Beibl (1620)/2 Esdras

Oddi ar Wicidestun

AIL LYFR ESDRAS

PENNOD i º1 AIL lyfr y proffwyd Esdras, fab •*"*• Saraias, fab Asareias, fab Helchias, fab Sadanias, fab Sadoc, fab Achitob,

º2 Fab Achia, fab Phinees, fab Heli, fab Amareias, fab Asiei, fab Marimoth, fab Arna, fab Oseias, fab Borith, fab Abisei, fab Phinees, fab Eleasar,

º3 Fab Aaron, o Iwyth Lefi; yr hwn a fu gaeth yng ngwlad y Mediaid, yn nheyrn-asiad Artacsercses brenin y Persiaid.

º4 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

º5 Dos ymaith, a mynega i'm pobl eu pechodau, ac i'w plant eu hanwireddau a wnaethant i'm herbyn, fel y myneg-ont i blant eu plant:

º6 Am i bechodau eu tadau hwynt amlhau ynddynt hwy: canys hwy a'm gollyngasant dros gof, ac a offrymasant i dduwiau dieithr.

º7 Onid myfi a'u dug hwynt o dir yr Aifft, o dy'r caethiwed? er hynny hwynt-hwy a'm hanogasant i ddigof-aint, ac a ddiystyrasant fy nghyng-horion.

º8 Tyn wallt dy ben, a bwrw'r holl ddrygioni arnynt hwy; o achos ru buant ufudd i'm cyfraith, ond pobl wrthryfelgar ydynt.

º9 Pa hyd y cyd-ddygaf a'r rhai fl gwneuthum gymaint o ddaioni er-ddynt?

º10 Llawer o frenhinoedd a ddifethais i er eu mwyn hwy: Pharo a'i weis-ion, a'i holl lu, a drewais i lawr. n Yr holl genhedloedd a ddifethais i o'u blaen hwynt; ac yn y dwyrain yr anrheithiais bobl dwy dalaith, sef Tyrus a Sidon, ac a leddais eu holl elynion hwynt.

º12 Llefara dithau wrthynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd;

º13 Mi a'ch arweiniais chwi trwy'r m6r, ac a roddais i chwi heol eang a diogel o'r dechreuad: mi a roddais i chwi Moses yn dywysog, ac Aaron yn offeiriad:

º14 Rhoddais i chwi oleuni mewn colofn o dan, a rhyfeddodau mawrion a wneuthum yn eich plith: er hynny

 i

chwi a'm gollyngasoch i dros gof, medd yr Arglwydd.

º15 Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Y soflieir oedd yn arwydd i chwi; rhoddais i chwi bebyll yn am-ddirryn: eto grwgnach a wnaethoch ynddynt.

º16 Ac nid ymlawenhasoch yn fy enw i am ddinistr eich gelynion, ond grwgnach yn wastad yr ydych, hyd y dydd heddiw.

º17 Mae'r daioni a wneuthum i chwi? Oni waeddasoch chwi arnaf, pan oedd-ech newynog a sychedig yn yr anialwch,

º18 Gan ddywedyd, Paham y dygaist ti ni i'r anialwch hwn i'n lladd? gwell a fuasai i ni wasanaethu'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.

º19 Y pryd hynny y tosturiais wrth eich galar, a rhoddais i chwi fanna i'w fwyta: ac felly y bwytasoch fara angylion.

º20 Pan oedd syched arnoch, oni hollt-ais y graig, a'r dwfr a ddylifodd i'ch diwallu chwi? ac mi a'ch cysgodais rhag y gwres a dail y coed.

º21 Rhennais yn eich plith wlad ffrwyth-lon, a bwriais allan o'ch blaen chwi y Canaaneaid, y Pheresiaid, a'r Philist-iaid: beth mwy a wnaf eroch, medd yr Arglwydd?

º22 Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Pan oeddech yn yr anialwch, wrth ddwfr chwerw'r Amor-iaid, yn sychedig, ac yn cablu fy enw;

º23 Ni roddais i chwi dan am eich cabl, ond bwrw pren a wneuthum i'r dwfr, a gwneuthur yr afon yn groyw.

º24 Pa beth a wnaf i ti, Jacob? tydi Jwda, nid ufuddheit i mi: mi a droaf at genhedloedd eraill, ac a roddaf iddynt hwy fy enw, fel y cadwont fy nghyf-reithiau.

º25 Gan i chwi fy ngwrthod, minnau a'ch gwrthodaf chwithau: pan ddym-unoch arnaf fod yn drugarog wrthych, ni thrugarhaf wrthych.

º26 Pan alwoch arnaf, ni'ch gwran-dawaf chwi: canys chwi a halogasoch eich dwylo a gwaed, a'ch traed sy gyflym i ladd celain.

º27 Nid myfi a wrthodasoch chwi, ond eich hunain, medd yr Arglwydd.

º28 Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Oni ddeisyfais arnoch, fel y deisyf tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei rhai bychain,

º29 Fod ohonoch yn bobl i mi, a minnau yn Dduw i chwithau; fod o-honoch yn blant i mi, a minnau yn dad i chwithau?

º30 Mi a'ch cesglais chwi ynghyd, megis y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd: ond yn awr beth a wnaf i chwi? mi a'ch bwriaf allan o'm golwg.

º31 Pan offrymoch i mi, mi a droaf fy wyneb oddi wrthych: canys mi a wrthodais eich gwyliau arbennig, eich lleuadau newydd, a'ch enwaediadau.

º32 Danfonais atoch fy ngwasanaeth-wyr y proffwydi, y rhai a ddaliasoch ac a laddasoch, a drylliasoch eu cyrff hwynt yn ddarnau: eu gwaed hwy a ofynnaf fi ar eich dwylo chwi, medd yr Arglwydd.

º33 Fel hyn y dywed yr hollalluog Arglwydd; Eich ty chwi sydd yn ang-hyfannedd: mi a'ch bwriaf chwi allan, fel y gwna'r gwynt y sofl.

º34 A'ch plant ni chenhedlant: canys fy ngorchymyn i a ddiystyrasantj a'r hyn oedd ddrwg ger fy mron i a wnaethant.

º35 Eich tai a roddaf i'r bobl a ddel: y rhai, er na chlywsant son amdanaf, eto a gredant ynof fi; i'r rhai ni ddangosais arwyddion, er hynny hwy a wnant yr hyn a orchmynnais iddynt:

º36 Ni welsant broffwydi, er hynny hwy a gofiant eu pechodau, ac a'u cyffesant.

º37 Yn dyst yr wyf yn galw gras y bobl a ddaw, y rhai y gorfoledda eu plant mewn llawenydd: ac er na'm gwelant i a'u llygaid corfforol, eto yn yr ysbryd hwy a gredant y peth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 38 Ac yn awr, frawd, ystyr pa ogon-iant; a gwel y bobl sydd yn dyfod o'r dwyrain:


º39 I'r rhai y rhoddaf i'w harwain Abraham, Isaac, a Jacob, Oseas, Amos, a Micheas, Joel, Abdias, a Jonas,

º40 Nahum, ac Abacuc, Soffonias, Aggeus, Sachareias, a Malachi, yr hwn a elwir hefyd Angel yr Arglwydd.

PENNOD 2 º1 FEL hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a ddygais y bobl hyn o gaethiwed, ac a roddais iddynt fy ngorchmynion trwy fy ngweision y proffwydi; y rhai ni wrandawent, ond diystyru fy nghyng-horion i a wnaethant.

º2 Y fam a'u dug a ddywed wrthynt, Ewch ymaith, blant: canys gweddw ydwyf, a gwrthodedig.

º3 Mi a'ch megais chwi trwy lawenydd: ond mi a'ch collais chwi trwy alar a thrymder: canys chwi a bech-asoch gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac a wnaethoch y peth oedd ddrwg yn ei olwg ef.

º4 A pha beth a wnaf i chwi y pryd hyn? gweddw ydwyf, a gwrthodedig; ewch i ffordd, fy mhlant, a gofynnwch drugaredd gan yr Arglwydd.

º5 A minnau, O dad, a alwaf arnat ti am dystiolaeth yn erbyn mam y plant hyn, y rhai ni chadwent fy nghyfam-od,

º6 Fel y dygech hwy i waradwydd, a'u mam i anrhaith, fel na byddo epil o-honynt hwy.

º7 Gwasgarer hwynt ar led ymhlith y cenhedloedd; bwrier eu henwau ymaith oddi ar y ddaear: canys diystyr-asant fy nghyfamod.

º8 Gwae dydi, Assur, yr hwn a guddi ynot yr anghyfiawn: tydi bobl anwir, cofia beth a wneuthum i Sodom a Gomorra.

º9 Eu tir a droed yn briddellau pyg, ac yn dyrrau o ludw: felly hefyd y gwnaf i'r sawl ni'm gwrandawant, medd yr Arglwydd hollalluog.

º10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth Esdras; Dywed i'm pobl y rhoddaf iddynt deyrnas Jerwsalem, yr hon a roeswn i Israel.

º11 Eu gogoniant hwy hefyd a gym-eraf i mi, a rhoddaf i'r rhai hyn bebyll tragwyddol, y rhai a ddarparaswn iddynt hwy.

º12 Hwy a gant bren y bywyd yn en-naint o arogl peraidd: ni lafuriant, ac ni ddiffygiant.

º13 Cerddwch, a chwi a dderbyniwch; gweddiwch am ychydig ddyddiau, fel y byrhaer hwynt: paratowyd y deyrnas i chwi eisoes; gwyliwch.

º14 Cymer yn dystiolaeth y nef a'r ddaear: canys myfi a ddrylliais y drwg, ac a wneuthum y da: canys byw wyf fi, medd yr Arglwydd.

º15 Tydi fam, cofleidia dy blant, a mag hwynt trwy lawenydd: gwna eu traed yn sicr fel colofn: canys tydi a ddewisais i, medd yr Arglwydd.

º16 A'r meirw a atgyfodaf fi o'u lle-oedd, ac a'u dygaf allan o'r beddau: canys adnabum fy enw yn Israel.

º17 Tydi fam y plant, nac ofna: canys dewisais di, medd yr Arglwydd.

º18 A danfonaf i'th gynorthwyo Esay a Jeremi fy ngwasanaethwyr, wrth gyngor y rhai y sancteiddiais ac y dar-perais i ti ddeuddeg pren, yn llawn o amryw ffrwythau;

º19 A'r un rhifedi o ffynhonnau yn Uifeirio o laeth a mel; a saith fynydd mawrion yn dwyn rhos a lili, a'r rhai y llanwaf dy blant a llawenydd.

º20 Gwna gyfiawnder i'r weddw, barn i'r amddifad, dyro i'r tlawd, amddiffyn yr amddifad, dillada'r noeth,

º21 lacha'r drylliedig a'r gwan, na watwar y cloff, amddiffyn yr anafus, a gad i'r dall ddyfod i olwg fy nisgleirdeb.

º22 Cadw hen ac ieuanc o fewn dy gaerau.

º23 Pa le bynnag y caffech y marvv, cymer hwynt, a chladd; ac mi a roddaf i ti yr eisteddle bennaf yn fy atgyfod-iad.

º24 Gorffwys, O fy mhobl, a chym-er dy esmwythdra: canys dy lonydd-wch di a ddaw.

º25 Mag dy blant, ti famaeth dda, a chryfha eu traed hwynt.



º26 Ni dderfydd am neb o'th was-anaethwyr a roddais i ti: canys ceisiaf hwynt o fysg dy rifedi di.

º27 Na ddiffygia: canys pan ddel dyddiau blinder ac ing, eraill a wylant ac a alarant, ond tydi a fyddi lawen a diwall.

º28 Y cenhedloedd a genfigennant wrthyt; er hynny nis gallant wneuth-ur dim yn dy erbyn di, medd yr Arglwydd.

º29 Fy nwylo i a'th wasgoda di, fel na welo dy blant uffern.

º30 Ymlawenha, tydi fam, gyda'th blant: canys mi a'th achubaf di, medd yr Arglwydd.

º31 Cofia dy blant, y rhai sydd yn cysgu: canys mi a'u dygaf hwynt o gyrrau'r ddaear, a byddaf drugarog wrthynt: canys trugarog ydwyf, medd yr hollalluog Arglwydd.

º32 Cofleidia dy blant, hyd oni ddel-wyf i ddangos trugaredd iddynt: canys y mae fy ffynhonnau yn myned trosodd, a'm gras ni phalla.

º33 Myfi Esdras a gefais orchymyn gan yr Arglwydd ar fynydd Oreb, i fyned at Israel: ond pan ddeuthum at-ynt, hwy a'm diystyrasant, ac a ddir-mygasant orchymyn yr Arglwydd.

º34 Ac am hynny y dywedaf wrthych chwi genhedloedd, y rhai a glywch ac a ddeellwch, Edrychwch am eich bugail; efe a rydd i chwi orffwystra tragwyddol: canys yr hwn a ddaw ar ddi-wedd y byd, sy gerllaw.

º35 Byddwch barod i wobr y deyrnas: canys y goleuni tragwyddol a lewyrcha arnoch byth.

º36 Ffowch rhag cysgod y byd hwn, derbyniwch lawenydd eich gogoniant: tystiolaethaf fy achubwr yn gyhoedd.

º37 O derbyniwch, rhodd a roddir i chwi, a byddwch lawen, gan ddiolch i'r hwn a'ch galwodd i'r deyrnas nefol.

º38 Codwch, a sefwch; gwelwch rifedi y rhai a nodwyd yng ngwledd yr Arglwydd,

º39 Y rhai a ymadawsant a chysgod y byd, ac a dderbyniasant wisgoedd gogoneddus gan yr Arglwydd.

º40 Cymer dy rifedi, O Seion, cae ar dy rai gwynion y rhai a gadwasant gyf-raith yr Arglwydd.

º41 Cyflawnwyd rhifedi dy blant, y rhai yr wyt yn hiraethu amdanynt: dymuna nerth yr Arglwydd, fel y sanct-eiddier dy bobl, y rhai a alwyd o'r dechreuad.

º42 Myfi Esdras a welais ar fynydd Seion dyrfa o bobl allan o rifedi, a hwynt-hwy i gyd oeddynt yn moli'r Arglwydd ar gerdd:

º43 Ac yn eu canol hwynt yr oedd gwr ieuanc tal o gorffolaeth, yn uwch na'r lleill oil; ac efe a osodes goronau ar bennau pob un ohonynt, ac efe a ddyrchafwyd yn fwy; a hynny oedd ryfedd iawn gennyf fi.

º44 Yna y gofynnais i'r angel, gan ddy-wedyd, Beth yw y rhai hyn, Arglwydd?

º45 Yntau a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Dyma'r rhai a ddiosgasant y dillad marwol, ac a wisgasant yr anfar-wol, ac a gyfaddefasant enw Duw: yn awr y coronir hwynt ac y derbyniant balmwydd.

º46 Ac mi a ddywedais wrth yr angel, Pwy yw y gwr ieuanc sydd yn eu coroni hwynt, ac yn rhoddi palmwydd yn eu dwylo?

º47 A chan ateb efe a ddywedodd wrthyf, Mab Duw yw efe, yr hwn a gyfaddefasant hwy yn y byd. Yna y dechreuais innau eu canmol hwynt yn fawr, y rhai a safasent mor bybyr wrth enw'r Arglwydd.

º48 Yna y dywedodd yr angel wrthyf, Dos ymaith, a dangos i'm pobl pa fath bethau, a pha gymaint o ryfeddodau'r Arglwydd Dduw, a welaist ti.

PENNOD 3 º1 Y DDEGFED flwyddyn ar hugain yn 61 distrywio'r ddinas, yr oeddwn i o fewn Babilon, yn gorwedd ar fy ngwely yn drallodus, a'm meddyliau oedd yn dyfod i fyny ar fy nghalon: 2 Canys mi a welais anghyfanhedd-dra Seion, a golud trigolion Babilon.



º3 A'm hysbryd a gynhyrfwyd yn ddirfawr, a mi a ddechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau llawn o ofn, ac a ddywedais,

º4 O Arglwydd lywydd, ti a ddywed-aist yn y dechrau, pan psodaist y ddaear, a hynny dy hun yn unig, ac a roddaist orchymyn i'r bobl,

º5 Ac a roddaist gorff i Adda dien-aid, yr hwn oedd waith dy ddwylo, ac a anedlaist ynddo anadl einioes, ac efe a wnaed yn fyw ger dy fron di.

º6 A thi a'i dygaist ef i Baradwys, yr hon a blanasai dy ddeheulaw di, cyn dyfod o'r ddaear rhagddi erioed:

º7 A gorchmynnaist iddo garu dy ffordd di, yr hon a droseddodd efe; ac allan o law ti a ordeiniaist ynddo ef farwolaeth, ac yn ei genedlaethau ef, o'r rhai y daeth cenhedloedd, llwythau, pobloedd, a thylwythau, aneirif.

º8 A phob cenedl a rodiodd wrth eu hewyllys eu hun, a hwy a wnaethant bethau rhyfedd yn dy olwg di, ac a ddiystyrasant dy orchmynion.

º9 Ond yn 61 ennyd o amser, ti a ddygaist y dilyw ar uchaf preswylwyr y byd ac a'u difethaist hwynt.

º10 Ac fe ddigwyddodd ym mhawb o-honynt, fel yr oedd marwolaeth i Adda, felly yr oedd y dilyw i'r rhai hyn.

º11 Eto un ohonynt a adewaist ti, sef Noa, a'i deulu, o'r hwn y daeth pob dyn cyfiawn.

º12 A digwyddodd, pan ddechreuodd y rhai oedd yn preswylio ar y ddaear amlhau, a phan oedd iddynt lawer o blant, a phan oeddynt yn bobl lawer, hwy a ddechreuasant wneuthur mwy o anwiredd na'r rhai cyntaf.

º13 A digwyddodd, pan oeddynt yn byw mor annuwiol ger dy fron di, ddewis ohonot i ti wr ohonynt a elwid Abraham:

º14 A hwnnw a geraist ti, a dangosaist iddo ef yn unig dy ewyllys;

º15 A gwnaethost ag ef gyfamod trag-wyddol, gan addo iddo na wrthodid byth ei had ef.

º16 A thi a roddaist iddo ef Isaac, ac

i Isaac y rhoddaist Jacob ac Esau: a] Jacob a ddewisaist i ti, a gwrthodaist Esau; ac felly Jacob a aeth yn genedl fawr.

