hwy ar Jwdas a'i frodyr, eithr meddwl gwneuthur rhyw wrolaeth.

62 Hefyd nid oeddynt hwy o had y gwyr hynny y rhoddasid ar eu dwylo achub Israel.

63 Ond y gwr Jwdas a'i frodyr a ogoneddid yn fawr gerbron holl Israel a'r holl genhedloedd, pa le bynnag y clywid eu henw hwy.

64 A'r bobl a ymgasglai atynt i gyf-arch gwell iddynt.

65 Wedi hynny Jwdas a'i frodyr a aethant allan, ac a ryfelasant yn y wlad sy'n gorwedd tua'r deau, yn erbyn meibion Esau; ac yno efe a oresgynnodd Hebron a'i phentrefydd, ac a dynnodd i lawr ei chastell hi, a'i thyrau hi a losgodd efe oddi amgylch.

66 Yna efe a ymadawodd i fyned i wlad y dieithriaid, ac a aeth trwy Samaria.

67 Ar yr un amser y lladdwyd rhai o offeiriaid y dinasoedd, y rhai oedd yn ewyllysio gwneuthur gwrolaeth, am fyned ohonynt i ymladd heb gyngor.

68 A phan ddaeth Jwdas i Asotus yng ngwlad y dieithriaid, efe a ddistryw-iodd eu hallorau hwy, ac a losgodd eu delwau cerfiedig, ac a gymerodd ysbail y dinasoedd, ac a ddychwelodd i wlad Jwdea.

PENNOD 6

1 AC Antiochus y brenin a dramwy•**• odd trwy'r gwledydd uchaf, ac a glybu fod Elymais o fewn Persia yn ddinas enwog iawn am olud, am arian ac aur;

2 A bod teml gyfoethog iawn ynddi hi, a gwisgoedd o aur, a llurigau, a tharianau, y rhai a adawsai Alexander mab Philip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyrnasasai yn gyntaf ymysg y Groegwyr.

3 Am hynny efe a ddaeth, ac a geis- iodd ennill y ddinas, a'i hysbeilio hi; ond ni allai efe, oblegid cael o'r dinasyddion wybod y peth.

4 A hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel; ac efe a ffodd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwelodd i Babilon.

5 Hefyd rhyw un a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef yn Persia, ymlid ym-aith y lluoedd a aethai i wlad Jwdea;

6 Ac fel yr aethai Lysias a llu cadarn yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef o'u blaen hwynt; ac fel yr aethant hwy yn gryf-ach o ran arfau a llu, ac ysbail lawer, y rhai a ddygasent oddi ar y lluoedd a dorasent hwy ymaith;

7 Ac fel y tynasent i lawr y ffieidd-beth a osodasai efe ar yr allor yn Jerwsalem, ac yr amgylchasent hwy y cys-egr a chaerau uchel, fel y buasai efe o'r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.

8 Pan glybu'r brenin y geiriau hyn, fe synnodd arno, ac a gythruddodd yn ddirfawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a'r cwbl am na ddigwyddasai iddo fel yr oedd efe yn disgwyl.

9 Ac efe a arhodd yno lawer o ddydd-iau; canys ei dristwch ef oedd fwyfwy; ac efe a wnaeth gyfrif y byddai efe farw.

10 Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt, Mae'r cysgu wedi ymadael a'm llygaid, ac fe lesgaodd fy nghalon o wir ofal: n A mi a ddywedais yn fy nghalon, I ba drallod y deuthum, ac ym mha afonydd o drymder yr ydwyf yr awr hon, lle'r oeddwn i o'r blaen yn hael ac yn gariadus yn fy awdurdod!

12 Ac yr awron yr ydwyf fi yn cofio'r drwg a wneuthum i yn Jerwsalem, fel y dygais ymaith yr holl lestri aur ac arian oedd ynddi hi, ac fel y dan-fonais i ddistrywio trigolion Jwdea yn ddiachos.

13 Myfi a wn mai am hynny y daeth y drygau hyn arnaf; ac wele, darfu am- danaf fi trwy alaeth mawr mewn gwlad ddieithr.

14 Yna efe a alwodd am Philip, un o'i garedigion, ac a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas,

15 Ac a roddes iddo ef ei goron, a'i fantell, a'i fodrwy, fel y gallai efe gymryd Antiochus ei fab ef ato, a'i ddwyn ef i fyny i deyrnasu.

16 Ac Antiochus y brenin a fu farw yno, yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.

17 Pan wybu Lysias farw o'r brenin, efe a osododd i deyrnasu yn ei le ef Antiochus ei fab ef, yr hwn a ddygasai efe i fyny yn ieuanc, ac a'i galwodd ef Eupator.

18 A'r rhai oedd yn y castell yn Jerwsalem a gadwasant yr Israeliaid i mewn o amgylch y cysegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, a chadarnhau'r Cenhedloedd.

19 Am hynny y bwriadodd Jwdas eu distrywio hwy; ac efe a gasglodd yr holl bobl ynghyd i'w hamgylchynu hwy,

20 Felly hwy a ddaethant ynghyd, ac a'u hamgylchynasant hwy yn y ddeg-fed flwyddyn a deugain a chant: ac efe a wnaeth leoedd i'r taflwyr i sefyll, a rhyfeloffer eraill.

21 Er hynny rhai o'r rhai yr oeddid yn eu hamgylchu a aethant allan, a rhai o wyr annuwiol Israel a lynasant wrthynt,

22 Ac a aethant at y brenin, ac a ddywedasant, Pa hyd y byddi di heb wneuthur cosbedigaeth a dialedd ar ein brodyr?

23 Yr oeddem ni yn fodlon i was-anaethu dy dad di, i rodiq fel y dywedai efe, ac i ufuddhau i'w orch-mynion ef.

24 Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnag y cawsant hwy neb ohonom, hwy a'u lladdasant; a hwy a ysbeiliasant ein hetifeddiaeth ni.

25 Ac nid estynasant hwy eu dwylo yn unig yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ein holl gyffiniau.

26 Ac wele, y maent hwy wedi gwersyllu heddiw yn erbyn y castell sydd yn Jerwsalem i'w oresgyn ef; a hwy a gadarnhasant y cysegr, a Bethsura.

27 Ac oddieithr i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnant bethau mwy na'r rhain, fel nas gellych di eu rheoli hwynt.

28 Pan glybu'r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasglodd ei holl garedigion ynghyd, capteiniaid ei lu, a'r rhai oedd ar ei wyr meirch ef.

29 Yna y daeth ato ef oddi wrth frenhinoedd eraill, ac o ynysoedd y mor, lu ar gyflog.

30 A rhifedi ei lu ef oedd gan mil o wyr traed, ac ugeinmil o wyr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantiaid wedi eu dysgu i ryfela.

31 Y rhai hyn a ddaethant trwy Idumea, ac a wersyllasant yn erbyn Bethsura, ac a ryfelasant tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfeloffer yn ei herbyn hi: ond yr Iddewon a ddaethant allan, ac a losg-asant y rheini a than, ac a ymladd-asant fel gwyr.

32 Yna Jwdas a ymadawodd oddi wrth y castell, ac a wersyllodd yn Bathsachareias, gyferbyn a gwersyll y brenin,

33 A'r brenin a gyfododd yn fore iawn, ac a ddygodd y llu ar ruthr tua Bathsachareias, ac a ymrannodd i ryfela, ac a ganodd utgyrn.

34 A hwy a ddangosasant sugn grawnwin a morwydd i'r eliffantiaid, i'w hannog hwy i ymladd;

35 Ac a ranasant yr anifeiliaid ymysg y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wyr wedi eu gwisgo mewn llurigau o fodrwyau, ac a helmau o bres am eu pennau, i bob eliffant; a phum cant o wyr meirch etholedig a ordeiniwyd hefyd i bob eliffant.

36 Y rhai hyn oedd barod bob amser; lie byddai yr anifail y byddent, gan fyned i ba le bynnag yr elai efe; ac ni ymadawent oddi wrtho ef.

37 A phob eliffant a orchuddiasid a thwr cadarn o goed, wedi ei sicrhau arno ef ag offer: ac ar bob un yr oedd deuddeg ar hugain o wyr i ymladd oddi arno ef; a gwr o India i lywodraethu'r anifail.

38 A hwy a osodasant weddill y gwyr meirch o'r tu yma ac o'r tu acw, wrth ddwy ran y llu, gan roddi arwj^ddion iddynt beth a wnaent, ac wedi eu holl-arfogi ymysg byddinoedd.

39 A phan dywynnai yr haul ar y tarianau aur a phres, y mynyddoedd a ddisgleiriai oddi wrthynt hwy; ac yr oeddynt yn llewyrchu fel lampau tan.

40 A rhan o lu y brenin oedd wedi ymdaenu ar y mynyddoedd uchel, a rhan ar y lleoedd isel; ac felly hwy a aethant yn ddiogel ac mewn trefn.

41 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a glybu swn eu lliaws hwy, a cherddediad y llu, a thrwst yr arfau yn taro ynghyd; canys yr oedd y llu yn fawr anianol ac yn gryf.

42 Jwdas hefyd a'i lu a nesaodd i'r rhyfel; ac fe laddwyd chwe chant o wyr o lu y brenin.

43 Pan welodd Eleasar, a'i gyfenw Safaran, un o'r eliffantiaid wedi ei wisgo ag arfau brenhinol, ac yn uwch na'r anifeiliaid eraill, efe a feddyliodd fod y brenin ar hwnnw,

44 Ac a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragwyddol;

45 Ac a redodd yn galonnog at yr eliffant hwnnw trwy ganol y fyddin, ac a'u lladdodd hwy ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy, oni ymwahanasant oddi wrtho ef o bob tu.

46 Ac efe a aeth dan yr eliffant, ac a'i brathodd oddi tano, ac a'i lladdodd ef: yna'r eliffant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.

47 Ond pan welodd yr Iddewon eraill gryfdwr y brenin a nerth y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt.

48 A'r rhai oedd o lu y brenin a aethant i fyny i gyfarfod a hwynt i Jerwsalem; a'r brenin a wersyllodd yn erbyn Jwdea, ac yn erbyn mynydd Seion.

49 Hefyd y brenin a wnaeth hedd- wch rhyngddo a'r rhai oedd yn Bethsura; a hwy a ddaethant allan o'r ddinas, am nad oedd ganddynt ymborth yno, i arcs y gwarchae, oblegid ei bod hi yn Saboth i'r tir.

50 Felly y brenin a gymerodd Bethsura, ac a osododd wyr i'w chadw hi.

51 Ac efe a osododd ryfel yn erbyr y cysegr dros lawer o ddyddiau, ac a osododd yno dafl-arfau a rhyfeloffer, bwau, a gwaith i saethu tto, a gwaith i saethu cerrig, ac ysgorpionau i saethu saethau a thaflau.

52 Yr Iddewon hefyd a wnaethant ryfeloffer yn erbyn yr eiddynt hwythau, ac a ymladdasant a hwynt dros hir amser.

53 Ond nid oedd mo'r bwyd yn eu llestri; oblegid y seithfed flwyddyn oedd hi, a'r rhai yn Jwdea, a'r a achub-asid o blith y Cenhedloedd, a fwytasent eu holl stor hwy;

54 Ac ni adawsid ond ychydig wyr yn y cysegr, oblegid newyn a'u gorchfyg-asai hwy, oni thynasent hwy ymaith bob un i'w le ei hun.

55 Pan glybu Lysias fod Philip, (yr hwn a osodasai Antiochus y brenin pan oedd efe eto yn fyw, i ddwyn Antiochus ei fab i fyny i deyrnasu,)

56 Wedi dyfod drachefn o Persia a Media, a llu'r brenin, yr hwn a aethai gydag ef, a'i fod ef yn ceisio cym-ryd materion y frenhiniaeth ar ei law:

57 Yna efe a frysiodd, ac a aeth, ac a ddywedodd wrth y brenin, a chaptein-iaid y llu, a'r gwyr eraill, Yr ydym ni yn lleihau beunydd, ac nid oes gennym ond ychydig ymborth: drachefn, y lie yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac arnom ni y mae cymryd gofal am y deyrnas.

58 Am hynny rhoddwn ddeau ddwylo i'r gwyr hyn; gwnawn heddwch rhyngom a hwynt, ac a'u holl genedl:

59 A chaniatawn iddynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt o'r blaen: canys am hyn y maent hwy wedi cyth-ruddo, a hyn oll a wnaethant hwy am ddileu ohonom ni eu cyfreithiau hwynt.

60 A'r brenin a'r tywysogion a fuant fodlon: ac efe a ddanfonodd atynt hwy i gynnig heddwch; a hwy a'i derbynias-ant.

61 A'r brenin a'r tywysogion a dyng-asant iddynt; ac ar hynny hwy a ddaethant allan o'r castell.

62 A'r brenin a aeth i fyny i fynydd Seion; ond pan welodd efe gadern-id y lie, efe a dorrodd y llw a dyng-asai efe, ac a orchmynnodd dynnu'r gaer i lawr oddi amgylch.

63 Yna efe a ymadawodd ar frys, ac a ddychwelodd i Antiochia, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a oresgynnodd y ddinas wrth gryfder.

PENNOD 7

1 A^N yr unfed flwyddyn ar ddeg a A deugain a chant yr ymadawodd Demetrius mab Seleucus o Rufain, ac a ddaeth ag ychydig wyr i ddinas yng nglan y mor, ac a deyrnasodd yno.

2 A phan ddaeth efe i frenhindy ei hynafiaid, digwyddodd i'w lu ef ddal Antiochus a Lysias, i'w dwyn ato ef.

3 A phan wybu efe hynny, efe a ddywedodd, Na ddangoswch i mi eu hwyft-ebau hwy.

4 A'r llu a'u lladdodd hwynt: a Demetrius a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.

5 Yna yr holl ddynion drygionus an-nuwiol o Israel a ddaethant ato ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwenychu bod yn archoffeiriad;

6 Ac a gyhuddasant y bobl wrth y brenin, gan ddywedyd, Jwdas a'i frodyr a laddasant dy holl garedigion di, ac a'n gyrasant ni allan o'n gwlad.

7 Am hynny danfon ryw wr yr ydwyt yn ymddiried iddo, ac aed, ac edryched yr holl ddistryw a wnaeth efe arnom ni, /ac ar wlad y brenin, a chosbed efe hwynt, , a phawb sydd yn eu cynorthwyo.

8 Yna'r brenin a ddewisodd Bac-chides, caredig y brenin, yr hwn oedd yn llywodraethu o'r tu draw i'r afon, ac oedd wr mawr yn y deyrnas, ac yn ffyddlon i'r brenin:

9 Ac efe a'i danfonodd ef gydag Alcimus annuwiol, yr hwn a wnaethai efe yn archoffeiriad, ac a orchmynnodd iddo ddial ar blant Israel.

