Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/2 Maccabeaid

Oddi ar Wicidestun

AIL LYFR Y MACABEAID

PENNOD i

1 Y MAE y brodyr, yr Iddewon sydd yn Jerwsalem ac yng ngwlad Jwdea, yn dymuno i'r brodyr o Iddewon sydd yn yr Aifft, iechyd a heddwch.

2 Duw a wnelo ddaioni i chwi, ac a gofio ei gyfamod a wnaeth efe ag Abraham, ag Isaac, ac a Jacob, ei ffydd-lon weision;

3 Ac a roddo galon i chwi oll i'w wasanaethu ef, ac i wneuthur ei ewyllys ef a chalon gysurus, ac a meddwl ewyllysgar;

4 Ac a agoro eich calon chwi yn ei gyfraith a'i orchmynion, ac a drefno i chwi dangnefedd;

5 A wrandawo ar eich gweddiiau chwi, a gymodo a chwi, ac na'ch gadawo byth yn amser adfyd.

6 Ac yn awr yr ydym ni yn gweddio yma drosoch chwi.

7 Pan oedd Demetrius yn teyrnasu yn y nawfed flwyddyn a thrigain a chant, nyni yr Iddewon a sgrifenasom atoch yn y blinder a'r gorthrymder a ddaeth arnom ni o fewn y blynyddoedd hynny, er pan aeth Jason a'r rhai oedd gydag ef allan o'r wlad sanctaidd a'r frenhiniaeth,

8 Ac y llosgasant y porth, ac y tywalltasant waed gwirion: ninnau a weddiasom ar yr Arglwydd, ac a gawsom ein gwrando; ac a offrymasom ebyrth a pheilliaid, ac a oleuasom lusern-au, ac a osodasom y bara allan.

9 Am hynny yn awr edrychwch ar gadw dyddiau gwyl y pebyll yn y mis Casleu.

10 Yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain a chant, y bobl oedd yn Jerwsalem ac yn Jwdea, a'r cyngor, a Jwdas, sydd yn dymuno llwyddiant a iechyd i Aristobulus, athro'r brenin Ptolemeus, yr hwn sydd o hiliogaeth yr offeiriaid eneiniog, ac i'r Iddewon yn yr Aifft.

11 Yn gymaint a bod i Dduw ein gwaredu ni oddi wrth fawr beryglon, yr ydym yn rhoddi mawr ddiolch iddo, megis pe buasem yn rhyfela yn erbyn brenin:

12 Canys efe a'u bwriodd hwynt allan, y rhai a ymladdasant yn erbyn y ddinas sanctaidd.

13 Canys pan ddaethai y capten i Persia a llu a dybid yn anorchfygol gydag ef, fe a'u lladdwyd hwy yn nheml Nanea, trwy ddichell offeiriaid Nanea.

14 Canys Antiochus a ddaeth yno megis i'w phriodi, efe a'i geraint gydag ef, i dderbyn arian yn enw cynhysg-aeth.

15 Ond wedi i offeiriaid Nanea eu rhifo, a myned ohono i mewn i'r deml heb nemor gydag ef, hwy a gaeasant y deml, wedi dyfod Antiochus i mewn,

16 Ac a agorasant ddrws dirgel ar nen y deml, ac a daflasant gerrig megis saethau mellt, ac a drawsant i lawr y capten a'i wyr; ac wedi eu dryllio yn ddarnau, hwy a dorasant eu pen-nau, ac a'u taflasant at y rhai oedd oddi allan.

17 Bendigedig fyddo ein Duw ni ym mhob peth, yr hwn a roddes i fyny yr annuwiol.

18 Gan ein bod ni a'n bryd ar gadw puredigaeth y deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Casleu, ni a welsom fod yn angenrheidiol fynegi hyn i chwi; fel y gallech chwithau hefyd ei gadw fel dydd gwyl y pebyll, a gwyl y tan, yr hwn a roddwyd i ni pan offrymodd Nehemeias aberth, wedi iddo adeiladu'r deml a'r allor.

19 Canys yn y cyfamser yr arwein-iwyd ein tadau i Persia, yr offeiriaid, addolwyr Duw y pryd hynny, a gym-erasant y tan yn ddirgel oddi ar yr allor, ac a'i cuddiasant mewn dyffryn, lie yr oedd pydew dwfn a sych: ac yno y cadwasant ef, fel na wyddai neb y man hwnnw.

20 Yn awr wedi llawer o flynyddoedd, pan welodd Duw yn dda, Nehemeias, pan yrrwyd ef oddi wrth frenin Persia, a yrrodd rai o epil yr offeiriaid a'i cuddiasai ef, at y tan: ond pan fynegas-ant wrthym na chawsant ddim tan, ond dwfr tew,

21 Yna y gorchmynnodd efe iddynt ei gyrchu i fyny, a'i ddwyn ef: ac wedi gosod yr aberthau, Nehemeias a orch-mynnodd i'r offeiriaid daenellu'r dwfr ar y coed a'r pethau oedd arnynt.

22 Wedi darfod hyn, a dyfod yr amser i'r haul i lewyrchu, yr hwn o'r blaen oedd dan gwmwl, fe enynnodd tan mawr, fel y rhyfeddodd pawb.

23 A thra oedd yr aberth yn darfod, yr noil offeiriaid oedd yn gweddio, Jonathan yn gyntaf, a'r lleill yn ateb fel Nehemeias.

24 A'r weddi oedd fel hyn; O Arglwydd Dduw, Gwneuthurwr pob peth, yr hwn wyt ofnadwy a chadarn, cyfiawn a thrugarog, a'r unig a'r grasol Frenin;

25 Ti yn unig wyt hael, uniawn, holl-alluog, a thragwyddol; ti, yr hwn wyt yn gwaredu Israel o'u holl flinder, yr hwn a etholaist y tadau, ac a'u sanct-eiddiaist hwy,

26 Derbyn aberth dros dy holl bobl Israel, cadw dy ran, a sancteiddia hi.

27 Casgl ynghyd y rhai a wasgarwyd oddi wrthym, a gwared y rhai sydd yn gwasanaethu'r Cenhedloedd; edrych ar y dirmygus a'r ffiaidd, a gad i'r Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw ni.

28 Cosba ein gorthrymwyr, a'r rhai sy trwy falchedd yn gwneuthur cam a ni.

29 Gosod dy bobl eirwaith yn dy le sanctaidd, megis y llefarodd Moses.

30 Yr offeiriaid hefyd a ganent salm-au diolch.

31 Hefyd wedi ysu'r aberth, Nehemeias a orchmynnodd dywallt y dwfr oedd yng ngweddill ar y cerrig mawrion.

32 Yr hwn beth pan wnaethwyd, fe a enynnodd fflam: ond hi a ddiffoddwyd gan y goleuni oedd yn llewyrchu oddi ar yr allor.

33 Pan wybuwyd y peth hyn, fe fyn-egwyd i frenin Persia mai yn y fan lie y cuddiasai'r offeiriaid a arweiniesid ymaith, y tan, yr yrnddangosodd dwfr, a'r hwn y purodd Nehemeias, a'r rhai oedd gydag ef, yr ebyrth.

34 Y brenin a chwiliodd y peth yn ddyfal, ac a amgylchynodd y lie o'i amgylch, ac a'i gwnaeth yn sanctaidd.

35 A'r brenin a gymerth roddion lawer, ac a roddes ohonynt i'r rhai yr oedd efe yn chwennych gwneuthur cymwynas iddynt.

36 A Nehemeias a alwodd y peth hwnnw Naffthar; yr hwn yw, o'i ddeongl, Puredigaeth: ond llawer rhai a'i galwant Neffi.

PENNOD 2

1 FE a geir hefyd yn y sgrifenadau, erchi o Jeremeias y proffwyd i'r rhai a arweiniwyd ymaith gymryd y tan, megis y mynegwyd;

2 Ac fel y gorchmynasai'r proffwyd i'r rhai a arweiniwyd ymaith, gan roddi iddynt gyfraith, na ollyngent dros gof orchmynion yr Arglwydd, ac na chyf-eiliornent yn eu meddyliau, pan welent ddelwau o aur ac arian, a gwisgoedd.

3 Cyfryw bethau eraill a lefarodd wrthynt, gan eu cynghori na adawent i'r gyfraith fyned allan o'u calonnau.

4 Yr oedd hefyd yn yr un sgrifen, fel y darfu i'r proffwyd, trwy ateb Duw wrtho, orchymyn dwyn y babell a'r arch gydag ef, hyd oni ddaeth i'r mynydd yr esgynnodd Moses iddo, lie y gwelodd efe etifeddiaeth Duw.

5 Ac wedi dyfod Jeremeias yno, efe a gafodd ogof, yn yr hon y gosodes efe y babell, a'r arch, ac allor y poethoffrwm, ac a gaeodd y drws.

6 A rhai a ddaethant i farcio'r ffordd, o'r rhai a'i dilynent ef; ond ni fedrent ei chael.

7 Pan wybu Jeremeias hynny, efe a'u ceryddodd hwy, gan ddywedyd, Ni chaiff neb wybod y lie, hyd oni chasglo Duw ei bobl drachefn, a bod trugaredd:

8 Yna y dengys yr Arglwydd iddynt y pethau hyn; a gogoniant yr Arglwydd a ymddengys, a'r cwmwl hefyd, megis ag y datguddiwyd i Moses, ac fel y deisyfodd Salomon, bod sancteiddio'r lie yn an-rhydeddus.

9 Canys eglur yw, ddarfod iddo megis un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth cysegriad a sancteiddiad y deml.

10 Ac megis, pan weddiodd Moses ar yr Arglwydd, y daeth tan i lawr o'r nefoedd, ac yr ysodd yr aberth; felly Salomon a weddiodd, a than a ddaeth i lawr o'r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm.

11 A Moses a ddywedodd, Am na ddylid bwyta'r offrwm dros bechod, am hynny yr yswyd ef.

12 Ac felly Salomon a gadwodd yr wyth niwrnod hynny.

13 Y pethau hyn hefyd a fynegir yn sgrifenadau ac yng nghoflythyrau Nehemeias, fel y gwnaeth efe lyfrdy, ac y casglodd actau y brenhinoedd a'r proffwydi, actau Dafydd ac epistolau y brenhinoedd am y rhoddion sanct-aidd.

14 Yn yr un ffunud Jwdas a gasglodd ynghyd yr holl bethau a gollesid o achos y rhyfel a ddigwyddodd arnom; ac y mae hynny gennym ni.

15 Am hynny o bydd rhaid i chwi wrthynt, danfonwch rai a'u dyco i chwi.

16 Canys oherwydd ein bod ni a'n bryd ar gadw y puredigaeth, ni a sgrif-enasom atoch: am hynny, da y gwnewch chwithau os cedwch yr un dyddiau.

17 Duw, yr hwn a waredodd ei holl bobl, ac a roddes etifeddiaeth i bawb, a theyrnas, ac offeiriadaeth, a sancteidd-rwydd,

18 Megis yr addawodd efe yn y gyf-raith, yr ydym yn gobeithio y trugarha wrthym ar fyrder, ac y casgl ni ynghyd o bob gwlad oddi tan y nefoedd, i'w le sanctaidd: canys efe a'n gwaredodd ni oddi wrth fawr beryglon, ac a lanhaodd ylle.