º17 Yna pan arweiniaist ei had ef allan o'r Aifft, ti a'u dygaist hwynt i fyny i fynydd Seina:

º18 A chan ogwyddo'r nefoedd, ti a sicrheaist y ddaear, ac a gynhyrfaist yr holl fyd, ac a wnaethost i'r dyfnder-oedd grynu, ac a drallodaist ddynion yr oes honno.

º19 A'th ogoniant a aeth trwy bedwar porth, tan, daeargryn, gwynt, ac oerni, fel y gellit roddi cyfraith i had Jacob, a diwydrwydd i genhedlaeth Israel.

º20 Ac ni thynnaist oddi wrthynt hwy galon ddrwg, fel y gallai dy gyfraith di ddwyn ffrwyth ynddynt.

º21 Canys yr Adda cyntaf yn dwyn calon ddrwg, a droseddodd ac a orch-fygwyd; a phawb a'r a anwyd ohono ef ydynt felly.

º22 Fel hyn yr arhosodd gwendid, a'r gyfraith hefyd yng nghalon y bobl, yng-hyd a drygioni'r gwreiddyn, fel yr ymad-awodd yr hyn oedd dda, ac yr arhosodd y drwg.

º23 Ac felly'r amseroedd a gerddasant, a'r blynyddoedd a ddarfuant; yna y codaist i fyny i ti was a elwid Dafydd;

º24 Ac a beraist iddo adeiladu dinas i'th enw di, ac offrwm i ti yno thus ac aberthau.

º25 A hyn a wnaethpwyd dros lawer o flynyddoedd; yna preswylwyr y ddinas a ymadawsant a thi,

º26 Gan wneuthur ym mhob peth fel y gwnaethai Adda a'i holl genedlaethau: canys calon ddrwg oedd ganddynt hwythau hefyd.

º27 Ac felly rhoddaist dy ddinas i ddwylo dy elynion.

º28 A wnant hwy sydd yn preswylio yn Babilon ddim gwell, fel y caent hwy am hynny lywodraeth ar Seion?

º29 Canys pan ddeuthum yno, a gweled drygioni aneirif, yna fy enaid a wel-odd lawer o droseddwyr yn y ddegfed flwyddyn ar hugain hon; a'm calon a ddiffygiodd:


º30 Canys gwelais fel y cyd-ddygaist ti a hwynt yn pechu, ac yr arbedaist y drwgweithredwyr, ac y difethaist dy bobl dy hun, ac y cedwaist dy elynion; ac ni ddangosaist hyn.

º31 Ni fedraf fi feddwl pa fodd y gellir gadael y ffordd hon. Ai gwell gan hynny ydynt hwy o Babilon na hwy o Seion?

º32 Neu a oes pobl i'w cael a'th edwyn di heblaw Israel? neu pa genhedlaeth a gredodd i'th gyfamodau di fel Jacob?

º33 Ac er hynny ni welir mo'u gwobr hwynt, ac nid oes ffrwyth i'w llafur hwy: canys euthum yma a thraw trwy'r cenhedloedd, a gwelaf hwynt yn oludog, ac ni feddyliant am dy orchmynion di.

º34 Am hynny, pwysa mewn dorian ein pechodau ni, a'r eiddynt hwythau hefyd sy'n preswylio yn y byd; ac ni cheffir dy enw yn un lie ond yn Israel.

º35 Neu pa bryd ni phechodd yn dy olwg di y rhai sydd yn preswylio ar y ddaear? neu pa bobl a gadwodd felly dy orchmynion?

º36 Tydi a gei wybod erbyn ei enw mai Israel a gadwodd dy orchmynion, ac nid y cenhedloedd.

PENNOD 4 º1 A'R angel, yr hwn a ddanfonwyd at-af, yr hwn yr oedd ei enw Uriel, a'm hatebodd,

º2 Ac a ddywedodd, Fe aeth dy galon yn rhy bell yn y byd hwn; ac a ydwyt ti yn meddwl amgyffred ffordd y Goruchaf?

º3 Yna y dywedais innau, Gwir, fy Arglwydd. Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Fe a'm hanfonwyd i ddan-gos i ti dair ffordd, ac i roddi tri chy-ffelybrwydd o'th flaen di.

º4 Os dangosi i mi un ohonynt, min-nau a ddangosaf i tithau'r ffordd yr ewyllysi gael ei gweled; a dangosaf i ti o ba le y mae'r galon ddrwg.

º5 A mi a ddywedais, Dywed, fy Arglwydd. Yna y dywedodd efe wrthyf, Dos, pwysa i mi bwys tan, neu fesur i mi'r awel wynt, neu alw yn ei 61 y dydd a aeth heibio.

º6 Yna yr atebais ac y dywedais, Pa ddyn a all wneuthur hynny, fel y gofynnit i mi'r fath bethau?

º7 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Pe gofynnwn i ti pa faint o drigfannau sy yng nghanol y mor, neu pa rifedi o aber-oedd sydd yn nechrau'r dyfnder, neu pa gymaint o ffynhonnau sydd oddi ar y ffurfafen, neu pa le y mae terfynau Paradwys;

º8 Ond antur ti a ddywedit wrthyf, Nid euthum i erioed i'r dyfnder, nac i uffern, ac ni ddringais i'r nefoedd.

º9 Ac yn awr ni ofynnais i ti ond yn unig am y tan, a'r gwynt, a'r dydd a dreuliaist, ac am bethau nis gellir dy neilltuo oddi wrthynt; er hynny ni fedri roddi i mi ateb amdanynt.

º10 Ac efe a ddywedodd wrthyf eil-waith, Nid adwaenost yr eiddot dy hun, na'r pethau a dyfasant gyda thi;

º11 A pha fodd y gall dy lestr di amgyffred ffordd y Goruchaf? a'r byd yn awr wedi ei lygru oddi allan, ddeall y llygredigaeth sydd yn amlwg yn fy ngolwg i?

º12 A dywedais wrtho ef, Gwell a fuasai i ni na buasem, na bod i ni fyw mewn anwireddau; a dioddef, heb wybod paham.

º13 Efe a'm hatebodd, ac a ddywedodd, Mi a euthum i goed mawr ar faes, a'r prennau oedd yn ymgynghori,

º14 Gan ddywedyd, Deuwch, awn i ymladd a'r mor, hyd oni chilio efe rhagom, fel y gallom wneuthur mwy o goedydd.

º15 A llifeiriaint y mor hefyd yr un modd a ymgyngorasant, gan ddywedyd, Deuwch, awn i fyny, a darostyngwn goedydd y maes, fel y gallom wneuthur i ni wlad arall yno hefyd.

º16 A gwnaethpwyd bwriad y coed yn ofer: canys tan a ddaeth ac a'i llosg-odd ef.

º17 Hefyd bwriad llifeiriant y mor a ballodd: canys y tywod a safodd, ac a'i rhwystrodd ef.


º18 Pe byddit ti yn farnwr rhwng y ddau hyn, pa un a gyfiawnheit ti? neu pa un a gondemnit ti?

º19 Mi a atebais, gan ddywedyd, Yn wir ofer oedd eu hamcanion ill dau: canys y tir a roddwyd i'r coed; ac y mae hefyd i'r mor le i fwrw ei donnau.

º20 Yna y'm hatebodd, gan ddywedyd, Ti a fernaist yn gyfiawn: ond pa-ham na ferni dy hun hefyd?

º21 Canys fel y rhoddwyd y tir i'r coed, a'r mor i'w donnau; yn yr un modd y thai a drigant ar y ddaear ni ddeallant ddim ond y pethau sydd ar y ddaear; a'r hwn sydd yn arcs uwch-law'r nefoedd yn unig, a gaiff ddeall y pethau sy goruwch uchder y nefoedd.

º22 Yna yr atebais, gan ddywedyd, Atolwg, Arglwydd, rhodder i mi ddeall:

º23 Canys nid oedd yn fy mryd i ymofyn yn fanwl am bethau uchel, ond am y pethau sy yn myned heibio i ni beunydd; hynny yw, paham y rhoddwyd Israel yn waradwydd i'r cenhed-loedd, a phaham y rhoddwyd y bobl a geraist ti i genhedloedd anwir, a phaham y difethwyd cyfraith ein tadau, ac y dirymwyd yr amodau sgrifenedig.

º24 Ac yr ydym ni yn myned o'r byd fel ceiliogod rhedyn, a'n heinioes nid yw ddim ond ofh a braw, ac ni haeddwn ni drugaredd.

º25 Pa beth a wna efe gan hynny i'w enw, ar yr hwn y'n gelwir? am y pethau hyn yr ymofynnais.

º26 Yna efe a'm hatebodd, gan ddy-wedyd, Po mwyaf yr ymofynnech, rhy-feddach fydd gennyt; canys mae'r byd ar frys i ymado;

º27 Ac ni fedr efe ddeall y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn yr amser sydd yn dyfod; canys llawn yw'r byd o anghyfiawnder a gwendid.

º28 Ond am y pethau yr ymofynnaist a mi, mi a ddywedaf i ti; Drygioni a heuwyd, ond ni ddaeth ei ddinistr ef eto.

º29 Oni ddymchwelir yr hyn a heuwyd, ac onid a y fan lie yr heuwyd y drwg heibio, yna ni ddaw'r hyn a heuwyd a daioni:


º30 Canys grawn yr had drwg a heuwyd yng nghalon Adda o'r dechrau, a pha gym-aint o anwiredd a ddug efe hyd yn hyn? a pha gymaint a ddwg efe eto oni ddel amser dyrnu?

º31 Ystyria ynot dy hun, pa gymaint ffrwyth o anwiredd y mae grawn yr had drwg wedi ei ddwyn;

º32 A phan dorrer y tywys, y rhai sy allan o rifedi, pa lawr dyrnu ei faint a lanwant hwy?

º33 Yna yr atebais, gan ddywedyd, Pa fodd a pha bryd y bydd hyn? paham y mae ein blynyddoedd yn ychydig ac yn ddrwg?

º34 Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Na phrysura di yn uwch na'r Goruchaf: canys yn ofer y prysuri i fod uwch ei law ef; canys dy uchder a aeth yn fawr.

º35 Oni ymofynnodd eneidiau y rhai cyfiawn am y pethau hyn yn eu staf-ellau, gan ddywedyd, Pa hyd y go-beithiaf fel hyn? pa bryd y daw ffrwyth ein llawr dyrnu, a'n gwobr ni?

º36 Jeremiel yr archangel a atebodd hynny, gan ddywedyd, Pan gyflawner rhifedi'r had ynoch; canys efe a bwys-odd y byd mewn clorian;

º37 Wrth fesur y mesurodd efe'r am-seroedd, ac wrth rifedi y rhifodd efe'r amseroedd; ac ni chynhyrfa efe ac ni symuda hwynt, nes cyflawni'r mesur hwnnw.

º38 Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, yr ydym ni oil yn llawn anwiredd.

º39 Ac ysgatfydd er ein mwyn ni y mae na lanwyd ysguboriau y rhai cyfiawn, o achos pechodau y rhai sydd ya, aros ar y ddaear.

º40 Ac efe a'm hatebodd i, gan ddywedyd, Dos ymaith, a gofyn i wraig feichiog, pan gyflawner ei naw mis hi, a all ei chroth hi gadw'r etifedd yn hwy o'i mewn.

º41 A mi a ddywedais, Na all, Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yn y bedd y mae stafelloedd eneidiau yn debyg i groth gwraig.

º42 Canys fel y prysura gwraig wrth esgor i ddianc oddi wrth angen y dra-fael, felly y prysura'r lleoedd hyn i roddi drachefn yr hyn a roddwyd yno.

º43 Dangosir i ti o'r dechrau y pethau a ewyllysi gael eu gweled.

º44 Yna yr atebais, gan ddywedyd, Os cefais ffafr yn dy olwg di, ac od yw bosibl, ac os ydwyf gymwys i hynny,

º45 Dangos i mi, ai mwy sydd i ddyfod nag a aeth heibio, neu a basiodd mwy nag sydd i ddyfod.

º46 Mi a wn beth a basiodd, ond ni wn i beth sydd i ddyfod.

º47 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Saf di o'r tu deau, ac mi a ddehonglaf y gyffelybiaeth i ti.

º48 Ac felly mi a sefais, ac wele, mi a welwn ffwrn boeth yn myned heibio o'm blaen: a digwyddodd, pan aeth y fflam heibio, i mi edrych, ac wele, y mwg oedd yn parhau.

º49 Yn 61 hyn fe aeth heibio o'm blaen i gwmwl yn llawn o ddwfr, ac efe a ollyngodd i lawr gurlaw mawr; a phan ddarfu'r curlaw, y defnynnau a barhasant.

º50 Yna y dywedodd efe wrthyf, Ystyria ynot dy hun: megis y mae'r glaw yn fwy na'r defnynnau, a'r tan yn fwy na'r mwg: ond y defnynnau a'r mwg sydd yn aros ar 61: felly y rhagora'r mesur a aeth heibio.

º51 Yna y dymunais, gan ddywedyd, A dybygit ti y byddwn i byw hyd y dyddiau hynny? neu pa beth a ddi-gwydd yn y dyddiau hynny?

º52 Efe a'm hatebodd i, gan ddywedyd, Am yr arwyddion a ofynnaist i mi, mi a fedraf ddywedyd peth i ti: ond am dy einioes, ni'm danfonwyd i ddangos i ti; ac nis medraf.

PENNOD 5

º1 AC am yr arwyddion, wele, y dydd-•** iau a ddaw, pan ddalier trigolion y ddaear yn rhifedi mawr; a ffordd y gwirionedd a guddir, a'r tir a fydd diffrwyth o ffydd.

º2 A drygioni a chwanega yn fwy

º28 na'r hyn a weli di yn awr, neu'r hyn a glywaist er ys talm.

º3 A'r wlad yr hon a weli di yn awr a gwreiddyn iddi, a gei di ei gweled yn ddisymwth yn anghyfannedd.

º4 Ond os y Goruchaf a rydd i ti hoedl, ti a gei weled yn 61 y trydydd utgorn, y tywynna'r haul yn ddisymwth y nos, a'r lleuad dair gwaith yn y dydd:

º5 A gwaed a ddifera o'r coed, a'r garreg a lefara, a'r bobl a drallodir:

º6 A'r neb ni ddisgwyl preswylwyr y ddaear amdano, a deyrnasa; a'r adar a newidiant drigfannau:

º7 A mor Sodom a fwrw allan bysgod, ac a rua'r nos, yn ddieithr i lawer; ond pawb a gaiff glywed ei lais ef:

º8 A phethau fydd allan o drefn yn llawer lie, a'r tan a yrrir allan drachefn yn fynych, a'r anifeiliaid gwylltion a newidiant eu Ueoedd, a'r gwragedd mis-glwyfus a esgorant ar angenfilod:

º9 A dwfr hallt a geir yn y croyw, a chyfeillion a ddistrywiant bob un ei gilydd, a'r synnwyr a guddir; a deall a neilltuir i le dirgel,

º10 A llawer a'i cais, ac nis cant: ac anghyfiawnder ac anniweirrteb a amlheir ar y ddaear. n A'r naill wlad a ofyn i'r Hall, gan ddywedyd, A aeth cyfiawnder, yr hon a wna ddyn yn gyfiawn, trwot ti? a hithau a ddywed, Naddo.

º12 Y pryd hynny y gobeithia pobl, ac nis caffant ddim; llafuriant, a'u ffyrdd ni Iwydda.

º13 Cefais gennad i ddangos i ti y cyfryw arwyddion: os tydi a weddii eilwaith, ac os wyli fel yn awr, ac os ymprydi saith niwrnod, ti a gei glywed pethau mwy na hyn.

º14 Yna mi a ddeffroais, ac fe aeth trwy fy holl gorff ofn dirfawr, a'm meddwl a drallodwyd, fel y llewygodd.

º15 A'r angel yr hwn a ddaeth i ym-ddiddan a mi, a'm daliodd i, ac a'm cysurodd, ac a'm gosododd ar fy nhraed.

º16 A digwyddodd, yr ail nos i Salath-


iel tywysog y bobl ddyfod ataf gan ddywedyd, Pa le y buost ti? a phaham y mae mor drwm yr olwg arnat?

º17 Oni wyddost ti ddarfod gorchymyn Israel i ti yng ngwlad eu caethiwed?

º18 Cyfod gan hynny, a bwyta fara, ac na ad ddim ohonom ni, fel bugail a adawai ei ddefaid yn nwylo bleiddiaid creulon.

º19 Yna y dywedais wrtho, Dos ym-aith oddi wrthyf, ac na thyred ataf fi. Ac efe a1 glybu yr hyn a ddywedais, ac a aeth oddi wrthyf.

º20 A mi a ymprydiais saith niwrnod, gan alaru ac wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.

º21 Ac ymhen y saith niwrnod, meddyl-iau fy nghalon oedd yn flinion aruthr wrthyf eilwaith.

º22 A'm henaid a gymerodd drachefn ysbryd deall, a mi a ddechreuais draethu ymadroddion gerbron y Goruchaf;

º23 A dywedais, O Arglwydd lywydd, o holl goed y ddaear, ac o'u holl bren-nau, tia ddewisaist unlwinwydden yn unig;

º24 O holl diroedd yr holl fyd, ti a ddewisaist i ti un pydew; ac o'i holl flodau ef, un lili;

º25 Ac o holl ddyfnderau'r mor, ti a lenwaist un afon; ac o'r holl ddinas-oedd a adeiladwyd, ti a sancteiddiaist Seion i ti dy hun;

º26 Ac o'r holl ehediaid a grewyd, ti a enwaist i ti un golomen; ac o'r holl anifeiliaid a wnaed, ti a ddarperaist i ti un ddafad;

º27 Ac ymysg holl liaws pobloedd, ti a enillaist i ti un genedl: a rhodd-aist i'r genedl honno a geraist, gyfraith sy gymeradwy gan bawb.

º28 Ac yn awr, Arglwydd, paham y rhoddaist i fyny yr un genedl hon i lawer? ac y gosodaist eraill ar yr un gwreiddyn? a phaham y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith llaweroedd?

º29 A'r thai a wrthwynebasant dy addewidion, ac ni chredasant dy gyfam-odau, a'u sathrasant hwy i lawr.

º30 Os gan gasau y caseaist dy bobl, dy ddwylo di a ddylai eu cosbi hwynt.


º31 Ac wedi i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd yr angel ataf, yr hwn a ddaethai ataf y nos o'r blaen;

º32 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gvvran-do arnaf, a mi a'th ddysgaf; ystyr y peth a draethwyf, a mi a ddangosaf i ti fwy.

º33 A mi a ddywedais wrtho, Dywed., fy Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ydwyt yn fawr trallod dy feddwl er mwyn Israel: a wyt ti yn caru'r bobl hynny yn well nag y mae'r hwn a'u gwnaeth hwynt?