10 A hwy a ymadawsant, ac a ddaethant a llu mawr i wlad Jwdea, ac a ddan-fonasant genhadon at Jwdas a'i frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllodrus wrthynt.

11 Eithr ni wnaethant hwy goel ar eu geiriau hwy: canys hwy a welsant ddyfod ohonynt a llu mawr.

12 Wedi hyn cynulleidfa o'r sgrif-enyddion a ymgasglodd at Alcimus a Bacchides, i geisio cyfiawnder.

13 A'r Assideaid oedd y rhai cyntaf ymhlith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,

14 Gan ddywedyd, Daeth un sy off-eiriad o had Aaron gyda'r llu yma, ac ni wna efe gam a nyni.

15 Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt, gan ddywedyd, Ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i'ch caredigion.

16 A hwy a'i credasant ef; ond efe a ddaliodd dri ugeinwr ohonynt hwy, ac a'u lladdodd hwy mewn un diwrnod yn ôl y geiriau a sgrifennodd Dafydd:

17 Hwy a daflasant allan gig dy saint di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o amgylch Jerwsalem, ac nid oedd neb a'u claddai hwynt.

18 A'u hofn hwynt a'u dychryn a ddaeth ar yr holl bobl, y rhai a ddywedent, Nid oes na gwirionedd na chyfiawnder ynddynt hwy; oblegid hwy a dorasant y llw a'r amod a wnaethant.

19 A Bacchides a symudodd o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Beseth, ac a ddanfonodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o'r rhai a'i gadawsent ef, a rhai o'r bobl, ac a'u lladdodd hwy, ac a'u taflodd i'r pydew mawr.

20 Yna efe a orchmynnodd y wlad i Alcimus, ac a adawodd ryfelwyr gydag ef, i'w gymorth ef: a Bacchides a aeth at y brenin.

21 Ac felly Alcimus a ymrysonodd am yr archoffeiriadaeth.

22 A'r holl rai oedd yn cythryblu'r boblj a ymgasglasant ato ef, ac a enill-asant wlad Jwda, ac a wnaethant ddrwg mawr yn Israel.

23 Pan welodd Jwdas yr holl ddrwg a wnaethai Alcimus a'r rhai oedd gydag ef i'r Israeliaid, ie, mwy nag a wnaeth-ai'r Cenhedloedd,

24 Efe a dramwyodd trwy holl derfynau Jwda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwyr a ffoesent ymaith oddi wrtho ef at y gelynion, oni pheid-iasant hwy a dyfod mwy i'r wlad.

25 Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'r rhai oedd gydag ef wedi cael y llaw uchaf, a gwybod na allai efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y bren-in, ac a'u cyhuddodd hwy o ddrygioni.

26 Yna'r brenin a ddanfonodd Nicanor, un o'i dywysogion anrhydeddus, yr hwn oedd yn casau ac yn dwyn gelyniaeth i Israel, ac a orchmynnodd iddo ddistrywio'r bobl yn llwyr.

27 A Nicanor a ddaeth i Jerwsalem a llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddychol at Jwdas a'i frodyr, ond trwy dwyll, gan ddywedyd,

28 Na fydded rhyfel rhyngof fi a chwi; mi a ddeuaf ag ychydig wyr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.

29 Felly efe a ddaeth at Jwdas, a hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol: ond yr oedd y gelynion yn barod i gipio Jwdas i ffordd.

30 Eto hysbyswyd y peth i Jwdas, mai trwy dwyll y daethai efe ato ef: ac efe a'i hofnodd ef yn fawr, ac ni fynnai weled ei wyneb ef mwy.

31 Pan wybu Nicanor ddatguddio ei fwriad, efe a aeth allan i ymladd yn erbyn Jwdas, yn ymyl Caffarsalama.

32 Ac ynghylch pum mil o wyr o lu Nicanor a laddwyd, a'r lleill a ffoesant i ddinas Dafydd.

33 Wedi hyn Nicanor a aeth i fyny i fynydd Seion, a rhai o'r offeiriaid a henaduriaid y bobl a aethant allan o'r cysegr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo'r poethoffrymau yr oeddid yn eu hoffrwm dros y brenin.

34 Ond efe a chwarddodd am eu pen-nau, ac a'u gwatwarodd hwy, ac a'u halogodd, ac a ddywedodd yn falch.

35 Ac efe a dyngodd yn ei ddig, gan ddywedyd, Oni roddir yn awr Jwdas a'i wersyll yn fy nwylo i, os dychwelaf mewn heddwch, myfi a losgaf y ty yma. Ac yna efe a aeth allan mewn dicllon-deb mawr.

36 Yna'r offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen yr allor a'r deml, gan wylo, a dywedyd,

37 O Arglwydd, ti a ddewisaist y ty yma, i alw ar dy enw di ynddo, ac i fod yn dy gweddi ac ymbil i'th bobl.

38 Gwna ddialedd ar y gwr hwn a'i wersyll, oni ladder hwy a'r cleddyf: cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddio-ddef iddynt barhau.

39 A Nicanor a aeth allan o Jerwsalem, ac a wersyllodd yn Bethoron; ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.

40 A Jwdas a wersyllodd yn Adasa, a thair mil o wyr, ac a wnaeth ei weddi, gan ddywedyd,

41 O Arglwydd, pan ddaeth rhai oddi wrth y brenin i'th gablu di, yr angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar ugain o filoedd ohonynt:

42 Distrywia felly y gwersyll hwn o'n blaen ni heddiw, fel y gallo pobl eraill wybod ddywedyd ohono ef yn ddrwg am dy gysegr di; a barna ef yn ôl ei ddrygioni.

43 A'r gwersylloedd a drawsant ynghyd, y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar: a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.

44 Pan welodd rhyfelwyr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ymaith, ac a ffoesant.

45 Ond yr Iddewon a'u hymlidias-ant hwy daith un diwrnod, o Adasa nes dyfod i Gasera, ac a ganasant larwm mewn utgyrn ar eu hoi hwynt.

46 A'r Iddewon a ddaethant allan o holl drefi Jwdea oddi amgylch, ac a'u herlidiasant: a hwy a droesant yn erbyn y rhai a'u herlidient, ac felly y lladded hwy oll a'r cleddyf, ac ni adawed neb ohonynt hwy, naddo un.

47 Yna hwy a gymerasant yr ysbail a'r ysglyfaeth, ac a dorasant ben Nicanor ymaith, a'i law ddeau ef, yr hon a estynasai efe allan cyn falched, ac a'u dygasant hwy ymaith gyda hwynt, ac a'u crogasant o flaen Jerwsalem.

48 Am hynny'r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr:

49 Ac a ordeiniasant gadw y diwrnod hwnnw, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar, bob blwyddyn.

50 Ac felly gwlad Jwda a gafodd heddwch dros ychydig amser.

PENNOD 8

1 TWDAS hefyd a glybu son am y J Rhufeinwyr, eu bod hwy yn alluog, ac yn wyr cedyrn, ac yn fodlon i dderbyn y rhai a ymgysylltai a hwynt, ac yn gwneuthur heddwch a phawb a'r oedd yn cyrchu atyntj

2 A'u bod yn alluog o nerth: a heb-law hyn, eu rhyfeloedd hwy, a'r gwrol-aeth a wnaethant ymysg y Galatiaid, a fynegwyd iddynt hwy, ac fel y gorch-fygasent hwynt, ac a'u dygasent dan deyrnged;

3 A pha bethau a wnaethent hwy yng ngwlad Hispaen, i ennill y mwyn-gloddiau arian ac aur oedd yno;

4 Ac fel y goresgynasent bob lie trwy eu doethineb a'u dioddefgarwch, er pelled fyddai y lie oddi wrthynt hwy, a'r brenhinoedd hefyd y rhai a ddaethai yn eu herbyn hwy o eithaf y ddaear, nes eu gorchfygu a'u taro yn drwm iawn; ac fel yr oedd y lleill yn talu teyrnged iddynt hwy bob blwyddyn;

5 Ac fel y gorchfygasent hwy mewn rhyfel Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, ac eraill y rhai a ymgod-asai yn eu herbyn, ac y gorchfygasent hwynt;

6 Fel y gorchfygasent hwy Antiochus y brenin mawr o Asia, yr hwn a fynnai ymladd a hwynt, ac oedd ganddo chwe ugain o eliffantiaid, a gwyr meirch, a cherbydau, a llu mawr iawn;

7 Ac fel y daliasent ef yn fyw, ac yr ordeiniasent iddo ef, ac i'r rhai a deyrn-asai ar ei ôl ef, dalu teyrnged fawr iddynt hwy, a rhoddi meichiau ar yr hyn a gytunesid arno;

8 Fel y dygasent oddi arno ef wlad India, a Media, a Lydia, ei wledydd gorau ef, ac y rhoddasent hwy y rhai hynny i'r brenin Eumenes;

9 A pha fodd y rhoddasai'r Groegwyr eu bryd ar ddyfod a'u difetha hwynt;

10 Ac y danfonasent hwythau, pan wybuant, gapten yn eu herbyn hwy, ac y lladdasent lawer ohonynt, ac y caeth-gludasent eu gwragedd hwy a'u plant, ac yr ysbeiliasent hwy, ac y cymerasant feddiant yn eu tir hwy, ac y distrywiasent eu dinasoedd cedyrn, ac a'u darostyngasent i fod yn gaethwyr iddynt hyd y dydd heddiw;

11 Ac fel y darfuasai iddynt ddistrywio a chaethiwo teyrnasoedd ac ynysoedd eraill, y rhai a fuasai un amser yn eu gwrthwynebu hwyj

12 Ac fel yr oeddynt yn cadw cydymdeithas a'u cydymdeithion, ac a'r rhai oedd a'u hyder arnynt hwy, ac fel yr enillasent deyrnasoedd ymhell ac yn agos, a bod pawb yn eu hofni hwy a'r a glywsai s6n amdanynt:

13 Oblegid pwy bynnag a chwenych-ent hwy eu cymorth i deyrnasu, y rhai hynny oedd yn teyrnasu; a thra-chefn, y neb a fynnent, a ddiswyddent: ac fel yr oeddynt wedi dyfod i oruchaf-iaeth mawr:

14 Ac er hyn i gyd nad oedd un ohonynt yn gwisgo coron, nac yn ym-ddilladu a phorffor, i'w fawrygu felly;

15 Ond gwneuthur ohonynt dy cyngor iddynt eu hunain, lie yr oedd tri chant ac ugain yn eistedd beunydd mewn cyngor, yn ymgynghori yn wastadol dros y bobl, i'w cadw hwynt mewn trefn dda:

16 Ac fel yr oeddynt yn ymddiried i un gwr bob blwyddyn i'w llywod-raethu, ac i arglwyddiaethu ar eu holl wlad hwy, i'r hwn yr oedd pawb yn ufudd; ac nad oedd na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.

17 Yna Jwdas a ddewisodd Eupolemus fab loan, fab Accas, a Jason fab Eleasar, ac a'u danfonodd hwy i Rufain i wneuthur cyfamod caredigrwydd a chydymdeithas a hwynt;

18 Ac i ddeisyf arnynt dynnu'r iau oddi arnynt hwy: oblegid yr oeddynt yn gweled fod brenhiniaeth y Groegwyr yn gorthrymu Israel a chaethiwed.

19 A hwy a aethant i Rufain; ac yr oedd y ffordd yn bell iawn; ac aethant i mewn i dy'r cyngor, lie y liefarasant ac y dywedasant,

20 Jwdas Macabeus a'i frodyr a phobl yr Iddewon, a'n danfonodd ni atoch, i ymrwymo mewn amodau cydymdeithas a heddwch a chwychwi, ac i chwithau ein sgrifennu ninnau yn gydymdeithion ac yn garedigion i chwithau.

21 Ac yr oedd y chwedl yma yn rhyngu bodd i'r Rhufeiniaid yn dda iawn.

22 A dyma gopi o'r ysgrifen a argraffodd y cyngor mewn llechau pres, ac a anfonasant hwy i Jerwsalem, fel y byddai yno gyda hwy yn goffadwriaeth o'r heddwch ac o'r gydymdeithas.

23 Bid yn dda i'r Rhufeinwyr, ac i bobl yr Iddewon, ar for ac ar dir yn dragywydd: a phell fyddo'r cleddyf a'r gelyn oddi wrthynt.

24 O daw rhyfel yn gyntaf yn erbyn y Rhufeinwyr, neu yn erbyn neb o'u cydymdeithion, trwy eu holl arglwydd-iaeth hwy,

25 Pobl yr Iddewon a'u cymhorthant hwy, fel y gofynno'r amser, ag ewyllys eu calon:

26 Ac ni roddant ddim i'r rhai a ryfelant yn eu herbyn hwynt, ac ni chynorthwyant hwynt nac a bwyd, nac ag arian, nac a llongau, fel y rhyngodd bodd i'r Rhufeinwyr: eu hamodau a gadwant heb gymryd dim am hynny.

27 Yn yr un ffunud, o digwydd i bobl yr Iddewon yn gyntaf gaffael rhyfel, y Rhufeinwyr a ymladdant gyda hwy o ewyllys da, fel y gosoder yr amser iddynt:

28 Ac ni roddant i elynion yr Iddewon na bwyd, nac arfau, nac arian, na llongau, fel y gwelodd y Rhufeinwyr yn dda; eithr hwy a gadwant yr amodau hyn, a hynny yn ddidwyll.

29 Yn ôl y geiriau hyn y gwnaeth y Rhufeinwyr amod a phobl yr Iddewon.

30 Ac os ewyllysia'r un o'r ddwy blaid o hyn allan chwanegu at, neu dynnu oddi wrth, y geiriau hyn, gwnant wrth eu hewyllys: a pha beth bynnag a chwanegant atynt, neu a dynnant oddi wrthynt, hynny a saif.

31 Ac am y drwg y mae Demetrius yn ei wneuthur i'r Iddewon, ni a sgrifenasom ato ef, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost ti dy iau yn drom ar ein caredigion ni a'n cydymdeithion yr Iddewon?

32 Od achwynant hwy rhagot ti dra-chefn, nyni a wnawn gyfiawnder iddynt, ac a ymladdwn a thi ar for ac ar dir.

PENNOD 9

1 A PHAN glybu Demetrius ladd Nicanor a'i lu mewn rhyfel, efe a aeth rhagddo, ac a ddanfonodd Bac-chides ac Alcimus drachefn i Jwdea, a chadernid ei lu gyda hwynt.

2 A hwy a aethant allan ar hyd y ffordd sydd yn myned tua Galgala, ac a wersyllasant o flaen Masaloth, yr hon sy yn Arbela, ac a'i henillasant hi, ac a laddasant lawer o bobl.