19 Am Jwdas Macabeus a'i frodyr, am buredigaeth y deml fawr, a chysegriad yr allor,

20 A'r rhyfeloedd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Eupator,

21 A'r eglur arwyddion a ddaethant o'r nefoedd i'r rhai a ymddygasant yn wrol i'w hanrhydedd yng nghweryl crefydd yr Iddewon: canys er nad oeddynt ond ychydig, eto hwy a orchfygas-ant yr holl wlad, ac a yrasant i ffoi dyrfau y barbariaid,

22 Ac a adeiladasant drachefn y deml, am yr hon yr oedd mawr son trwy'r holl fyd, ac a waredasant y ddinas, ac a sicrhasant y cyfreithiau yr oeddid ar eu dirymu, oherwydd bod yr Arglwydd yn drugarog ac yn rasol iawn wrthynt;

23 Y pethau hefyd a fynegodd Jason Cyreneus mewn pum llyfr, ni a brofwn eu talfyrru mewn un llyfr.

24 Canys wrth ystyried anfeidrol rifedi y llyfrau, a'r dryswch y maent hwy yn ei gael sydd yn chwennych myned trwy draethawd yr histori, oherwydd amled y materion;

25 Nyni a gymerasom ofal ar gael o'r rhai a ewyllysient ddarllen, ddi-ddanwch, a bod esmwythdra i'r rhai a chwenychent gofio, ac i bawb a'i darllenent gael budd.

26 Am hynny i ni, y rhai a gymerasom arnom y drafael flin hon i dal-fyrru, nid esmwythdra oedd, ond gwaith a wnaeth i ni chwysu a gwylio.

27 Fel nad ydyw esmwyth i'r hwn a wnelo wledd, ac a geisio fudd rhai eraill; felly ninnau, er mwyn gwneuthur cymwynas i lawer, a gymerwn y blinder hyn yn ewyllysgar;

28 Gan adael bod yn fanwl am bob peth i'r awdur, nyni a geisiwn grynhoi y cwbl ar fyr eiriau:

29 Canys fel y mae yn rhaid i'r neb a wnelo dy newydd ofalu am yr holl adeiladaeth: ond y neb a gymero arno ei osod allan, a'i beintio, nid rhaid iddo geisio dim ond a fyddo angenrheidiol i'w harddu: felly yr ydwyf fi yn meddwl o'n rhan ninnau,

30 Mai perthynasol yw i sgrifennwr cyntaf yr histori fyned ynddi yn ddwfn i son am bob peth, gan fod yn ddiesgeulus ym mhob rhan;

31 Ond y mae'n rhydd i'r neb a'i talfyrro, arfer ychydig eiriau, ac ymadael a phob manylwch ynddi.

32 Yma am hynny y dechreuwn ein traethawd: am y rhagymadrodd, digon yw a ddywedasom; canys ffolineb yw arfer hir ymadrodd o flaen yr histori, a bod yn fyr yn yr histori.

PENNOD 3

1 Y CYFAMSER yr oeddid yn preswylio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn cadw'r cyfreithiau yn dda iawn, oblegid duwioldeb Oneias yr archoffeiriad, ac oherwydd ei fod yn casau pob drygioni,

2 Digwyddodd i'r brenhinoedd a'r tywysogion farnu'r lie yn anrhydeddus, ac anrhegu'r deml a'u rhoddion gorau;

3 Yn gymaint ag i Seleucus brenin Asia, dalu o'i ardrethion yr holl draul a berthynai i weinidogaeth yr ebyrth.

4 Ond un a elwid Simon, o Iwyth Benjamin, yr hwn a wnaethid yn oruch- •wyliwr ar y deml, a ymrafaeliodd a'r archoffeiriad i wneuthur diffeithwch yn y ddinas.

5 Ond pryd nas gallai orchfygu Oneias, efe' a aeth at Apolonius fab Thrase^s, yr hwn oedd yr amser hwnnw yn Irjfwodraethwr ar Celo-Syria a Phenicia;

6 Ac a fynegodd iddo fod trysordy Jerwsalem yn llawn o arian annifeiriol, fel yr oedd lluosowgrwydd eu cyfoeth yn aneirif, y rhai ni pherthynent i weinidogaeth yr ebyrth, a bod yn bosibl dwyn y cwbl i ddwylo'r brenin.

7 Wedi ymgyfarfod o Apolonius a'r brenin, efe a fynegodd iddo am yr arian a ddangosasid iddo: yntau a etholodd Heliodorus golygwr ei drysordy, ac a'i danfonodd a gorchymyn ganddo i gyrchu'r arian y dywedwyd amdanynt o'r blaen.

8 Am hynny Heliodorus yn y man a gychwynnodd i'w daith, yn rhith myned i ymweled a dinasoedd Celo-Syria a Phenicia, ond a'i feddwl ar gyflawni arfaeth y brenin.

9 Yn ôl dyfod ohono i Jerwsalem, a'i dderbyn yn groesawus gan archoffeiriad y ddinas, efe a draethodd iddynt beth a ddangosasid iddo am yr arian, ac a fynegodd paham y daethai efe yno; ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wir.

10 Yna'r archoffeiriad a ddangosodd iddo fod yno y cyfryw arian wedi eu rhoi i gadw i ymgeleddu y gweddwon a'r amddifaid;

11 A rhai yn eiddo Hyrcanus mab Tobeias, gwr ardderchog iawn, ac nid fel y camddywedasai Simon, y dyn an-nuwiol hwnnw, a bod y cwbl yn bedwar can talent o arian, a dau cant o aur:

12 Ac nad ydoedd bosibl gwneuthur y fath gam a'r rhai a ymddiriedasent i sancteiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd a difrycheulyd grefydd y deml, yr hon oedd anrhydeddus trwy'r holl fyd.

13 Ond Heliodorus, oherwydd gorch-mynion y brenin, y rhai oedd ganddo, a ddywedodd yn hollol y byddai raid dwyn yr arian i drysordy'r brenin.

14 Ac wedi gosod dydd, efe a aeth i mewn, ar fedr, yn ôl eu gweled, gym-ryd trefn amdanynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.

15 A'r offeiriaid a syrthiasant i lawr gerbron yr allor yn eu gwisgoedd sanct- aiddj ac a alwasant tua'r nef ar Dduw, yr hwn a roesai gyfraith am y trysor sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i'r rhai a'i rhoddasai yno i'w gadw.

16 A'r neb a edrychai ar wynepryd yr archoffeiriad a ddoluriai yn ei galon: canys ei wynepryd, a newidiad ei liw, oedd yn dangos cyfyngder ei galon.

17 Canys rhyw ofn a dychryn corff a amgylchodd y gwr hwnnw, fel yr oedd eglur i'r rhai a edrychent arno, y dolur oedd yn ei galon ef.

18 Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan o'u tai, i wneuthur gweddi gyffredin, oherwydd bod y lie yn debyg i ddyfod i ddirmyg.

19 Y gwragedd hefyd, wedi ymwregysu a lliain sach dan eu bronnau, a lanwent yr ystrydoedd: a'r gwyryfon, y rhai a gaeasid i mewn, a redent, rhai i'r pyrth, a rhai i'r caerau, a rhai eraill a edrychent allan trwy'r ffenestri:

20 A phawb ohonynt yn codi eu dwylo tua'r nef, ac yn gweddi'o.

21 Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr o bob math, a disgwyliad yr archoffeiriad yn ei fawr ofid.

22 Am hynny y rhai hyn a alwasant ar yr hollalluog Arglwydd, ar iddo gadw yn ddiogel ac yn sicr y pethau a rodd-asid i'w cadw mewn ymddiriedj i'r rhai a'u rhoddasent i'w cadw.

23 Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethasai efe.

24 Eithr fel yr oedd efe ei nun eto yn bresennol gyda'i sawdwyr wrth y trysordy, efe, yr hwn yw Arglwydd yr ysbrydion, a thywysog pob gallu, a wnaeth ryfeddod mawr, yn gymaint ag i bawb a feiddient ddyfod gydag ef ryfeddu wrth weled nerth rhinwedd Duw; a hwy a lesmeiriasant, ac a ddychrynasant yn ddirfawr:

25 Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisg hardd o'r orau, ac arno farchog ofnadwy, ac a redodd yn egniol, ac a drawodd Heliodorus a'i garnau blaen: a'r hwn oedd yn eistedd arno a dybid fod ganddo arfau o aur.

26 Hefyd fe a ymddangosodd ger ei fron ef ddau wr ieuainc eraill, nodedig 0 nerthj rhagorol o bryd, a hardd eu dillad, yn sefyll yn ei ymyl ef o bob tu iddo, ac a'i ffrewyllasant ef yn wastad, ac a roesant iddo lawer gwialennod dost.

27 Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymwth, ac wedi ei amgylchu a thywyllwch mawr, ei wyr a'i cipiasant ef, ac a'i gosodasant mewn elor feirch:

28 Ef, yr hwn a ddaethai ychydig o'r blaen i mewn i'r trysordy a thyrfa fawr, ac a'i holl gard gydag ef, ef, meddaf, yr hwn ni allai gael dim cymorth gan ei arfau, a ddygasant hwy allan: a hwy a gydnabuant allu Duw yn eglur:

29 Canys yr oedd efe yn fud trwy waith DuWj ac yn gorwedd wedi ei ddiddymu o'i holl obaith am ei iechyd.

30 Hwythau a folianasant yr Arglwydd, yr hwn yn rhyfeddol a ogon-eddasai ei le ei hunan: oblegid y deml honno, yr hon oedd ychydig o'r blaen yn llawn o ofn a therfysg, pan ymddangosodd yr hollalluog Arglwydd, a lanwyd a llawenydd ac a gorfoledd.

31 Ond yn y man, rhai o gyfnesaf Heliodorus a atolygasant i Oneias weddi'o ar y Goruchaf, ar iddo ganhiadu yn rasusol einioes iddo ef, yr hwn oedd yn gorwedd yn agos i farw.

32 Yna'r archoffeiriad, yn ofni rhag i'r brenin dybied i'r Iddewon wneuthur rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymodd dros iechyd y gwr hwnnw.

33 Fel yr oedd yr archoffeiriad yn gweddi'o ar Dduw, yr unrhyw wyr ieuainc yn yr unrhyw ddillad a ymddan-gosasant drachefn i Heliodorus, a chan sefyll a ddywedasant, Dyro fawr ddiolch

1 Oneias yr archoffeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr Arglwydd i ti dy einioes.

34 Tithau hefyd, wedi dy guro o'r nefoedd, mynega i bawb alluocaf nerth Duw. Ac yn ôl dywedyd hyn, hwy a ddiflanasant.

35 Heliodorus hefyd, wedi iddo off-rymu aberth i'r Arglwydd, a gwneuthur mawr addunedau i'r hwn a ganiat-asai iddo ei hoedl, ac wedi iddo gyfarch Oneias, a ddychwelodd, efe a'i lu, at y brenin:

36 Gan dystiolaethu i bawb weithredoedd mawrion Duw, y rhai a welsai efe a'i lygaid.

37 Hefyd pan ofynnodd y brenin i Heliodorus pwy oedd gymesur i'w ddanfon unwaith drachefn i Jerwsalem, efe a ddywedodd,

38 Od oes gennyt un gelyn, neu un bradwr, danfon hwn yno, a thi a'i derbynni wedi ei ffrewyllu, os dianc rhag colli ei hoedl: oblegid yn y man hwnnw y mae yn ddiamau enwedig allu Duw.

39 Canys yr hwn sy ganddo breswylfa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynorthwywr i'r lie hwnnw; yr hwn sydd yn euro ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i wneuthur niwed iddo.

40 Hyn a fu am Heliodorus, a chadwedigaeth y drysorfa.

PENNOD 4

1 Y SIMON hwnnw hefyd, am yr hwn y dywedasom o'r blaen, yr hwn oedd fradychwr yr arian a'i wlad, a ddywedodd yn ddrwg am Oneias, megis pe cymellasai efe Heliodorus, a phe buasai yn awdur o'r drygau hyn.

2 Ac efe a feiddiodd alw y gwr a haeddasai yn dda ar y ddinas, ac oedd ofalus am ei wladwyr, gwr mawr ei sSl am y cyfreithiau, yn fradychwr.