º34 A dywedais, Nac wyf, Arglwydd; ond o wir ofid y lleferais: canys fy aremiau a'm penydiant bob awr, wrth geisio deall ffordd y Goruchaf ac wrth chwilio am ran o'i farnedigaethau ef.

º35 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ni elli di hynny. A dywedais innau, Pa-ham, Arglwydd? i ba beth y'm gan-wyd? neu pa achos na bu groth fy mam yn fedd i mi, fel na chawswn weled poen Jacob, a blinder had Israel?

º36 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhifa i mi y pethau sydd eto heb ddyfod, casgl ynghyd y defnynnau sydd ar led, a gwna'r llysiau gwywon yn leision eilchwyl,

º37 Agor i mi y lleoedd caeedig, a dwg allan i mi y gwyntoedd a gaewyd yn-ddynt, dangos i mi lun lleferydd; ac yna y dangosaf i tithau y peth yr wyt yn ymboeni i'w weled.

º38 A mi a ddywedais, O Arglwydd lywydd, pwy a all wybod y pethau hyn, ond y neb nid yw ei drigfa ymhlith dynion?

º39 A minnau, annoeth ydwyf: pa fodd wrth hynny y gallaf ddywedyd am y pethau y gofynnaist i mi?

º40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Fel na fedri wneuthur un o'r pethau hyn a enwyd, felly ni elli gael allan fy marn i, neu'r caredigrwydd a addewais i'in pobl yn y diwedd.

º41 Yna mi a ddywedais, Wele, O Arglwydd, cyfagos wyt ti at y rhai a fydd-ant yn y diwedd; a pha beth a wna y rhai a fu o'm blaen i? neu ninnau y

rhai ydym yr awr hon, neu y rhai a ddaw ar ein hoi ni?

º42 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cy-ffelybaf fy marn i fodrwy: fel nad oes annibendod o'r diwethaf, felly nid oes brysurdeb o'r cyntaf.

º43 Minnau a atebais, gan ddywedyd, Oni allasit ti wneuthur y rhai sy wedi eu gwneuthur, a'r rhai sydd yn awr, a'r rhai a ddaw, ar unwaith, fel y dangosit dy farn yn gynt?

º44 Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Ni all y creadur brysuro uwch-law y Creawdwr, ac ni all y byd gyn-nwys ar unwaith y rhai a wneir ynddo ef.

º45 A minnau a ddywedais, Fel y dywedaist i'th was, mai tydi, yr hwn a fywhei bob peth, a roddaist fywyd ar unwaith i'r creadur a wnaethost, a'r creadur a'i dioddefodd; felly y gallai efe gynnwys y rhai sydd yn awr ar unwaith.

º46 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gofyn i groth gwraig, a dywed wrthi, Os wyt ti yn dwyn plant, paham na wnei di hynny ar unwaith, ond y naill ar 61 y Hall? dymuna arni gan hynny ddwyn deg ar unwaith.

º47 A mi a ddywedais, Ni ddichon hi: eithr rhaid iddi wneuthur hynny wrth ysbaid amscr.

º48 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly minnau a roddais groth y ddaear i'r rhai a heuwyd ynddi yn eu hamser-oedd:

º49 Canys megis na ddichon dyn bach ieuanc ddwyn i'r byd y pethau a berthyn-ant i'r oedrannus, felly y trefnais i y byd yr hwn a wneuthum.

º50 Ac mi a ofynnais, ac a ddywedais, Gan i ti yn awr roddi i mi y ffordd, myfi a af rhagof i lefaru o'th flaen di: canys ein mam ni, yr hon a ddywedaist i mi ei bod yn ieuanc, sydd yn awr yn heneiddio.

º51 Efe a'm hatebodd i, gan ddywedyd, Gofyn i wraig sydd yn planta, a hi a ddywed i ti:

º52 Dywed wrthi hi, Paham nad yw y plant a ddygaist yn awr, debyg i'r rhai o'r blaen, ond yn llai o gorffol-aeth?

º53 A hithau a'th etyb, Un fath sydd ar y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenc-tid, a math arall ar y rhai a anwyd yn amser oedran, pan oedd y groth yn pallu.

º54 Ystyria dithau gan hynny, fel yr ydych chwi yn llai o gorffolaeth na'r rhai a fu o'ch blaen chwi;

º55 Ac felly y mae'r rhai a ddaw ar eich 61 chwi yn llai na chwithau, megis creaduriaid yn dechrau heneiddio ac wedi myned dros gryfder ieuenctid.

º56 A dywedais, Atolwg i ti, Arglwydd, os cefais ffafr yn dy olwg di, dangos i'th was trwy bwy yr ymweli a'th greadur.


PENNOD 6

º1 AC efe a ddywedodd wrthyf, Yn y **• dechreuad pan wnaethpwyd y ddaear, cyn gosod terfynau'r byd, cyn chwythu o'r gwyntoedd,

º2 Cyn clywed trwst y taranau, cyn gweled disgleirdeb y mellt, cyn gosod seiliau Paradwys,

º3 Cyn gweled y blodau prydferth, cyn sicrhau'r nerthoedd symudadwy, cyn casglu ynghyd y lliaws aneirif o angylion,

º4 Cyn dyrchafu uchelderau'r awyr, cyn enwi mesuroedd y ffurfafen, cyn gwres-ogi'r ffumerau yn Seion,

º5 Ac o flaen chwilio am y blynydd-oedd presennol, a chyn troi dychmyg-iadau y rhai sydd y pryd hyn yn pechu, cyn selio y rhai a gadwasant y ffydd yn drysor;

º6 Y pryd hynny yr ystyriais y pethau hyn; a gwnaethpwyd hwynt oil trwof fi yn unig, ac nid trwy arall: a'u diwedd hwynt fydd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.

º7 Yna yr atebais, gan ddywedyd, Beth fydd gwahaniad yr amseroedd? a pha bryd y bydd diwedd y cyntaf, a dechreuad yr hwn sydd yn canlyn?

º8 Ac efe a ddywedodd wrthyf, O


Abraham hyd Isaac, pan anwyd iddo ef Jacob ac Esau, llaw Jacob o'r dech-rau a ddaliodd sawdl Esau:

º9 Canys Esau yw diwedd y byd hwn, a Jacob yw dechrau'r byd sydd i ddy-fod.

º10 Elaw dyn sy rhwng sawdl a llaw. Na ofyn i mi mwy, Esdras.

º11 Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, os cefais ffafr yn dy olwg,

º12 Atolwg, dangos i'th was ddiwedd dy arwyddion, y rhai y dangosaist i mi ran ohonynt y nos ddiwethaf.

º13 Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Cyfod ar dy draed, a gwrando lef gref soniarus:

º14 Daw fel daeargryn: ond y lie yr ydwyt yn sefyll arno nid ysgog.

º15 Gan hynny pan lefaro efe, nac ofna di; canys am y diwedd y mae'r gair, ac am sylfaen y ddaear y deellir ef.

º16 A phaham? oblegid y mae'r ym-adrodd am y pethau hyn yn crynu ac yn cynhyrfu: canys efe a wyr y bydd rhaid newid diwedd y pethau hyn.

º17 A digwyddodd pan glywais, mi a godais ar fy nhraed, ac a wrandewais, ac wele lef yn llefaru, a'i swn ydoedd fel swn llawer o ddyfroedd.

º18 A hi a ddywedodd, Wele, y dydd-iau sydd yn dyfod, y dechreuaf nesau i ymweled a phreswylwyr y ddaear,

º19 Ac y dechreuaf ymofyn amdan-ynt, pa beth ydynt hwy a wnaethant niwed yn anghyfiawn a'u hanghyf-iawnder? a pha bryd y cyflawnir cys-tudd Seion?

º20 A phan selier y byd yr hwn a ddechrau fyned heibio, yna y gwnaf fi yr arwyddion hyn: Y llyfrau a agorir o flaen y ffurfafen, a phawb a gaiff weled ar unwaith;

º21 A phlant blwyddiaid a lefarant a 'u lleferydd; gwragedd beichiogion a esgor-ant ar blant cyn eu hamser ar ben y trimis neu'r pedwar mis, a byw fydd-ant, a chyfodir hwynt i fyny.

º22 Ac yn ddisymwth yr ymddengys y mannau a heuwyd, fel y mannau nis heuwyd, a'r celloedd llawn a geir yn i wag yn ddisymwth.

º23 A'r utgorn a gan, a phawb, pan ei clywant, a ofnant yn ddisymwth.

º24 A'r pryd hynny yr ymladd cyfeill-ion a'i gilydd fel gelynion, a'r ddaear a ofna a'r rhai a drigant ynddi, a llygaid y ffynhonnau a safant, ac ni redant dros dair awr.

º25 A phwy bynnag a ddihango rhag y pethau hyn oil a ddangosais i ti, a fydd cadwedig, ac a gaiff weled fy iachawd-wriaeth, a diwedd eich byd chwi.

º26 Y rhai a dderbyniwyd a welant, y rhai ni phrofasant angau er pan eu gan-wyd hwynt: a chalon y preswylwyr a newidir, ac a droir i feddwl arall:

º27 Canys bwrir ymaith ddrygioni, a diffoddir twyll;

º28 A ffydd a flagura; a llygredigaeth a orchfygir; gwirionedd, yr hon a fu cyhyd yn ddiffrwyth, a ddangosir.

º29 A phan ymddiddanodd efe a myfi, wele, mi a edrychais bob ychydig ac ychydig ar yr hwn yr oeddwn yn sefyll ger ei fron.

º30 Ac efe a ddywedodd y geiriau hyn wrthyf, Mi a ddeuthum i ddangos i ti amser y nos sydd yn dyfod.

º31 Os tydi a weddii eto ychwaneg, ac a ymprydi saith niwrnod drachefn, myfi a fynegaf i ti liw dydd fwy nag a glywais.

º32 Canys y Goruchaf a glywodd dy leferydd, y Galluog a welodd dy union-deb, ac a welodd y diweirdeb oedd gennyt o'th ieuenctid.

º33 Ac am hynny efe a'm hanfonodd i ddangos i ti y pethau hyn oil, ac i ddywedyd wrthyt, Bydd gysurus, ac nac ofna;

º34 Ac na phrysura gyda'r amseroedd a aeth heibio, i feddwl oferedd, fel na phrysurech oddi wrth yr amseroedd diwethaf.

º35 Ac yn 61 hyn yr wylais drachefn, ac yr ymprydiais saith niwrnod eraill, fel y gallwn gyflawni'r tair wythnos a ddywedasai efe wrthyf.


º36 A'r wythfed nos yr oedd fy nghal-on yn flin o'm mewn drachefn, a mi a ddechreuais lefaru gerbron y Goruchaf;

º37 Canys fy ysbryd a enynnodd yn ddirfawr, a'm henaid oedd mewn caledi.

º38 A mi a ddywedais, O Arglwydd, ti a ddywedaist o ddechrau y greadigaeth, y dydd cyntaf, gan ddywedyd fel hyn, Gwneler nef a daear: a'th air a aeth yn waith perffaith.

º39 A'r amser hwnnw yr ydoedd yr Ysbryd, a'r tywyllwch oedd o amgylch, a distawrwydd; a sain lleferydd dyn nid oedd wedi ei lunio eto.

º40 Yna y gorchmynnaist i oleuni dis-glair ddyfod allan o'th drysorau, fel yr ymddangosai dy waith di.

º41 Yr ail dydd y gwnaethost ysbryd y ffurfafen, a gorchmynnaist iddo ym-rannu, a gwneuthur dosbarth rhwng y dyfroedd, fel y gallai'r naill ran fyned i fyny, a'r rhan arall aros i waered:

º42 A'r trydydd dydd y gorchmynnaist i'r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear; chwe rhan a sychaist ac a gedwaist, fel y byddai i rai o'r rhain, wedi eu plannu gan Dduw, a'u llafurio, dy wasanaethu di;

º43 Canys cyn gynted ag yr aeth dy air di allan, yr oedd y gwaith wedi ei wneuthur:

º44 Canys yn ddisymwth yr oedd ffrwyth mawr ac aneirif, a llawer ac amryw felystra i'r bias, a llysieuau o ddigoll liwiau, ac aroglau o arogl rhy-feddol. A hyn a wnaethpwyd y trydydd dydd.

º45 Y pedwerydd dydd y gorchmynnaist i'r haul dywynnu, ac i'r lleuad lewyrchu, ac i'r ser fod mewn trefn:

º46 A gorchmynnaist iddynt wasan-aethu'r dyn, yr hwn oedd i*w wneuthur.

º47 A'r pumed dydd y dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r ydoedd y dyfroedd wedi ymgasglu ynghyd, am iddi ddwyn creaduriaid byw, adar, a physgod: ac felly y bu.

º48 Y dwfr mud, ac heb fyw ynddo, wrth amnaid Duw a ddygodd bethau byw, fel y gallai pob cenedl foliannu dy weithredoedd rhyfedd di.

º49 Yna ti a ordeiniaist ddau greadur byw; y naill a elwaist Enoch, a'r Hall Lefiathan.

º50 A didokist y naill oddi wrth y Hall: canys y seithfed ran, lie yr ydoedd y dyfroedd wedi ymgynnull, nis gallai eu dal hwynt ill dau.

º51 A thi a roddaist i Enoch y naill ran, yr hon a sychwyd y trydydd dydd, fel y gallai efe aros yno, lie y mae mil o fryniau.

º52 Ond i Lefiathan y rhoddaist y seithfed ran, yr hon sydd wlyb: a chedwaist ef i'w ddifetha gan y neb a fynnech, a phan fynnech.

º53 A'r chweched dydd y gorchmynnaist i'r ddaear ddwyn allan o'th flaen di anifeiliaid, bwystfilod, ac ymlusgiaid;

º54 Ac ar 61 y pethau hyn Adda hefyd, yr hwn a ordeiniaist yn dywysog ar dy noil greaduriaid; ac ohono ef y daeth-om ni oil, a'r bobl a ddewisaist ti hefyd.

º55 Hyn oil a ddywedais ger dy fron di, O Arglwydd, am i ti wneuthur y byd er ein mwyn ni.

º56 Am y bobl eraill, y rhai hefyd sydd yn dyfod o Adda, ti a ddywedaist nad ydynt ddim, ond eu bod yn debyg i boeryn; a thi a gyffelybaist eu golud hwy i ddefnyn yn syrthio oddi wrth lestr.

º57 Am hynny yn awr, O Arglwydd, wele, y cenhedloedd hyn, y rhai a gyf-rifwyd erioed megis diddim, a ddech-reuasant arglwyddiaethu arnom ni, a'n difetha.

º58 A ninnau dy bobl di, yr hwn a elwaist yn gyntaf-anedig i ti, yn unig-anedig, a'r hwn a'th gar di yn gu, a roddwyd i'w dwylo hwynt.

º59 Ac os gwnaethpwyd y byd er ein mwyn ni, paham nad ydym ni yn meddiannu etifeddiaeth gyda'r byd? pa hyd y pery hyn? A


PENNOD 7

º1 A PHAN ddarfu i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd ataf yr


angel a ddanfonasid ataf y nosweithiau o'r blaen;

º2 A dywedodd wrthyf, Cyfod, Es-dras, a gwrando'r geiriau y deuthum i'w mynegi i ti.

º3 A dywedais innau, Dywed, fy Nuw. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y mor a osodwyd mewn He eang, fel y byddo efe yn ddwfn, ac yn fawr.

º4 Eithr bwrw fod mynediad cyfyng i mewn iddo, ac yn debyg i afon:

º5 Pwy wrth hynny a allai fyned i'r mor i edrych arno ef, ac i'w lywod-raethu? os efe nid ai trwy'r lie cyfyng, pa fodd y gallai efe ddyfod i'r lie eang?

º6 Hefyd drachefn; Dinas a adeilad-wyd ac a osodwyd ar faes gwastad, ac y mae hi yn llawn o bob peth da.

º7 Y mynediad i mewn iddi sy gul, wedi ei osod mewn lie enbyd i syrthio; fel pe byddai dan ar y Haw ddeau, a dwfr dwfn ar y Haw aswy,

º8 Ac un llwybr yn unig rhyngddynt ill dau, sef rhwng y tan a'r dwfr, cyn Ueied ag nas gall ond un dyn fyned yno ar unwaith.

º9 Yr awron, pe rhoddid y ddinas hon i wr yn etifeddiaeth, os efe nid a fyth trwy'r perygl a osodwyd o'i blaen hi, pa fodd y derbyn efe'r etifeddiaeth hon?

º10 A dywedais, Felly y mae, Ar-glwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly hefyd y mae rhan Israel.

º11 Canys er eu mwyn hwy y gwneuth-um i y byd: a phan dorrodd Adda fy ngorchmynion i, yna yr ordeiniwyd y peth sydd yn awr wedi ei wneuthur.

º12 Yna y gwnaethpwyd mynediadau i mewn i'r byd hwn yn gyfyng, yn llawn tristwch a llafur, yn ychydig, yn ddrwg, yn llawn perygl a phoen.

º13 Canys dechreuad y byd hynaf oedd eang a diberygl, ac yn dwyn ffrwyth anfarwol.

º14 Gan hynny os y rhai sy fyw nid ymegniiant i fyned i mewn trwy'r cyfyng a'r ofer bethau hyn, nis gallant byth dderbyn y pethau a roddwyd i gadw iddynt.

º15 Wrth hynny paham y'th aflon-yddi dy hun, gan dy fod yn llygredig? a phaham y cynhyrfi, gan dy fod yn farwol?

º16 Paham nad wyt yn ystyried yn dy galon y peth sydd i ddyfod, yn hyt-rach na'r peth sy bresennol?

º17 Atebais innau, a dywedais, O Ar-glwydd lywydd, wele, ti a ordeiniaist trwy dy gyfraith i'r rhai cyfiawn fedd-iannu'r pethau hyn, ac i'r anghyflawn fethu.

º18 Er hynny y cyfiawn a ddioddefant gyfyngder, ac a obeithiant ehangder: a'r sawl a wnaeth anghyfiawnder a ddioddefasant gyfyngder, ac ni chant weled ehangder.

º19 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Nid oes farnwr uwchlaw Duw, na neb yn deall yn well na'r Goruchaf:

º20 Canys llawer a gollir yn y bywyd hwn, o achos diystyru cyfraith Dduw, yr hon sydd wedi ei gosod o'u blaen hwynt;

º21 Canys gan orchymyn y gorch-mynnodd Duw i'r rhai a ddaeth, ie, fel y daethant, pa beth a wnaent i fyw, a pha beth a gadwent, fel nas ceryddid hwynt.