3 Y mis cyntaf hefyd o'r ddeuddeg-fed flwyddyn a deugain a chant, hwy a wersyllasant o flaen Jerwsalem.

4 Ond gan gyfodi'r gwersyll i fyny,' hwy a aethant i Berea, ag ugain mil o wyr traed, a dwy fil o wyr meirch.

5 Jwdas yntau a wersyllasai yn Eleasa, a thair mil o wyr detholedig gydag ef.

6 A phan welsant hwy luosowgrwydd y llu arall, ei fod ef cymaint, hwy a ofnasant yn ddirfawr; a llawer a dyn-asant allan o'r gwersyll, ac nid arhodd yno ond wyth gant o wyr.

7 Pan welodd Jwdas fod ei lu ef wedi cilio, a'r rhyfel yn pwyso arno. efe a fawr drallodwyd yn ei galon o eisiau caffael amser i'w casglu hwy ynghyd. ac a ddigalonnodd.

8 Eto efe a ddywedodd wrth y rhai a drigasent gydag ef, Cyfodwn, ac awn yn erbyn ein gelynion; nid hwyrach y gallwn ymladd a hwynt.

9 Ond hwy a fynasent ei droi ef, gan ddywedyd, Ni allwn ni ddim: am hynny achubwn ein heinioes yn awr; ac yn ôl hyn ni a ddychwelwn ynghyd a'n brodyr, ac a ymladdwn yn eu herbyn hwy: canys nid ydym ni ond ychydig.

10 Yna Jwdas a ddywedodd, Na adawo Duw i mi wneuthur hyn, a ffoi oddi wrthynt hwy; am hynny os ein hamser ni a ddaeth, gedwch i ni farw fel gwyr dros ein brodyr, ac na adawn fai yn y byd ar ein gogoniant.

11 A llu Bacchides a aeth allan o'r gwersyll, ac a safodd yn eu herbyn hwy; a'r gwyr meirch a gyfranned yn ddwy ran: y taflyddion a'r saethyddion a gerddasant o flaen y llu; a'r rhai oll oedd yn blaenori y llu oeddynt wyr cryfion.

12 A Bacchides ei hun oedd yn yr adain ddeau: a'r fyddin a nesaodd ar y ddeutu, a hwy a ganasant yr ut-gyrn.

13 Gwyr Jwdas a ganasant yr utgyrn hefyd, a'r ddaear a ysgydwodd wrth dwrf y lluoedd: a hwy a drawsant ynghyd o'r bore hyd y nos.

14 A phan welodd Jwdas fod Bacchides a chryfder ei lu ar y tu deau, efe a gymerodd yr holl wyr calonnog gydag ef,

15 Ac a ddrylliodd adain ddeau eu byddin hwy, ac a'i herlidiodd hyd ym mynydd Asotus.

16 Pan welodd y rhai oedd yn yr adain aswy fod y rhai o'r adain ddeau wedi eu dryllio, hwy a ganlynasant ar Jwdas a'i wyr, wrth eu sodlau, o'r tuol.

17 Ac yna yr aeth y rhyfel yn frwd, a llawer a laddwyd ac a archollwyd o'r ddwy blaid.

18 Jwdas hefyd a laddwyd, a'r lleill a ffoesant.

19 A Jonathan a Simon a gymerasant Jwdas eu brawd, ac a'i claddasant ef ym medd ei dadau ym Modin.

20 A hwy a wylasant; a holl bobl Israel a wnaethant farwnad fawr am-dano ef, ac a alarasant dros ddyddiau lawer, gan ddywedyd,

21 Pa fodd y cwympodd y gwr galluog oedd yn achub Israel!

22 Ond ni sgrifennwyd y pethau eraill oedd yn perthyn i Jwdas, a'i ryfeloedd, a'i weithredoedd ardderchog, a'i fawredd ef; canys llawer iawn oeddynt hwy.

23 Wedi marw Jwdas, dynion drygionus a ddyrchafasant eu pennau o fewn holl derfynau Israel, a phawb a'r oeddynt yn gwneuthur anwiredd a gyfod-asant.

24 Yr oedd newyn mawr iawn yn y dyddiau hynny, a'r holl wlad a ym-adawodd ar eu hoi hwynt,

25 A Bacchides a ddewisodd wyr an-nuwiol, ac a'u gwnaeth hwy yn arglwyddi ar y wlad.

26 Y rhai hynny a geisiasant ac a chwiliasant am garedigion Jwdas, ac a'u dygasant hwy at Bacchides, ac efe a ddialodd arnynt, ac a'u gwatwarodd hwy yn ddirfawr.

27 A chystudd mawr a ddigwyddodd yn Israel; ni bu y fath er pan ni welwyd proffwyd yn eu plith hwy.

28 A holl garedigion Jwdas a ym-gasglasant, ac a ddywedasant wrth Jonathan,

29 Er pen fu farw dy frawd Jwdas, nid oes gennym neb tebyg iddo ef i fyned allan yn erbyn ein gelynion, a Bacchides, ac yn erbyn y rhai o'n cenedl sydd elynion i ni.

30 Am hynny nyni a'th ddewisasom di heddiw yn ei le ef, i fod yn dywysog ac yn gapten i ni, i ymladd ein rhyfeloedd.

31 A Jonathan a gymerodd y dywysogaeth arno yr amser hwnnw, ac a gododd i fyny yn lie Jwdas ei frawd.

32 Pan wybu Bacchides hynny, efe a geisiodd ei ladd ef.

33 Ond Jonathan a Simon ei frawd, a phawb a'r oedd gyda hwy, a wybuant hyn, ac a ffoesant i anialwch Thecoe, ac a wersyllasant wrth ddwfr llyn Asffar.

34 Pan ddeallodd Bacchides hynny, efe a ddaeth a'i holl lu yn agos i'r lorddonen ar y dydd Saboth.

35 A Jonathan a ddanfonasai ei frawd loan capten y bobl, i ddymuno ar ei garedigion y Nabathiaid, gaffael ohonynt hwy adael eu hoffer gyda hwy i'w cadw, oblegid yr oedd llawer gan-ddynt.

36 Ond plant Jambri a ddaethant allan 0 Medaba, ac a ddaliasant loan, a'r holl bethau oedd ganddo ef, ac a aethant ymaitli a hwynt ganddynt.

37 Yn ôl y pethau hyn y daeth gair i Jonathan ac i Simon ei frawd, fod plant Jambri yn gwneuthur neithior fawr, ac yn dwyn y ferch o Medaba a chynhebrwng mawr, oblegid merch oedd hi i un o benaethiaid mawrion Canaan.

38 Yna hwy a gofiasant loan eu brawd, ac a aethant i fyny, ac a ymguddiasant yng nghysgod y mynydd.

39 A hwy a godasant eu golwg i fyny, ac a edrychasant, ac wele, yr oedd trwst ac arlwy mawr: a'r priodasfab a ddaethai allan a'i garedigion, ac a'i frodyr, i'w cyfarfod hwy, a thympanau, ag offer cerdd, ac ag arfau lawer.

40 Yna Jonathan a'r rhai oedd gyd-ag ef a godasant i fyny allan o'u lloch-esau yn eu herbyn hwy, ac a laddasant lawer ohonynt, a'r lleill a ffoesant i'r mynydd: a hwy a gymerasant eu holl ysbail hwy.

41 Felly y briodas a droed yn alar, a llais eu cerddorion hwy yn farwnad.

42 Ac felly wedi iddynt Iwyr ddial gwaed eu brawd, hwy a ddychwel-asant i oror yr lorddonen.

43 Pan glybu Bacchides hynny, efe a ddaeth i Ian yr lorddonen a llu mawr, ar y dydd Saboth.

44 A Jonathan a ddywedodd wrth y rhai oedd gydag ef, Cyfodwn heddiw i fyny, ac ymladdwn am ein heneidiau: canys nid ydym heddiw yn sefyll yn yr un cyflwr ag yr oeddem er ys dyddiau:

45 Wele, y mae'r rhyfel o'n blaen ac o'n hoi ni, a dwfr yr lorddonen o'r naill du, ac o'r tu arall siglennydd a choedydd; ac nid oes i ni le i gilio.

46 Am hynny gwaeddwch yr awr hon tua'r nef, fel yr achuber chwi o law eich gelynion.

47 Ac felly hwy a drawsant ynghyd: a Jonathan a estynnodd allan ei law i daro Bacchides; ond efe a giliodd yn ôl oddi wrtho ef.

48 Yna Jonathan a'r rhai oedd gydag ef a neidiasant i'r lorddonen, ac a nofiasant drosodd i'r Ian draw: ond nid ai y lleill dros yr lorddonen ar eu hoi hwy.

49 Ac ynghylch mil o wyr Bacchides a laddwyd y diwrnod hwnnw.

50 Am hynny Bacchides a ddychwelodd i Jerwsalem, ac a adeiladodd y dinasoedd cedyrn oedd yn Jwdea, a'r amddiffynfa yn Jericho, ac Emaus, a Bethoron, a Bethel, a Thamnatha, a Pharathoni, a Thaffon, a chaerau uchel, a phyrth, ac a barrau;

51 Ac a osododd wyr ynddynt i'w cadw, ac i wneuthur gelyniaeth ag Israel.

52 Efe a adeiladodd gaerau ynghylch y ddinas Bethsura, a Gasara, a'r castell, ac a osododd wyr a bwyd ynddynt.

53 Efe a gymerodd hefyd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, ac a'u rhoddodd hwy yn y castell yn Jerwsalem i'w cadw.

54 Wedi hynny, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg a deugain a chant, yr ail mis, Alcimus a orchmynnodd iddynt dynnu i lawr gaerau cyntedd y cysegr nesaf i mewn: ac efe a dyn-nodd i lawr waith y proffwydi.

55 Ond, ac efe yn dechrau tynnu lawr, yr amser hwnnw y trawyd Alcimus, a'i orchwyl ef a rwystred: a'i enau ef a gaewyd, ac efe a syrthiodd yn y parlys; fel na allai efe ymddi-ddan mwy, na gorchymyn dim ynghylch ei d$.

56 Alcimus a fu farw yr amser hwnnw mewn gofid mawr.

57 Pan welodd Bacchides farw Alcimus, efe a ddychwelodd at y brenin: a gwlad Jwdea a gafodd lonyddwch ddwy flynedd.

58 Yna'r holl wyr annuwiol a ym-gyngorasant, gan ddywedyd, Wele, y mae Jonathan a'i wyr mewn esmwyth-dra, ac yn trigo mewn diofalwch: am hynny dygwn Bacchides yma yn awr, ac efe a'u deil hwy oll mewn un noswaith.

59 Ac felly hwy a aethant, ac a ym-gyngorasant ag ef.

60 Ac efe a gododd i ddyfod a llu mawr, ac a ddanfonodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gyfeillion oedd yn Jwdea, ar iddynt ddal Jonathan a'r rhai oedd gydag ef: ond ni allent hwy, oblegid y lleill a wybuant eu bwriad hwy.


61 A Jonathan a ddaliodd ddeg a deugain o wyr y wlad, y rhai oedd flaenoriaid yn y drwg hwnnw, ac a'u lladdodd hwy.

62 Yna Jonathan, a Simon, a'r rhai oedd gyda hwy, a aethant ymaith i Bethbasi, yr hon sydd yn yr anialwch; a hwy a adnewyddasant yr hyn a syrth-iasai ohoni, ac a'i cadarnhasant hi.

63 Pan wybu Bacchides hyn, efe a gasglodd ei holl lu, ac a ddanfonodd air i'r rhai oedd yn Jwdea.

64 Yna efe a ddaeth ac a wersyllodd yn erbyn Bethbasi, ac a ymladdodd yn ei herbyn hi lawer o ddyddiau, ac a wnaeth offer rhyfel.

65 A Jonathan a adawodd ei frawd Simon yn y ddinas, ac a aeth allan i'r wlad, ac a aeth a rhifedi o wyr,

66 Ac a laddodd Odonarces a'i frodyr, / a meibion Phasiron yn eu lluest.

67 A phan ddechreuodd efe eu taro hwynt, a dyfod i fyny a'i fyddinoedd, Simon yntau a'r rhai oedd gydag ef a aethant allan o'r ddinas, ac a losgasant yr offer rhyfel,

68 Ac a ymladdasant yn erbyn Bacchides, ac a'i gorchfygasant, ac a'i cystuddiasant yn ddirfawr, am fod ei gyngor a'i daith ef yn ofer.

69 Am hynny efe a fu lidiog wrth y gwyr annuwiol a'i cyngorasent ef i ddyfod i'r wlad, ac a laddodd lawer ohonynt: yna efe a fwriadodd fyned ymaith i'w wlad ei hun.

70 Pan wybu Jonathan hynny, efe a ddanfonodd genhadon ato, i wneuthur heddwch rhyngddo ac ef, ac i roddi iddynt hwy y carcharorion.

71 A Bacchides a gytunodd i hynny, ac a wnaeth fel yr oedd ei ddymuniad ef, ac a dyngodd hefyd na wnai efe niwed fyth iddo ef holl ddyddiau ei einioes;

72 Ac a adferodd iddo yr holl garcharorion a ddaliasai efe o'r blaen o wlad Jwdea; ac yna efe a ddychwelodd ac a aeth ymaith i'w wlad ei hun; ac ni ddaeth efe mwy i'w terfynau hwynt.

73 Ac felly y peidiodd y cleddyf yn Israel. A Jonathan a drigodd ym Machmas, ac a ddechreuodd farnu'r bobl: ac efe a ddiwreiddiodd y rhai annuwiol allan o Israel.

PENNOD 10 "

1 VT'N yr wythugeinfed flwyddyn, Alex- ander mab Antiochus a gyfenwid Epiffanes, a aeth i fyny ac a enillodd Ptolemais; a'r dinasyddion a'i derbyniasent ef, ac efe a deyrnasodd yno.

2 Pan glybu Demetrius hynny, efe a gasglodd lu mawr anfeidrol, ac a aeth allan yn ei erbyn ef i ryfela.

3 A Demetrius a ddanfonodd lythyrau at Jonathan a geiriau heddychol, gan ei fawrygu ef.

4 Canys efe a ddywedodd, Nyni a wnawn dangnefedd ag ef yn gyntaf, cyn heddychu ohono ag Alexander yn ein herbyn ni:

5 Os amgen, efe a gofia'r holl ddrwg a wnaethom ni yn ei erbyn ef, ac yn erbyn ei frodyr a'i bobl.

6 Ac efe a roddes awdurdod i Jonathan i gasglu llu o wyr, ac i ddarparu arfau, fel y cynorthwyai efe ef mewn rhyfel: ac efe a orchmynnodd roddi'r gwystlon oedd yn y castell iddo ef.