3 Pan gynyddodd y galanastra yn gymaint a lladd o un o'r rhai oedd gymeradwy gan Simon, gelanedd,

4 Oneias, gan ystyrio enbydrwydd y gynnen hon, a bod Apolonius llywod-raethwr Celo-Syria a Phenice yn ynfydu, ac yn chwanegu malais Simon;

5 Efe a aeth at y brenin, nid i gyhuddo gwyr ei wiad, ond fel un yn ceisio lies i bawb yn gyffredinol ac yn neilltuol:

6 Canys efe a welodd fod yn amhos-ibl cael heddwch, oddieithr i'r brenin gymryd trefn yn y materion hyn, ac nad oedd debyg y peidiai Simon a'i ynfydrwydd.

7 Ond wedi marw Seleucus, a chym-ryd o Antiochus, a gyfenwid Epi-ffanes, y frenhiniaeth, Jason brawd Oneias a weithiodd yn ddirgel i geisio bod yn archoffeiriad;

8 Gan addo i'r brenin, er cael y swydd, dri chant a thrigain talent o arian, ac o ryw ardreth arall bedwar ugain talent.

9 Am ben hyn, efe a addawodd dalu deg a deugain a chant eraill, os canhiad-id iddo trwy ei awdurdod ef, osod campfa ac ysgol i'r gwyr ieuainc, ac i gyfrif y rhai o Jerwsalem yn Antioch-iaid.

10 A phan gafodd efe yr archoffeiriadaeth trwy fodd y brenin, yn y man efe a ddenodd ei genedl ei hun i arferion y Groegwyr,

11 Ac a fwriodd i lawr garedigol ragorfraint yr Iddewon, a gawsent hwy trwy loan tad Eupolemus, (yr hwn a fuasai yn genhadwr at y Rhuf-einiaid i ddymuno cyfeillach a chymorth,) a chan fwrw i lawr y llyv/od-raeth oedd wrth y gyfraith, efe a wnaeth newydd ordeiniadau anghyfreithlon.

12 Canys efe a adeiladodd gampfa o'i wirfodd dan y castell, ac a ddarostyngodd y rhai pennaf o'r gwyr ieuainc, ac a barodd iddynt wisgo hetiau.

13 Ac fel hyn y tyfodd serch i ganlyn arferau y Cenhedloedd ac estroniaid, trwy ragorol aflendid Jason, nid yr archoffeiriad, ond y dyn annuwiol;

14 Yn gymaint ag nad oedd yr off-eiriaid mwyach yn ewyllysgar i wasan-aethu'r allor; ond gan ddirmygu'r deml, ac esgeuluso'r ebyrth, yr oeddynt yn prysuro i fod yn gyfrannog o ddogn annuwiol eu campau, yn ôl taflu'r garreg;

15 Ac heb ganddynt bris am anrhyd-edd eu tadau, gan gyfrif gogoniant y Groegwyr yn orau.

16 O achos yr hyn bethau y daeth arnynt adfyd mawr, tra caffent hwy yn elynion ac yn ddialwyr iddynt, arferau y rhai yr oeddynt yn eu canlyn, ac yn dymuno eu bod yn gyffelyb iddynt ym mhob peth:

17 Canys nid esmwyth yw gwneuthur yn erbyn cyfraith Dduw: ond yr amser a ddaw a ddengys hyn.

18 Pan chwaraeid yn Tyrus y campau a arferid bob pum mlynedd, a'r bren-in yn bresennol,

19 Jason, y dyn ysgeler hwnnw, a ddanfonai genhadau o Jerwsalem yn rhith Antiochiaid, i ddwyn tri chan dryll o arian tuag at aberth Hercules, y rhai a ddeisyfai y neb oedd yn eu dwyn, na threulid ynghylch yr aberth, oblegid nad gweddaidd oedd, ond eu harbed i anghenraid arall.

20 Efe a ddanfonodd y pethau hyn tuag at aberth Hercules: ond er mwyn y neb a'u dygent, hwy a. roddwyd tuag at wneuthur llongau.

21 Wedi danfon Apolonius mab Ma-nasteus i'r Aifft, i goronedigaeth y brenin Ptolemeus Philometor, a phan ddeallodd Antiochus ei fod ef yn an-ffyddlon yn ei faterion ef, efe a fu ofalus am ei ddiogelwch ei hun: am hynny efe a ddaeth i Jope, ac oddi yno efe a aeth i Jerwsalem:

22 Lie y croesawyd ef yn fawr gan Jason a'r ddinas, ac y dygwyd ef i mewn a ffaglau ac a llefain: ac yn ôl hyn efe a arweiniodd ei lu i Phenice.

23 Hefyd yn ôl tair blynedd, Jason a ddanfonodd Menelaus brawd Simon, am yr hwn y soniasom o'r blaen, i ddwyn arian i'r brenin, ac i'w rybuddio ef am bethau anghenraid.

24 Ond pan ddygwyd ef gerbron y brenin, efe a'i mawrygodd yn ei wydd, ac a gafodd yr archoffeiriadaeth iddo ei hun: canys efe a roddes amdani hi dri chan talent o arian mwy na Jason.

25 Felly pan gafodd efe orchmynion oddi wrth y brenin, efe a ddaeth adref heb ynddo ddim yn haeddu yr archoffeiriadaeth, ond calon gorthrymwr creulon, a gwyniau anifail gwyllt.

26 Felly Jason, yr hwn a dwyllasai ei frawd ei hun, wedi ei dwyllo gan arall, a'i fwrw allan, a ffodd i wlad yr Am-nioniaid.

27 Ond Menelaus, pan gafodd yr oruchafiaeth, ni chymerodd drefn iawn am yr arian a addawasai efe i'r brenin, ond Sostratus ceidwad y castell a'u gofynnodd hwy iddo:

28 Canys i hwn y perthynai codi'r ardrethion: am hynny y ddau hyn a gyrchwyd gerbron y brenin.

29 A Menelaus a adawodd yn yr archoffeiriadaeth Lysimachus ei frawd; a Sostratus a adawodd Crates, yr hwn oedd lywodraethwr Cyprus, yn ei le.

30 Pan wnelid y pethau hynny, y digwyddodd i wyr Tarsus a Malot wneuthur terfysg yn erbyn y brenin, oblegid eu rhoddi hwynt i Antiochis gordderch y brenin.

31 Am hynny y brenin a ddaeth ar frys i ostegu'r derfysg honno, gan adael Andronicus, un o'r gwyr pennaf ei awdurdod, yn rhaglaw iddo.

32 Menelaus hefyd, gan dybio cael ohono amser cyfaddas, a gymerth rai o lestri aur y deml, ac a'u rhoddes i Andronicus, ac a werthodd eraill yn Tyrus a'r dinasoedd oddi amgylch.

33 A phan wybu Oneias hyn yn hys-bys, efe a'i hargyhoeddodd, ac a dyn-nodd o'r neilltu i noddfa yn Daffhe, yr hon sydd yn ymyl Antiochia.

34 Am hynny Menelaus a gymerth o'r neilltu Andronicus, ac a ddymunodd arno ddal Oneias: felly efe a ddaeth at Oneias, ac a'i perswadiodd ef trwy dwyll, gan roddi iddo ei law ddeau, a'i Iwj er ei fod ef yn ei amau ef, ac a'i denodd i ddyfod allan o'r noddfa: felly yn ddisymwth efe a'i carcharodd ef, heb ganddo bris am gyfiawnder.

35 Oherwydd paham, nid yr Idd-ewon yn unig, ond hefyd llawer o genhedloedd eraill, a gyffroesant, ac a fu drwm dros ben ganddynt anghyfiawn laddiad y gwr hwn.

36 Hefyd pan ddychwelodd y brenin o dueddau Cilicia, yr Iddewon, y rhai oedd yn y ddinas, a achwynasant wrtho, gan fod y Groegwyr hefyd yn cydsynio a hwynt, o achos atgasrwydd y weith-red, oblegid lladd Oneias heb achos.

37 Am hynny Antiochus a dristaodd yn fawr yn ei galon, ac a dosturiodd, ac a wylodd, oherwydd mawr diriondeb a gostyngeiddrwydd yr hwn a laddasid.

38 Ac am hynny wedi ei enynnu a dicllonedd, efe a ddiosgodd Andronicus o'i borffor, ac a rwygodd ei ddillad ef, ac a'i harweiniodd ef o amgylch y ddinas i'r fan lie y lladdasai efe Oneias, ac yno y dieneidiodd efe y llofrudd: felly yr Arglwydd a dalodd iddo deilwng gosbedigaeth.

39 Ond yn ôl i Lysimachus wneuthur llawer gweithred ddrwg yn y ddinas trwy gyngor Menelaus, a myned o'r chwedl allan, cynulleidfa a ymdyrrodd ynghyd yn erbyn Lysimachus; canys yn awr efe a ddygasai allan lawer o lestri aur y deml.

40 Y cygredin bobl a godasant ar hynny yn llawn llid, a Lysimachus a wisgodd ag arfau ynghylch tair mil o wyr, ac a ddechreuodd wneuthur trawster; ac un Auranus oedd yn flaenor iddynt, yr hwn oedd wedi myned ymhell mewn oedran, ac nid dim llai mewn ynfyd-rwydd.

41 Ond pan wybuant amcan Lysimachus, rhai a geisiasant gerrig, rhai bastynau, a rhai a daflasant ddyrneidiau o'r llwch oedd gerllaw at Lysimachus, a'r rhai oedd yn gosod arnynt:

42 Trwy ba fodd y clwyfasant lawer ohonynt, ac y lladdasant rai, a rhai eraill a yrasant i ffoi; ond anrheithiwr yr eglwys a laddasant hwy gerllaw'r trysordy.

43 Oblegid hyn fe achwynwyd yn erbyn Menelaus oherwydd yr achosion hyn.

44 A phan ddaeth y brenin i Tyrus, fe ddanfonwyd tri wyr oddi wrth y senedd, y rhai a achwynasant arno.

45 Ond Menelaus, wedi colli'r maes, a jaddawodd lawer o arian i Ptolemeus fa(b Dorymenes, er gwneuthur y brenin yn fodlon.

46 Am hynny Ptolemeus a aeth a'r brenin o'r neilltu i ryw gyntedd i ymoeri, ac a droes ei feddwl ef,

47 Yn gymaint ag iddo ryddhau Mene- laus, achos yr holl ddrwg, oddi wrth yr achwynion, a barnu y rhai tru-ain hyn i angau, y rhai, pe dadleuasent eu mater gerbron y Scythiaid, hwy a gawsent eu gollwng yn ddieuog.

48 Fel hyn yn fuan y cosbwyd hwy yn anghyfiawn, y rhai o'r blaen a ddad-leuasant dros y ddinas, dros y bobl, a thros y llestri sanctaidd.

49 Am hynny gwyr Tyrus, yn gas ganddynt yr anwiredd hyn, a roddasant yn helaeth bob peth a berthynai i'w claddedigaeth hwy.

50 Ond Menelaus, trwy awydd y rhai oedd mewn gallu, a wnaed yn fradychwr y dinaswyr, ac a arhoes yn ei swydd, gan chwanegu ei falais.

PENNOD 5

1 VTNGHYLCH yr amser hwnnw An-A tiochus a ddarparodd ei ail daith i'r Aifft.

2 A'r pryd hynny digwyddodd trwy'r holl ddinas dros ddeugain niwrnod agos, fod gwyr meirch yn rhedeg yn yr awyr, mewn gwisgoedd aur, a lluoedd o wyr a gwaywffyn,

3 A megis tyrfau o wyr meirch mewn byddin, yn ymdrechu ac yn rhedeg y naill yn erbyn y Hall, dan ysgwyd eu tarianau, a llaweroedd o bicellau, a thynnu cleddyfau, a saethu saethau, a disgleirdeb eu harfau aur, a phob math ar lurigau.