º22 Er hynny nid ufuddhasant iddo ef, ond dywedyd a wnaethant yn ei erbyn ef, a meddwl oferedd.

º23 A chan eu hamgylchu eu hun a'u beiau, hwy ar ddywedasant am y Goruchaf, nad oedd efe; ac nid adnabuant ei ffyrdd ef;

º24 Ond ei gyfraith ef a ddiystyras-ant, a gwadasant ei gyfamodau ef, ac ni buant ffyddlon yn ei gyfreithiau ef, ac ni chyflawnasant ei weithredoedd ef.

º25 Am hyn, Esdras, i'r gwag y mae'r pethau gweigion, ac i'r llawn y pethau llawnion.

º26 Ac wele, yr amser a ddaw, y cyf-lawnir yr arwyddion a ddywedais i ti, a'r briodasferch a ymddengys, a hi a welir yn dyfod allan, yr hon sydd yn awr wedi ei thynnu oddi ar y ddaear.

º27 A phawb a'r a ddihango oddi wrth y


drygioni uchod, a gaiff weled fy rhy-feddodau i;

º28 Canys fy mab Iesu, a'r rhai sydd gydag ef, a ddatguddir; a'r rhai a adewir a lawenychant o fewn pedwar cant o flynyddoedd.

º29 Yn 61 y blynyddoedd hyn y bydd marw fy mab Crist, a phob dyn byw.

º30 A'r byd a droir i'r hen ddistaw-rwydd saith niwrnod, fel yn y barn-edigaethau cyntaf; fel na adawer neb.

º31 A digwydd, yn 61 saith niwrnod, y cyfodir y byd hwn sydd eto heb ddeffro, a'r peth Uygredig a fydd marw.

º32 A'r ddaear a ddyry drachefn y rhai sydd yn cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sydd yn aros ynddo mewn distawrwydd, a'r ceUoedd yr eneidiau a roddwyd iddynt hwy.

º33 A cheir gweled y Goruchaf ar orseddfainc barn, a phob trueni a a ymaith, a dioddefgarwch a gaiff ddiben.

º34 Ond barn yn unig a erys, y gwir-ionedd a saif, a ffydd a gryfha:

º35 A'r weithred a ganlyn, a'r gwobr a ddangosir, a'r gweithredoedd da a fyddant mewn grym, a gweithredoedd drwg ni lywodraethant.

º36 A mi a ddywedais, Yn gyntaf Abraham a wedd'iodd dros y Sodom-iaid, a Moses dros y tadau a bechasant yn yr anialwch;

º37 A Jesus ar ei 61 yntau dros Israel yn amser Achan;

º38 A Samuel a Dafydd dros y din-istr, a Salomon dros y rhai oedd i ddyfod i'r cysegr;

º39 A HeHas dros y rhai a gawsant law, a thros y marw, er cael ohono fyw;

º40 Ac Eseceias dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer dros laweroedd.

º41 Felly yn awr gan fod llygredig-aeth wedi tyfu, ac anwiredd wedi aml-hau, a gwedd'io o'r cyfiawn dros yr annuwiol; paham na bydd felly yr awr hon hefyd?

º42 Ac efe a'm hatebodd, gan ddy-wedyd, Nid y bywyd presennol hwn yw'r diwedd, He mae gogoniant lawer yn aros: am hynny y gweddiasant dros y gweiniaid.

º43 Eithr dydd y farn a fydd diwedd yr amser hwn, a dechreuad yr anfar-woldeb sydd i ddyfod, yn yr hwn y diflannodd pob Uygredigaeth,

º44 Y dibennwyd anghymedroldeb, y torrwyd ymaith anffyddlondeb, y tyf-odd cyfiawnder, ac y blagurodd gwirion-edd.

º45 Y pryd hynny nis gall neb achub yr hwn a gollwyd, na gorthrymu'r neb a orchfygodd.

º46 Ac mi a atebais, gan ddywedyd, Dyma'r gair a ddywedais yn gyntaf, ac yn ddiwethaf, mai gwell a fuasai na roddasid y ddaear i Adda, neu, pan roddwyd hi, lestair iddo bechu:

º47 Canys pa lesad i ddynion fyw yn y byd presennol hwn mewn trymder, ac yn 61 marwolaeth disgwyl am gosbedig-aeth?

º48 O dydi Adda, pa beth a wnaethost? er i ti bechu, nid yw hynny yn gwymp i ti dy hun yn unig, ond i ninnau oil, y rhai a ddaethom ohonot ti.

º49 Canys pa les i ni, os addawyd i ni amser tragwyddol, a ninnau wedi gwneuthur y gweithredoedd a ddygant i farwolaeth?

º50 Ac er addo i ni obaith tragwyddol, ninnau wedi myned yn annuwiol iawn a wnaethpwyd yn ofer?

º51 Ac er darparu i ni drigfannau iechyd a diogelwch, a ninnau yn byw yn annuwiol?

º52 Ac er darparu gogoniant y Goruchaf i amddiffyn y rhai a fuant fyw yn ddioddefgar, a ninnau yn rhodio ar hyd y ffyrdd annuwiolaf o gwbl?

º53 Ac er dangos i ni Baradwys a'i ffrwyth yn parhau yn dragwyddol, yn yr hwn y mae diogelwch a meddygin-iaeth, a ninnau heb gael myned i mewn iddi?

º54 (Canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd anhawddgar.)

º55 Ac er disgleirio o wynebau y rhai a arferasant ddirwest, yn oleuach na'r ser,


a'n hwynebau ninnau yn dduach na'r tywyllwch?

º56 Canys tra fuom fyw, ac yn gwneuth-ur anwiredd, ni feddyliasom ni y caem ddioddef am hynny yn 61 marwolaeth.

º57 Ac efe a atebodd, gan ddywedyd, Dyma ddull yr ymdrech a ymdrecha'r dyn a aner ar y ddaear;

º58 Pel, os gorchfygir ef, y caffo ddioddef yr hyn a ddywedaist; ond os efe a orchfyga, y caffo dderbyn y peth a ddy-wedaf.

º59 Canys hon yw'r einioes, am yr hon y dywedodd Moses, pan ddaeth efe at y bobl, gan ddywedyd, Dewis i ti einioes, fel y byddech byw.

º60 Er hynny ni choeliasant ef, na'r proffwydi ar ei 61 ef, na minnau chwaith, yr hwn a ddywedais wrthynt,

º61 Na byddai y fath drymder yn eu dinistr hwy, ac y bydd llawenydd ar y rhai a berswadiwyd i iachawdwriaeth.

º62 Mi a atebais, gan ddywedyd, Gwn, Arglwydd, mai trugarog y gelwir y Goruchaf, am ei fod yn drugarog i'r rhai ni ddaethant etc i'r byd,

º63 Ac yn drugarog wrth y rhai hefyd a droant at ei gyfraith ef;

º64 A'i fod yn ddioddefgar ac yn hir-ymarhous wrth y rhai a bechasant, megis wrth ei greaduriaid;

º65 A'i fod yn hael; canys y mae yn barod i roddi, lie mae rhaid;

º66 A'i fod yn fawr ei drugaredd; canys y mae yn amlhau ei drugareddau fwyfwy tuag at y rhai presennol, a'r rhai a basiodd, a'r rhai a ddaw.

º67 Canys os efe ni amlha ei drugareddau, ni pharhai y byd gyda'r rhai a etifeddant ynddo.

º68 Hefyd, efe a faddau: canys oni wn&i efe felly o'i ddaioni, fel y byddai i'r rhai a wnaethant anwireddau gael esmwythdra oddi wrthynt, ni fyddai fyw y ddeg filfed ran o ddynion.

º69 Ac oni bai iddo ef, yr hwn sydd Farnwr, faddau i'r rhai a iachawyd trwy ei air ef, a dileu eu haml ymrysonion,

º70 Ysgatfydd ychydig iawn a adewid mewn lliaws aneirif.

º PENNOD 8

º1 AC efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, •**• Y Goruchaf a wnaeth y byd hv i lawer; ond y byd a ddaw i ychydig.

º2 Esdras, dangosaf i ti gyffelybrwydd, fel pan ofynnech i'r ddaear, hithau a'th etyb ei bod hi yn rhoddi llawer o bridd, o'r hwn y gwneir llestri pridd, ond ychydig o'r hwn y daw'r aur allan: felly y mae am waith y byd hwn:

º3 Llawer a wnaethpwyd, ond ychydij a fydd cadwedig.

º4 Yna yr atebais, gan ddywedyd, ^ fy enaid, llwnc di synnwyr a thraf-lynca ddeall:

º5 Canys cytunaist i wrando, ac ewyll-ysgar ydwyt i broffwydo: canys nid oes i ti ysbaid hwy nag yn unig i fyw.

º6 O Arglwydd, oni roddi di gennad i'th was i erfyn arnat, ar i ti roddi had i'n calon, a llafurwaith i'n deall, fel y del ffrwyth ohono; pa fodd y gall pob dyn llygredig fyw, a'r y sydd yn dwyn lie dyn?

º7 Canys ti wyt unig, a ninnau oil ydym waith dy ddwylo di, fel y dy-wedaist.

º8 Canys pan lunier y corff yng nghroth y fam, a phan roddech aelodau iddo, dy greadur a gedwir mewn tan a dwfr, a naw mis y dioddef dy waith dy greadur a luniwyd ynddi.

º9 Ond y peth sydd yn cadw, a'r peth a gedwir, a ddihangant ill dau: a phan ddelo'r amser, y groth a gadwed a ddyry'r pethau a dyfodd ynddi.

º10 Canys ti a orchmynnaist allan o aelodau'r corff, sef o'r bronnau, roddi llaeth, yr hwn yw ffrwyth y bronnau,

º11 Fel y gallo'r peth a luniwyd gael ei fagu dros amser, hyd oni threfnech ef i'th drugaredd.

º12 Megaist ef trwy dy gyfiawnder, meithrinaist ef yn dy gyfraith, a cher-yddaist ef a'th farn :

º13 A thi a'i marwolaethi ef fel dy greadur, ac a'i bywhei ef fel dy waith.

º14 Os distrywi gan hynny y peth a luniwyd trwy gymaint o boen, wrth dy orchymyn di, hawdd oedd gadw y peth a wnaethpwyd.

º15 Gan hynny, Arglwydd, mi a lefar-af, (am bob dyn yn gyffredinol gorau y gwyddost ti,) am dy bobl di, dros y rhai yr ydwyf yn drist;

º16 Ac am dy etifeddiaeth, dros y rhai yr ydwyf yn galaru; ac am Israel, am yr hwn yr ydwyf yn drist: ac am Jacob, er mwyn yr hwn y'm trallodir.

º17 Am hynny y dechreuaf wedd'io ger dy fron di drosof fy mm a thros-tynt hwythau: canys mi a welaf ein beiau ni, y rhai sy'n trigo yn y wlad.

º18 Ond mi a glywais gyflymdra'r barnwr sydd yn dyfod.

º19 Am hynny gwrando fy lleferydd, a deall fy ngeiriau, a pharablaf ger dy fron di. Dyma ddechrau geiriau Esdras, cyn ei gymryd ef i fyny. A mi a ddywedais,

º20 O Arglwydd, tydi'r hwn ydwyt yn preswylio mewn tragwyddoldeb, yr hwn wyt o'r uchelder yn gweled pethau yn y nefoedd ac yn yr awyr;

º21 Eisteddle'r hwn nis gellir ei phrisio; a'i ogoniant nis gellir ei gynnwys; o flaen yr hwn y mae'r lluoedd angyl-ion yn sefyll dan grynu,

º22 Gwasanaeth y rhai sydd mewn gwyn ta thta; yr hwn y mae ei air yn wir, a'i ymadroddion yn ddianwadal; yr hwn y mae ei orchymyn yn gadarn, a'i ordinhad yn ofnadwy;

º23 Yr hwn y mae ei olwg yn sychu'r dyfnder, a'i ddicllonedd yn gwneuthur i'r mynyddoedd doddi; i'r hyn y mae y gwirionedd yn dwyn tystiolaeth;

º24 O gwrando weddi dy was, ac ys-tyria a'th glustiau ddeisyfiad dy greadur.

º25 Canys tra fyddwyf byw y llefaraf, a thra medrwyf ddeall yr atebaf.

º26 Nac edrych ar bechodau dy bobl; ond ar y rhai sy'n dy wasanaethu mewn gwirionedd:

º27 Na phrisia ar ddrwg amcanion y cenhedloedd; ond ar ddymuniad y rhai sy'n cadw dy dystiolaethau mewn cys-tuddiau:

º28 Na feddwl am y rhai a rodiodd yn ffuantus ger dy fron di; ond cofia'r rhai yn 61 dy ewyllys a adnabuant dy ofn:

º29 Nac ewyllysia ddifetha'r rhai a ymddygasant yn anifeilaidd; ond edrych ar y rhai a ddysgasant dy gyfraith di yn berffaith:

º30 Na chymer ddigofaint wrth y rhai a gyfrifir yn waeth nag anifeiliaid; ond c4r di y rhai a ymddiriedant yn wastadol yn dy gyfiawnder a'th ogoniant di.

º31 Canys yr ydym ni a'n tadau yn nychu o gyfryw glefydau; eithr o'n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog.

º32 Canys od ocs ewyllys gennyt i drugarhau wrthym, fe a'th elwir yn drugarog, sef wrthym ni, y rhai sy heb weithredoedd cyfiawnder.

º33 Canys y cyfiawn, y rhai sy gan-ddynt lawer o weithredoedd da yng-hadw gyda thi, o'u gweithredoedd eu hun a dderbyniant wobr.

º34 Ond pa beth yw dyn, i ti i ddigio wrtho? neu pa beth yw cenhedlaeth lygredig, i ti fod mor chwerw wrthi?

º35 Canys yn wir nid oes un ym-hlith y rhai a aned, heb wneuthur drygioni; ac nid oes un ymhlith y rhai cyfiawn, heb wneuthur ar fai.

º36 Canys yn hyn, O Arglwydd, y dangosir dy gyfiawnder a'th ddaioni di, os byddi drugarog wrth y rhai nid oes ganddynt olud o weithredoedd da.

º37 Yna y'm hatebodd, gan ddywedyd, Peth a ddywedaist yn dda, a hynny a gyflawnir yn 61 dy eiriau.

º38 Canys yn wir nid ystyriaf weithredoedd y rhai a bechasant cyn marwolaeth, cyn barn, cyn distryw:

º39 Ond mi a lawenychaf am weithredoedd a meddyliau'r cyfiawn, ac a gofiaf eu pererindod hwy, a'r iachawdwriaeth a'r gwobr a gant.

º40 Fel y dywedais yn awr, felly y digwydd.

º41 Canys fel y mae'r llafurwr yn hau llawer o had ar y ddaear, ac yn plannu llawer o brennau, ac eto nid yw y peth


a heuwyd yn dda yn ei amser yn dyfod i fyny, na'r cwbl a'r a blannwyd yn gwreiddio; felly y mae am y rhai a heuwyd yn y byd, ni byddant oil gad-wedig.

º42 Yna yr atebais, ac y dywedais, Os cefais ras, gad i mi lefaru.

º43 Pel y mae had y llafurwr yn colli, oni ddaw efe i fyny, ac oni dderbyn y glaw mewn amser cyfaddas; neu os daw gormod glaw arno, a'i lygru ef:

º44 Felly hefyd y derfydd am ddyn, yr hwn a wnaeth dy ddwylo di, ac a elwir dy ddelw di, am dy fod yn debyg iddo, er mwyn yr hwn y gwnaethost bob peth; a chyffelybaist ef i had y llafurwr.

º45 Na fydd ddicllon wrthym, ond arbed dy bobl, a chymer drugaredd ar dy etifeddiaeth dy hun: canys tru-garog ydwyt wrth dy greadur.

º46 Yna efe a'm hatebodd, gan ddy-wedyd, Y pethau presennol sy i'r rhai presennol, a phethau i ddyfod i'r rhai a ddaw.

º47 Canys y mae llawer i ti yn 61 eto, fel y gallech garu fy nghreadur yn fwy nag yr wyf fir ond mi a neseais lawer gwaith atat ti, ac ato yntau, ond ni neseais erioed at yr anghyfiawn.

º48 Ac yn hyn hefyd yr ydwyt yn rhyfedd gerbron y Goruchaf,

º49 Am i ti dy ddarostwng dy hun, fel yr oedd weddus i ti, ac ni'th dybiaist dy hun yn deilwng i gael gogoniant mawr ymhlith y rhai cyfiawn.

º50 Canys llawer o drueni mawr sydd i'r rhai a erys yn y byd yn yr amser diwethaf, am iddynt rodio mewn balch-der mawr.

º51 Ond dysg di drosot dy hun, a chwilia am y gogoniant i'r rhai sy debyg i ti.

º52 Canys i chwi yr agorwyd Paradwys, y plannwyd pren y bywyd, y darparwyd yr amser a ddaw, y paratowyd helaeth-rwydd, yr adeiladwyd dinas, ac y caniat-awyd gorffwystra, ie, daioni a doeth-ineb perffaith.

º53 Gwreiddyn drygioni a seliwyd i fyny rhagoch chwi, gwendid a gwyfyn a guddiwyd rhagoch, a llygredigaeth a fFodd i uffern i'w hanghofio.

º54 Galar a aeth ymaith, a thrysor tragwyddoldeb a ddangosir yn y di-wedd.

º55 Ac am hynny nac ymofyn mwy am rifedi y rhai colledig.

º56 Canys pan gawsant ryddid, hwy a ddibrisiasant y Goruchaf, diystyrasant ei gyfraith, a gwrthodasant ei ffyrdd ef.

º57 Heblaw hynny, hwy a fathrasant ei rai cyfiawn ef,

º58 Ac a ddywedasant yn eu calonnau, Nid oes un Duw; a hynny er eu bod yn gwybod y bydd rhaid iddynt farw.

º59 Canys fel y darparwyd i chwi y pethau a ddywedais, felly y darparwyd iddynt hwythau syched a llafur: canys nid oedd ei ewyllys ef ddarfod am ddynion.

º60 Onid y rhai a wnaethpwyd a halog-asant enw y neb a'u gwnaeth, ac a fuant anniolchgar i'r hwn a ddarparodd iddynt fywyd?

º61 Ac am hynny y mae fy marn i ger-llaw.

º62 Ni ddangosais i y pethau hyn i bawb, ond i ti, ac i ychydig cyffelyb i ti. Yna yr atebais, gan ddywedyd,

º63 Wele, Arglwydd, yn awr y dan-gosaist liaws y rhyfeddodau, y rhai a ddechreui eu gwneuthur yn yr amserau diwethaf: ond pa bryd, ni ddangosaist i mi.