7 Yna Jonathan a ddaeth i Jerwsalem, ac a ddarllenodd y llythyrau, lle'r oedd yr holl bobl, a'r rhai oedd yn y castell, yn clywed.

8 A hwy a ofnasant yn ddirfawr pan glywsant roddi o'r brenin awdurdod iddo ef i gasglu llu.

9 A'r rhai oedd yn y castell a roesant y gwystlon i Jonathan: ac efe a'u had-ferodd hwy i'w rhieni.

10 Jonathan hefyd a drigodd yn Jerwsalem, ac a ddechreuodd adeiladu ac adnewyddu'r ddinas.

11 Ac efe a orchmynnodd i'r gweithwyr adeiladu y caerau, a mynydd Seion o'i amgylch, a cherrig pedwarochrog i fod yn lie cadarn: ac felly y gwnaeth-ant hwy.

12 Yna y Cenhedloedd, y rhai oedd yn y cestyll a wnaethai Bacchides, a ffoesant.

13 A phob un a adawodd ei le, ac a aeth ymaith i'w wlad ei hun.

14 Yn unig yn Bethsura yr arhosodd rhai o'r rhai a wrthodasent y gyfraith a'r gorchmynion: oblegid honno oedd eu noddfa hwy.

15 Pan glywodd Alexander y brenin yr addewidion a wnaethai Demetrius i Jonathan, a phan fynegasant hwy iddo ef y rhyfeloedd a'r gwroldeb a wnaethai efe a'i frodyr, a'r boen a gymerasent hwy;

16 Efe a ddywedodd, A gawn ni y fath wr a hwn? gan hynny nyni a'i gwnawn ef yn gyfaill ac yn gydymaith i ni.

17 Ac am hyn efe a sgrifennodd ac a ddanfonodd lythyr ato ef o'r geiriau hyn, gan ddywedyd,

18 Y mae'r brenin Alexander yn cyfarch ei frawd Jonathan.

19 Ni a glywsom amdanat ti, dy fod yn wr galluog nerthol, ac yn gymwys i fod yn un o'n caredigion ni; t

20 Am hynny ni a'th osodasom di heddiw yn archoffeiriad ar dy bobl, ac i'th alw yn gyfaill i'r brenin; (ac efe a ddanfonodd wisg o borffor a choron o aur iddo ef;) ac i gymryd ein plaid ni, ac i gadw caredigrwydd a nyni.

21 A Jonathan a wisgodd y wisg sanctaidd amdano, y seithfed mis o'r wythugeinfed flwyddyn, ar wyl y pebyll: ac efe a gasglodd lu, ac a baratodd lawer o arfau.

22 Pan glywodd Demetrius y geiriau hyn, efe a dristaodd yn ddirfawr, ac a ddywedodd,

23 Paham y gwnaethom ni hyn, pan ragflaenai Alexander nyni, yn gwneuthur cyfeillach a'r Iddewon, i'w gryfhau ei hun?

24 Minnau a sgrifennaf atynt eiriau comfforddus, ac a addawaf godiad a rhoddion iddynt, fel y byddont yn gymhorthwyr i mi.

25 Ac efe a sgrifennodd y geiriau hyn atynt hwy; Y brenin Demetrius at bobl yr Iddewon, yn anfon annerch:

26 Yn gymaint a chadw ohonoch amodau a nyni, a glynu yn ein cyfeillach ni, heb fyned at ein gelynion, hyn a glywsom, ac ni a lawenychasom.

27 Am hynny parhewch, a byddwch ffyddlon i ni, ac ni a dalwn i chwi yn dda am y pethau yr ydych yn eu gwneuthur yn ein plaid ni.

28 Ni a faddeuwn i chwi lawer o bethau dyledus, ac a roddwn i chwi roddion.

29 Ac yn awr yr ydwyf fi yn eich rhyddhau chwi, a'r holl Iddewon er eich mwyn chwi yr ydwyf yn eu rhyddhau oddi wrth deyrnged, ac oddi wrth daledigaethau yr halen, ac oddi wrth dreth y goron;

30 Ac oddi wrth yr hyn sydd i mi i'w gael am drydedd ran yr had, a banner ffrwyth y coed; yr ydwyf fi yn eu maddau hwy o'r dydd heddiw allan, fel nas cymerer hwy o wlad Jwdea, nac o'r tair talaith a chwanegwyd ati, allan o Samaria a Galilea, o'r dydd heddiw allan yn dragywydd.

31 Bydded Jerwsalem yn sanctaidd, ac yn rhydd, a'i holl derfynau, oddi wrth ddegymau ac ardrethion.

32 Ac am y castell sydd yn Jerwsalem, yr ydwyf fi yn rhoddi i fyny fy meddiant arno, ac yn ei roddi ef i'r archoffeiriad, fel y gallo efe osod ynddo y cyfryw wyr ag a ddewiso efe i'w gadw ef.

33 Ac yr ydwyf fi yn rhad yn gollwng yn rhydd bob perchen enaid o ddyn o'r Iddewon a gaethgluded o wlad Jwdea i fan yn y byd o'm teyrnas i: a maddeued pawb o'm swyddogion eu teyrnged hwy, sef o'u hanifeiliaid hwy.

34 A'r holl wyliau, a'r Sabothau, a'r lloerau newydd, y dyddiau arferedig, y tridiau ymlaen ac yn ôl yr wyl, a gant fod yn ddyddiau o ryddid a maddeuant i'r holl Iddewon yn fy nheyrnas.

35 Ac ni chaiff neb awdurdod i ymyrryd arnynt, nac i flino neb ohonynt am ddim.

36 Ysgrifenner i lawr hefyd o'r Iddewon, i fod o lu y brenin, ynghylch dengmil ar hugain o wyr, a rhodder iddynt roddion, fel y mae'n perthyn i bawb o lu y brenin.

37 Gosoder hefyd ohonynt hwy rai yng nghestyll mawrion y brenin, a rhai o'r rhain a osodir ar negesau y brenin, y rhai ydynt o ymddiried: bydded hefyd y rhai fyddant arnynt hwy, ac yn dywysogion, ohonynt hwy eu hun-ain, a rhodiant yn eu cyfraith eu hun, megis y gorchmynnodd y brenin yn nhir Jwdea.

38 Chwaneger hefyd at Jwdea y tair talaith a roddwyd o wlad Samaria at Jwdea, i'w cyfrif yn un, fel nad ufuddhaont i awdurdod neb arall ond yr archoffeiriad.

39 Ptolemais a'i chyffiniau yr ydwyf fi yn ei rhoddi yn rhodd i'r cysegr sydd yn Jerwsalem, at gymesur draul y cysegr.

40 Ac yr wyf fi yn rhoddi bob blwydd- yn bymtheng mil o siclau arian allan o gyfrif y brenin o'r.lleoedd a berthyn.

41 A'r hyn sydd yng ngweddill heb i'r swyddwyr ei dalu i mewn, megis yn y blynyddoedd o'r blaen, o hyn allan rhoddant at waith y deml.

42 Ac heblaw hyn y pum mil sicl o arian, y rhai a gymerasant hwy allan o raid y cysegr o'r cyfrif bob blwyddyn, yr ydys yn maddau y rhai hynny, am eu bod yn perthynu i'r offeiriaid sydd yn gwasanaethu.

43 A phwy bynnag a ffoant i'r deml sydd yn Jerwsalem, neu i'w holl gyffin-iau, a'r y mae y brenin yn dylu iddynt ardreth neu ddim arall, gadawer hwynt yn rhyddion, a'r hyn oll sy ganddynt yn fy nheyrnas.

44 Ac fel yr adeilader ac y cyweirier gwaith y cysegr, fe a roddir traul hefyd o gyfrif y brenin.

45 Felly y rhoddir traul o gyfrif y brenin i adeiladu caerau Jerwsalem, ac i'w chadarnhau o amgylch, ac i adeiladu y caerau yn Jwdea.

46 Ond pan glybu Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni roddasant goel iddynt, ac nis derbyniasant hwynt: canys hwy a gofiasant y mawr ddrygioni a wnaethai efe yn Israel, ac mor ddirfawr y cystuddiasai efe hwynt.

47 Am hynny hwy a fuant fodlon i Alexander, oblegid efe a fuasai yn gyntaf yn crybwyll wrthynt am wir heddwch; a hwy a ryfelasant gydag ef eu holl ddyddiau.

48 A'r brenin Alexander a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn erbyn Demetrius.

49 Felly y ddau frenin a drawsant ynghyd mewn rhyfel, a llu Demetrius a ffodd: ac Alexander a'i herlidiodd ef, ac a'u gorchfygodd hwynt.

50 Eithr y rhyfel a barhaodd yn frwd hyd fachlud haul; a lladdwyd Demetrius y dydd hwnnw.

51 Ac Alexander a anfonodd genhadau at Ptolemeus brenin yr Aifft, gan ddywedyd yn ôl y geiriau hyn:

52 Gan ddychwelyd ohonof i dir fy mrenhiniaeth, ac eistedd ar orseddfainc fy nhadau, a chael y dywysogaeth, a difetha Demetrius, ac ennill ein gwlad ni;

53 Canys wedi cydio ohonof fi ag ef mewn cad, difethwyd ef a'i lu gennym ni, ac yr ydwyf yn eistedd ar orseddfainc ei deyrnas ef;

54 Yn awr gan hynny gwnawn gyf-eillach rhyngom; ac yr awron dod i mi dy ferch yn wraig, ac mi a fyddaf ddaw i ti, ac a roddaf i ti ac iddi hithau roddion addas i ti.

55 A'r brenin Ptolemeus a atebodd, gan ddywedyd, Da yw'r dydd y dychwelaist i dir dy hynafiaid, ac yr eistedd-aist ar orseddfainc eu brenhiniaeth hwynt.

56 Ac yr awron mi a wnaf i ti yr hyn a sgrifennaist: eithr tyred i gyfarfod i Ptolemais, fel y gwelom ein gilydd; ac mi a fyddaf chwegrwn i ti, fel y dywedaist.

57 Felly yr aeth Ptolemeus allan o'r Aifft, efe a Chleopatra ei ferch, a hwy a ddaethant i Ptolemais yn yr ail flwyddyn a thrigain a chant.

58 A'r brenin Alexander a'i cyf-arfu ef; yntau a roddes ei ferch Cleopatra iddo ef, ac a wnaeth ei neithior hi yn Ptolemais, mewn gogoniant mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.

59 A'r brenin Alexander a sgrifen-asai at Jonathan i ddyfod i gyfarfod ag ef.

60 Ac efe a aeth i Ptolemais yn ogon-eddus, ac a gyfarfu a'r ddau frenin, ac a roddes arian ac aur iddynt hwy ac i'w caredigion, a rhoddion lawer, ac a gafodd ffafr yn eu golwg hwynt.

61 A gwyr ysgeler o Israel, sef gwyr annuwiol, a ymgasglasant yn ei erbyn ef, i achwyn arno ef: ond ni wrandawodd y brenin arnynt.

62 A'r brenin hefyd a archodd ddiosg Jonathan o'i ddillad, a'i wisgo a phorffor: a hwy a wnaethant felly.

63 A'r brenin a wnaeth iddo eistedd gydag ef, ac a ddywedodd wrth ei dy wysogion, Ewch allan gydag ef i ganoe y ddinas, a chyhoeddwch na achwyno neb yn ei erbyn ef am ddim mater, ac na flino neb ef am un achos.

64 A phan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei ogoniant ef, y modd y cyhoeddasid, ac yntau wedi ei wisgo a phorffor, hwy a ffoesant oll.

65 A'r brenin a'i hanrhydeddodd ef, ac a'i sgrifennodd ymysg ei gyfeillion pennaf, ac a'i gwnaeth yn dywysog, ac yn gyfrannog o'i lywodraeth ef.

66 A Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem yn heddychlon ac yn llawen.

67 Ac yn y bumed flwyddyn a thrigain a chant y daeth Demetrius, mab Demetrius, o Greta i dir ei hynafiaid.

68 A'r brenin Alexander a glybu, ac a dristaodd yn ddirfawr; ac efe a ddychwelodd i Antiochia.

69 A Demetrius a osododd Apolonius, yr hwn oedd ar Celo-Syria, yn ben-capten; ac efe a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn Jamnia, ac a anfonodd at Jonathan yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

70 Tydi yn unig yn anad neb ydwyt yn ymddyrchafu i'n herbyn; minnau a euthum yn watworgerdd ac yn waradwydd o'th achos di: a phaham yr wyt ti yn cymryd awdurdod i'n herbyn ni yn y mynyddoedd?

71 Am hynny yn awr os ydwyt yn ymddiried yn dy gryfder dy him, tyred i waered atom i'r maes, ac yno ymgystadlwn a'n gilydd: canys y mae gennyf fi lu y dinasoedd.

72 Gofyn, a dysg pwy ydwyf fi a'r lleill sydd yn ein helpu ni; hwy a fyn-egant i ti nad oes fodd i'th droed di sefyll yn ein hwyneb ni: oblegid dy hynafiaid a yrrwyd i ffoi ddwywaith yn eu gwlad eu hun.

73 Ac yr awr hon gan hynny ni elli di arcs y fath feirch a llu yn y maes, lie nid oes na charreg, na maen, na lie i ffoi.

74 A phan glybu Jonathan eiriau Apolonius, efe a gyffrodd yn ei feddwl, ac a etholodd ddengmil o wyr, ac a aeth allan o Jerwsalem; a'i frawd Simon a gyfarfu ag ef yn help iddo.

75 Ac efe a wersyllodd yn erbyn Jope; eithr hwy a'i cadwasant ef allan o'r ddinas, am fod gwarcheidwaid Apolonius yn Jope.

76 A hwy a ryfelasant yn ei herbyn hi; a'r rhai oedd o'r ddinas a ofnasant, ac a agorasant: a Jonathan a enillodd Jope.

77 A phan glybu Apolonius hyn, efe a gymerodd dair mil o wyr meirch, a llu mawr o wyr traed, ac a aeth i Asotus, megis un ar ei daith: ac efe a ddaeth a'i lu i'r maes, am fod ganddo lawer o wyr meirch, yn y rhai yr oedd efe'n ymddiried.

78 Yna Jonathan a ddilynodd ar ei ôl ef i Asotus, lie y cydiodd y ddau lu mewn rhyfel o'i ôl ef.

79 Ac Apolonius a adawsai fil o wyr meirch mewn cynllwyn o'u hoi hwynt.

80 A Jonathan a wybu fod cynllwyn o'i ôl ef; a hwy a amgylchasent ei lu ef, ac a daflasent bicellau yn erbyn y bobl, 0 fore hyd hwyr.