4 Am hynny pob dyn a wedd'iodd ar ddyfod o'r arwyddion hynny i ddaioni.

5 Yr awron pan aeth chwedl celwydd ailan, megis pe newidiasai Antiochus fyd, Jason a gymerth nid llai na mil o wyr, ac a ruthrodd yn ddisymwth ar y ddinas; ac wedi gorchfygu'r rhai oedd ar y gaer, ac o'r diwedd ennill y ddinas, fe a ffodd Menelaus i'r castell.

6 Ond Jason a laddodd ei ddinaswyr ei hunan, heb arbed un; heb feddwl fod llwyddiant yn erbyn ei genedl yn fwyaf aflwyddiant, ond gan dybied orchfygu ohono ei elynion, nid ei gydwladwyr.

7 Er hynny ni chafodd efe yr oruchaf- iaeth, ond yn niwedd ei gynllwyn efe a gafodd gywilydd, ac a ffodd drachefn, ac a aeth i wlad yr Ammoniaid.

8 Am hynny efe a gafodd ddiwedd ei ddrwg fuchedd, sef efe a garcharwyd gydag Aretas brenin yr. Arabiaid, ac a ffodd o ddinas i ddinas, a phawb yn ei ymlid ac yn ei gasau megis gwrthodwr y gyfraith, ac yn ei felltithio megis gelyn ei wlad a'i ddinaswyr, efe a fwriwyd allan i'r Aifft.

9 A'r hwn a barasai i lawer grwydro allan o'u gwlad, a ddarfu amdano ei hun allan o'i wlad, wedi iddo fyned at y Lacedemoniaid, dan obaith cael yno swcr, oherwydd carennydd.

10 A'r hwn a fwriasai allan liaws heb eu claddu, ni alarodd neb drosto, ac ni chafodd fedd yn y byd, ie, ni chafodd feddrod ei dadau.

11 Ond pan wybu'r brenin y pethau hynny, efe a feddyliodd y syrthiai'r Iddewon oddi wrtho am y pethau a wnaethid: am hynny efe a ddaeth yn gynddeiriog o'r Aifft, ac a enillodd y ddinas ag arfau;

12 Ac a orchmynnodd i'w filwyr nad arbedent neb a gyfarfyddai a hwynt, a lladd y neb a ddringai i'w tai.

13 Felly y gwnaed lladdfa ar wyr ieuainc a hynafgwyr, a dinistr ar wyr a gwragedd a phlant; a gwyryfon a bechgyn a ddifethwyd;

14 Yn gymaint ft difetha ohonynt bedwar ugain mil rnewn tri diwrnod: deugain mil a gaethgludwyd, ac eraill nid llai na'r rhai a laddasid, a werthwyd.

15 Ac heb fod yn fodlon er hyn, efe a feiddiodd fyned i mewn i'r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd, gan gael iddo yn flaenor Menelaus, yr hwn oedd fradychwr ei wlad a'r gyfraith:

16 Ac a dwylo ysgeler efe a gym-erodd y llestri sanctaidd, a pha beth bynnag a roddasid yno i'w cadw gan frenhinoedd eraill, er cynnydd a gogon-iant ac anrhydedd i'r man hwnnw, efe a'u teimlodd a dwylo aflan.

17 Balchiiodd Antiochus hefyd, heb ystyried mai oblegid pechodau y rhai a breswylient yn y ddinas y digiasai'r Arglwydd dros ychydig, ac am hynny bod dirmyg ar y man hwnnw.

18 Canys oni buasai iddynt hwy ymdroi o'r blaen mewn cynifer o bechod-au, hwn hefyd er cynted ag y daethai i mewn, wedi ei fflangellu yn ddisymwth, a droesid oddi wrth ei hyfder, megis Heliodorus, yr hwn a ddanfonasid oddi wrth Seleucus y brenin i weled y trysordy.

19 Ond nid oherwydd y lie y dew-isasai'r Arglwydd y bobl, ond oherwydd y bobl y dewisasai efe y lie:

20 Ac am hynny y lie hwnnw, yr hwn a fu yn gyfrannog o adfyd y bobl, a wnaed wedi hynny yn gyfrannog o ddoniau'r Arglwydd; a'r hwn a wrthodwyd yn nigofaint yr Hollaliuog, a gyweiriwyd drachefn a phob gogoniant trwy gymod yr Arglwydd goruchaf.

21 Am hynny Antiochus, wedi dwyn allan o'r deml fil a phedwar ugain talent, a aeth yn gyflym i Antiochia, gan dybied o wir falchder y gallai efe wneuthur y tir yn for, a'r m6r hefyd yn dir i'w gerdded ar draed: cyfryw falchder oedd ynddo.

22 Ond efe a adawodd swyddogion i orthrymu'r bobl, sef yn Jerwsalem, Philip, gwr o Phrygia, yr hwn oedd yn ei arferion yn greulonach na'r hwn a'i gosodasai ef;

23 Ac yn Garisim, Andronicus; a hefyd Menelaus, yr hwn oedd flinach i'r dinaswyr na'r lleill i gyd, a chanddo feddwl cenfigennus yn erbyn yr Iddewon ei wladwyr.

24 Ac efe a ddanfonodd Apolonius, tywysog melltigedig, & llu o ddwy fil ar hugain, gan orchymyn iddynt ladd pawb a'r oedd mewn oedran, ond gwerthu'r gwragedd a'r rhai ieuainc.

25 Yntau, pan ddaeth i Jerwsalem, a gymerodd arno fod yn heddychol, ac a ymataliodd hyd y sanctaidd ddydd Saboth; ac yna yn cael yr Iddewon yn cadw gwyl, efe a orchmynnodd i'w ryfelwyr gymryd eu harfau.

26 Ac felly efe a laddodd bawb a'r a aethai allan i edrych arnynt, a chan redeg yma a thraw trwy'r ddinas mewn arfau, efe a laddodd liaws.

27 Ond Jwdas Macabeus, a naw eraill gydag efj a giliodd i'r anialwch; ac efe a'i gydymdeithion a fu fyw yn y mynyddoedd fel anifeiliaid, gan fwyta beunydd y glaswellt, rhag eu gwneuthur yn gyfranogion o'r ffieidd-dra hwnnw.

PENNOD 6

1 "VTCHYDIG yn ôl hynny y brenin a •1 ddanfonodd hynafgwr o Antiochia i gymell yr Iddewon i ymado a chyf-reithiau eu tadau, fel nas llywodraeth-id hwy mwyach wrth gyfraith Dduw;

2 Ac i halogi'r deml oedd yn Jerwsalem, efe a'i galwodd yn deml Jwpiter Olympius; a'r hon oedd yn Garisim, megis y rhai a gyfanheddent yn y man hwnnw, a alwodd efe yn deml Jwpiter Leteugar.

3 Dyfodiad yr aflwydd yma oedd drwm a Win i'r bobl;

4 Canys y deml a lanwyd o lythineb a meddwdod gan y Cenhedloedd, y rhai oeddynt yn ymchwarae a phuteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bod iddynt a wnelent a gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd weddaidd.

5 A'r allor a lanwasid o bethau anghyfreithlon, y rhai a waharddasai y gyfraith.

6 Nid rhydd oedd chwaith gadw'r Saboth, na chadw gwyliau eu hynaf-iaid, nac yn eglur gyfaddef eu bod yn Iddewon.

7 Ar ddydd genedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt, heb ddiolch, fyned bob mis i fwyta o'r ebyrth: a phan gedwid gwyl Bacchus, fe a orfyddai iddynt fyned yn orfoleddus, ag eiddew ^anddynt, er anrhydedd i Bacchus. \

8 Ac fe \aeth gorchymyn allan i ddin-asoedd cyfnesaf y Groegwyr, trwy gyngor Ptolemeus, yn erbyn yr Iddewon, ar iddynt ddilyn yr unrhyw arferion, a bod yn gyfranogion o'u hebyrth hwynt;

9 Ac ynghylch lladd y rhai ni fyn-nent ganlyn arferion y Groegwyr. Y pryd hynny y gallasai un weled y gofid presennol:

10 Canys dygwyd allan ddwy o wragedd, y rhai a enwaedasent ar eu plant; ac wedi eu harwain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a'r rhai bychain ynghrog wrth eu bronnau, hwy a fwriwyd i lawr bendramwnwgl oddi ar y gaer.

11 Rhai eraill a gydredasent yn eu mysg eu hunain i ogofeydd, fel y gallent yn ddirgel gadw'r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gydlosgwyd: oblegid ni feiddient eu helpu eu hunain, oherwydd parch ar y dydd anrhydeddus.

12 Am hynny yr wyf yn atolwg i'r rhai a ddarllenant y llyfr hwn, nas digysurer hwy oherwydd yr adfyd hyn: ond meddyliant fod y cosbedigaethau hyn yn perthynu nid i ddinistr, ond i geryddiad, ein cenedl ni.

13 Canys pan na oddefir y rhai a wnelont yn annuwiol, ond syrthio ohonynt yn gyflym i gosbedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Duw.

14 Canys nid yw yr Arglwydd yn hir arcs wrthym ni, megis wrth genhedloedd eraill, y rhai y mae efe yn eu cosbi pan ddelont i gyflawndra eu pechodau; ond fel hyn y bu dda ganddo wneuthur a ni,

15 Rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflawnid ein pechodau.

16 Am hynny ni ddwg byth mo'i drugaredd oddi wrthym; ond dan eu ceryddu ag adfyd, nid ymedy efe a'i bobl ei hun.

17 A bydded hyn a ddywedasom yn rhybudd i ni, Bellach ni a ddeuwn at y traethawd ar ychydig eiriau.

18 Eleasar, rhyw un o'r ysgrifenyddion pennaf, yn wr oedrannus, a glan o bryd, a orfu iddo agoryd ei enau, a bwyta cig moch.

19 Ond efe yn well ganddo farw mewn parch, na byw wedi gwneuthur y fath ffieidd-dra, a aeth yn ewyllysgar i'r poenau, ac a'i poerodd allan,

20 Pel y gweddai iddynt hwy ddyfod, y thai sydd yn ymroi yn Ian i sefyll yn erbyn y cyfryw bethau nid cyfreithlon eu profi, er serch ar einioes.

21 Ond y rhai a osodasid yn llywod-raethwyr y wledd annuwiol honno, oblegid y gydnabod oedd rhyngddynt er ys talm a'r gwr hwn, a'i cymerasant o'r neilltu, ac a'i hanogasant i gym-ryd y cig a ddarparai efe ei nun, ac i arfer y pethau oedd gyfreithlon iddo; ond cymryd ohono arno megis pe bwytai o gig y wledd, yn ôl y pethau a orchmynasid iddo gan y brenin;

22 Fel y gallai wrth hyn ei achub ei hun oddi wrth angau, a derbyn y cared-igrwydd hyn, er mwyn y gydnabod oedd rhyngddynt.

23 Ond efe gan gymryd meddwl pwyllog, megis y gweddai i'w oedran, ac i ragoriaeth ei henaint a'i wallt llwyd parchedig, ac i'w rinweddol fuchedd er yn fachgen, ie, yn hytrach megis ag y gweddai i sanctaidd a duwiol gyfraith Dduw, a atebodd iddynt, gan atolwg ei ollwng yn fuan i'w feddrod;

24 Canys nid gweddaidd, eb efe, yw i'n hoedran ni ragrithio, fel y tybio llawer o wyr ieuainc ddychwelyd o Eleasar, yn ddeng mlwydd a phedwar ugain o oed, at arferion dieithr,

25 Ac yr hudid hwythau hefyd oblegid fy rhagrith i, er mwyn ychydig amser i fyw, ac y byddai i mi ddwyn gwaradwydd a dirmyg i'm henaint.