PENNOD 9

º1 YNA efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Mesura'r amser yn ddyfal ynddo ei hun: a phan welech y naill ran i'r arwyddion a ddangosais i ti o'r blaen, wedi dyfod,

º2 Yna y cei ddeall mai'r gwir amser yw, yn yr hwn y dechrau'r Goruchaf ymweled a'r byd, yr hwn a wnaeth efe.

º3 A phan weler daeargrynfeydd, a chynnwrf pobl yn y byd,

º4 Yna y cei yn ddiau ddeall ddarfod i'r Goruchaf ddywedyd am y pethau II ESDRAS 9 hynny, ar yr amser a fu o'th flaen di, sef o'r dechreuad:

º5 Canys fel y mae i bob peth a'r y sydd yn y byd, ddechrau a diwedd, a'r diwedd sydd eglur;

º6 Felly y mae hefyd i amseroedd y Goruchaf eglur ddechreuad mewn rhyfeddodau a nerth, a diweddiad mewn gweithredoedd ac arwyddion.

º7 A phob un a'r a gadwer, ac a allo ddianc wrth ei weithredoedd, a'r ffydd, trwy'r hon y credasoch,

º8 A achubir oddi wrth y peryglon hynny, ac a gaiff weled fy iachawdwr-iaeth yn fy nhir ac yn fy nherfynau: canys sancteiddiais hwynt i mi o'r dechreuad.

º9 Yna y bydd y rhai a gamarferasant fy ffyrdd i mewn cyflwr gresynol; a'r sawl a'u taflodd hwynt ymaith yn ddiystyr, a gant drigo mewn poenau.

º10 Canys y rhai a dderbyniasant dyrnau da yn eu bywyd, ac ni adna-buant fi,

º11 A'r sawl a alarodd ar fy nghyfraith, tra ydoedd iddynt ryddid, a phan oedd iddynt eto le agored i edifarhau, nis deallasant, ond a'i diystyrasant;

º12 Rhaid i'r rhai hynny gael ei wy-bod yn 61 marwolaeth trwy boen.

º13 Am hvnny na ofala di pa fodd y cosbir yr annuwiol, a pha bryd: ond ymofyn pa fodd y cedwir y cyfiawn, y rhai biau'r byd, ac er mwyn y rhai y crewyd y byd.

º14 Yna yr atebais, gan ddywedyd,

º15 Dywedais o'r blaen, ac yr wyf yn dywedyd, ac a'i dywedaf hefyd rhag llaw, fod mwy o'r rhai colledig nag o'r rhai cadwedig,

º16 Fel y mae ton yn fwy na defnyn.

º17 Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Fel y mae'r maes, felly y mae'r had; fel y mae'r llysiau, felly y mae eu lliwiau hefyd; fel y mae'r gweithiwr, felly y mae'r gwaith; ac fel y mae'r llafurwr, felly y mae ei lafur hefyd: canys amser byd ydoedd.

º18 Ac yr awr hon, pan ddarperais i y byd, yr hwn ni wnaethid eto, sef iddynt hwy i drigo ynddo, y rhai sy yr awr hon yn fyw, ni ddywedodd neb yn fy erbyn.

º19 Canys y pryd hynny pob un a ufuddhai: ond yn awr y mae moddau y rhai a grewyd yn y byd hwn a wnaethpwyd, wedi eu llygru trwy had diball, a thrwy gyfraith anchwiliadwy, yn eu rhyddhau eu hunain.

º20 Felly mi a ystyriais y byd, ac wele, yr ydoedd perygl, oherwydd y dych-mygion a ddaethent iddo ef.

º21 A gwelais, ac a'i harbedais ef yn ddirfawr; a chedwais i mi un gronyn o'r swp, a phlanhigyn o genedl fawr.

º22 Darfydded gan hynny am y lliaws a anwyd yn ofer, a bydded fy ngronyn a'm planhigyn yn gadwedig: canys trwy boen fawr y gwneuthum ef yn berffaith.

º23 Er hynny os gorffwysi saith niwrnod eto ychwaneg; (ond nac ymprydia ynddynt;

º24 Eithr dos i faes o lysiau, heb dy arno, a bwyta yn unig o lysiau'r maes; na phrawf gig, nac yf win, ond bwyta lysiau yn unig;

º25 A gwedd'ia ar y Goruchaf yn was-tadol;) yna mi a ddeuaf i ymddiddan athi.

º26 Felly mi a euthum ymaith i'r maes a elwir Ardath, fel y gorchmynnodd efe i mi, ac yno yr eisteddais ymysg y llysiau, ac y bwyteais lysiau'r maes; a'r bwyd hwnnw a'm digonodd.

º27 Ymhen y saith niwrnod mi a eisteddais ar y glaswellt, a'm calon oedd yn flin o'm mewn, fel o'r blaen:

º28 Ac mi a agorais fy ngenau, ac a ddechreuais ymddiddan a'r Goruchaf, gan ddywedyd,

º29 O Arglwydd, ti yr hwn wyt yn dy ddangos dy hun i ni, tydi a ddangos-wyd i'n tadau yn yr anialwch, mewn lie nid oes neb yn sengi arno, mewn lie llwm, pan ddaethant allan o'r Aifft;

º30 Ac a leferaist, gan ddywedyd, Clyw fi, O Israel; ac ystyria fy ngeiriau, tydi had Jacob.

º31 Canys wele fi yn hau fy nghyfraith

º39


ynoch, a hi a ddwg ffrwyth ynoch, a chwi a anrhydeddir ynddi yn drag-wyddol.

º32 Ond ein tadau y rhai a dderbyn-iasant y gyfraith, nis cadwasant hi, ac ni chanlynasant dy ordeiniadau: ac er na ddiflannai ffrwyth dy gyfraith, ac nis gallai, canys eiddot ti oedd;

º33 Eto y neb a'i derbyniodd a goll-wyd, am na chadwent y pethau a heuesid ynddynt.

º34 Ac wele, y mae arfer pan dderbyn-io'r ddaear had, neu'r mor long, neu ryw lestr fwyd neu ddiod, fod, pan ddarffo am y peth yr heuwyd ef ynddo, neu y bwriwyd ef iddo,

º35 I'r peth hwnnw hefyd a heuwyd, neu a fwriwyd ynddo, neu a dderbyn-iwyd, ddarfod amdano, a bod heb aros gyda ni: ond gyda ni nid felly y di-gwyddodd.

º36 Canys nyni, y rhai a dderbyniasom y gyfraith, a gollir trwy bechod, a'n calon hefyd yr hon a'i derbyniodd hi.

º37 Er hynny ni dderfydd am y gyfraith, ond aros y mae hi yn ei grym.

º38 A phan ddywedais y pethau hyn yn fy nghalon, mi a edrychais o'm hoi, ac ar fy llaw ddeau y gwelwn wraig yn galaru, yn gweiddi yn uchel, ac yn drom ei chalon, a'i dillad wedi rhwygo, a lludw oedd ganddi ar ei phen.

º39 Yna y bwriais y meddyliau oedd gennyf o'r blaen heibio, ac a droais ati hi,

º40 Ac a ddywedais wrthi, Paham yr wyt ti yn wylo? a phaham yr ydwyt mor drist dy galon?

º41 A hi a ddywedodd wrthyf, Arglwydd, gad fi yn llonydd, fel y gallwyf alaru drosof fy hun, a chwanegu fy ngalar; canys wyf yn drist iawn fy nghalon, ac wedi fy nwyn yn isel iawn.

º42 A mi a ddywedais wrthi, Beth a ddarfu i ti? dywed i mi.

º43 Hithau a ddywedodd wrthyf, Myfi dy wasanaethwraig a fum hesb, ac heb blanta, er bod i mi wr ddeng mlynedd ar hugain.

º44 A'r deng mlynedd ar hugain hyn


yr ydwyf yn gweddi'o nos a dydd, a phob awr, ar y Goruchaf.

º45 Ar ben y deng mlynedd ar hugain, Duw a'm gwrandawodd i dy wasanaethwraig, efe a edrychodd ar fy nghys-tudd, efe a ystyriodd fy mlinder, ac a roddes i mi fab: a mi a fum lawen amdano ef, ac felly yr oedd fy ngwr hefyd, a'm holl gymdogion; ac ni a roesom anrhydedd mawr i'r Goruchaf.

º46 A mi a'i megais ef trwy boen fawr.

º47 Felly pan dyfodd efe, a dyfod i oedran gwreica, mi a wneuthum wledd.


PENNOD 10 º1 A; felly y digwyddodd i'm mab, pan aeth efe i'w ystafell briodas, efe a syrthiodd i lawr, ac a fu farw.

º2 Yna ni oil a ddiffoddasom y can-hwyllau, a'm holl gymdogion a god-asant i fyny i'm cysuro i; yna y gor-ffwysais hyd y nos yr ail dydd.

º3 A phan ddarfu iddynt hwy oil beidio a'm cysuro, fel y cawn lonydd; yna y cyfodais o hyd nos, ac y ffoais, ac a ddeuthum i'r maes hwn, fel y gweli di.

º4 Ac y mae yn fy mryd nad elwyf yn fy 61 i'r ddinas, ond aros yma, heb na bwyta nac yfed, ond galaru yn was-tadol, ac ymprydio, hyd oni byddwyf farw.

º5 Yna y gollyngais ymaith y myfyr-dod oedd ynof, ac a leferais wrthi hi yn ddicllon, gan ddywedyd,

º6 Tydi ffolog uwchlaw pawb arall, oni weli di ein galar ni, a pha beth a ddigwydd i ni?

º7 Fel y mae Seion ein mam ni yn llawn tristwch, ac fel y dygwyd hi hyd lawr, ac y mae hi yn galaru yn anianol?

º8 Gan ein bod ni oil yn awr mewn trymder, ac yn cwyno, canys trist ydym oil; wyt ti cyn drymed ar 61 un mab?

º9 Gofyn i'r ddaear, a hi a ddywed i ti, mai hi a ddylai alaru am gwymp cymaint ag y sydd yn tyfu arni.

º10 Canys o'r dechreuad, pob dyn a ddaeth ohoni hi, ac ohoni y daw yr holl rai eraill: ac wele, y maent oil agos yn rhodio i ddistryw, a'r lliaws ohon-ynt a ddadwreiddir.

º11 Pwy wrth hynny a ddylai alaru mwy na hi, yr hon a gollodd gym-aint o rifedi? ac nid tydi, yr hon nid wyt yn drist ond am un.

º12 Ond pe dywedit wrthyf, Nid yw fy ngalar debyg i alar y ddaear: canys mi a gollais ffrwyth fy nghroth, yr hwn a ddygais i'r byd trwy boen, ac a ym-ddugum trwy dristwch;

º13 Ond y ddaear yn 61 arfer y ddaear; oblegid y gynulleidfa bresennol sydd yn myned iddi drachefn, fel y daeth o- honi.

º14 Am hynny y dywedaf wrthyt, Fel y dygaist i'r byd trwy drafael; felly y ddaear hefyd o'r dechreuad a roddes ei ffrwyth, sef dyn, i'r hwn a'i gwnaeth hi.

º15 Ac am hynny, cadw dy drymder i ti dy hun, a'r peth a ddigwyddodd i ti, a dioddef yn wrol.

º16 Canys os berni di arfaeth Duw yn gyfiawn, ac os derbynni di gyngor, dy fab mewn amser a gei, a chlod ymysg gwragedd.

º17 Dos gan hynny ymaith i'r ddinas at dy wr.

º18 A hithau a ddywedodd wrthyf, Ni wnaf fi mo hynny: nid af fi i'r ddinas, ond yma y byddaf farw.

º19 Felly mi a chwedleuais fwy a hi, ac a ddywedais,

º20 Paid S hynny, cymer gyngor gennyf fi: pa sawl cwymp a gafodd Seion? bydd gysurus oherwydd tristwch Jerwsa-lem;

º21 Canys ti a weli fod ein cysegr ni yn anialwch, ein bailor wedi ei thorri, a'n teml wedi ei hanrheithio,

º22 Ein saltringau a fwriwyd i lawr, ein can a ddistawyd, ein llawenydd a aeth ymaith, ein canhwyllau a ddiffodd-wyd, arch ein cyfamod a ddygwyd oddi arnom, ein sanctaidd bethau a halogwyd, a'r enw a enwir arnom a halogwyd agos, ein plant a waradwydd-wyd, ein hoffeiriaid a losgwyd, ein Lef-iaid a gaethgludwyd, ein morynion a

anrheithiwyd, ein gwragedd a dreisiwyd, ein gwyr cyfiawn a dducpwyd ymaith, ein rhai bychain a ddifethwyd, ein gwyr ieuainc a gaethiwyd, a'n gwyr cryfion a wanrawyd;

º23 A sel Seion, yr hyn sydd fwyaf dim, a gollodd ei pharch: canys rhodd-wyd hi yn nwylo y rhai a'n casant.

º24 Ac am hynny, bwrw heibio dy drymder mawr, a'th fynych alar, fel y byddo'r Galluog yn drugarog wrthyt, ac y rhoddo'r Goruchaf i ti esmwyth-dra, a gorffwystra oddi wrth dy laf-ur.

º25 Ac fel yr oeddwn yn ymddiddan a hi, wele, ei hwyneb hi a ddisgleiriodd yn ddisymwth, a'i phryd a dywyn-nodd: a mi a ofnais, ac a fyfyriais beth a allai hynny fod.

º26 Ac yn y man hi a lefarodd yn gryf ac yn ofnadwy, hyd oni chrynodd y ddaear gan nad y wraig.

º27 A mi a edrychais, ac wele, nid ymddangosodd y wraig i mi mwy : ond yr oedd dinas wedi ei hadeiladu, a lie eang a ymddangosodd o'r sylfeini: yna yr ofnais, ac y gwaeddais a lief uchel, gan ddywedyd,

º28 Pa le y mae Uriel yr angel, yr hwn a ddaeth ataf yn y dechrau? canys gwnaeth i mi syrthio mewn llawer llewyg, a'm diwedd a ddychwelwyd i lygredigaeth, a'm gweddi i gerydd.

º29 A minnau yn dywedyd y geiriau hyn, efe a ddaeth ataf, ac a edrychodd arnaf.

º30 Ac wele, yr oeddwn i yn gorwedd fel un marw, a'm deall wedi ei ddwyn oddi arnaf: ac efe a'm cymerth i erbyn fy llaw ddeau, ac a'm cysurodd, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ddywedodd wrthyf,

º31 Beth a ddarfu i ti? paham y mae dy feddwl a deall dy galon mor dra-llodus? a phaham yr wyt yn drist? 32 33 34 º32 A minnau a ddywedais, Am i ti fy ngwrthod i: a mi a wneuthum yn 61 dy eiriau di, euthum i'r maes, ac wylais; ac wele, mi a welais, ac eto y gwelaf, bethau ni fedraf eu hadrodd.


º33 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Saf ar dy draed fel gwr, a mi a roddaf i ti gyngor.

º34 Yna y dywedais, Llefara di wrthyf fi, fy Arglwydd: yn unig na wrthod fi, rhag i mi farw yn ofer fy ngobaith:

º35 Canys mi a welais bethau nis adwaenwn, a chlywais bethau nis gwydd-wn.

º36 Neu ydyw fy synnwyr yn fy nhwyllo? neu fy enaid yn breuddwyd-io?

º37 Yn awr atolwg i ti, dangos i'th was am y weledigaeth hon.

º38 Yna efe a'm hatebodd, gan ddy-wedyd, Gwrando arnaf, a mi a'th ddysg-af, ac a ddangosaf i ti paham yr wyt yn ofni: canys y Goruchaf a ddangosodd i ti lawer o ddirgelwch.

º39 Y Goruchaf a welodd fod dy ffordd di yn uniawn: canys yr ydwyt yn cymryd trymder yn wastadol dros dy bobl, ac yn gwneuthur galar mawr am Seion.

º40 Ac am hynny, deall y weledigaeth a welaist ychydig o'r blaen sydd fel hyn:

º41 Ti a welaist wraig yn galaru, ac a ddechreuaist ei chysuro hi:

º42 Eithr yn awr, ni weli mwy lun y wraig, ond ymddangosodd i ti ddinas wedi ei hadeiladu.

º43 A lie y dywedodd i ti am farwol-aeth ei mab, hyn yw'r peth , sydd i'w ddeall:

º44 Y wraig hon a welaist ti yw Seion: a lie y dywedodd i ti, (yr hon a weli yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu,)

º45 Lie y dywedodd wrthyt ei bod ddeng mlynedd ar hugain yn hesb: dyna'r deng mlynedd ar hugain, yn y rhai ni offrymid offrwm ynddi.

º46 Ond yn 61 deng mlynedd ar hugain, Salomon a adeiladodd y ddinas, ac a offrymodd offrymau: ac yna'r hesb a ddug fab.

º47 A lie y dywedodd hi i ti, Mi a'i megais ef trwy boen: hynny oedd preswylio yn Jerwsalem.

º48 Ond lie y dywedodd hi i ti, Syrth-iodd a bu farw fy mab, with ddyfod i'w ystafell briodas: dyna'r cwymp a ddaeth i Jerwsalem.

º49 Ac wele, ti a welaist ei llun hi; ac am ei bod yn galaru am ei mab, ti a ddechreuaist roddi cysur iddi hi. Ac o'r pethau hyn a ddigwyddodd, hyn sy raid ei ddangos i ti:

º50 Canys yn awr y Goruchaf sydd yn gweled dy fod yn drist dy enaid, a'th fod yn dioddef tristwch drosti hi o'th galon; ac felly efe a ddangosodd i ti ddisgleirdeb ei gogoniant hi, a thegwch ei phryd hi.

º51 Ac am hynny y perais i ti aros yn y maes, lie nid oedd un ty wedi ei adeiladu;

º52 Canys mi a wyddwn y dangosai'r Goruchaf hyn i ti.

º53 Am hynny y gorchmynnais i ti fyned i'r maes, lie nid oes sail adeilad yn y byd.

º54 Canys yn y man lie y dechreuo'r Goruchaf ddangos ei ddinas, ni ddichon adeiladaeth dyn sefyll yno.

º55 Ac am hynny nac ofna, ac na ad i'th galon arswydo, ond dos i mewn, ac edrych ar degwch a maint yr adeiladaeth; cymaint ag a ellych a'th lygaid ei weled.

º56 Ac wedi hynny y cei di glywed cymaint ag a allo dy glustiau ei glywed.