81 A'r bobl a safodd fel yr archodd Jonathan; a'u meirch hwythau a flinas-ant.

82 Simon hefyd a ddug allan ei lu yntau, ac a gydiodd a'r fyddin, canys y meirch a flinasent; a hwy a orchfygwyd ganddo, ac a ffoesant.

83 A'r gwyr meirch a wasgarwyd ar hyd y maes, ac a ffoesant i Asotus, ac a ddaethant i Bethdagon, i deml eu heilun, i fod yn gadwedig.

84 A Jonathan a losgodd Asotus, a'r dinasoedd o'i hamgylch hi, ac a gymerodd eu hysbail hwynt: teml Dagon hefyd, a'r rhai a ffoesent iddi, a losgodd efe a than.

85 A'r rhai a laddwyd a'r cleddyf, ynghyd a'r rhai a losgwyd a than, oedd hyd yn wyth mil o wyr.

86 A Jonathan a aeth oddi yno, ac a wersyllodd wrth Ascalon; a'r rhai oedd /o'r ddinas a ddaethant allan i'w gyfar{ fod ef a gogoniant mawr.

87 A Jonathan a ddychwelodd i Je- rwsalem, a'r rhai oedd gydag ef, a chan-ddynt ysbail fawr.

88 A phan glybu y brenin Alexander y pethau hyn, efe a roddes fwy o an-rhydedd i Jonathan.

89 Ac efe a anfonodd iddo fwcl aur, fel y mae yr arfer roddi i geraint y brenin; ac a roddes iddo Accaron a'i holl gyffiniau mewn meddiant.

PENNOD II

1 A BRENIN yr Aifft a gasglodd lu mawr, fel y tywod sydd ar Ian y mor, a llongau lawer, ac a geisiodd gael teyrnas Alexander trwy dwyll, a'i gosod at yr eiddo ei hun.

2 Ac efe a aeth allan i Syria mewn modd heddychol, a'r rhai oedd yn y dinasoedd a agorasant iddo, ac a aethant i'w gyfarfod ef; am fod gorchymyn y brenin Alexander ar gyfarfod ag ef, am ei fod ef yn chwegrwn iddo.

3 Ac yn awr, fel yr aeth Ptolemeus i mewn i'r dinasoedd, efe a osododd lu i warchod ym mhob dinas.

4 A phan ddaeth efe yn agos i Asotus, hwy a ddangosasant iddo deml Dagon, yr hon a losgasid, ac Asotus a'i phentrefydd wedi eu difetha, a'r cyrff a daflasid allan, a'r rhai llosgedig a losg-asai Jonathan yn y rhyfel; oblegid hwy a wnaethant bentyrrau ohonynt ar ei ffordd ef.

5 Felly y mynegasant i'r brenin yr hyn a wnaethai Jonathan, i'w oganu ef: a thewi a wnaeth y brenin.

6 A Jonathan a ddaeth i gyfarfod a'r brenin i Jope yn ogoneddus, a hwy a gyfarchasant well i'w gilydd, ac a gysgas-ant yno.

7 A Jonathan a aeth gyda'r brenin hyd at yr afon a elwir Eleutherus, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

8 A'r brenin Ptolemeus a gafodd feddiant ar ddinasoedd y mordir, hyd Seleucia ar Ian y mor, ac a ddych-mygodd gynghorion drwg yn erbyn Alexander.

9 Ac efe a anfonodd genhadau at y brenin Demetrius, gan ddywedyd, Ty red, gwnawn gyfamod rhyngom: ac mi a roddaf i ti fy merch sy gan Alexander, a thi a gei deyrnasu yn nheyrnas dy dad;

10 Oblegid y mae'n edifar gennyf roddi ohonof fy merch iddo ef: canys efe a geisiodd fy lladd i.

11 Felly efe a'i goganodd ef, am ei fod ef yn chwenychu ei frenhiniaeth ef.

12 Ac efe a ddug ei ferch oddi arno ef, ac a'i rhoddes i Demetrius; ac efe a ymddieithrodd oddi with Alexander: felly yr ymddangosodd eu cas hwynt.

13 Yna yr aeth Ptolemeus i Antiochia, ac a osododd ddwy goron ar ei ben; coron Asia, a choron yr Aifft.

14 A'r brenhin Alexander oedd yn Cilicia yn yr amser hwnnw: oblegid y rhai oedd o'r lie hwnnw a wrthryfelas-ent.

15 A phan glybu Alexander, efe a ddaeth yn ei erbyn ef i ryfel: a'r bren-in Ptolemeus a arweiniodd ei lu allan, ac a gyfarfu ag ef a llaw gref, ac a'i gyrrodd i ffoi.

16 Yna y ffodd Alexander i Arabia i gael swcr yno: a'r brenin Ptolemeus a ddyrchafwyd.

17 A Sabdiel yr Arabiad a gymerodd ymaith ben Alexander, ac a'i han-fonodd i Ptolemeus.

18 A'r brenin Ptolemeus a fu farw y trydydd dydd ar ôl hynny: a'r rhai oedd yn ei gestyll ef a ddifethwyd gan y rhai oedd o fewn y cestyll.

19 A theyrnasodd Demetrius y seith-fed flwyddyn a thrigain a chant.

20 Yn y dyddiau hynny casglodd Jonathan y rhai oedd o Jwdea, i ennill y twr yn Jenvsalem: ac efe a wnaeth yn ei erbyn lawer o offer rhyfel.

21 Yna yr aeth rhai gwyr annuwiol, y rhai oedd yn casau eu cenedl eu hun, at y brenin, ac a fynegasant iddo fod Jonathan yn gwarchae ar y twr.

22 Pan glybu yntau, efe a ddigiodd; a chyn gynted ag y clybu, efe a gym-erodd ei daith yn ebrwydd, ac a ddaeth i Ptolemais, ac a sgrifennodd at Jonathan na warchaeai efe mwy, ac ar ddyfod ohono yn fuan i'w gyfarfod ef, i ym-ddiddan ynghyd yn Ptolemais.

23 Ond pan glybu Jonathan, efe a archodd warchae, ac a ddewisodd rai o henuriaid Israel, ac o'r offeiriaid, ac a ymroddes i'r perygl.

24 Ac efe a gymerodd aur, ac arian, a gwisgoedd, a llawer o anrhegion eraill, ac a aeth at y brenin i Ptolemais, ac a gafodd ffafr yn ei olwg ef.

25 A rhai annuwiol o'r genedl a achwynasant rhagddo ef.

26 Eithr y brenin a wnaeth iddo ef fel y gwnaethai y rhai a fuasai o'i flaen ef, ac efe a'i dyrchafodd ef o flaen ei holl garedigion.

27 Ac efe a sicrhaodd iddo ef yr archoffeiriadaeth, a pha anrhydedd byn-nag oedd ganddo ef o'r blaen, ac a wnaeth ei gyfrif ef yn un o'i garedigion pennaf.

28 Yna y dymunodd Jonathan ar y brenin wneuthur Jwdea yn ddi-dreth, a'r tair talaith ynghyd a Samaria: ac efe a addawodd iddo dri chant o dalentau.

29 A'r brenin oedd fodlon, ac a sgrifennodd lythyrau at Jonathan am hyn oll, fel hyn:

30 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i'w frawd Jonathan, a chenedl yr Iddewon:

31 Copi o'r llythyr a sgrifenasom ni at ein car Lasthenes yn eich cylch chwi, a sgrifenasom atoch chwi hefydj fel y gallech ei weled.

32 Y brenin Demetrius at ei dad Lasthenes, yn anfon annerch:

33 Y mae yn ein bryd ni wneuthur daioni i genedl yr Iddewon ein cared-igion, y rhai sydd yn cadw cyfamodau a nyni, am eu hewyllys da i ni.

34 Yr ydym ni wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, a'r tair talaith, Affer^ ema, Lyda, a Ramathem, y rhai a chwan-egwyd o Samaria at Jwdea, a'r hyn oll sydd yn perthyn iddynt, i'r rhai oll sydd yn aberthu yn Jerwsalem, yn lle'r ardreth yr oedd y brenin yn ei gael o'i blaen o gnwd y ddaear a ffrwyth y coed bob blwyddyn ganddynt hwy.

35 A phethau eraill yn perthyn i ni o ddegymau a theyrnged dyledus i ni, a'r pyllau halen, a threth y goron, y rhai sydd yn perthyn i ni, nyni a'u caniatawn iddynt hwy i gyd.

36 A dim o hyn ni ddiddymir o hyn allan byth.

37 Am hynny cymerwch ofal am wneuthur copi o'r pethau hyn, a rhodd-er ef at Jonathan, a gosoder ef yn y mynydd sanctaidd, mewn lie cyfleus hynod.

38 Yna pan welodd Demetrius fod yr holl dir o'i flaen ef yn llonydd, ac nad oedd dim yn ei wrthwynebu ef, efe a ollyngodd ei holl lu bob un i'w fangre, ond y dieithr luoedd y rhai a gasglasai efe o ynysoedd y cenhedloedd: am hynny holl luoedd ei dadau a aethant yn elynion iddo ef.

39 Yr oedd un Tryffon hefyd, yr hwn a fuasai ar du Alexander o'r blaen, pan welodd efe fod yr holl luoedd yn grwg-nach yn erbyn Demetrius, efe a aeth at Simalcue yr Arabiad, yr hwn a fagasai Antiochus, mab ieuanc Alexander;

40 Ac efe a fu daer arno ef, ar iddo roddi Antiochus ieuanc ato ef, fel y teyrnasai yn lie ei dad: ac efe a ddan-gosodd iddo pa bethau a wnaethai Demetrius, a'r cas oedd gan ei lu iddo ef. Ac efe a arhosodd yno ddyddiau lawer.

41 A Jonathan a anfonodd lythyrau at y brenin Demetrius, am fwrw allan o Jerwsalem y rhai oedd yn y castell, a'r rhai oedd yn yr amddiffynfeydd: oblegid yr oeddynt hwy yn rhyfela yn erbyn Israel.

42 A Demetrius a anfonodd at Jonathan, gan ddywedyd, Nid hyn yn unig a wnaf fi erot ti a'th genedl, eithr mi a'th anrhydeddaf di a'th genedl ag anrhydedd, os caf fi gyfle.

43 Yn awr gan hynny ti a wnei yn dda, os anfoni di wyr i ryfela gyda mi; oblegid fy holl luoedd a'm gadawsant.

44 A Jonathan a anfonodd iddo ef i Antiochia, dair mil o wyr cedyrn o nerth, a hwy a ddaethant at y brenin; a llawen iawn fu gan y brenin eu dyfodiad hwy.

45 A'r rhai oedd o'r ddinas a ddaethant ynghyd i ganol y ddinas, ynghylch deuddeng myrddiwn o wyr, ac a fyn-asent ladd y brenin.

46 Yna y ffodd y brenin i'r llys: a'r rhai oedd o'r ddinas a gadwasant ffyrdd y ddinas, ac a ddechreuasant ym-ladd.

47 A'r brenin a alwodd yr Iddewon i'w helpu; a hwy a ddaethant ato ef oll ar unwaith, ac a ymwasgarasant ar hyd y ddinas, ac a laddasant y dydd hwnnw yn y ddinas hyd yn neg myrddiwn.

48 A hwy a losgasant y ddinas, ac a gymerasant ysbail fawr y dydd hwnnw, ac a achubasant y brenin.

49 A'r rhai o'r ddinas a welsant i'r Iddewon ennill y ddinas fel y myn-nent; a hwy a Iwfrhasant, ac a waedd-asant wrth y brenin mewn gweddi, gan ddywedyd,

50 Cymod a ni, a pheidied yr Iddewon & rhyfela i'n herbyn ni a'r ddinas.

51 Felly hwy a fwriasant ymaith eu harfau, ac a wnaethant heddwch: a'r Iddewon a gawsant anrhydedd o flaen y brenin a phawb yn ei deyrnas ef, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a chan-ddynt ysbail fawr.

52 Felly y brenin Demetrius a eisteddodd ar orseddfainc ei frenhiniaeth: a'r wlad a fu lonydd o'i flaen ef.

53 Eithr efe a ddywedodd gelwydd am beth bynnag a ddywedasai efe, ac a ymddieithrodd oddi wrth Jonathan, ac ni thalodd adref yr ewyllys da a dalasai efe iddo, eithr efe a'i cystuddiodd ef yn ddirfawr.

54 Wedi hyn y dychwelodd Tryffon a'r bachgen ieuanc Antiochus gydag ef; ac efe a deyrnasodd, ac a wisgodd y goron.

55 A'r holl luoedd y rhai a wasgaras-ai Demetrius a ymgasglasant ato ef; a hwy a ryfelasant yn ei erbyn ef, ac yntau a ffodd ac a giliodd.

56 Yna Tryffon a gymerodd yr ani-feiliaid, ac a enillodd Antiochia.

57 Ac Antiochus ieuanc a sgrifennodd at Jonathan, gan ddywedyd, Yr ydwyf fi yn sicrhau'r archoffeiriadaeth i ti, ac yn dy osod ar y pedair talaith, ac i fod yn un o garedigion y brenin.

58 Ac efe a anfonodd lestri aur iddo ef i'w wasanaethu, ac a roddes iddo awdurdod i yfed mewn llestri aur, ac i fod mewn porffor, ac i wisgo bwcl aur.

59 Ac efe a osododd Simon ei frawd ef yn gapten, o riw Tyrus hyd derfyn-au'r Aifft.

60 A Jonathan a aeth allan dros yr afon, a thrwy'r dinasoedd; a holl luoedd Syria a ymgasglasant ato ef yn help iddo: ac efe a ddaeth i Ascalon; a'r rhai oedd o'r ddinas a aethant i'w gyfarfod ef yn anrhydeddus.

61 Ac efe a ddaeth oddi yno i Gasa; a'r rhai o Gasa a gaeasant arnynt: yntau a warchaeodd ami, ac a losgodd ei phentrefydd hi, ac a'u hanrheith-iodd hwynt.

62 A'r rhai o Gasa a ymbiliasant a Jonathan, ac efe a wnaeth heddwch a hwynt, ac a gymerodd feibion eu tywysogion hwynt yn wystlon, ac a'u hanfonodd i Jerwsalem, ac a rodiodd y wlad hyd Damascus.

63 A phan glybu Jonathan ddyfod tywysogion Demetrius i Cades, yr hon sydd yn Galilea, a llu mawr, ar fedr ei yrru ef ymaith o'r wlad,

64 Yntau a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a adawodd ei frawd Simon yn y wlad.

65 A Simon a wersyllodd wrth Bethsura, ac a ryfelodd yn ei herbyn ddydd-iau lawer, ac a gaeddd ami hi.

66 A hwy a ddymunasant gael heddwch, ac efe a'i canhiadodd iddynt, ac a'u bwriodd hwynt allan oddi yno, ac a gymerodd y ddinas, ac a osododd warcheidwaid ynddi.