26 Canys er i mi allu dianc dros yr amser presennol oddi wrth gosbedigaeth ddynol: eto ni allaf ffoi oddi wrth law yr Hollalluog, nac yn fyw nac yn farw.

27 Am hyn gan newidio bywyd yn wrol, ni a'm dangosaf fy hun yn addas i'm henaint:

28 Yna y gadawaf i'r rhai ieuainc siampl nodedig i farw yn ewyllysgar ac yn wrol dros y sanctaidd a'r anrhyd-eddus gyfraith. Ac wedi dywedyd hyn, efe a aeth yn gyflym i'w arteithio.

29 Yna y rhai a'i harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o'r blaen yn Hid wrtho, pan glywsant ei ymad-rodd: canys tybio a wnaethant ei fod wedi ynfydu.

30 Hefyd, pan oedd ar farw oblegid y dyrnodiau, efe a ddywedodd, gan och-neidio, Eglur yw i'r Arglwydd, yr hwn sy ganddo sanctaidd wybodaeth, mai pan allaswn fy ngwaredu fy hun o angau, ddioddef ohonof fy nghuro yn dost ar hyd fy nghorff; a'm bod yn ewyllysgar yn dioddef y pethau hyn o ran fy mod yn ei ofni ef.

31 Fel hyn y bu efe farw, gan adael ei farwolaeth yn siampl o galon ddihaf-arch, ac yn goffa am rinwedd nid yn unig i'r gwyr ieuainc, ond i lawer eraill hefyd o'i genedl.

PENNOD 7

1 DIGWYDDODD hefyd ddal saith mrodyr a'u mam, a pheri o'r brenin iddynt yn erbyn y gyfraith fwyta cig moch; a hwy a gurwyd a fHangellau a gwiail.

2 Ond un ohonynt, yr hwn a ddadleuodd yn gyntaf, a ddywedodd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni? canys yr ydym ni yn barod i farw yn gynt nag y torrwn gyfreithiau ein tadau.

3 Yna y cythruddodd y brenin, ac y parodd dwymo pedyll a pheiriau;

4 Y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth; ac efe a orchmynnodd dorri allan dafod yr hwn a ddadleuasai yn gyntaf, a'i flingo ef, a thorri ymaith ei aelodau eithaf yng ngolwg ei frodyr eraill a'i fam.

5 Weithian, pan na ellid dim ohono ef, efe a barodd ei ddwyn ef i'r tan, a'i ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwg dros hir o amser yn mygu allan o'r pair, y brodyr eraill a'u mam a anog-ent ei gilydd i farw yn wrol, gan ddywedyd fel hyn,

6 Y mae'r Arglwydd Dduw yn ed-rych arnom, ac yn ddiau efe a gymer ddiddanwch ohonom ni, megis y myneg- odd Moses yn ei ganiad, yn yr hon y tystiolaethodd wrth eu hwynebau hwynt, gan ddywedyd, Ac efe a gymer ddiddanwch yn ei weision.

7 Wedi marw o'r cyntaf fel hyn, hwy a ddygasant yr ail i'w wneuthur yn watworgerdd: ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynas-ant iddo, A fwytei di, cyn merthyru pob aelod o'th gorff?

8 Ond efe a atebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf a ferthyrwyd yn gyflym.

9 A phan oedd yn rhoddi i fyny'r ysbryd, efe a ddywedodd, Tydi, lofrudd, wyt yn dwyn ein bywyd presennol oddi arnom; ond Brenin y byd a'n cyfyd ni, y rhai ydym yn meirw dros ei gyfreithiau ef, i fywyd tragwyddol.

10 Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd i'w watwar: a phan ofynasant am ei dafod, efe a'i hestynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiau yn hy;

11 Ac a lefarodd yn wrol, Y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn yr ydwyf fi yn eu dirmygu er mwyn ei gyfreithiau ef, ac yr ydwyf yn go-beithio derbyn y rhai hyn eilwaith ganddo ef:

12 Yn gymaint ag i'r brenin a'r rhai oedd gydag ef synnu a rhyfeddu wrth galondid y gwr ieuanc; oblegid nid oedd efe yn prisio am ei boenau.

13 Ac yn ôl marw hwn, hwy a ferthyrasant y pedwerydd hefyd yr un modd;

14 Yr hwn pan ydoedd agos a marw, a ddywedodd fel hyn, Da ydyw, pan roddir ni i farwolaeth gan ddynion, i ni ddisgwyl am obaith oddi wrth Dduw, fel y'n cyfoder eilwaith trwyddo ef: canys i ti ni bydd cyfodiad i fywyd.

15 Wedi hynny hwy a ddygasant y plumed, ac a'i merthyrasant:

16 Yr hwn, gan edrych ar y brenin, a \ddywedodd, Y mae gennyt allu ymysg\ dynion, ac er dy fod di yn farwol, yr wyt yn gwneuthur a fynnech: ond na thybia wrthod o Dduw ein cenedl ni.

17 Ond disgwyl ennyd, a gwel ei allu mawr ef, fel y cosba efe dydi a'th had.

18 Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chweched; yr hwn, pan ydoedd yn rnarw, a ddywedodd, Na sioma mohonot dy hun heb achos: canys nyni ydym ya dioddef y pethau hyn o'n plegid ein hunain: oblegid pechu ohonom yn erbyn ein Duw, am hynny yr ydys yn gwneuthur i ni bethau rhyfedd.

19 Ond na feddwl di y dihengi di heb dy gosbi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn erbyn Duw.

20 Ond y fam oedd yn rhyfeddfawr ragorol, ac yn haeddu cof ardderchog: oblegid pan welodd hi ei saith mab wedi eu lladd mewn ysbaid diwrnod, hi a oddefodd hynny a chalon rymus, o-blegid ei gobaith a osodasai hi yn yr Arglwydd.

21 A hi a anogodd bob un ohonynt yn iaith ei gwlad, ac yn llawn o ysbryd hi a gynhyrfodd ei meddwl gwreigaidd a chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,

22 Ni wn i pa fodd y daethoch i'm croth i: canys ni roddais i chwi nac anadl nac einioes, ac nid myfi a luniodd aelodau eich cyrff:

23 Ond yn ddiau Gwneuthurwr y byd, yr hwn a luniodd enedigaeth dyn, ac a gafodd allan naturiaeth pob peth, a'r hwn a rydd eilwaith i chwi, er ei dru-garedd, anadl a bywyd, yn gymaint ag i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.

24 Ond Antiochus, gau dybio ei ddirmygu, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn waradwyddus, tra ydoedd yr ieu-angaf eto yn fyw, a geisiodd ei ddenu nid yn unig a geiriau, ond hefyd trwy addo a llyfau ei wneuthur ef yn gyfoethog ac yn ddedwydd, os efe a ymwrthodai a chyfreithiau ei" dadau; a hefyd y cymerai efe ef megis yn gar iddo, ac y rhoddai iddo swyddau:

25 Ac oblegid na wrandawai y gwr ieuanc arno er dim, efe a barodd gyrchu ei fam ef, ac a eiriolodd ami hi gynghori y gwr ieuanc i achub ei hoedl.

26 Ac wedi iddo ddeisyfu ami hynny a geiriau lawer, hi a addawodd iddo y cynghorai hi ei mab.

27 Yna ei fam a droes ato, a chan watwar y gorthrymwr creulon, hi a ddywedodd yn iaith ei gwlad, Fy mab, trugarha wrthyf, yr hon a'th ddug di naw mis yn fy mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a'th ddug di i fyny hyd yn hyn, a'r hon a oddef-ais orthrymderau dy fagwriaeth.

28 Atolwg i ti, fy mab, edrych ar y nef a'r ddaear, ac edrych ar bob peth ag sydd ynddynt; cydnebydd wneuthur o Dduw y pethau hyn o'r pethau nid oeddynt, a gwneuthur rhywogaeth dyn felly hefyd.

29 Nac ofna mo'r cigydd hwn, ond bydd debyg i'th frodyr; cymer dy farwolaeth, fel y gallwyf dy dderbyn gyda'th frodyr yn yr unrhyw drugaredd.

30 A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, y gwr ieuanc a lefarodd, Beth yr ydych chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd ufuddhau gorchymyn y brenin; ond myfi a ufuddhaf orchmynion y gyfraith, y rhai a roddwyd i'n tadau ni trwy law Moses.

31 Tithau hefyd, yr hwn wyt ddych-mygwr pob drwg i'r Hebreaid, ni ddihengi rhag llaw Dduw:

32 Canys nyni ydym yn goddef hyn oblegid ein pechodau ein hunain.

33 Ond er bod y Duw byw dros en-nyd yn digio wrthym er mwyn ein cosbi a'n ceryddu, eto efe a gyrnyd dra-chefn a'i weision.

34 Ond tydi, O annuwiol ac ysgeleraf o'r holl ddynion, nac ymddyrcha yn ddiachos, ac nac ymchwydda a gobaith ofer, gan godi dy ddwylo yn erbyn gweision Duw:

35 Canys ni ddihengaist ti eto rhag barn Duw hollalluog, yr hwn sydd yn gweled pob peth.

36 Fy mrodyr, y rhai weithian a oddef-asant lafur byr, ydynt yr awron dan sanctaidd gyfamod bywyd tragwyddol: tithau hefyd trwy farn Duw, a dder bynni gosbedigaeth addas oblegid dy falchder.

37 Minnau hefyd, megis ag y gwnaeth fy mrodyr, a roddaf fy nghorff a'm heinioes dros gyfreithiau ein teidiau, gan atolwg i Dduw drugarhau ohono yn gyflym wrth ein cenedl ni, a pheri i tithau trwy benyd a chosbedigaeth gyffesu mai efe sy Dduw yn unig;

38 A diweddu hefyd ynof fi a'm brodyr o ddigofaint yr Hollalluog, yr hwn yn addas a syrthiodd ar ein holl genedl ni.

39 Yna'r brenin wedi ei enynnu a chyn-ddaredd, a wynfydodd yn erbyn hwn yn fwy na neb, ac a fu drwm ganddo ei watwar.

40 Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddiried yn yr Arglwydd.

41 Yn ddiwethaf o'r cwbl, y fam yn ôl ei meibion a fu farw.

42 Weithian bydded digon dywedyd hyn am eu gwleddau, a'u creulondeb aruthrol hwy.

PENNOD 8

1 YNA Jwdas Macabeus, a'r rhai oedd gydag ef, a aethant yn ddirgel i'r pentrefi, ac a alwasant eu ceraint ynghyd, ac a gymerasant y rhai oedd yn arcs yn nhrefydd yr Iddewon, ac a gasglasant ynghyd ynghylch chwe mil o wyr.

2 Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych ohono ar ei bobl, y rhai yr oedd pawb yn eu sathru dan draed, ac ar fod ohono yn drugarog wrth y deml, yr hon a ddarfuasai i'r dynion drwg ei halogi;

3 Ac ar dosturio ohono wrth y ddin-as, yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac agos yn un a'r llawr; ac ar wrando ohono ar lef gwaed y rhai a laddasid yn gweiddi arao ef;

4 Ac ar gofio ohono anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a'r cableiriau a ddywedasid yn erbyn ei enw; ac ar ddangos ohono ei gas yn erbyn y rhai drygionus.

5 Yna Macabeus wedi cyrmull ynghyd ei luj a'r Cenhedloedd neb allu ei wrthwynebu, gan droi o'r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,

6 Efe a ddaeth yn ddisymwth, ac a losgodd y dinasoedd a'r pentrefi, ac a feddiannodd y lleoedd cymhwysaf, ac a orchfygodd, ac a yrrodd lawer o'i elynion i ffoi;

7 Ond yn bennaf efe a arferodd liw nos wneuthur cyfryw derfysgoedd, hyd onid aeth y gair o'i wroldeb ef i bob lie.

8 Ond pan welodd Philip gynyddu o'r gwr hwn yn fuan, o fesur ychydig ac ychydig, a'i fod ef yn wastad yn llwyddo fwyfwy; efe a sgrifennodd at Ptolemeus llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, i'w swcro ef yn achosion y brenin.