º57 Canys bendigedig wyt ti uwch-law llaweroedd, ac fe a'th alwyd gan y Goruchaf: ac ychydig sydd felly.

º58 Ond yfory y nos y cei di aros yma.

º59 Ac felly y Goruchaf a ddengys i ti weledigaethau o'r pethau uchel a wna'r Goruchaf i'r rhai a fyddo'n trigo ar y ddaear, yn y dyddiau di-wethaf. Felly y cysgais y noson honno, a'r ail nos, fel y gorchmynnodd efe i mi.


º1 PENNOD II YNA y breuddwydiais, ac wele, fe ddaeth i fyny eryr o'r mor, i'r hwn yr ydoedd deuddeng asgell adeiniog, a thri phen. 2 Ac mi a edrychais, ac wele, efe a

ledodd ei esgyll dros yr holl ddaear; a holl wyntoedd yr awyr a chwythodd arno ef, a hwy a ymgasglasant ynghyd.

º3 A mi a edrychais, ac allan o'i adenydd ef y tyfodd adenydd eraill yn y gwrthwyneb, a'r rhai hynny oedd adenydd bychain a man.

º4 Ond ei bennau oedd yn gorffwys; a'r pen oedd yn y canol ydoedd fwy na'r lleill, er hynny efe a orffwysodd gyda hwynt.

º5 Heblaw hynny, mi a edrychais, ac wele yr eryr yn ehedeg a'i adenydd, ac yn teyrnasu ar y ddaear, ac ar y rhai oedd yn trigo ynddi.

º6 A gwelais bob peth dan y nef yn ddarostyngedig iddo ef, ac nid oedd neb yn dywedyd yn ei erbyn ef, nac oedd un creadur ar y ddaear.

º7 A gwelais, ac wele yr eryr yn sefyll ar ei ewinedd, ac yn llefaru wrth ei adenydd, gan ddywedyd,

º8 Na wyliwch bawb ar unwaith; cysged pob un yn ei le ei hun, a gwyl-iwch wrth gylch:

º9 A chadwer y pennau hyd yn ddi-wethaf.

º10 A mi a edrychais, ac wele, nid aethai'r lleferydd allan o'i bennau ef, ond o ganol ei gorff ef.

º11 A rhifais ei adenydd gwrthwyneb ef, ac wele, yr oedd wyth ohonynt.

º12 Ac edrychais, ac wele, o'r tu de-au y cododd un adain, a honno a deyrn-asodd dros yr holl ddaear.

º13 Ac felly y digwyddodd, pan deyrn-asodd, y daeth diwedd iddi, a'i lie nis gwelwyd mwy: felly'r ail a safodd, ac a deyrnasodd, ac a gafodd amser hir.

º14 A digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth diwedd iddi, fel i'r gyntaf, fel nas gwelwyd mwy.

º15 Yna y daeth lleferydd ati, gan ddywedyd)

º16 Gwrando, tydi yr hon a reolaist ar y ddaear cyhyd o amser; hyn a ddy-wedaf wrthyt ti, cyn dechrau ohonot fod heb ymddangos mwy;

º17 Ni chaiff neb yn dy 61 di ddyfod i th amser di, nac i'w banner.


º18 Yna y cododd y drydedd, ac a deyrnasodd fel y lleill o'r blaen, ac nid ymddangosodd hithau mwy.

º19 Ac felly y gwnaeth y lleill, y naill yn 61 ei gilydd, fel y teyrnasodd pob un, ac nid ymddangosasant mwy.

º20 Yna'r edrychais, ac wele, mewn ennyd o amser, yr adenydd oedd yn canlyn a safasant o'r tu deau, fel y gallent hwy reoli hefyd: a rhai ohonynt a lywodraethasant; ond o fewn ychydig o amser nid ymddangosasant mwy:

º21 Canys rhai ohonynt a osodwyd i fyny, ond ni reolasant.

º22 Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y deuddeng adain nid ymddangosasant mwy, na'r ddwy adain fechan.

º23 Ac nid oedd mwy ar gorff yr eryr ond tri phen a oedd yn gorffwys, a chwech o esgyll bychain.

º24 A gwelais hefyd ddwy adain wedi ymddidoli oddi wrth y chwech, ac yn aros dan y pen oedd o'r tu deau; canys pedair a arosasent yn eu lie.

º25 A mi a edrychais, ac wele, yr adenydd y rhai oeddynt dan yr asgell a am-canasant eu gosod eu hun i fyny, a rheoli.

º26 A mi a edrychais, ac wele, gosod-wyd un i fyny, ond ar fyrder nid ymddangosodd mwy.

º27 A'r ail a aeth ymaith yn gynt na'r gyntaf.

º28 A mi a. edrychais, ac wele, y ddwy oedd yn aros a amcanasant reoli hefyd.

º29 A thra'r oeddynt yn meddwl hynny, wele, deffrodd un o'r pennau oedd yn cysgu, sef yr hwn oedd yn y canol; canys mwy oedd hwnnw nag yr un o'r ddau eraill.

º30 Ac yna y gwelais fod y ddau ben wedi myned yn un ag ef.

º31 Ac wele, y pen hwnnw a drodd at y pennau oedd gydag ef, ac a fwytaodd y ddwy adain dan yr asgell oedd ar fedr teyrnasu.

º32 Ond y pen hwn a ddychrynodd yr holl ddaear, ac a lywodraethodd ar bawb a'r oedd yn trigo ar y ddaear


trwy orthrymder mawr: ac efe oedd yn rheoli'r byd yn fwy na'r holl esgyll a fuasai.

º33 Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y pen oedd yn y canol, yn ddi-symwth nid ymddangosodd mwy, yr un ffunud a'r esgyll.

º34 Ond yr oedd eto y ddau ben, y rhai oedd yr un ffunud yn rheoli ar y ddaear ac ar y rhai oedd yn trigo arni.

º35 Edrychais hefyd, ac wele, y pen oedd o'r tu deau a lyncodd y pen oedd o'r tu aswy.

º36 Yna y clywais lef yn dywedyd wrthyf, Edrych o'th flaen, a dal sylw ar y peth yr wyt yn ei weled.

º37 Yna mi a edrychais, ac wele megis llew rhuadwy wedi ei ymlid allan o'r coed; a gwelais ef yn anfon lleferydd dyn allan at yr eryr, gan ddywedyd,

º38 Gwrando, mi a ymddiddanaf a thi; a'r Goruchaf a ddywed wrthyt;

º39 Onid tydi yw'r hwn sydd yn aros o'r pedwar anifail, y rhai a wneuthum i deyrnasu ar fy myd, fel y delai diwedd eu hamseroedd trwyddynt hwy?

º40 A'r pedwerydd a ddaeth, ac a orchfygodd yr holl anifeiliaid a aethai o'r blaen, ac a gafodd allu ar y byd gyd-ag ofn mawr, dros holl amgylchoedd y ddaear gyda gorthrymder annuwiol lawer; a chyhyd a hynny o amser y preswyliodd efe ar y ddaear yn dwyll-odrus.

º41 Canys ni fernaist ti y ddaear mewn gwirionedd:

º42 Canys blinaist y gostyngedig, briw-aist yr heddychol, ceraist gelwyddwyr, difethaist drigfaon y rhai oedd yn dwyn ffrwyth, bwriaist i lawr fagwyr y rhai ni wnaethant niwed i ti.

º43 Am hynny y daeth dy drawsineb i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at y Galluog.

º44 Y Goruchaf hefyd a edrychodd ar yr amseroedd beilchion, ac wele, hwy a ddarfuant, a'i ffieidd-dra ef a gyflawn-wyd.

º45 Ac am hynny, nac ymddangos mwy, tydi eryr, na'th esgyll ofnadwy,

º44

na'th adenydd annuwiol, na'th bennau maleisus, na'th ewinedd ysgeler, na'th holl gorff ofer:

º46 Fel y gallo'r holl ddaear ddadflino a dychwelyd, wedi dianc oddi wrth dy drawster di, ac fel y gallo obeithio barn a thrugaredd gan yr hwn a'i gwnaeth hi.

PENNOD 12 º1 A PHAN ddywedodd y llew y geiriau hyn wrth yr eryr, y gwelais,

º2 Ac wele, y pen yr hwn oedd yn aros, a'r pedair asgell, nid ymddangosasant mwyach: a'r ddwy a aethant ato ef, ac a ymosodasant i fyny i deyrnasu; a'u teyrnas oedd fechan, a llawn cythrwfl.

º3 A mi a welais, ac wele, nid ymddangosasant mwy; a holl gorff yr eryr a losgwyd, fel yr ofnodd y ddaear yn fawr. Yna y deffroais allan o Binder a llewyg fy meddwl, ac o ofn mawr; a dywedais wrth fy ysbryd,

º4 Wele, hyn a roddaist i mi, am i ti chwilio am ffyrdd y Goruchaf.

º5 Wele, y mae eto yn flin fy nghalon, ; a gwan iawn yw fy ysbryd; ac ychydig nerth sydd ynof, oherwydd yr ofn mawr a fu arnaf heno.

º6 Am hynny yr atolygaf i'r Goruchaf fy nghysuro hyd y diwedd.

º7 A dywedais, Arglwydd lywydd, os cefais ffafr yn dy olwg di, ac os cyf-iawnheir fi ger dy fron di o flaen llawer eraill, ac os daeth fy ngweddi yn sicr o'th flaen di,

º8 Dyro gysur ynof, a dangos i'th was ddehongliad eglur y weledigaeth ofnadwy hon, fel y gallech gysuro fy enaid yn berffaith:

º9 Canys bernaist fi yn deilwng i ddangos i mi'r amseroedd diwethaf.

º10 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyn yw dehongliad y weledigaeth: n Yr eryr a welaist yn dyfod i fyny o'r mor, yw y deyrnas a welodd dy frawd Daniel yn ei weledigaeth:

º12 Ond nis dehonglwyd iddo ef; am , hynny y dehonglaf hi i ti.

º13 Wele fe a ddaw y dyddiau y cyfyd

teyrnas ar y ddaear, ac ofnir y deyrnas honno yn fwy na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.

º14 Ac yn y deyrnas honno y llyw-odraetha deuddeng mrenin olynol;

º15 O ba rai yr ail a ddechrau deyrnasu, ac a gaiff amser hwy nag yr un o'r deuddeg.

º16 A hyn y mae'r deuddeng asgell a welaist ti yn ei arwyddocau.

º17 Ac am y lief a glywaist yn dywedyd, yr hon nid aeth o'r pennau, ond o ganol y corff, hyn yw y dehongliad:

º18 Yn 61 amser y deyinas honno y cyfyd ymrysonion mawr, a hi a fydd debyg i syrthio: er hynny ni syrth y pryd hynny, ond hi a adferir drachefn i'w dechreuad.

º19 A lie y gwelaist wyth o adenydd bychain yn glynu wrth ei esgyll ef, hyn yw'r dehongliad;

º20 Y cyfyd ynddo ef wyth o fren-hinoedd, y rhai ni bydd eu hamser ond byr, a'u blynyddoedd yn fuan.

º21 A dau ohonynt y derfydd am-danynt: pan nesao canol yr amser, pedwar a gedwir nes i'w diwedd ddechrau nesau: ond dau a gedwir hyd y diwethaf.

º22 A lie y gwelaist dri phen yn gorffwys, hyn yw'r dehongliad:

º23 Yn ei ddyddiau diwethaf y cyfyd y Goruchaf dair teyrnas, ac yr adnew-ydda lawer o bethau ynddynt: a hwy a lywodraethant y ddaear,

º24 A'r rhai a breswyliant ynddi, trwy orthrymder mawr, uwchlaw pawb a'r a fu o'u blaen hwy: am hynny y gelwir hwynt, pennau'r eryr.

º25 Canys dyma'r rhai a ddygant allan ei ddrygioni ef, ac a gyflawnant ei ddiwedd.

º26 A lie y gwelaist y pen mawr heb ymddangos mwy, hynny sydd yn arwyddocau y bydd marw un ohonynt yn ei wely, ac er hynny mewn llafur:

º27 Canys y ddau sydd yn aros yn 61 a leddir a'r cleddyf;

º28 Canys cleddyf y naill a ddifetha'r Hall: ond o'r diwedd efe a syrth trwy'r cleddyf ei hun.

º29 A lie y gwelaist ddwy adain dan yr esgyll, yn myned dros y pen sydd o'r tu deau,

º30 Mae hynny yn arwyddo mai dyma y rhai a gadwodd y Goruchaf hyd eu diwedd: hon yw'r deyrnas fechan, a llawn blinder, fel y gwelaist.

º31 A'r llew a welaist yn codi allan o'r coed, ac yn rhuo, ac yn dywedyd wrth yr eryr, ac yn ei geryddu ef am ei anghyfiawnder, a'r holl eiriau a glywaist ti,

º32 Yw y gwynt, yr hwn a gadwodd y Goruchaf iddynt; ac am eu drygioni hyd y diwedd, efe a'u cerydda hwynt, ac a ddyry ^u creulondeb ger eu bron-nau;

º33 Canys efe a'u gesyd hwynt ger ei fron mewn barn yn fyw, ac a'u cy-hudda ac a'u cerydda hwynt.

º34 Canys gweddill fy mhobl a weryd efe trwy drugaredd, y rhai a gadwyd ar fy nherfynau; ac efe a'u gwna hwynt yn llawen, hyd ddyfodiad dydd y farn, am yr hwn y dywedais wrthyt ti o'r dechreuad.

º35 Hwn yw'r breuddwyd a welaist, a hyn yw ei ddeongliadau ef.

º36 Tydi yn unig oeddit gymwys i wybod y gyfrinach hon eiddo'r Goruchaf.

º37 Am hynny sgrifenna'r pethau hyn oil a welaist, mewn llyfr, a chuddia hwynt;

º38 A dysg hwynt i'r bobl ddoethion, y rhai a wypech fod eu calonnau yn gallu deall a chadw y cyfrinachau hyn.

º39 Ond gwylia di yma dy hun eto saith niwrnod, fel y gallech wybod y peth a fynno'r Goruchaf ei ddangos i ti. A chyda hynny efe a aeth ymaith.

º40 A phan ddeallodd yr holl bobl ddarfod y saith niwrnod, a minnau heb ddyfod drachefn i'r ddinas, hwy a ym-gasglasant ynghyd o'r lleiaf hyd y mwyaf, ac a ddaethant ataf, gan ddywedyd,

º41 Pa beth a wnaethom ni yn dy erbyn di, a pha ddrwg a wnaethom i ti, pan ydwyt yn ein gwrthod ni, ac yn eistedd yma?


º42 Canys o'r holl bobl, ti yn unig a adawyd i ni, fel grawnswp o'r winllan, ac fel cannwyll mewn tywyllwch, ac fel porthladd, neu long wedi dianc rhag y dymestl.

º43 Onid digon i ni yr adfyd a ddi-gwyddodd?

º44 Os tydi a'n gwrthodi, pa faint gwell a fuasai i ni ein llosgi oil yng nghanol Seion?

º45 Canys nid gwell ydym na'r rhai a fu feirw yno. A hwy a wylasant a lief uchel. Yna yr atebais hwy, ac y dywedais,

º46 Cymer gysur, O Israel; ac na fydd drist, tydi dy Jacob:

º47 Canys y mae'r Goruchaf yn eich cofio, a'r Galluog ni'ch gollyngodd chwi dros gof mewn profedigaeth.

º48 A myfi ni'ch gwrthodais chwi, ac nid euthum oddi wrthych: ond mi a ddeuthum i'r lie hwn i weddJo dros anghyfanhedd-dra Seion, fel y gallwn geisio trugaredd i isel radd eich cysegr chwi.

º49 Ac yn awr, ewch bawb adref; ac yn 61 y dyddiau hyn y deuaf atoch.

º50 Felly y bobl a aethant ymaith i'r ddinas, fel y gorchmynnais iddynt:

º51 Ond mi a arhoais yn y maes saith niwrnod, fel y gorchmynnodd yr angel i mi; a bwyteais yn unig o flodau'r maes, ac o'r llysiau y cefais fy mwyd y dyddiau hynny.

PENNOD 13 º1 AC yn 61 y saith niwrnod, y gwelais **• freuddwyd liw nos;

º2 Ac wele, cododd gwynt o'r mor, ac a gynhyrfodd ei holl donnau ef.

º3 Ac edrychais, ac wele, y gwr hwnnw a aeth yn gryf gyda miloedd y nef: a phan drodd efe ei wyneb i edrych, yr holl bethau a'r a welid dano ef a gryn-odd.

º4 A phan aeth y lleferydd o'i enau ef, pawb a'r a'i clywodd a losgasant, fel y palla'r ddaear pan gyffyrddo'r tan a hi.

º5 Wedi hyn yr edrychais, ac wele, ymgasglodd ynghyd lu o bobl allan o rifedi, o bedwar ban byd, i orchfygu'r gwr a ddaethai allan o'r mor.

º6 Ac edrychais, ac wele, efe a gerfiodd iddo ei hun fynydd mawr, ac a ehed-odd arno.

º7 Ond mi a geisiais weled y wlad, neu'r lie, o'r hwn y tynasai efe'r mynydd, ac ni allwn.

º8 Ac yn 61 hynny yr edrychais, ac wele, yr holl rai a ymgynullasant i'w orchfygu ef, oedd yn ofni yn fawr, ac er hynny hwy a lyfasent ymladd.

º9 Ac wele, pan welodd efe greulondeb a nerth y bobl a ddaethai yn ei erbyn ef, ni wnaeth efe na chodi llaw, na dal cleddyf nac arf rhyfel:

º10 Ond yn unig mi a'i gwelwn ef yn chwythu allan o'i enau megis awel o dan, ac o'i wefusau anadl fflamllyd, ac o'i dafod efe a daflodd wreichion a thymhestloedd.

º11 Ac yr oeddynt i gyd ynghymysg, yr awel dan, yr anadl fflamllyd, a'r dymestl fawr, ac a ddisgynasant gyda rhuthr ar y bobl oedd yn barod i ymladd, ac a'u llosgasant hwy i gyd, fel yn ddisymwth na welid o'r llu aneirif ddim ond llwch a sawr mwg: pan welais hyn, mi a ofnais.

º12 Yn 61 hynny y gwelais yr un gwr yn dyfod i lawr o'r mynydd, ac yn galw ato dyrfa lonydd arall.