67 Jonathan hefyd a'i lu a wersyll-asant wrth ddyfroedd Gennesar; a hwy a godasant yn fore i ddyfod i faes Nasor.

68 Ac wele, gwersyll y dieithriaid a ddaethant i'w gyfarfod ef yn y maes-a hwy a yrasant gynllwyn yn ei erbyn ef yn y mynyddoedd, ac a ddaethant eu hunain ar ei gyfer ef.

69 Yna y cynllwynwyr a gyfodasant o'u lie, ac a gydiasant ryfel; a'r rhai oedd gyda Jonathan a ffoesant.

70 Ni adawyd un ohonynt ond Mat-atheias fab Absalom, a Jwdas fab Calffi, tywysogion milwriaeth y lluoedd.

71 A Jonathan a rwygodd ei ddillad, ac a daflodd Iwch ar ei ben, ac a wedd'iodd.

72 Ond efe a drodd yn eu herbyn hwynt yn y rhyfel, ac a'u gyrrodd hwy i ffo; a hwy a redasant ymaith.

73 A'r rhai a ffoesant oddi wrtho ef a welsant, ac a droesant ato ef, ac a'u herlidiasant hwynt gydag ef hyd Cades, hyd at eu gwersyll hwynt; a hwy a wersyllasant yno.

74 Ac fe laddwyd o'r dieithriaid y dydd hwnnw hyd yn nheirmil o wyr: a Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem.

PENNOD 12

1 A JONATHAN a welodd fod yr amser yn gwasanaethu iddo ef, ac a etholodd wyr, ac a anfonodd i Rufain i wneuthur ac i adnewyddu cyfeillach a hwynt.

2 At y Spartiaid hefyd, ac i leoedd eraillj yr anfonodd efe lythyrau ar yr un testun.

3 A hwy a aethant i Rufain, ac a ddaethant i'r cynghordy, ac a ddywed-asant, Jonathan yr archoffeiriad, a chenedl yr Iddewon, a'n hanfonodd ni atoch i adnewyddu y gyfeillach a'r gydymdeithas a fu o'r blaen.

4 A'r Rhufeinwyr a roddasant iddynt lythyrau at y bobl o le i le, ar fod iddynt eu hanfon hwy i dir Jwdea yn heddychlon.

5 Dyma hefyd gopi o'r llythyr a sgrifennodd Jonathan at y Spartiaid.

6 Jonathan yr archoffeiriad, a henuriaid y genedl, a'r offeiriaid, a'r rhan arall o bobl yr Iddewon, yn cyfarcb gwell i'r brodyr y Spartiaid:

7 Cyn hyn yr anfonwyd llythyrau at yr archoffeiriad Oneias oddi wrth Da-reius, yr hwn oedd yn frenin arnoch chwi, mai ein brodyr ni ydych chwi, fel y mae y copi isod yn cynnwys.

8 Ac Oneias a dderbyniodd y gwr a anfonasid, yn anrhydeddus; ac a dderbyniodd y llythyrau yn y rhai yr hys-bysasid am gyfeillach a chydymdeithas.

9 Felly ninnau, er nad yw raid i ni wrth hyn, am fod gennym yn gysur y llyfrau sanctaidd sydd yn ein dwylo,

10 A dybiasom yn dda anfon atoch i adnewyddu brawdoliaeth a chyfeillach, rhag i ni fyned yn ddieithr i chwi: oblegid llawer o amser a aeth heibio er pan anfonasoch atom.

11 Am hynny yr ydym ni bob amser yn ddi-baid, ar y gwyliau a'r dyddiau cymwys eraill, yn eich cofio chwi yn yr aberthau yr ydym yn eu hoffrymu, ac yn ein gwedd'iau, megis y mae yn weddaidd ac yn gymwys cofio brodyr;

12 Ac yr ydym ni yn llawen am eich anrhydedd chwi.

13 Amdanom ni, llawer o drallod, a rhyfeloedd lawer, a'n hamgylchynasant, a'r brenhinoedd o'n hamgylch a ryfel-asant i'n herbyn.

14 Nid oeddem ni er hynny yn ewyllysio eich blino chwi yn y rhyfeloedd hyn, na'n cydymdeithion a'n cyfeillion eraill:

15 Oherwydd y mae gennym ni gymorth o'r nef, yr hwn sydd yn ein cymorth; ac ni a waredwyd oddi wrth ein gelynion, a'n gelynion a ostyngwyd.

16 Am hynny ni a etholasom Nu-menius fab Antiochus, ac Antipater fab Jason, ac a'u hanfonasom at y Rhufein-iaid, i adnewyddu a hwynt y gyfeillach a'r gymdeithas a fuasai o'r blaen.

17 Felly y gorchmynasom iddynt hefyd ddyfod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoddi i chwi ein llythyrau ni am adnewyddu ein brawdoliaeth.

18 Ac yr awr hon chwi a wnewch yn I dda ar ateb i ni am hyn. I 19 A dyma gopi y llythyrau a anfonodd Oniares:

20 Areus brenin y Spartiaid yn cyfarch gwell i Oneias yr archoffeiriad:

21 Yr ydys yn cael mewn ysgrifen am y Spartiaid a'r Iddewon, mai brodyr ydynt hwy, a'u bod o genedl Abraham.

22 Ac yn awr, gan i ni wybod hyn, da y gwnewch ysgrifennu atom am eich heddwch.

23 Yr ydym ninnau yn ysgrifennu atoch chwithau, eich anifeiliaid chwi a'ch golud sydd eiddom ni, a'r eiddom ninnau yn eiddoch chwi: ac yr ydym yn gorchymyn i'n cenhadon, ar iddynt fynegi i chwi fel hyn.

24 A Jonathan a glybu ddychwelyd tywysogion Demetrius a llu mwy na'r cyntaf, i ryfela yn ei erbyn ef;

25 Ac efe a aeth allan o Jerwsalem, ac a aeth i gyfarfod a hwynt i wlad Amathis: ac ni roddes efe iddynt ys-baid i ddyfod i'w wlad ef.

26 Ac efe a anfonodd ysb'iwyr i'w gwersyll hwynt; a hwy a ddychwelas-ant, ac a fynegasant iddo eu bod hwy yn amcanu rhuthro arnynt liw nos.

27 A Jonathan, pan fachludodd haul, a archodd i'r rhai oedd gydag ef wyl-ied, a bod mewn arfau, i fod yn barod i ryfel ar hyd y nos; ac efe a osododd ragwylwyr o amgylch y gwersyll.

28 A'r gwrthwynebwyr a glywsant fod Jonathan a'r rhai oedd gydag ef yn barod i ryfel, ac a ofnasant, ac a ddychrynasant yn eu calon, ac a gyneuas-ant dan yn eu gwersyll.

29 Ond Jonathan a'r rhai oedd gydag ef ni wybuant hyd y bore: oblegid hwy a welent dan yn llosgi.

30 A Jonathan a ymlidiodd ar eu h&l hwynt, ac nis goddiweddodd hwynt; oblegid hwy a aethent dros yr afon Eleutherus.

31 Yna y trodd Jonathan yn erbyn yr Arabiaid, y rhai a elwid y Sabad-iaid, ac a'u trawodd hwynt, ac a gymerodd eu hysbail hwynt.

32 Ac efe a fudodd, ac a ddaeth i Damascus, ac a rodiodd trwy'r holl wlad.

33 Simon hefyd a aeth allan, ac a dramwyodd trwy'r wlad hyd Ascalon, a'r cestyll oedd gyfagos, ac a drodd i Jope, ac a'i henillodd hi:

34 Oherwydd efe a glywsai eu bod hwy yn amcanu rhoddi'r castell i fyny i'r rhai oedd o du Demetrius; ac efe a osododd yno warcheidwaid i'w gadw ef.

35 A Jonathan a ddychwelodd, ac a gasglodd henuriaid y bobl, ac a ym-gynghorodd a hwynt am adeiladu cestyll yn Jwdea,

36 Ac am godi caerau Jerwsalem, a chodi uchder mawr rhwng y twr a'r ddinas, i wahanu rhyngddo ef a'r ddin-as, i fod ohono o'r neilltu, fel na phrynent ac na werthent yno.

37 A phan ddaethant hwy ynghyd i adeiladu'r ddinas, efe a aeth i'r mur nesaf i'r aber o du'r dwyrain: a hwy a adeiladasant yr hyn a elwir Caffen-atha.

38 A Simon a adeiladodd Adida yn Seffela, ac a'i cadarnhaodd 5 phyrth ac a barrau.

39 Tryffon hefyd a geisiodd deyrnasu yn Asia, a gwisgo'r goron, ac estyn ei law yn erbyn y brenin Antiochus.

40 Ond efe a ofnodd na adawai Jonathan; a rhag iddo ryfela yn ei erbyn ef, efe a geisiodd ffordd i'w ddal ef i'w ddifetha: am hynny efe a gododd, ac a aeth i Bethsan.

41 A Jonathan a aeth allan i gyfarfod ag ef & deugain mil o wyr wedi eu dethol i ryfel, ac a ddaeth i Bethsan.

42 A phan welodd Tryffon ei ddyfod ef a llu mawr, efe a ofnodd estyn ei law yn ei erbyn ef.

43 Am hynny efe a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a'i canmolodd ef wrth ei holl garedigion, ac a roddes iddo roddion, ac a archodd i'w holl garedigion ufuddhau iddo ef megis iddo yntau ei hun.

44 Ac efe a ddywedodd wrth Jonathan, I ba beth y blinaist ti y bobl hyn oll, heb fod rhyfel rhyngom ni?

45 Yr awron gan hynny anfon y rhai hyn i'w tai, ac ethol i ti ychydig wyr, y rhai a fyddant gyda thi, a thyred gyda myfi i Ptolemais; ac mi a'i rhoddaf hi i ti, a'r cestyll eraill, a'r lluoedd eraill, a'r swyddogion; a mi a ddychwelaf, ac a af ymaith: canys o achos hyn y deuthum i yma.

46 Yntau yn ei gredu ef, a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a anfonodd ymaith ei lu; a hwy a aethant i dir Jwdea.

47 Ac efe a adawodd gydag ef dair mil o wyr, o ba rai efe a adawodd ddwy fil yn Galilea, a mil a aeth gydag ef.

48 Er cynted y daeth Jonathan i Ptolemais, y Ptolemaiaid a gaeasant y pyrth, ac a'i daliasant ef, ac a laddasant a'r cleddyf y rhai oll a ddaethai i mewn gydag ef.

49 Yna yr anfonodd Tryifon lu a gwyr meirch i dir Galilea, ac i'r maes mawr, i ddifetha y rhai oedd ar du Jonathan.

50 Eithr pan wybuant hwy ei ddal ef, a difetha y rhai oedd gydag ef, hwy a ymgysurasant, ac a aethant ynghyd, yn barod i ryfel.

51 Felly pan welodd y rhai oedd yn canlyn arnynt eu bod hwy yn barod i ymladd am eu heinioes, hwy a ddychwelasant.

52 Hwythau a ddaethant oll i wlad Jwdea yn ddihangol, ac a alarasant am Jonathan, a'r rhai oedd gydag ef; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: ac Israel oll a alarasant alar mawr.

53 A'r holl genhedloedd o amgylch a geisiasant eu difetha hwynt: canys hwy a ddywedasant, Nid oes ganddynt na thywysog na neb i'w helpu; am hynny rhyfelwn yn eu herbyn hwynt yn awr, a dilewn eu coffadwriaeth o blith dynion.

PENNOD 13

1 PAN glybu Simon gasglu o Tryffon lu mawr i ddyfod i wlad Jwdea i'w difetha hi,

2 A gweled fod y bobl yn ddychryn-edig ac yn ofnus iawn, efe a aeth i fyny i Jerwsalem, ac a gasglodd y bobl ynghyd;

3 Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch eich hunain pa bethau eu mairit a wneuthum i, a'm brodyr, a th$ fy nhad, dros y gyfraith a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r ing a welsom ni.

4 O achos hyn y lladdwyd fy mrodyr oll er mwyn Israel, a mi a adawyd fy hunan.

5 Ac yr awr hon na ato Duw i mi arbed fy einioes yn amser cystudd: oblegid nid ydwyf fi well na'm brodyr:

6 Eithr mi a ddialaf fy nghenedl, a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant chwi: oblegid yr holl genhedloedd a ym-gasglasant i'n difetha ni o wir elyniaeth.

7 Ac ysbryd y bobl a adfywiodd er cynted y clywsant y geiriau hyn.

8 A hwy a atebasant a lief uchel, gan ddywedyd, Tydi yw ein capten yn lie Jwdas a Jonathan dy frodyr.

9 Rhyfela ein rhyfel ni; a pha beth bynnag a ddywedech di wrthym, ni a'i gwnawn.

10 Yntau a gasglodd yr holl ryfelwyr, ac a frysiodd i orffen caerau Jerwsalem, ac a'i cadarnhaodd hi o amgylch.

11 Ac efe a anfonodd Jonathan fab Absalom a llu mawr gydag ef i Jope; ac efe a fwriodd allan y rhai oedd ynddi, ac efe a arhodd yno ynddi hi.

12 A Thryffon a symudodd o Ptolemais a llu mawr i fyned i mewn i dir Jwdea; a Jonathan gydag ef yng nghar char.

13 A Simon a wersyllodd yn Adida, ar gyfer y maes.

14 Pan wybu Tryffon godi Simon yn lie Jonathan ei frawd, ac y cydiai efe mewn rhyfel ag ef, efe a anfonodd genhadau ato, gan ddywedyd,

15 Am yr arian oedd ddyledus ar Jonathan dy frawd i drysor y brenin, am y swyddau oedd ganddo ef, y dal-iasom ni ef.

16 Yr awron gan hynny anfon gan talent o arian, a dau o'i feibion ef yn wystlon, fel pan ollynger ef, na chilio efe oddi wrthym ni, ac ni a'i gollyngwn ef.

17 Ac er bod Simon yn gwybod mai yn dwyllodrus yr oeddynt yn ymddi-ddan; eto efe a anfonodd yr arian a'r ddau fachgen, rhag iddo gael cas mawr gan y bobl;

18 Y rhai a ddywedent, Am na anfonodd efe yr arian a'r bechgyn, y darfu am Jonathan.

19 Am hynny efe a anfonodd y bechgyn a'r can talent: yntau Tryffon a fu gelwyddog, ac ni ollyngodd Jonathan ymaith.

20 Ac wedi hyn y daeth Tryffon i fyned yn erbyn y wlad ac i'w difetha hi, ac efe a aeth o amgylch y ffordd sydd yn arwain i Adora: a Simon a'i lu a aethant yn ei erbyn ef, i bob lie a'r yr ai yntau iddo.