9 Yna efe a etholodd Nicanor mab Patroclus, un o'i geraint pennaf, ac a'i danfonodd ef, gan roddi o bob rhai o'r Cenhedloedd nid llai nag ugain mil, i ddiwreiddio allan holl genedl yr Iddewon; a hefyd efe a gysylltodd ynghyd ag ef Gorgias y capten, gwr cyfarwydd mewn materion rhyfel.

10 Felly Nicanor a gymerth arno wneuthur cymaint o arian o'r Iddewon a ddelid yn garcharorion, ag a dalai y deyrnged o ddwyfil o dalentau oedd ar y brenin i'r Rhufeinwyr.

11 Am hynny efe a anfonodd yn y man i'r dinasoedd ar Ian y mor, gan gynnig ar werth yr Iddewon a ddelid yn garcharorion, i fod yn weision iddynt, gan addo y gwerthai iddynt ddeg a phedwar ugain er un dalent: ond nid ydoedd efe yn ystyrio dial Duw, yr hwn a ddisgynnai arno ef.

12 Pan wybu Jwdas fod Nicanor yn dyfod, efe a fynegodd i'r rhai oedd gyd-ag^ef fod y llu yn agos.

13 Y~,rhai ohonynt oedd yn ofnus, ac ni choelient i gyfiawnder Duw, ffoi a wnaethant, a myned ymaith o'r fan honno.

14 Rhai eraill hefyd a werthasant yr hyn oll a adawsid, ac a weddiasant hef- yd ar yr Arglwydd, ar waredu ohono ef hwynt oddi wrth Nicanor annuwiol, yr hwn a'u gwerthasai hwynt cyn dyfod ohonynt ynghyd.

15 Ac er na wnelai efe hyn er eu mwyn hwynt, eto ar iddo ei wneuthur er mwyn ei gyfamod a'u tadau hwynt, ac er mwyn ei sanctaidd a'i ogoneddus enw, ar yr hwn y gelwid hwy.

16 Yna Macabeus wedi galw ei wyr ynghyd, hyd yn nifer chwe mil, a'u hanogodd hwynt na ddigalonnent o-blegid eu gelynion, ac nad ofnent amlder y Cenhedloedd oedd yn gosod arnynt ar gam, ond rhyfela ohonynt yn wrol,

17 Gan osod gerbron eu llygaid y dirdra a wnaethant ar gam i'r lie sanctaidd, a'r gurfa greulon a roddasid i'r ddinas a watwaresid, a dirymiad y llywodraeth a dderbyniasent hwy gan eu hynafiaid.

18 Canys y maent hwy, eb efe, yn ymddiried mewn arfau a hyfder; ond ein hymddiried ni sydd yn Nuw holl-alluog, yr hwn a all ddifetha y rhai sydd yn dyfod yn ein herbyn, a'r holl fyd hefyd, ag amnaid.

19 A hefyd efe a gofiodd iddynt pa gymorth a gawsai eu tadau, a pha fodd yr achubwyd hwy, pan ddarfu am gant a phedwar ugain a phum mil dan Sennacherib,

20 A pha ryfel a wnaethent yn Ba-bilon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethai ohonynt hwy i gyd i'r maes wyth mil, gyda phedair mil o'r Macedoniaid; a phan amheuodd y Macedoniaid, yr wyth mil hynny a laddasant ugain mil a chant trwy gymorth a roddasid iddynt o'r nef, trwy ba un y derbyniasant lawer o fudd.

21 Ac wedi iddo eu cysuro a'r geiriau hyn, a'u gwneuthur yn barod i farw dros y cyfreithiau a'r wlad, efe a ran-nodd ei lu yn bedair rhan;

22 Ac a wnaeth ei frodyr ei hun yn gapteiniaid ar y llu, sef Simon, Joseff, a Jonathan, gan roddi i bob un bymtheg cant o ryfelwyr.

23 Hefyd efe a bwyntiodd Eleasar i ddarllen y llyfr sanctaidd : ac wedi iddo roddi iddynt yn arwydd, Trwy help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth ynghyd a Nicanor.

24 A thrwy gymorth yr Hollalluog, hwy a laddasant o'r gelynion uwchlaw naw mil, ac a glwyfasant ac a gloffasant y rhan fwyaf o lu Nicanor, ac yras-ant bawb i ffoi;

25 Ac a gymerasant arian y rhai a ddaethent i'w prynu, ac a'u hymlidias-ant ymhell; ond am fod arnynt eisiau amser, hwy a ddychwelasant.

26 Canys y dydd o flaen y Saboth oedd hi; am hynny ni fynnent eu hym-lid hwy ymhellach.

27 Fel hyn hwy a gymerasant eu harfau, ac a ysbeiliasant y gelynion, ac a gadwasant y Saboth, gan roi moliant a diolch anfeidrol i'r Arglwydd, yr hwn a'u cadwasai hyd y dydd hwnnw, ac a dywalltasai arnynt ddechreuad ei dru-garedd.

28 Hefyd yn ôl y Saboth, hwy a ranasant ran o'r ysbail i'r anafus, i'r gweddwon, ac i'r amddifaid; a'r hyn oedd yng ngweddill a ranasant rhyng-ddynt eu hun a'u gweision.

29 Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur ohonynt gyffredin weddi, hwy a atolygasant i'r Arglwydd tru-garog gymodi a'i weision yn dragywydd.

30 Hefyd o'r rhai oedd gyda Thimotheus a Bacchides a fyddent yn ymladd yn eu herbyn hwy, y lladdasant uwchlaw ugain mil, ac a enillasant uchel a chadarn gestyll, ac a ranasant ysbail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a'r anafus, a'r amddifaid, a'r gweddwon, a'r oedrannus.

31 Ac wedi iddynt gasglu eu harfau ynghyd, hwy a'u rhoddasant oll i gadw yn ofalus mewn lleoedd cymwys: a'r ysbail arall a arweiniasant hwy i Jerwsalem.

32 Hwy a laddasant hefyd Philarches yr hwn ydoedd gyda Thimotheus, dyn annuwiol, ac un a wnaethai lawer o niwed i'r Iddewon.

33 Hefyd pan oeddynt yn cadw gwyl y fuddugoliaeth yn eu gwlad, hwy a losgasant Calisthenes, yr hwn a losgas-ai'r pyrth sanctaidd, ac a ffoesai i ryw dy bychan i'w achub ei hun: am hynny efe a dderbyniodd wobr addas am ei anwiredd.

34 A Nicanor ysgeler, yr hwn a ddyg-asai fil o farsiandwyr i brynu'r Iddewon,

35 Wedi ei ddarostwng trwy help yr Arglwydd gan y rhai nid oedd efe yn gwneuthur ond cyfrif o'r lleiaf ohonynt, a ddiosgodd ei ddillad gwychion, ac a ollyngodd ymaith ei wyr, ac a ddaeth fel gwas crwydrus trwy ganol y tir i Antiochia, wedi cael cywilydd mawr o ran colli ei lu.

36 Fel hyn, yr hwn a addawsai dalu teyrnged i'r Rhufeinwyr o'r carcharorion oedd yn Jerwsalem, a ddygodd newyddion fod gan yr Iddewon amddi-ffynnwr, sef Duw: ac oblegid hyn na allai neb wneuthur niwed iddynt, oherwydd eu bod yn cadw y cyfreithiau a orchmynasai efe iddynt.

PENNOD 9

1 X7"NGHYLCH y cyfamser hwnnw y •i daeth Antiochus allan o wlad Persia yn waradwyddus;

2 Canys pan ddaeth efe i Persepolis, efe a amcanodd ysbeilio'r deml, a dwyn dano y ddinas: ond y bobl a redasant yn gyffrous i'w hamddiffyn eu hun a'u harfau, ac a'i gyrasant ef i ffoi: felly Antiochus a yrrwyd i ffoi gan y preswylwyr, ac a ddychwelodd a chywilydd.

3 A phan ddaeth efe i Ecbatana, dywedwyd iddo ef y pethau a wnaethid i Nicanor ac i Timotheus.

4 Am hynny, wedi chwyddo gan lid, efe a feddyliodd ddial gwarth y rhai a'i gyrasai ef i ffoi, ar yr Iddewon: am hynny efe a barodd i'r hwn ydoedd bob amser yn gyrru ei gerbyd ef, brysuro a dibennu ei daith; canys barn Duw ydoedd yn ei annog ef: oherwydd efe a ddywedasai fel hyn yn ei falchedd, Myfi a wnaf Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon, pan ddelwyf yno.

5 Ond yr Arglwydd hollalluog a Duw Israel a'i trawodd ef a dialedd difeddyginiaethol ac anweledig: canys er cynted ag y dywedasai efe y geiriau hyn, dolur yn ei berfedd a ddaeth arno, yr hwn nis gellid ei iachau, a gofid aruthrol yn ei fol.

6 Ac iawn oedd hynny : canys efe a boenasai berfedd gwyr eraill ag amryw a dieithr boenau.

7 Hwn hefyd ni pheidiai er hynny a'i uchelfryd, ond a lenwid yn fwy a balch-edd, gan anadlu allan dan yn ei ddig yn erbyn yr Iddewon, a pheri prysuro ei daith: eithr digwyddodd syrthio ohono ef i lawr o'i gerbyd, yr hwn ydoedd yn rhedeg yn gyflym; a gwneuthur holl aelodau ei gorff ef yn chwilfriw gan y cwymp mawr hwnnw.

8 Fel hyn efe, yr hwn a dybiai ychydig o'r blaen y gallai orchymyn tonnau'r mor, (cymaint oedd ei falchedd tu hwnt i ddyn,) a phwyso'r mynyddoedd uchel mewn clorian, a daflwyd ar y ddaear, ac a ddygwyd mewn elor feirch, gan fynegi i bawb amlwg allu Duw:

9 Yn gymaint ag i bryfed heidio allan o gorff Vr annuwiol hwnnw; a thra ydoedd efe eto yn fyw, ei gnawd a syrthiai i lawr gan boen a gofid, a'i holl lu a ymofidient oblegid ei ddrycsawr ef.

10 Fel hyn nid oedd neb abl i aros i ddwyn yr hwn o'r blaen a dybiai y gallai gyrhaeddyd ser y nefoedd, oblegid y drycsawr.

11 Am hynny wedi ei glwyfo fel hyn, efe a ddechreuodd beidio a'i falchder mawr, a dyfod i'w adnabod ei hun trwy gurfa Duw, a'i ond, yr hwn a chwaneg-id bob munudyn awr.

12 A phan ni allodd efe aros ei sawr ei hun, efe a ddywedodd hyn, lawn yw ymostwng i Dduw, ac i'r hwn sydd yn farwol na feddylio fod yn ogyfuwch a Duw.