º13 A llawer o bobl a ddaethant ato ef; rhai oedd yn llawen, rhai yn drist, rhai yn rhwym, ac eraill a ddygasant o'r pethau a offrymasid: yna yr oeddwn glaf gan ofn mawr; a deffroais, a dywedais,

º14 Dangosaist i'th was y rhyfeddodau hyn o'r dechreuad, a chyfrifaist fi yn deilwng fel y derbynnit fy ngweddi:

º15 Dangos i mi eto ddehongliad y breuddwyd hwn:

º16 Canys hyn yr ydwyf yn ei ddeall, gwae'r neb a adawer y pryd hynny! a mwy gwae i'r rhai nis gadawer yn 61!

º17 Canys y rhai ni adawyd oeddynt mewn tristwch.

º18 Yn awr yr ydwyf yn deall y pethau

a roddwyd i gadw erbyn y dyddiau diwethaf, y rhai a ddigwydd iddynt, ac i'r sawl a adawer yn 61.

º19 Am hynny y daethant i berygl mawr, ac i angen mawr, fel y dengys y breuddwydion hyn.

º20 Eto haws i'r neb a fyddo mewn perygl ddyfod i'r pethau hyn nag iddo fyned allan o'r byd hwn fel cwm-wl, a bod heb weled y pethau a ddi-gwyddant yn y dyddiau diwethaf. Yna efe a'm hatebodd, gan ddywedyd,

º21 Dehongliad y weledigaeth a ddan-gosaf i ti, ac agoraf i ti y peth a ddy-munaist.

º22 Lie y soniaist am y rhai sy wedi eu gadael yn 61, hyn yw'r dehongliad:

º23 Yr hwn a ddygo berygl y pryd hwnnw, a'i cadwodd ei hun: a'r sawl a syrthiodd mewn perygl, yw y rhai sy a gweithredoedd a ffydd ganddynt i'r Hollalluog.

º24 Am hynny gwybydd hyn, fod y rhai a adawer yn 61 yn ddedwyddach na'r rhai a fu feirw.

º25 Hyn yw deall y weledigaeth: Lie y gwelaist wr yn dyfod i fyny o ganol y mor,

º26 Hwnnw yw'r hwn a gadwodd y Duw goruchaf yn hir, yr hwn trwyddo ei hun a wareda ei greaduriaid: ac efe a lywodraetha'r rhai a adawer yn 61.

º27 A lie y gwelaist yn dyfod allan o'i safn ef fel chwa o wynt, a than, a thym-estl,

º28 Ac na chododd efe na chleddyf nac arf rhyfel, ond i'w ruthr ef ddi-fetha'r holl liaws a ddaeth i'w orchfygu ef; hyn yw'r dehongliad:

º29 Wele'r dyddiau yn dyfod, pan ddechreuo'r Goruchaf waredu y rhai sy ar y ddaear.

º30 Ac er syndod meddwl y daw efe ar y rhai a breswyliant y ddaear.

º31 A'r naill a ymladd a'r Hall, a'r naiE ddinas yn erbyn y Hall, y naill le yn erbyn y llall, y naill bobl yn erbyn y llall, a'r naill deyrnas yn erbyn y llall.

º32 A daw'r amser pan ddelo hyn i ben, a dyfod yr arwyddion a ddangos- ais i ti o'r blaen; yna yr eglurir fy Mab, yr hwn a welaist fel gwr yn dringo i fyny,

º33 A phan glywo'r holl bobl ei leferydd ef, pawb yn eu gwlad eu hun a beidiant a rhyfela yn erbyn ei gilydd.

º34 A lliaws aneirif a gesglir ynghyd, fel y gwelaist rai yn ewyllysgar i ddyfod, ac i'w orchfygu ef trwy ymladd.

º35 Ond efe a saif ar ben mynydd Seion;

º36 A Seion a ddaw, ac a ddangosir i bawb, wedi ei thrwsio, a'i hadeiladu, fel y gwelaist y bryn wedi ei gerfio heb ddwylo.

º37 A hwn fy Mab i a gerydda am-canion drygionus y cenhedloedd hynny, y rhai a syrthiasant i'r dymestl, am eu buchedd ddrygionus;

º38 Ac a esyd o'u blaen hwynt eu drwg feddyliau, a'r dialeddau trwy'r rhai y dechreuant gael eu poeni, y rhai ydynt fel fflam: ac heb boen y difetha efe hwynt trwy'r gyfraith a gyffelybir i dan.

º39 A lie y gwelaist ef yn casglu pobl lonydd eraill ato;

º40 Y rhai hynny yw'r deg llwyth, y rhai a ddygwyd ymaith yn garcharorion allan o'u gwlad eu hun, yn amser Osea y brenin, yr hwn a ddaliodd Salman-asar brenin Asyria yn garcharor, ac a'u dug hwynt dros yr afon, ac felly y daethant i wlad arall.

º41 Ond hwy a gymerasant y cyngor hyn yn eu plith eu hunain, i adael lliaws y cenhedloedd, a myned ymaith i wlad bellach, lie ni thrigasai neb erioed;

º42 Fel y gallent gadw yno eu cyf-raith, yr hon nis cadwasent erioed yn eu gwlad eu hunain.

º43 Ac felly yr aethant trwy Iwybrau cyfyng afon Ewffrates.

º44 Canys y Goruchaf a ddangosodd yna iddynt arwyddion, ac a ataliodd yr afon, nes iddynt fyned trwodd.

º45 Canys yr ydoedd ffordd fawr trwy'r wlad, o daith blwyddyn a banner: a'r wlad honno a elwir Arsareth.

º46 Yna yr arosasant yno hyd yr amser




diwethaf: ac yn awr, pan ddeehreuant ddyfod drachefhj

º47 Y Goruchaf a etyl drachefn aber-oedd y ffrwd, fel y gallont fyned drwodd: am hynny y gwelaist y lliaws mewn heddwch.

º48 Ond y rhai a adawyd yn 61 o'th bobl, yw y rhai a gafwyd o fewn fy nherfynau i.

º49 Yn awr pan ddifetho efe liaws y cenhedloedd a ymgasglodd ynghyd, efe a amddiffyn y bobl sydd yn 61;

º50 Ac yna y dengys efe iddynt ryfedd-odau mawrion.

º51 Yna y dywedais innau, O Arglwydd lywydd, dangos i mi hyn: paham y gwelais y gwr yn dyfod i fyny o ganol y mor?

º52 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Fel nas gelli chwilio na gwybod y pethau sydd yn nyfnder y mor: felly nis gall neb ar y ddaear weled fy Mab i na'r rhai sy gydag ef, ond liw dydd.

º53 Hyn yw dehongliad y breuddwyd a welaist, a thrwy'r hwn y cefaist ti yn unig yma oleuni:

º54 Canys gwrthodaist dy ffordd dy bun, a buost ddyfal i geisio fy nghyf-raith i.

º55 Dy fuchedd a drefnaist mewn doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.

º56 Ac am hynny y dangosais i ti drysorau y Goruchaf: ymhen y trid-iau etc y llefaraf bethau eraill wrthyt, ie, pethau mawrion a rhyfedd a ddan-gosaf i ti.

º57 Yna yr euthum allan i'r maes, gan roddi gogoniant a diolch mawr i'r Goruchaf Dduw am y rhyfeddodau a wnaeth efe mewn amser,

º58 Ac am ei fod ef yn llywodraethu'r amser, a'r pethau a ddigwydd yn eu hamserau. Ac yno yr eisteddais dridiau.

PENNOD 14 º1 Y TRYDYDD dydd yr eisteddais dan dderwen; yna y daeth lief ataf o berth ar fy nghyfer, gan ddywedyd, Esdras, Esdras.

º2 A minnau a atebais gan ddywedyd, Dyma fi, Arglwydd: a mi a sefais ar fy nhraed.

º3 Yna y dywedodd efe wrthyf, Yn y berth yr ymddangosais i Moses, ac yr ymddiddenais ag ef, pan oedd fy mhobl yn gwasanaethu yn yr Aifft.

º4 A danfonais ef, a thywysais fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i fynydd Sinai, lie y cedwais ef gyda mi yn hir o amser.

º5 A dangosais iddo lawer o ryfedd-odau, a chyfrinach yr amseroedd, a'u diwedd; a gorchmynnais iddo, gan ddywedyd,

º6 Y geiriau hyn a fynegi, a'r rhai hyn a geli.

º7 Ac yn awr y dywedaf wrthyt ti,

º8 Dod i fyny yn dy galon yr arwydd-ion a ddangosais i ti, a'r breuddwydion a welaist, a'r dehongliad a glywaist:

º9 Canys dygir di ymaith oddi wrth y cwbl; ac o hyn allan yr arhoi gyda'm Mab, a chyda'th gyffelyb, hyd ddiwedd yr amseroedd:

º10 Canys y byd a gollodd ei ieuenc-tid, a'r amseroedd sy'n dechrau hen-eiddio.

º11 Canys y byd a rannwyd yn ddeu-ddeg rhan, a deg rhan o hynny a aeth ymaith eisoes, a banner degfed ran.

º12 Ac y mae yn 61 yr hyn sydd ar 61 banner y ddegfed ran.

º13 Am hynny gosod dy dy mewn trefn, a cherydda dy bobl, cysura y rhai ohonynt sy mewn helbul, ac yn awr yn ymwrthod a llygredigaeth.

º14 Gollwng oddi wrthyt feddyliau marwol, bwrw ymaith feichiau dynion, a diosg y naturiaeth wan.

º15 Bwrw heibio y meddyliau sy drym-af arnat, a brysia i ffoi oddi wrth yr amseroedd hyn;

º16 Canys drygau mwy na'r rhai a welaist yn digwydd, a wneir yn 61 hyn.

º17 Canys po gwannaf fyddo'r byd wrth oedran, mwy y tyf drygau ar y rhai a erys ynddo.

º18 Canys y gwirionedd a ffodd ym-hell, a chelwydd sydd yn agos: canys


bellach y prysura'r weledigaeth a welaist, i ddyfod.

º19 Yna yr atebais o'th flaen di, gan ddywedyd,

º20 Wele, Arglwydd, mi a af i ger-yddu'r bobl sy gydrychol, fel y gorch-mynnaist i mi: ond pwy a rybuddia y rhai a aner ar 61 hyn? Fel hyn y gosodwyd y byd mewn tywyllwch, a'r rhai sy'n trigo ynddo sy heb oleuni.

º21 Canys dy gyfraith a losgwyd: am hynny ni wyr neb y pethau a wnaeth-ost ti, na'r gweithredoedd a ddechreuir.

º22 Ond os cefais ffafr ger dy fron di, danfon yr Ysbryd Glan i mi, a mi a sgrifennaf y cwbl a'r a wnaethpwyd yn y byd er y dechreuad, yr hyn a sgrifen-asid yn dy gyfraith, fel y gallo dynion gael dy Iwybr, ac fel y byddo byw y sawl a fyddo'n fyw yn y dyddiau diwethaf.

º23 Ac efe a'm hatebodd, gan ddywedyd, Dos ymaith, casgl y bobl yng-hyd, a dywed wrthynt nad edrychont amdanat dros ddeugain niwrnod.

º24 Ac edrych ar ddarparu ohonot lawer o goed bocs, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemeia, Ecanus, ac Asiel, y pump hyn, y rhai a fedrant ysgrifennu yn fuan:

º25 A thyred yma, a mi a oleuaf gan-nwyil deall yn dy galon di, yr hon ni diffoddir nes gorffen y pethau a ddech-reuech di eu hysgrifennu.

º26 A phan ddarffo i ti, ti a ddangosi ryw bethau yn olau; a rhyw bethau a ddangosi di yn gyfrinachol i'r doeth-ion: y pryd hyn yfory y dechreui di sgrifennu.

º27 Yna yr euthum allan, fel y gorch-mynnodd efe i mi, a chesglais yr holl bobl ynghyd, a dywedais,

º28 Gwrando'r geiriau hyn, O Israel.

º29 Bin tadau yn y dechrau oeddynt ddieithriaid yn yr Aifft; o'r hwn le y gwaredwyd hwynt:

º30 A hwy a dderbyniasant gyfraith y bywyd, yr hon nis cadwasant, a'r hon a droseddasoch chwithau hefyd ar eu hoi hwynt.

º31 Yna y rhannwyd y wlad, sef gwiad Seion, rhyngoch chwi wrth goelbren; ond eich tadau a chwithau eich hunain hefyd a wnaethoch ar fai, ac ni chad-wasoch y ffyrdd a orchmynnodd y Goruchaf i chwi.

º32 Ac yn gymaint a'i fod ef yn Farn-wr cyfiawn, efe a ddug oddi arnoch mewn amser, y peth a roddasai efe i chwi.

º33 Ac yn awr, yma yr ydych, a'ch brodyr yn eich plith.

º34 Am hynny os chwi a ddarostyng-wch eich deall, ac a drowch eich calon-nau, chwi a gedwir yn fyw, ac yn 61 marwolaeth y cewch drugaredd:

º35 Canys yn 61 marwolaeth y daw y farn, pan fyddom byw drachefn: ac yna y bydd enw y cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn olau.

º36 Am hynny na ddeled neb ataf yn awr, ac na edryched amdanaf y deu-gain niwrnod hyn.

º37 Felly y cymerais y pum gwr, fel y gorchmynnodd efe i mi; a ni a aeth-om i'r maes, ac a arosasom yno.

º38 Yr ail dydd, lief a'm galwodd, gan ddywedyd, Esdras, agor dy safn, ac yf y peth a roddwyf i ti i'w yfed.

º39 Yna yr agorais fy safn, ac wele, efe a estynnodd i mi gwpan llawn, yr hwn oedd yn llawn fel pe byddai o ddwfr, ond ei liw ef oedd megis tan.

º40 Ac mi a'i cymerais ef, ac a'i hyfais: ac wedi i mi ei yfed, fy nghalon a ddeaU-odd, a doethineb a ddaeth i'm dwyfron; canys fy ysbryd a gryfhaodd fy nghof;

º41 A'm genau a agorwyd, ac ni chae-odd mwy.

º42 Y Goruchaf a roddes ddeall i'r pum gwr, a hwy a sgrifenasant weled-igaethau rhyfedd y nos, y rhai a fyneg-wyd, y rhai nis gwyddent: a hwy a eisteddasant ddeugain niwrnod, ac a sgrifenasant y dydd, a'r nos y bwytas-ant fara.

º43 A minnau a leferais liw dydd, ac ni thewais y nos.

º44 Mewn deugain niwrnod hwy a


sgrifenasant ddau cant a phedwar o lyfrau.

º45 A digwyddodd, pan gyflawnwyd y deugain niwrnod, y Goruchaf a lefar-odd, gan ddywedyd, Y llyfr cyntaf a sgrifennaist, mynega ar gyhoedd, fel y gallo'r teilwng a'r annheilwng ei ddar-llen ef:

º46 Ond cadw y deg a thrigain di-wethaf, fel y gallech eu rhoddi hwynt yn unig i'r rhai sy ddoethion ymysg y bobl:

º47 Canys ynddynt hwy y mae gwythen y deall, ffynnon doethineb, ffrwd y gwybodaeth.

º48 Ac felly y gwneuthum.

PENNOD 15

º1 WELE, dywed, lie y clywo fy mhobl, eiriau'r broffwydoliaeth a ddanfonaf yn dy enau di, medd yr Arglwydd.

º2 A phar eu hysgrifennu hwy ar bapur: canys ffyddlon a gwir ydynt.

º3 Nac ofna fwriadau yn dy erbyn; ac na chyffroed anffyddlondeb y rhai a ddywedant yn dy erbyn, ddim ohonot:

º4 Canys pob dyn anffyddlon a fydd marw yn ei anffyddlondeb.

º5 Wele, medd yr Arglwydd, mi a ddygaf ddialedd ar y byd, y cleddyf, newyn, marwolaeth, a dinistr:

º6 Canys anwiredd a halogodd yr noil ddaear yn ddirfawr, a chyflawnwyd eu gweithredoedd drygionus hwynt.

º7 Am hynny y dywed yr Arglwydd,

º8 Ni ataliaf mo'm tafod mwy, am eu hanwiredd hwy, y rhai a wnant yn an-nuwiol, ac ni ddioddefaf iddynt yn y pethau a drinant mor ysgeler: wele, y gwaed gwirion cyfiawn sy'n gweiddi arnaf, ac eneidiau y rhai cyfiawn sy'n achwyn beunydd.

º9 Am hynny y dywed yr Arglwydd, Mi a ddialaf yn sicr, ac a gymeraf ataf yr holl waed gwirion o'u mysg hwynt.

º10 Wele, fy mhobl a dywysir fel diadell i'r lladdfa; ni adawaf iddyat yn awr aros yn nhir yr Aifft;


º11 Ond mi a'u dygaf hwy allan 4 llaw gadarn, ac a braich estynedig, ac a drawaf yr Aifft a dialeddau, fel y gwneuthum o'r blaen, ac a ddifethaf ei holl dir hi.

º12 Yr Aifft a alara, a'i sylfeini hi a drewir a'r bla ac a'r cerydd a ddwg Duw arni.

º13 Y rhai a lafuria'r ddaear a alarant: canys eu had a ddifethir gan falltod, a chenllysg, a thrwy seren ofhadwy.

º14 Gwae'r byd, a'r rhai a drigant ynddo!

º15 Canys y cleddyf a'u distryw hwynt sydd yn nesau, a'r naill bobl a saif i ymladd yn erbyn y llall, a chleddyfau yn eu dwylo.

º16 Canys terfysg a fydd ymysg dyn-ion, a'r naill a wna drais i'r llall: ni phrisiant ar eu brenin, a'r tywysog-ion a fesurant eu gweithredoedd wrth eu gallu.

º17 Gwr a ewyllysia fyned i ddinas, ac nis gall fyned:

º18 Canys oherwydd eu balchder y trallodir y dinasoedd, y distrywir y tai, ac yr ofna dynion.

º19 Ni chymer gwr drugaredd ar ei gymydog, ond difetha eu tai a wnant a'r cleddyf, a dwyn eu da, oherwydd prinder bara, a chystudd mawr.

º20 Wele, medd Duw, mi a alwaf yng-hyd holl frenhinoedd y ddaear i'm han-rhydeddu i, y rhai sydd o'r dwyrain, a'r deau, a'r gorllewin, a Libanus, i droi yn erbyn ei gilydd, ac i dalu'r pwyth iddynt.

º21 Fel y gwnant y dydd heddiw i'm hetholedigion, felly y gwnaf finnau hefyd, a thalaf i'w mynwes. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,

º22 Ni arbed fy neheulaw y pechadur-iaid, a'm cleddyf ni phaid a'r rhai a dywalltant waed gwirion ar y ddaear.