21 A'r rhai oedd yn y twr a anfonas-ant at Tryffon genhadau, i beri iddo frysio i ddyfod atynt hwy trwy'r diffeithwch, ac i yrru iddynt ymborth.

22 Yna y parat6dd Tryffon ei wyr meirch i ddyfod; a'r noson honno y bu eira mawr iawn, ac ni ddaeth efe oblegid yr eira: ac efe a ymadawodd, ac a aeth i wlad Galaad.

23 A phan nesaodd efe at Bascama, efe a laddodd Jonathan: ac yno y claddwyd ef.

24 Yna y dychwelodd Tryffon, ac yr aeth i'w wlad ei hun.

25 A Simon a yrrodd, ac a gymerodd esgyrn ei frawd Jonathan; a hwy a'i claddasant ym Modin, dinas ei hynaf-iaid.

26 Ac Israel oll a alarasant amdano ef a galar mawr, ie, hwy a alarasant amdano ef ddyddiau lawer.

27 A Simon a wnaeth adeiladaeth ar fedd ei dad a'i frodyr, ac a'i gwnaeth yn uchel mewn golwg, & cherrig nadd yn ôl ac ymlaen.

28 Ac efe a osododd heblaw hynny saith pyramid, y naill ar gyfer y Hall, i'w dad, a'i fam, a'i bedwar brawd.

29 Ac yn y rhai hyn efe a wnaeth ddychmygion celfydd, ac a osododd golofnau mawrion o amgylch, ac ar y colofnau efe a wnaeth arfau yn goffad- wriaeth tragwyddol, a chyda'r arfau longau cerfiedig i'w gweled gan bawb a fordwyent y m6r.

30 Dyma'r bedd a wnaeth efe ym Modin, ac y mae yn sefyll hyd y dydd hvm.

31 A Thryffon a wnaeth yn dwyllodrus ag Antiochus y brenin ieuanc, ac a'i lladdodd ef.

32 Ac efe a deyrnasodd yn ei le ef, ac a wisgodd goron Asia, ac a wnaeth ddial-edd mawr yn y wlad.

33 A Simon a adeiladodd y cestyll yn Jwdea, ac a'u cadarnhaodd hwynt a thyrau uchel, ac a chaerau mawrion, ie, a thyrau, ac a phyrth, ac a chloeau; ac efe a osododd ymborth ynddynt.

34 Simon hefyd a etholodd wyr, ac a'u hanfonodd at y brenin Demetrius, i geisio gollwng y wlad yn rhydd: oblegid ysbail oedd holl weithredoedd Tryffon.

35 A'r brenin Demetrius a anfonodd ato yntau fel hyn, ac a'i hatebodd ef, ac a sgrifennodd ato ef y llythyr hwn:

36 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i Simon yr archoffeiriad a chared-ig i frenhinoedd, a hefyd i henuriaid a chenedl yr Iddewon:

37 Nyni a dderbyniasom y goron aur, a'r maen gwerthfawr, y rhai a anfonasoch chwi; ac yr ydym ni yn barod i wneuthur heddwch a chwi, ac i sgrifennu at ein swyddogion i sicrhau y rhydd-fraint a ganiatasom ni.

38 A'r hyn oll a ordeiniasom ni tuag atoch chwi, hynny a saif: bydded y cestyll a adeiladasoch yn eiddoch chwi.

39 Ac yr ydym ni yn maddau pob amryfusedd a bai hyd y dydd hwn, a threth y goron yr hon sy ddyledus arnoch chwi: ac os oedd teyrnged arall yn Jerwsalem, na choder hi mwy.

40 Ac od oes neb ohonoch yn gymwys i'w sgrifennu ymysg y rhai sy yn ein cylch ni, ysgrifenner hwy, a gwneler heddwch rhyngom.

41 Y ddegfed flwyddyn a thrigain a chant y tynnwyd ymaith iau y cenhed-loedd oddi ar Israel.

42 A phobl Israel a ddechreuasant ysgrifennu yn eu hysgrifenadau a'u cyf-newidiadau, Y flwyddyn gyntaf i Simon yr archoffeiriad mawr, tywysog a chapten yr Iddewon.

43 Yn y dyddiau hynny y gwersyllodd Simon wrth Gasa, ac efe a'i ham-gylchodd hi a'i luoedd; ac efe a wnaeth ryfelofferyn, ac a'i nesaodd at y ddinas, ac a drawodd un twr, ac a'i henillodd.

44 A'r rhai oedd yn y rhyfelofferyn a neidiasant i'r ddinas; ac fe wnaeth-pwyd cynnwrf mawr yn y ddinas.

45 A'r rhai oedd yn y ddinas a aeth-ant i fyny ar y gaer gyda'u gwragedd a'u plant, wedi rhwygo eu dillad; a hwy a waeddasant a lief uchel, gan atolwg i Simon ganhiadu heddwch iddynt:

46 A hwy a ddywedasant, Na wna a ni yn ôl ein drygioni, ond yn ôl dy drugaredd di.

47 A Simon a dosturiodd wrthynt, ac ni ryfelodd mwy yn eu herbyn, eithr efe a'u bwriodd hwynt allan o'r ddinas, ac a lanhaodd y tai lie yr oedd eilunod, ac a aeth i mewn iddi dan ganu mawl a diolch.

48 Ac efe a fwriodd allan bob aflendid ohoni, ac a osododd yno wyr oedd yn gwneuthur y gyfraith, ac a'i cadarnhaodd hi, ac a adeiladodd ynddi breswyl-fod iddo ei hun.

49 Lluddiwyd hefyd i'r rhai oedd yn y twr yn Jerwsalem fyned allan na dyfod i'r wlad i brynu a gwerthu: ac yr oedd yn flin arnynt o eisiau ymborth, a llawer ohonynt a fu feirw o newyn.

50 A hwy a waeddasant ar Simon ar roddi cymod iddynt, ac efe a'i rhoddes iddynt: ond efe a'u bwriodd hwynt. allan, ac a lanhaodd y twr oddi wrth halogedigaeth.

51 Ac efe a aeth i mewn iddi hi y trydydd dydd ar hugain o'r ail mis, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant, a mawl, ac a changhennau palmwydd, ac a thelynau, a symbalau, a nab-lau, ac a hymnau, ac ag odlau, am ddi-fetha gelyn mawr allan o Israel.

52 Ac efe a ordeiniodd gadw y dydd hwn yn llawen bob blwyddyn. Ac efe a gadarnhaodd fynydd y deml, yr hwn oedd yn agos i'r twr, ac a arhosodd yno, efe a'r rhai oedd gydag ef.

53 A phan welodd Simon fod ei fab loan yn wr, efe a'i gosododd ef yn gapten ar yr holl luoedd, ac a breswyliodd yn Gasara.

PENNOD 14

1 A I yn y ddeuddegfed flwyddyn a thrigain a chant y casglodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasglu iddo gymorth, i ryfela yn erbyn Tryffon.

2 Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius o fewn ei derfynau ef, efe a anfonodd un o'i dywysogion i'w ddal ef yn fyw.

3 A hwnnw a aeth, ac a drawodd wersyll Demetrius, ac a'i daliodd ef, ac a'i dug ef at Arsaces; ac yntau a'i rhoddes ef yng ngharchar.

4 A gwlad Jwdea a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon; canys efe a geisiodd ddaioni i'w genedl: a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef a'i anrhydedd yr holl amser.

5 Simon hefyd, heblaw ei holl ogon-iant, a enillodd Jope yn borthladd, ac a wnaeth ffordd i ynysoedd y mor.

6 Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a enillodd y wlad.

7 Hefyd efe a gasglodd gaethglud fawr, ac a feddiannodd Gasara, a Bethsura, a'r twr, ac a dynnodd yr aflendid allan ohono ef; ac nid oedd a safai yn ei erbyn ef.

8 Felly yr oeddynt hwy yn llafurio eu tir yn heddychlon, a'r ddaear a roddes ei chnwd, a choed y maes eu fFrwythau.

9 Yr henuriaid a eisteddent yn yr heolydd, am ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a'r gwyr ieuainc a wisgent ddillad parchedig a gwisgoedd rhyfel. ,10 Efe a ddarparodd ymborth i'r din-asoedd, ac a osododd ynddynt bob offer cadernid, hyd oni sonnid am ei enw an-rhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaear. n Efe a wnaeth heddwch yn y wlad; ac fe gafodd Israel lawenydd mawr:

12 Pob un a eisteddai dan ei winwydden a'i ffigysbren, ac nid oedd a'u dychrynai.

13 Ni adawyd un yn y wlad i ryfela yn eu herbyn hwynt: a'r brenhinoedd a ddinistriwyd yn y dyddiau hynny.

14 Hefyd efe a gadarnhaodd bob un darostyngedig o'i bobl: efe a chwiliodd allan y gyfraith, ac a dynnodd ymaith bob dyn annuwiol a drygionus.

15 Efe a barchodd y cysegr, ac a amlhaodd lestri'r cysegr.

16 A hwy a glywsant yn Rhufain farw Jonathan, a hyd Sparta hefyd; ac athrist iawn fu ganddynt.

17 Ond pan glywsant hwy wneuthur Simon ei frawd ef yn archoffeiriad yn ei le ef, ac ennill ohono ef y wlad a'r dinasoedd ynddi,

18 Hwy a sgrifenasant ato ef mewn llechau pres, i adnewyddu ag ef y gyf-eillach a'r gydymdeithas a wnaethent hwy a Jwdas ac a Jonathan ei frodyr ef.

19 A hwy a ddarllenwyd o flaen y gynulleidfa yn Jerwsalem.

20 A dyma gopi y llythyrau a anfonodd y Spartiaid: Tywysogion a dinas y Spartiaid yn cyfarch yr archoffeiriad Simon a'r henuriaid, a'r offeiriaid, a'r rhan arall o'n brodyr, pobl yr Iddewon:

21 Y cenhadon a anfonwyd at ein pobl ni, a fynegasant i ni am eich gogoniant a'ch parch chwi; a llawen fu gennym eu dyfodiad hwynt:

22 Ac ni a sgrifenasom yr hyn a ddywedasant hwy, ymysg cynghorion y bobl, fel hyn; Numenius mab Antiochus, ac Antipater mab Jason, cenhadau yr Iddewon, a ddaethant atom ni i adnewyddu y gyfeillach oedd rhyngddynt a ni.

23 A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwyr yn anrhydeddus, ac i sgrifennu copi o'u hymadrodd hwynt yn y llyfrau a ddangosir, fel y cai pobl y Spartiaid goffadwriaeth o hynny: hwy a sgrif- enasant hefyd gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.

24 Wedi hyn fe anfonodd Simon Nu-menius i Rufain, a tharian fawr o aur ganddo, o bwys mil o bunnoedd, i sicrhau'r gyfeillach 4 hwynt.

25 A phan glybu'r bobl y geiriau hyn, hwy a ddywedasant, Pa ddiolch a roddwn ni i Simon ac i'w feibion?

26 Oblegid efe, a'i frodyr, a thy ei dad, a gryfhasant Israel, ac a ddinistriasant elynion Israel o'u mysg, ac a sicrhasant iddo ef ryddid.

27 A hwy a'i sgrifenasant mewn llechau pres, ac a'i gosodasant ar golofnau ym mynydd Seion. A dyma gopi yr ysgrifen: Y deunawfed dydd o fis Elul, y ddeu-ddegfed flwyddyn a thrigain a chant, a'r drydedd flwyddyn er pan yw Simon yr archoffeiriad,

28 Yn Saramel, yn y gynulleidfa fawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, a henuriaid y wlad, yr hysbyswyd i ni y pethau hyn.

29 Oherwydd bod rhyfeloedd yn fynych yn y wlad, yn y rhai yr ymroddes Simon mab Matatheias, o feibion Jarib, a'i frodyr, i'r perygl, ac a safasant yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn cynnal eu cysegr a'u cyfraith, ac a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.

30 (Canys wedi i Jonathan gasglu eu cenedl hwynt, a bod yn archoffeiriad iddynt, a'i roddi at ei bobl;

31 A'u gelynion hwynt yn bwriadu dyfod i fyny i'w gwlad hwynt i ddifetha eu gwlad, ac i estyn eu dwylo yn erbyn eu cysegr hwynt;

32 Yn yr hwn amser y cyfododd Simon, ac a ryfelodd dros ei genedl, ac a dreuliodd lawer o'i arian ei hun, ac a arfogodd wyr nerthol o'i genedl, ac a roddes iddynt gyflog,

33 Ac a gadarnhaodd ddinasoedd Jwdea, a Bethsura, yr hon sydd yng nghyffiniau Jwdea, lie y buasai arfau y gelynion o'r blaen, ac a osododd yno wyr o Idd-ewon i warchod.

34 Felly y cadarnhaodd efe Jope, yr hon sydd wrth y mor; a Gasara, yr hon sydd yng nghyffiniau Asotus, lle'r oedd y gelynion yn aros o'r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno ba bethau bynnag oedd gyrnwys i'w cywair hwynt.)

35 Y bobl gan hynny yn gweled ffydd-londeb Simon, a'r anrhydedd yr oedd efe yn amcanu ei wneuthur i'w genedl, a'i gosodasant ef yn gapten ac yn archoffeiriad, am iddo wneuthur hyn oll, ac am y cyfiawnder a'r ffyddlondeb a gadwasai efe i'w genedl, ac am geisio ohono ddyrchafu ei bobl trwy bob modd.

36 Canys yn ei ddyddiau ef yr oedd llwyddiant yn ei ddwylo ef, yn gym-aint a bwrw allan o'u gwlad hwynt y Cenhedloedd, a'r rhai oedd yn ninas Dafydd ac yn Jerwsalem, y rhai a wnaethent iddynt dwr, allan o'r hwn y deuent, ac yr halogent y cwbl o amgylch y cysegr, ac y gwnaent ddialedd mawr yn erbyn sancteiddrwydd.

37 Ac efe a osododd ynddi hi wyr o Iddewon, ac a'i cadarnhaodd hi yn ddiogelwch i'r wlad, ac i'r ddinas, ac a gododd gaerau Jerwsalem.