13 A'r dyn ysgeler hwn a wedd'iodd at yr Arglwydd, yr hwn ni chymerai drugaredd arno mwyach, gan ddywedyd,

14 Y rhyddhai efe y ddinas sanctaidd, i'r hon yr oedd efe yn prysuro i'w gwneuthur yn un a'r llawr, ac yn gladdfa;

15 A hefyd y gwnai efe yn ogyfuwch a'r Antiochiaid yr holl Iddewon yr oedd efe o'r blaen yn eu barnu yn an-nheilwng o gladdedigaeth, ond i'w taflu allan i'w llyncu gan adar a bwystfilod, ynghyd a'u plant;

16 Ac yr harddai efe'r deml sanctaidd a rhoddion gwychion, yr hon o'r blaen a ddarfuasai iddo ei hysbeilio, ac y chwanegai efe y llestri sanctaidd, ac y rhoddai efe o'i ardreth ei hun yr holl gost a ydoedd yn perthyn i'r ebyrth;

17 Ac am ben hyn hefyd y byddai efe ei hun yn Iddew, ac y rhodiai ym mhob lie cyfanheddol gan fynegi gallu Duw.

18 Ond er hynny i gyd ni pheidiai ei ofidfawr boenau: canys fe ddaethai arno gyfiawn farn Duw. Gan anobeithio ei iechyd, efe a sgrifennodd at yr Iddewon y llythyrau sy'n canlyn, ac ynddynt y rath ddeisyfiad & hyn:

19 I'r Iddewon daionus ei ddinaswyr, llawenydd, a iechyd, a llwyddiant, oddi wrth Antiochus y brenin a'r pen-llywydd.

20 Os ydych chwi a'ch plant yn iach, ac os yw pob peth yn ôl eich dymun-iant, mi a roddaf fawr ddiolch i Dduw, gan fod gennyf obaith yn y nef.

21 Amdanaf fi, yr oeddwn i yn wan; oni bai hynny myfi a gofiaswn yn gared-ig eich parch a'ch ewyllys da: wrth ddychwelyd o wledydd Persia, wedi syrthio mewn clefyd mawr, mi a dybiais fod yn angenrheidiol i mi ofalu am gyffredin ddienbydrwydd pawb;

22 Nid gan anobeithio o'm hiechyd, ond gan fod gennyf obaith mawr y dihangaf o'r clefyd hwn.

23 Ond gan ystyrio hefyd ddarfod i'm tad yr amser yr arweiniodd lu i'r tuedd-au uchaf hyn ordeinio pwy a lywod-raethai ar ei ôl;

24 Fel o digwyddai dim amgen nag yr oedd yn gobeithio, neu os dywedid newyddion drwg yn y byd, na byddai i wyr y wlad derfysgu, gan eu bod yn gwybod i bwy y rhoesid llywodraeth y materion hynny;

25 Hefyd gan feddylio bod y pendefigion sy oddi amgylch, ac yn gymdogion i'm teyrnas, yn disgwyl amser, ac yn edrych pa beth a ddigwyddo; myfi a ordeiniais fy mab Antiochus yn fren-in, yr hwn pan oeddwn yn myned i'r gwledydd uchaf hyn, a orchmynnais yn fynych i lawer ohonoch chwi, ac a sgrifennais ato ef y modd y mae yn canlyn, yr ysgrifen yma.

26 Am hynny yr wyf yn eiriol arnoch chwi, ac yn deisyfu ar goffa ohonoch y cymwynasau a wneuthum i chwi yn amlwg ac yn ddirgel, a bod o bawb ohonoch yn vvastad yn ffyddlon i mi ac i'm mab:

27 Canys diau gennyf y ceidw efe yn gyfan ac yn ddihalog y cyngor a roddais iddo yn eich cylch chwi.

28 Pel hyn y llofrudd a'r cablwr, wedi iddo oddef gofid lawer, megis ag y gwnaethai efe i eraill, a fu farw trwy farwolaeth flin mewn gwlad ddieithr.

29 A Philip ei frawdmaeth ef a ddug ymaith ei gorff ef: yr hwn hefyd rhag ofn mab Antiochus a ffodd i'r AifFt at Ptolemeus Philometor.

PENNOD 10

1 MACABEUS hefyd a'r rhai oedd gydag ef, trwy fod yr Arglwydd yn llywydd iddynt, a enillodd drachefn y ddinas a'r deml.

2 A hwy a fwriasant i lawr yr allorau a'r capelau a wnaethai'r Cenhedloedd yn yr heolydd.

3 Ac wedi glanhau'r deml, hwy a wnaethant allor arall: ac wedi iddynt daro tan allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a arlwyasant arogl-darth, a llusernau, a bara gosod.

4 Wedi hynny hwy a atolygasant i'r Arglwydd, gan syrthio i lawr ar eu hwynebau, na byddai iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau; ond os pechent drachefn un amser, bod iddo ef ei hun eu cosbi trwy drugaredd, ac na roddai ddim ohonynt mwy i'r cab-laidd a'r creulon genhedloedd.

5 A'r dydd hefyd yr halogasid y deml gan y dieithriaid, y digwyddodd gwneuthur puredigaeth y deml yr un dydd, sef y pumed dydd ar hugain o fis Casleu.

6 A hwy a gadwasant a llawenydd wyth niwrnod, megis ar ddydd gwyl y pebyll, gan gofio fel y gorfuasai iddynt ychydig o'r blaen gadw gwyl y pebyll yn y mynyddoedd a'r ogofeydd yn ôl modd anifeiliaid.

7 Am hynny hwy a gymerasant ganghennau a cheinciau hardd, a blod-au, ac a ganasant salmau i'r hwn a roddasai iddynt rwydd-deb i lanhau ei fangre ei hun.

8 Hwy a ordeiniasant hefyd trwy gyffredin orchymyn a deddf, bod ymysg holl genedl yr Iddewon gadw y dyddiau hyn yn wyl bob blwyddyn.

9 Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiffanes.

10 Weithian hefyd ni a fynegwn y pethau a wnaethpwyd yn amser Eupator Antiochus, yr hwn ydoedd fab y gwr annuwiol hwnnw, gan grynhoi ynghyd y drygau y rhai oblegid rhyfeloedd a ganlynasant.

11 Canys hwn, wedi cymryd arno y deyrnas, a osododd ryw un a elwid Lysias i fod yn olygwr ar ei faterion, ac a'i pwyntiodd ef yn ben-capten ar Celo-Syria a Phenice.

12 Canys Ptolemeus, yr hwn a enwas-id Macron, a'i fryd ar wneuthur cyf-iawnder a'r Iddewon, oblegid y cam a wnaethai iddynt, a aeth ynghylch dwyn eu materion hwy i ben yn heddychol.

13 Am hynny efe a gyhuddwyd gerbron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn fynych yn fradychwr, oblegid gadael ohono Cyprus, yr hon a roddasai Philometor yn ei gadwraeth ef, a myned ohono at Antiochus Epiffanes: am hynny pan welodd nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a ddigalonnodd, ac a'i gwenwynodd ei hun, ac a fu farw.

14 Ond pan wnaethpwyd Gorgias yn ben-llywydd ar y lleoedd hyn, efe a gyflogodd estroniaid, ac a ryfelodd yn wastad yn erbyn yr Iddewon.

15 Yr Idumeaid hefyd a flinent yr Iddewon, gan enmll y lleoedd cedyrn; a thrwy dderbyn y rhai a yrrid ar herw o Jerwsalem, hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.

16 Am hynny y rhai oedd gyda Mac-abeus, trwy weddio a ddeisyfasant ar Dduw fod yn gymhorthwr iddynt: ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idumeaid.

17 I'r rhai pan redasant yn rymus, hwy a enillasant yr amddiffynfeydd; ac wedi iddynt ddal ar yr holl rai oedd ar y gaer, hwy a laddasant y rhai a gyfarfyddent, ac a ddieneidiasant nid llai nag ugain mil.

18 Canys pan gydffoesai naw mil o'r lleiaf i ddau gastell cadarn dros ben, gan fod ganddynt bob peth angenrheid-iol i ddioddef y gwarchae,

19 Macabeus a adawodd Simon, a Joseff, a Saccheus hefyd, a'r rhai oedd gyda hwynt, i amgylchu y tyrau, ac a aeth ei hun lie yr oedd mwy o eisiau.

20 Ond y rhai oedd gyda Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag arian gan y rhai oedd yn y tyrau: ac • wedi cymryd deng mil a thrigain o ddrachmau, hwy a adawsant i rai ffoi.

21 Pan fynegwyd i Macabeus yr hyn a wnaethid, efe a gynullodd ynghyd bendefigion y bobl, ac a achwynodd arnynt ddarfod iddynt werthu eu brodyr am arian, gan ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn hwynt.

22 Am hynny efe a'u lladdodd hwynt, wedi eu cael yn fradwyr, ac yn ddisymwth efe a enillodd y ddau dwr hynny.

23 A chan gael llwyddiant a'i arfau yn yr holl bethau a gymerodd efe mewn llaw, efe a laddodd fwy nag ugain mil yn y ddwy amddiffynfa hynny.

24 Timotheus hefyd, yr hwn a ddarfuasai i'r Iddewon ei orchfygu o'r blaen, wedi casglu llawer o luoedd di-eithr, a llawer o wyr meirch o Asia, a ddaeth megis ar fedr ennill Jwdea wrth arfau.

25 Ond y rhai oedd gyda Macabeus, pan ydoedd efe yn nesau, a droesant i weddio ar Dduw, ac a daenasant bridd ar eu pennau, ac a wregysasant eu llwyn-au a sachliain,

26 Ac a syrthiasant i lawr wrth droed yr allor, ac a atolygasant iddo drugarhau wrthynt, a bod yn elyn i'w gelynion; a gwrthwynebu eu gwrthwynebwyr, megis ag y mynega'r gyfraith.

27 Ac wedi diweddu'r weddi, hwy a gymerasant eu harfau, ac a aethant ymhellach oddi wrth y ddinas: a phan ddaethant yn agos at eu gelynion, hwy a arosasant ar eu pennau eu hun.

28 Yr awron pan ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant ill dau ynghyd; y naill ran a chanddynt ynghyd a'u rhinwedd, yr Arglwydd yn noddfa, ac yn wystl llwyddiant a buddugoliaeth; a'r tu arall yn gwneuthur eu llid yn llywydd eu rhyfel.

29 A phan oedd y gad yn dost, fe a ymddangosodd i'r gelynion o'r nef, bum gwr harddwychion ar feirch a ffrwynau aur, a dau ohonynt a flaenorasant yr Iddewon;

30 Ac a gymerasant Macabeus rhyng-ddynt, ac a'i gorchuddiasant o bob tu a'u harfau, ac a'i cadwasant yn ddiniwed; eithr saethasant bicellau a mellt yn erbyn y gelynion: am hynny wedi eu myned yn benbleth gan ddall-ineb, ac yn llawn trailed, hwy a gwympwyd.

31 Ac fe laddwyd o wyr traed ugain mil a phum cant, ac o wyr meirch chwe chant.

32 Ond am Timotheus, efe a ffodd i amddiffynfa gadarn a elwid Gasara, lie yr ydoedd Chereas yn llywydd.

33 Ond y rhai oedd gyda Macabeus a amgylchynasant yr amddiffynfa yn galonnog bedwar diwrnod.

34 A'r rhai oedd oddi mewn yn ym-ddiried yng nghadernid y lie, a gablasant

226

227 yn ddirfawr, ac a ddywedasant eiriau ffiaidd.

35 Ond pan oleuodd hi y pumed dydd, ugain o wyr ieuainc o'r rhai oedd gyda Macabeus, yn llosgi yn eu meddyliau oblegid y cablau, a osodasant ar y gaer yn wrol, ac & meddwl gwyllt-aidd a laddasant bob un a gyfarfyddai a hwynt.

36 Eraill yr un modd yn dringo ar eu hoi hwynt, tra'r oeddynt hwy yn brysur £'r rhai oedd oddi mewn, a losgas-ant y tyrau, ac wedi cynnau tSn a losgas-ant y cablwyr yn fyw; ac eraill a dorasant y pyrth, ac wedi iddynt dderbyn i mewn y darn arall o'r llu, a enill-asant y ddinas,

37 Ac a laddasant Timotheus, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw geu-ffos, a'i frawd Chereas, ac Apoloffanes.

38 Wedi darfod iddynt wneuthur y pethau hyn, hwy a folianasant yr Arglwydd a hymnau, ac & rhoddi diolch, yr hwn a wnaethai bethau cymaint i Israel, ac a roddasai iddynt yr oruchaf-iaeth.