º23 Y tan a ddaeth allan o'i ddicter, ac a ddifethodd sylfeini'r ddaear, a'r pechaduriaid fel gwellt yn llosgi.

º24 Gwae y rhai a bechant, ac ni chad-want fy ngorchmynion! medd yr Arglwydd.


º25°Ni arbedaf hwynt. Ewch ymaith, llid, a'r seren yr hon chwi blant, oddi wrth y gallu; na halog- wch fy nghysegr.

º26 Canys yr Arglwydd a edwyn bawb a'r a bechant yn ei erbyn ef, ac am hynny y rhydd efe hwynt i farwolaeth a distryw.

º27 Canys yn awr y daeth y dialedd ar yr holl ddaear, a byddwch chwithau yn eu mysg: oherwydd ni wareda Duw chwi, am i chwi bechu yn ei erbyn ef.

º28 Wele weledigaeth erchyll, a'i hwyn-eb o'r dwyrain:

º29 Lie y daw cenhedloedd o ddreigiau Arabia a llawer o gerbydau, a'u lliaws hwy a ddygir fel gwynt ar y ddaear, fel yr ofho ac y cryno pawb a'r a'i clywo.

º30 Y Carmaniaid yn ynfydu mewn dieter a ant allan fel baeddod y coed, ac mewn nerth mawr y deuant, ac y safant yn eu herbyn hwy i ymladd, ac a ddis-trywiant ran o wlad yr Asyriaid.

º31 Ac yna y dreigiau a gant y llaw uchaf, gan gofio eu naturiaeth: ac os hwy a ymdroant, ac a gydfwriadaiit a nerth mawr i'w herhd hwynt,

º32 Yna y rhai hyn a flinir, ac a ddis-tawant yn eu nerth, ac a ffoant:

º33 A'r gelyn a esyd arnynt o wlad yr Asyriaid, ac a ddifetha rai ohonynt: ac yn eu llu hwy y bydd ofn ac arswyd, ac ymryson rhwng eu brenhinoedd.

º34 Wele gymylau o'r dwyrain, ac o'r gogledd i'r deau; ac eichyll yw edrych arnynt yn llawn llid a thym-estl.

º35 A thrawant y naill ar y llall, a bwriant i lawr liaws mawr o ser ar y ddaear, ie, eu seren eu hun; a'r gwaed fydd o'r cleddyf hyd y bol:

º36 A thail dyn hyd wasarn y camelod.

º37 A bydd ofn ac arswyd mawr ar y ddaear: a'r rhai a welant y llid a ofh-ant, ac arswyd a ddaw arnynt.

º38 Ac yno y daw tymhestloedd mawr-ion o'r deau a'r gogledd, a rhan arall o'r gorllewin.

º39 A gwyntoedd mawrion a gyfodant o'r dwyrain, ac a'i hagorant hi; a'r cwmwl yr hwn a gyfododd efe mewn


iii^, «» ------ .. _ gynhyrfodd i beri ofn ma gwynt y dv/yrain a'r gorllewin, a ddifethir.

º40 Y cymylau cryfion yn llawn llid, a'r seren a godir i fyny, fel y gallont ofni'r holl ddaear a'r neb a drigo yn-ddi; fel y gallont fwrw seren erchyll ar bob lie uchel,

º41 Tan a chenllysg, a chleddyfau yn ehedeg, a llawer o ddwfr, fel y byddo pob maes a phob afon yn llawn o ddyfr-oedd.

º42 A bwriant i lawr y dinasoedd a'r magwyrydd, y mynyddoedd a'r bryn-iau, y coedydd, a gwair y gweirgloddiau, a'u hyd:

º43 Ac a ant yn hy i Babilon, ac a'i dychrynant hi.

º44 Deuant ati hi, a gosodant arni hi, y seren a phob llid a dywalltant arni: yna yr a y llwch a'r mwg i'r nefoedd, a phawb a'r a fyddo yn ei chylch a alarant amdani.

º45 A'r sawl a fyddo tani a wasan-aethant y rhai a'i hofnodd hi.

º46 A thithau, Asia, yr hon wyt gyf-rannog o obaith Babilon, yr hon wyt yn ogoniant iddi;

º47 Gwae di druan, am i ti dy wneuth-ur dy hun yn debyg iddi hi, a thrwsio dy ferched mewn godineb, fel y gallent ryngu bodd dy gariadau, ac ymffrostio ynddynt, y rhai a ddymunasant bob amser odinebu a thi!

º48 Canlynaist y ddinas ffiaidd yn ei holl weithredoedd a'i dychmygion: am hynny y dywed Duw,

º49 Danfonaf ddialedd arnat, gweddw-dod, tlodi, newyn, cleddyf, a haint, i ddifetha dy dai a distryw ac a marwol-aeth.

º50 A gogoniant dy nerth a ddiflanna fel llysieuyn, pan godo'r gwres a ddan-fonir arnat.

º51 Ti a wanychir fel gwraig dlawd a gwialenodiau, ac fel un wedi ei cher-yddu a gweliiau, fel nas gallo'r rhai galluog a'th gariadau dy dderbyn.

º52 A wnawn i trwy eiddigedd i ti felly, medd yr Arglwydd,


º53 Oni bai ladd ohonot bob amser fy etholedig, gan godi dyrnod dy ddwylo, a dywedyd, pan oeddit ti feddw uwch-ben eu marwolaeth,

º54 Dangos allan degwch dy wynep-ryd?

º55 Gwobr dy odineb a delir i'th fynwes; am hynny y cei dSl.

º56 Pel y gwnaethost I'm hetholedig, medd yr Arglwydd, felly y gwna Duw

i tithau, ac y rhydd ddialedd arnat.

º57 Dy blant a fyddant feirw o newyn, a thithau a syrthi trwy'r cleddyf: dy ddinasoedd a fwrir i lawr, a chwbl o'r eiddot a ddifetha'r cleddyf yn y maes.

º58 Y rhai sy yn y mynyddoedd, a fyddant feirw o newyn, a bwytSnt eu cig eu hunain, ac yfant eu gwaed eu hunain, o wir newyn bara a syched am ddwfr.

º59 Tithau yn anhapus a ddeui trwy'r m6r, a chei ddialedd drachefn.

º60 Wrth fyned heibio y bwriant i lawr y ddinas laddedig, diwreiddiarit un rhan o'th wlad, a difethant ran o'th ogoniant, a dychwelant i Babilon yr hon a ddistrywiwyd.

º61 Hwy a'th daflant i lawr fel soft, a hwy a fyddant i ti fel tan.

º62 A difethant di, a'th ddinasoedd, a'th wlad, a'th fynyddoedd; a'th holl goedydd a'th brennau ffrwythlon a losgant a thfin.

º63 Dy blant a gaethgludant, ac a anrheithiant gwbl ag a feddech, ac a ddifwynant degwch dy wyneb.

PENNOD 16

º1 GWAE dydi, Babilon, ac Asia! gwae dydi, yr Aifft, a Syria!

º2 Ymwregyswch a lliain sach ac ft rhawn, galerwch dros eich plant, bydd-wch drist: canys eich distryw sydd ger-llaw.

º3 Cleddyf a ddanfonwyd arnoch, a phwy a'i try ef yn ei 61?

º4 Tan a ddanfonwyd yn eich plith, a phwy a'i diffydd ef ?

º5 Dialeddau a ddanfonwyd atoch, a phwy a'u gyr hwy ymaith?


º6 A all neb yrru ymaith y Hew new-ynog yn y coed? neu a all neb ddiffodd t£n pan ddechreuo gynnau yn y sofl?

º7 A all un droi yn ei h61 y saeth a saethodd perchen bwa cryf?

º8 Y galluog Arglwydd sydd yn dan-fon y dialeddau, a phwy yw hwn a'u gyr hwy ymaith?

º9 T3n a £ allan oddi with ei lid, a phwy yw efe a'i diffydd?

º10 Efe a deifl fellt, a phwy nid ofna? efe a darana, a phwy ni ddychryn?

º11 Duw a fygwth, a phwy ni wneir yn friwsion ger ei fron ef ?

º12 Y ddaear a gryna, a'i sylfeini; y mor a gyfyd ei donnau o'r dyfnder, a'i donnau sy derfysgus, a'r pysgod hefyd gerbron yr Arglwydd, ac o flaen gogon-iant ei allu ef.

º13 Canys cref yw deheulaw'r hwn sydd yn anelu'r bwa; a'r saethau a saetha efe sydd lymion, ac ni fetha ganddynt pan ddechreuer eu saethu hwynt i eithaf byd.

º14 Wele, y dialeddau a ddanfonwyd, ac ni ddychwelant nes eu dyfod ar y ddaear.

º15 Y tan a gyneuwyd, ac nis diff-oddir ef, nes iddo losgi sylfeini'r ddaear.

º16 Fel na ddychwel y saeth, yr hon a saetho perchen bwa cryf; felly ni ddychwel y dialeddau a ddanfonir ar y ddaear.

º17 Gwae fi! gwae fi! pwy a'm gweryd yn y dyddiau hynny?

º18 Dechreuad tristwch a galar mawr; dechreuad newyn a marwolaeth fawr; dechreuad rhyfeloedd, a'r galluoedd a ofnant; dechreuad drygau: beth a wnaf fi yn hyn pan ddel y drygau hyn?

º19 Wele, newyn a phla, blinder a chyni, a ddanfonwyd fel ffrewyllau i beri gwellhau.

º20 Ond er hyn i gyd ni throant oddi wrth eu hanwireddau, ac ni feddyliant bob amser am y ffrewyllau.

º21 Wele, bwyd a died a fydd mor rhad ar y ddaear, fel y tybygant eu bod wrth eu bodd; a'r pryd hynny y daw

drygau ar y ddaear, cleddyf, newyn, a thrallod mawr.

º22 Canys llawer o'r rhai sy'n trigo ar y ddaear a fyddant feirw o newyn, a'r lleill a ddihango rhag y newyn, y cleddyf a'u difetha.

º23 A'r meirw a deflir allan fel tail, ac ni bydd neb i'w cysuro hwynt: canys y ddaear a anrheithir, a'r dinasoedd a fwrir i lawr.

º24 Ni adewir neb i lafurio'r ddaear, ac i'w hau.

º25 Y prennau a roddant ffrwyth, a phwy a'u cynaeafa hwy?

º26 Y grawnwin a aeddfedant, a phwy a'u sathr? canys pob man a fydd yn ddi-bobl,

º27 Fel y dymuno'r naill wr weled y Hall, neu glywed ei leferydd ef:

º28 Canys o ddinas y gadewir deg, a dau o'r maes, y rhai a ymguddiant yn y tewgoed ac yn ogofeydd y creigiau;

º29 Fel ped fai dair neu bedair o olifaid wedi eu gadael ar bob pren mewn perllan olewydd,

º30 Neu fel pan gasgler gwinllan, y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adawant rai o'r grawnwin yn eu hoi:

º31 Felly yn y dyddiau hynny y gedy'r rhai a chwilio eu tai hwy a'r cleddyf, dri neu bedwar ohonynt.

º32 A'r ddaear a adewir yn anghyf-annedd, a'i meysydd a heneiddiant, a'i ffyrdd a'i holl Iwybrau a dyfant yn llawn o ddrain, am nad ymdeithia neb trwyddynt.

º33 Y morynion ieuainc a alarant heb briodfeibion iddynt, y gwragedd a wnant gwynfan heb eu gwyr, a'u merched a alarant, am nad oes amddiffynwyr iddynt.

º34 Yn y rhyfel y difethir eu priod hwy, a'u gwyr hwy a fydd feirw o newyn.

º35 Ond chwychwi wasanaethwyr yr Arglwydd, gwrandewch y pethau hyn, a deellwch hwynt.

º36 Wele air yr Arglwydd, derbyn-iwch ef; na chredwch mo'r duwiau, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd.

º37 Wele'r dialeddau yn nesau, ac ni oedant ddyfod.

º38 Fel gwraig wrth esgor, yr hon a ddwg ei mab ymhen y nawmis, pan ddel yr amser i esgor, poen a ddaw ar ei chroth, ddwy awr neu dair o'r blaen; yr hwn wrth ddyfod yr etifedd i'r byd ni oeda ronyn:

º39 Felly nid oeda'r dialeddau ddyfod ar y ddaear; a'r byd a alara, a thrist-wch a ddaw arno o bob parth.

º40 O fy mhobl, gwrandewch arnaf, ymbaratowch i'r rhyfel, a byddwch yn y drygau hynny, fel pererinion ar y ddaear.

º41 Yr hwn a wertho, bydded fel un yn ffoi ymaith; a'r hwn sydd yn prynu, bydded fel un a gyll;

º42 A'r hwn a farsiandio, bydded fel un heb ennill; a'r hwn a adeilado, fel un heb gael trigo ynddo;

º43 Yr hwn a heuo, bydded fel yr hwn nis medo; yr hwn a blanno winllan, fel yr hwn ni chasgl y grawnwin;

º44 Y rhai a briodant, byddant fel rhai ni chant blant; a'r rhai ni phriod-ant, fel gweddwon.

º45 Am hynny y rhai a lafuriant, a lafuriant yn ofer;

º46 Canys dieithriaid a fedant eu ffrwythau hwynt, ac a sglyfaethant eu da hwynt, ac a fwriant i lawr eu tai, ac a gaethgludant eu plant: canys mewn caethiwed a newyn yr enillant blant.

º47 A'r rhai a farsiandia trwy ysbeilio, po mwyaf y trwsiant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau, a'u cyrff eu hunain,

º48 Mwyaf y digiaf finnau wrthynt hwythau am eu pechodau, medd yi Arglwydd.

º49 Fel y cenfigenna putain with wraig onest rinweddol,

º50 Felly y casa cyfiawnder anwiredd, pan ymdrwsio hi; ac a'i cyhudda hi yn ei hwyneb, pan ddel efe'r hwn a'i ham-ddiffyn ef, yr hwn sydd yn chwilio allan bob pechod ar y ddaear yn ddyfal.

º51 Ac am hynny na fyddwch debyg iddi hi, nac i'w gweithredoedd:

º52 Canys cyn pen nemor o ennyd^



anwiredd a dynnir ymaith oddi ar y ddaear, a chyfiawnder a lywodraetha yn eich plith chwi.

º53 Na ddyweded y pechadur na phech-odd: canys marwor tanllyd a lysg Duw ar ben yr hwn a ddywedo o flaen Duw a'i ogoniant, Ni phechais.

º54 Wele, yr Arglwydd a wyr holl weithredoedd dynion, eu bwriadau, eu meddyliau, a'u calonnau:

º55 Canys ni ddywedodd efe ond y gair, Gwneler y ddaear, a hi a wnaeth-pwyd; Gwneler y nefoedd, a hwy a wnaethpwyd.

º56 Gan ei air ef y gwnaethpwyd y ser, ac efe a wyr eu rhifedi hwynt.

º57 Efe a chwilia'r dyfnderoedd, a'u trysor; efe a fesurodd y mor, a'r hyn sydd ynddo.

º58 Efe a gaeodd y mor yng nghanol y dyfroedd, ac a'i air y crogodd efe'r ddaear ar y dyfroedd.

º59 Efe a daena'r nefoedd fel cron-glwyd, ac ar y dyfroedd y sicrhaodd efe hi.

º60 Yn y diffeithwch y gwnaeth efe ffynhonnau o ddwfr, a llynnoedd ar bennau'r mynyddoedd, fel y gallai'r afonydd dywallt i lawr oddi ar y creig-iau uchel, i ddyfrhau'r ddaear.

º61 Efe a wnaeth ddyn, ac a osododd ei galon ef yng nghanol ei gorff, ac a roddes iddo anadl, einioes, a deall,

º62 le, ac Ysbryd yr hollalluog Dduw, yr hwn a wnaeth bob peth, ac sydd yn chwilio allan bob peth cuddiedig yn nirgel leoedd y ddaear.

º63 Efe a wyr yn ddiau eich dych-mygion chwi, a pha beth yw eich meddwl yn eich calon, pan bechoch, a phan fynnoch guddio eich pechodau.

º64 Am hynny y chwiliodd yr Arglwydd eich holl weithredoedd chwi allan yn fanwl, ac efe a'ch cywilyddia chwi oil.

º65 A phan ddyger eich pechodau chwi allan, bydd cywilydd arnoch o flaen dynion, a'ch pechodau eich hunain a'ch cyhudda yn y dydd hwnnw.

º66 Pa beth a wnewch chwi? neu pa fodd y cuddiwch chwi eich pechodau o flaen Duw a'i angylion?

º67 Wele, Duw ei hun sydd Farnwr; ofnwch ef: peidiwch a phechu, a go-\ llyngwch dros gof eich anwireddau, na fydded i chwi a wneloch mwy a hwynt byth; felly yr arwain Duw chwi allan, ac a'ch gwared chwi oddi wrth bob blinder.

º68 Canys wele, digofaint tanllyd lliaws mawr a gyneuwyd arnoch chwi, a hwy a ddygant ymaith rai ohonoch, ac a'ch porthant yn segur a phethau a offrymwyd i eilunod.

º69 A'r rhai a gytunant a hwynt a watworir, a ddiystyrir, ac a sethrir dan draed:

º70 Canys fe fydd ym mhob lie, ac yn y dinasoedd nesaf, lawer yn codi i fyny yn erbyn y rhai a ofnant yr Arglwydd.

º71 Hwy a fyddant fel gwyr ynfydion, heb arbed neb, eithr yn anrheithio ac yn dinistrio'r rhai a fyddo'n ofni'r Arglwydd.

º72 Canys hwy a anrheithiant, ac a ddygant eu da oddi arnynt, ac a'u bwriant allan o'u tai.

º73 Yna y ceir gwybod pwy yw fy etholedigion i; a phrofir hwynt fel yr aur yn y tan.

º74 Gwrandewch, fy anwylyd, medd yr Arglwydd: Wele, dyddiau'r helbul sy gerllaw; ond mi a'ch gwaredaf chwi rhagddynt.

º75 Nac ofnwch, ac na amheuwch; canys Duw yw eich tywysog chwi,

º76 A thywysog y rhai a gadwant fy ngorchmynion a'm deddfau, medd yr Arglwydd Dduw: na phwysed eich pechodau chwi i lawr, ac nac ymddyr-chafed eich anwireddau.

º77 Gwae'r rhai sy'n rhwym gan eu pechodau, ac wedi eu gorchuddio a'u hanwireddau, fel maes wedi ei gau a pherthi, a'i Iwybr wedi ei guddio 3 drain fel na allo neb fyned y ffordd honno!

º78 Caewyd ef i fyny, a bwriwyd ef i'r tan yn dragwyddol i'w ddifetha.