38 A'r brenin Demetrius a sicrhaodd yr archoffeiriadaeth iddo ef yn hollol,

39 Ac a'i gwnaeth ef o'i garedigion, ac a'i hanrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.

40 Oblegid fe glywsid fod y Rhuf-einwyr yn galw'r Iddewon yn gyfeillion ac yn gymdeithion, a chyfarfod ohonynt a chenhadau Simon yn anrhyd-eddus;

41 A gweled o'r Iddewon yn dda, a'r offeiriaid hefyd, fod Simon yn gapten iddynt, ac yn archoffeiriad byth, hyd oni chodai proffwyd ffyddlon;

42 A'i fod ef yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y cysegr, fel y gosodai efe hwynt ar eu gwaith, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestyll, fel y byddai, meddaf, arno ef y gofal am y cysegr,

43 Ac y gwrandawai pawb arno, ac y sgrifennid pob sgrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac y dilledid ef mewn porffor, ac y gwisgai aur:

44 Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o'r bobl nac o'r offeiriaid ddiddymu dim o hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddywedo efe, na galw cymanfa ynghyd yn y wlad hebddo ef, na gwisgo porffor, nac arfer bwcl aur;

45 A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymo ddim o hyn, euog fydd efe.

46 A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.

47 Simon hefyd a gymerodd hyn, ac a fu fodlon i fod yn archoffeiriad, ac yn gapten ac yn dywysog ar genedl yr Iddewon a'r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.

48 A hwy a barasant osod yr ysgrifen hon mewn llechau pres, a'u gosod hwynt o fewn cylch y cysegr mewn lie hynod;

49 A gosod copi o hynny yn y trysordy, fel y gallai Simon a'i feibion ei gael ef.

PENNOD 15

1 ANTIOCHUS hefyd mab y brenin **• Demetrius, a anfonodd lythyrau o ynysoedd y mor at Simon yr offeiriad, a phencenedl yr Iddewon, ac at y genedl oll;

2 Ac yr oeddynt hwy yn cynnwys y modd hyn: Y brenin Antiochus yn cyfarch gwell i Simon archoffeiriad a thywysog ei genedl, a phobl yr Iddewon:

3 Oherwydd i wyr ysgeler gael gafael ar deyrnas ein hynafiaid ni, a bod yn fy mryd roddi hawl i'r frenhiniaeth, i'w hailosod fel yr oedd o'r blaen; er mwyn hynny mi a gesglais lawer o filwyr di-eithr, ac a baratoais longau rhyfel;

4 Ac yr ydwyf fi yn ewyllysio myned trwy'r wlad, i ddial ar y rhai a an-rheithiasarit ein gwlad ni, ac a wnaethant lawer o ddinasoedd yn anghyfannedd yn y deyrnas.

5 Am hynny yn awr yr ydwyf yn sicrhau i ti yr holl offrymau, y rhai a ganiataodd y brenhinoedd a fuant o'm blaeji i ti, a pha bethau bynnag eraill a ganiatasant hwy i ti;

6 Megis y gadawsant i ti daro bath o arian priodol i'th wlad di.

7 Ac am Jerwsalem a'r cysegr, bydd-ant yn rhyddion, a'r holl arfau a wnaethost ti, a'r cestyll a adeiledaist, y rhai yr ydwyt mewn meddiant ohonynt, parhaed hynny i ti.

8 Maddeuer hefyd i ti bob dyled i'r brenin, a'r hyn a fyddo dyledus i'r brenin o hyn allan byth.

9 A phan ddarffo gwastatau ein teyrn-as, nyni a'th anrhydeddwn di, a'th genedl, a'r deml, ag anrhydedd mawr, fel y byddo eglur eich gogoniant chwi trwy'r holl fyd.

10 Y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant yr aeth Antiochus i dir ei hynafiaid: a'r holl luoedd a ddaeth-ant ynghyd ato ef, fel nad oedd ond ychydig gyda Thryffon.

11 A'r brenin Antiochus a'i hymlid-iodd ef, ac yntau a ddaeth dan ffoi i Dora sy ar Ian y mor.

12 Oblegid efe a wybu ymgasglu o ddrygau yn ei erbyn ef, ac i'r lluoedd ei adael ef.

13 Ac Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora, a chydag ef chwe ugain mil o ryfelwyr, ac wyth mil o wyr meirch.

14 Ac efe a amgylchodd y ddinas, ac a osododd y llongau wrth y ddinas o du'r mor, ac a flinodd y ddinas o'r tir a'r mor, fel na adawodd efe i neb fyned allan na dyfod i mewn.

15 Yna y daeth Numenius a'r rhai oedd gydag ef, o Rufain, a llythyrau ganddynt at y brenhinoedd a'r gwledydd, yn y rhai yr oedd hyn yn sgrif-enedig:

16 Lucius, Consul y Rhufeiniaid, yn annerch y brenin Ptolemeus.

17 Cenhadon yr Iddewon, ein cyfeillion a'n cymdeithion, a ddaethant atom ni i adnewyddu'r gyfeillach a'r gym-deithas a fuasai o'r blaen; wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad, a phobl yr Iddewon:

18 A hwy a ddygasant darian o aur o bum mil o bunnoedd.

19 Am hynny nyni a welsom yn dda sgrifemru at y brenhinoedd a'r gwledydd, na cheisient niwed iddynt, ac na ryfelent yn eu herbyn hwynt, na'u dinasoedd, na'u gwlad, ac na chynorthwyent y rhai a ryfelent i'w herbyn.

20 Ac ni a welsom yn dda dderbyn y darian ganddynt hwy.

21 Am hynny os ffodd rhai dynion ysgeler o'u gwlad hwynt atoch chwi, rhoddwch hwynt i Simon yr archoffeiriad, i ddial arnynt yn ôl eu cyfraith hwynt.

22 A hyn hefyd a sgrifennodd efe at Demetrius y brenin, ac Attains, ac Arathes, ac Arsaces,

23 Ac i bob gwlad, megis i Sampsames, at y Spartiaid, i Delus hefyd, ac i Myndus, ac i Sicyon, ac i Caria, ac i Samos, a Phamffylia, ac i Lycia, ac i Halicarnassus, ac i Rhodus, a Pharsel-is, ac i Cos, ac i Side, ac i Aradus, ac i Gortyna, a Chnidus, a Cyprus, a Gyrene.

24 A hwy a sgrifenasant gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.

25 A'r brenin Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora yr ail dydd, gan ddwyn ei luoedd yn wastadol yn ei herbyn hi, a gwneuthur offer rhyfel: ac efe a gaeodd ar Tryffon fel na allai efe fyned nac i mewn nac allan.

26 A Simon a anfonodd iddo ddwy fil o wyr dewisol i'w gynorthwyo ef, ac aur, ac arian, ac arfau lawer.

27 Ac ni fynnai efe eu cymryd hwynt, eithr efe a dorrodd yr amodau oll a wnaethai efe ag ef o'r blaen, ac a ym-ddieithrodd oddi wrtho ef.

28 Ac efe a anfonodd Athenobius, un o'i garedigion, i ymddiddan ag ef, gan ddywedyd, Yr ydych chwi yn medd-iannu Jope, a Gasara, a'r twr yn Je-rwsalem, dinasoedd fy nheyrnas i.

29 Chwi a wnaethoch eu cyffiniau hwynt yn anghyfannedd, ac a wnaethoch ddialedd mawr yn y tir, ac a fedd-ianasoch lawer o fannau yn fy nheyrnas.

30 Am hynny yr awron moeswch y dinasoedd a gymerasoch chwi, ac ardreth y lleoedd a feddianasoch, o'r tu allan i gyffiniau Jwdea:

31 Ac onid e, moeswch i mi bum cant o dalentau arian amdanynt hwy; a phum cant eraill o dalentau am y dinistr a wnaethoch, ac ardreth y lleoedd: onid e, nyni a ddeuwn, ac a ymladdwn yn eich erbyn chwi.

32 Felly y daeth Athenobius caredig y brenin, i Jerwsalem, ac efe a welodd ogoniant Simon, a'r cwpwrdd, a'r llestri arian, a'r arlwy mawr; a rhyfedd fu ganddo: ac efe a fynegodd iddo eiriau y brenin.

33 Yna Simon a atebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Ni chymerasom ni dir neb arall, ac nid ataliasom yr eiddo eraill, ond etifeddiaeth ein hynafiaid, yr hon a fu dros ennyd o amser ym meddiant ein gelynion yn anghyfiawn;

34 A phan gawsom ni amser, ni a fyn-asom drachefn etifeddiaeth ein tadau.

35 Ac am Jope a Gasara, y rhai yr wyt ti yn eu ceisio, er iddynt wneuthur niwed mawr i'n pobl ni, ac i'n gwlad; eto ni a roddwn am y rhai hynny gan talent. Ac nid atebodd yntau air iddo;

36 Eithr efe a ddychwelodd at y brenin yn ddicllon, ac a fynegodd iddo y geiriau hyn, ac anrhydedd Simon, a'r hyn a welsai efe oll: a'r brenin a ddigiodd yn ddirfawr.

37 Yna yr aeth Tryffon i long, ac a ffodd i Orthosias.

38 A'r brenin a osododd Cendebeus yn gapten ar Ian y mor, ac a roddes iddo luoedd o wyr traed ac o wyr meirch.

39 Ac efe a orchmynnodd iddo wersyllu o flaen Jwdea, ac a archodd iddo adeiladu Cedron, a chadarnhau'r pyrth, a rhyfela yn erbyn y bobl: a'r brenin yntau a ymlidiodd Tryffon.

40 Yna y daeth Cendebeus i Jamnia; ac efe a ddechreuodd gyffroi'r bobl, a gosod ar Jwdea, a chaethgludo'r bobl, a'u lladd.

41 Ac wedi iddo adeiladu Cedron, efe a osododd yno wyr meirch, a llu o wyr traed, fel y gallent fyned allan oddi yno, a rhodio ar hyd ffyrdd Jwdea, fel V gorchmynasai'r brenin iddo ef.

PENNOD 16

1 AIOAN a aeth i fyny o Gasara, ac a fynegodd i Simon ei dad yr hyn a wnaethai Cendebeus.

2 A Simon a alwodd ei ddau fab hyn-af, Jwdas a loan, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a'm brodyr a thy fy nhad a ryfelasom yn erbyn gelynion Israel o'n hieuenctid hyd heddiw: ac fe a ffyn-nodd gennym ni waredu Israel lawer gwaith.

3 Ond yr awron mi a heneiddiais, a chwithau trwy drugaredd Dduw ydych yn ddigon oedrannus: byddwch chwi yn fy lie i a'm brawd, ac ewch allan, a rhyfelwch dros ein cenedl; a'r cymorth o'r nef a fyddo gyda chwi.

4 Ac efe a etholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr, a gwyr meirch; a hwy a aethant yn erbyn Cendebeus, ac a gysgasant ym Modin.

5 A hwy godasant yn fore, ac a aethant i'r maes; ac wele lu mawr yn dyfod yn eu herbyn hwynt ar draed ac ar feirch: ac yr oedd aber ddwfr yn y canol rhyngddynt.

6 Ac efe a wersyllodd o'u blaen hwynt, efe a'i bobl: a phan welodd efe y bobl yn ofni myned trwy'r aber ddwfr, efe a aeth trwodd yn gyntaf; a'r gwyr a'i gwelsant ef, a hwythau a aethant ar er ôl ef.

7 Yna y rhannodd efe'r bobl, a'r gwyr meirch a roddwyd yng nghanol y gwyr traed; oblegid gwyr meirch y gelynion oedd lawer iawn.

8 Yna y canasant a'r utgyrn sanct-aidd: ac ar hynny y ffodd Cendebeus

1 a'i lu, llawer ohonynt a syrthiasant yn archolledig, a'r lleill a ffoesant i'r castell.

9 Yna y clwyfwyd Jwdas brawd loan: eithr loan a'u hymlidiodd hwynt hyd i oni ddaeth efe i Cedron, yr hon a adeil-adasai Cendebeus.

10 A hwy a ffoesant hyd y tyrau sydd ym maes Asotus; ac yntau a'i llosgodd hi a than; ac fe syrthiodd ohonynt hwy gymaint a dwy fil o wyr: ac/efe a ddychwelodd i dir Jwdea yn Mddychlon.

11 Ac yr oedd Ptolemeus mab Abubus wedi ei osod yn gapten ym maes Jericho; ac yr oedd ganddo ef arian ac aur lawer;

12 Oblegid daw'r archoffeiriad oedd efe.

13 A'i galon a'i cododd ef, ac efe a chwenychodd feddiannu y wlad, ac a fwriadodd trwy dwyll yn erbyn Simon a'i feibion, i'w difetha hwynt.

14 Ac yr oedd Simon yn rhodio trwy ddinasoedd y wlad, ac yn ofalus am eu llywodraeth hwynt: ac efe a aeth i waered i Jericho, efe, a Matatheias, a Jwdas, ei feibion, yn yr ail flwyddyn ar bymtheg a thrigain a chant, yn yr unfed mis ar ddeg, hwn yw'r mis Sabat.

15 A mab Abubus a'u derbyniodd hwynt trwy dwyll i gastell a elwid Docus, yr hwn a adeiladasai efe, ac efe a wnaeth iddynt wledd fawr, ac a gudd-iodd yno wyr.

16 Ac wedi yfed o Simon a'i feibion yn dda, y cododd Ptolemeus a'r rhai oedd gydag ef; a hwy a gymerasant eu harfau, ac a ruthrasant i Simon yn y wledd, ac a'i lladdasant ef a'i ddau fab, a rhai o'i weision.

17 Felly y gwnaeth efe ysgelerder mawr, ac y talodd ddrwg am dda.

18 A Ptolemeus a sgrifennodd hyn, ac a anfonodd at y brenin i anfon ato ef lu yn gyrnorth, ac efe a roddai iddo ef y wlad a'r dinasoedd.

19 Ac efe a yrrodd eraill i Gasara i ddifetha loan; ac a anfonodd lythyrau at y milwriaid, i erchi iddynt ddyfod ato ef, fel y rhoddai efe iddynt arian, ac aur, a rhoddion.

20 Ac efe a yrrodd eraill i ennill Jerwsalem a mynydd y deml.

21 Ac un a redodd o'r blaen, ac a fynegodd i loan yn Gasara ddarfod lladd ei dad ef, a'i frodyr: ac efs a anfonodd i'th ladd dithau, eb efe.

22 Yntau, pan glybu, a ofnodd yn ddirfawr, ac a ddaliodd y gwyr a ddaeth-ai i'w ladd ef, ac a'u lladdodd hwynt: oblegid efe a wybu eu bod hwy yn ceisio ei ddifetha ef.

23 A'r rhan arall o hanes loan, a'i 24 Wele, fe a sgrifennwyd hyn ryfeloedd, a'i wrolaeth, yr hyn a wnaeth llyfrau Cronicl ei archoffeiriadaeth ef, efe, ac adeiladaeth y caerau a adeiladodd efe, a'i weithredoedd, er pan wnaethpwyd ef yn archoffeiriad ar ôl ei dad.