PENNOD II

1 AR fyrder o amser yn ôl hyn, Lysias •**• goruchwyliwr y brenin, a'i gar, yr hwn hefyd oedd lywydd ar ei faterion ef, a gymerth ddigofaint mawr am y pethau a wnaethid.

2 Ac wedi iddo gasglu ynghyd ynghylch pedwar ugain mil, a'r holl wyr meirch, efe a ddaeth yn erbyn yr Idd-ewon, a°i fryd ar wneuthur y ddinas yn breswylfa i'r Groegwyr;

3 A gwneuthur elw o'r deml, fel o gapelau eraill y Cenhedloedd, ac ar osod ar werth yr archoffeiriadaeth bob blwyddyn:

4 Heb feddwl dim am allu Duw, ond yn ynfyd yn ei feddwl oherwydd ei fyrddiwn o wyr traed, a'i filoedd o wyr meirch, a'i bedwar ugain eliffant.

5 Felly efe a ddaeth i Jwdea, ac a nes-aodd at Bethsura, yr hon ydoedd dref gadarn o fewn pum ystad i Jerwsalem, ac a'i blinodd hi.

6 Ond pan glybu y rhai oedd gyda Macabeus warchae ohono ef ar yr amddiffynfeydd, hwy a'r holl bobl trwy lefain a dagrau a weddiasant ar Dduw, ar iddo ef ddanfon angel da i waredu Israel.

7 Yna Macabeus, gan gymryd arfau yn gyntaf ei hunan, a gysurodd eraill i gyd-ddwyn y perygl ag ef i helpu eu brodyr: felly hwy a ruthrasant gyd-a hwynt yn ewyllysgar.

8 Ac fel yr oeddynt gerllaw Jerwsalem, fe ymddangosodd iddynt o'u blaen wr ar farch, mewn gwisg wen, yn ys-gwyd ei arfau euraid.

9 Yna pawb ohonynt a gydogoneddodd y trugarog Dduw, ac a gymerasant galonnau grymus, fel yr oeddynt barod i ymladd, nid yn unig 3 gwyr, ond hefyd S'r anifeiliaid gwylltaf, ac i drywanu y muriau heyrn.

10 Felly hwy a aethant rhagddynt mewn byddin, &. helpwr o'r nefoedd ganddynt: oblegid yr Arglwydd a gym-erasai drugaredd arnynt.

11 A than ruthro ar eu gelynion megis llewod, hwy a laddasant un fil ar ddeg o wyr traed, a mil a chwe chant o wyr meirch, ac a yrasant y lleill oll i ffo.

12 Llawer ohonynt wedi eu clwyfo a ddianghasant yn noethion: a Lysias ei hun a ffoes trwy gywilydd, ac felly a ddihangodd.

13 Ac fel nad oedd efe yn wr angall, gan feddylied ynddo ei hun pa golled a gawsai, a chan gydsynied fod yr Heb-reaid heb allel eu gorfod, am fod yr hollalluog Dduw yn eu helpu hwy, efe a ddanfonodd atynt,

14 Ac a'u perswadiodd hwy i gytuno i bob peth rhesymol, ac a add-awodd am hynny y deuai efe, ac y gyrrai y brenin i fod yn ffafrus iddynt.

15 Yna Macabeus a gytunodd i bob peth a ddeisyfodd Lysias, gan ofalu am y budd cyffredinol: a pha beth bynnag a sgrifennodd Macabeus at Lysias dros yr Iddewon, hynny a ganiataodd y brenin.

16 Oblegid yr oedd llythyrau wedi eu hysgrifennu at yr Iddewon oddi wrth Lysias fel hyn: Lysias yn anfon an-nerch at bobl yr Iddewon:

17 loan ac Absalom, y rhai a yrrwyd oddi wrthych, a roddasant ataf fi yr ateb sgrifenedig, ac a ddymunasant arnaf fi gyflawni y pethau yr oedd hwn-nw yn eu harwyddocau.

18 Am hynny pa bethau bynnag ydoedd raid eu hadrodd i'r brenin, mi a'u mynegais hwy, a pha beth bynnag a fai gyffelybol ei wneuthur, efe a'i caniataodd.

19 Am hynny os cedwch chwi yr ewyllys da hwn, yn y materion hyn, ie, yn ôl hyn hefyd, mi a wnaf egni ar fod yn achos o ddaioni i chwi.

20 Ond am y pethau hyn oll ar eu pennau, mi a rois orchymyn i'r rhain, ac i'm cenhadau innau, i gydymddi-ddan a chwi.

21 Byddwchiach. Y ganfed a'rwythfed flwyddyn a deugain, y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis Dioscorinthius.

22 Ond llythyr y brenin ydoedd fel hyn: Antiochus frenin yn danfon an-nerch at ei frawd Lysias:

23 Wedi i'n tad ni ymadael oddi yma at y duwiau, ein hewyllys ni yw bod preswylwyr ein teyrnas yn ddigyffro, fel y gallo pawb ofalu am yr eiddo ei hun.

24 Yn gymaint ag i ni glywed i'r Iddewon,/y rhai ni chytunent &'t cyfnewidiad a wnaethai fy nhad yn ôl arfer y Groegwyr, ond oedd well ganddynt eu harfer eu hun, fod yn dymuno caniatSu iddynt fyw yn ôl eu cyfreith-iau eu hun.

25 O achos hynny ein hewyllys ni yw, cael o'r genedl yma fod yn ddiderfysg: ac ni a roesom ein bryd ar edfryd iddynt eu teml, fel y gallont fyw yn ôl arferau eu hynafiaid.

26 O achos hynny da y gwnei os dan-foni atynt, a rhoi dy ddeheulaw iddynt, megis pan wypont ein meddwl ni, y byddont gysurus, ac y gallont drin yn hyfryd eu materion eu hun.

27 Ac fel hyn yr oedd llythyr y brenin at genedl yr Iddewon: Antiochus frenin, at y cyngor, ac at yr Iddewon eraill, sydd yn danfon annerch:

28 Os iach ydych, ein dymuniant yw; iach ydym ninnau hefyd.

29 Menelaus a ddangosodd i ni, fod eich deisyfiad chwi i droi adref, ac i drin eich materion eich hun.

30 Am hynny y sawl a ymadawant, a gant addewid rfyddlon, trwy ddiofalwch hyd y degfed dydd ar hugain o fis Csanthicus:

31 Fel y gallo'r Iddewon fwynhau eu bwydydd eu hunain a'u cyfreithiau, megis o'r blaen, ac na chaffo neb ohonynt flinder am bethau a wnelid yn amryfus.

32 Ac mi a yrrais hefyd Menelaus i'ch cysuro chwi.

33 Byddwch iach. Y ganfed a'r wyth-fed flwyddyn a deugain, a'r pymthegfed dydd o fis Csanthicus.

34 Danfon hefyd a wnaeth y Rhufeinwyr lythyr atynt, yn cynnwys y geiriau hyn: Cwintus Memmius, Titus Manlius, cenhadau y Rhufeinwyr, at bobl yr Iddewon, sydd yn danfon annerch:

35 Y pethau a ganiataodd Lysias carwr y brenin i chwi, yr ydym ninnau hefyd yn eu caniatau.

36 Eithr am y pethau y mae efe yn barnu eu bod i'w rhoi ar y brenin, gyrrwch yn fuan ryw un i ystyried y pethau hyn, fel y gallom ni fynegi y modd a fyddo addas i chwi: canys yr ydym ni yn myned i Antiochia.

37 Am hynny brysiwch, a gyrrwch ryw rai, fel y gallom wybod eich meddwl.

38 Byddwch iach. Y ganfed a'r wyth-fed flwyddyn a deugain, a'r pymthegfed dydd o fis Csanthicus.

PENNOD 12

1 WEDI gwneuthur yr amodau hyn, Lysias a aeth at y brenin, a'r Iddewon oeddynt ynghylch eu hws-monaeth. 2 Ond o'r llywodraethwyr ar amryw leoedd, Timotheus, ac Apolonius mab Genneus, hefyd Hieronymus, a Demo-ffon, ac heblaw y rhain, Nicanor pen-naeth Cyprus, ni ddioddefent iddynt orffwys a byw yn llonydd.

3 Gwyr Jope hefyd a ddibenasant y weithred annuwiol; hwy a ddymunas-ant ar yr Iddewon oedd yn trigo gyd-a hwynt, ar iddynt hwy, a'u gwragedd, a'u plant, fyned i ysgraff a baratoesent hwy, megis pe buasai heb fod creulon-deb calon yn eu herbyn hwynt.

4 Felly yn ôl cyfundeb y ddinas, hwy a fuant fodlon i'r peth, fel gwyr yn dymuno heddwch, ac heb ddrwgdybied dim; ond wedi iddynt fyned i'r dyfn-der, hwy a foddasant ohonynt nid llai na dau cant o wyr.

5 Pan glybu Jwdas wneuthur creulon-deb yn erbyn gwyr ei wlad, efe a orch-mynnodd i'r gwyr oedd gydag ef eu gwneuthur eu hunain yn barod.

6 Ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr , cyfiawn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwyr ei frodyr, ac a losgodd y porthladd o hyd nos, ac a losgodd yr ysgraffau, ac a laddodd y rhai a ffoesent yno.

7 A phan oedd y dref wedi ei chau o amgylch, efe a aeth yn ei ôl megis ar fedr dyfod eilwaith, a diwreiddio allan yr holl rai o ddinas Jope.

8 Ond pan ddeallodd efe fod y Jamn-iaid ar fedr dwyn i ben yr unrhyw beth yn erbyn yr Iddewon oedd yn trigo gyda hwynt,

9 Efe a ddaeth am ben y Jamniaid hefyd o hyd nos, ac a losgodd y porthladd a'r llongau, yn gymaint ag y gwelwyd llewyrch y tan hyd yn Jerwsa-lem, ddau gant a deugain ystad oddi yno.

10 A phan aethant oddi yno naw ystad, yn eu taith yn erbyn Timotheus, fe a ruthrodd o'r Arabiaid arno ef, nid llai na phum mil o wyr traed, a phum cant o wyr meirch.

11 A hwy a ymladdasant yn dost: eithr rhyfelwyr Jwdas trwy gymorth Duw a gawsant y fuddugoliaeth; felly y Nomadiaid o Arabia wedi eu gorch- fygu a ddeisyfasant ar Jwdas roi ei ddeheulaw iddynt, dan addo rhoi iddo anifeiliaid, a bod yn fuddiol iddo mewn pethau eraill.

12 A Jwdas yn tybied y byddent fuddiol iddo mewn llawer o bethau, a gan-iataodd iddynt heddwch: a phan ysgydwasant ddwylo, hwy a ymadawsant i'w pebyll.

13 Efe a ddaeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau a phont, a'i chwmpasu a chaerau, yr hon a gyfanheddid gan lawer o genhedloedd cymysgedig, yr hon a elwid Caspis.

14 Ond y rhai o'i mewn yn hyderu yng nghadernid eu caerau, ac yn eu stor o fwydydd, a fuant anniesgeulus, ac a ymserthasant a'r rhai oedd gyda Jwdas, ac a'u cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreithlon eu dywedyd.

15 Am hynny Jwdas a'r rhai oedd gydag ef, gan alw ar Benadur mawr y byd, yr hwn heb na hyrddod, nac offer rhyfel, a fwriodd i lawr Jericho yji amser Josua, a ruthrasant yn awchus yn erbyn y caerau, \

16 Ac a orchfygasant y ddinas \rwy ewyllys Duw, ac a wnaethant laddfa anguriol; yn gymaint a bod llyn gerllaw, yr hwn oedd ddau stad o led, wedi colli gwaed ynddo, hyd onid oedd yn llawn.

17 Hwy a aethant oddi yno saith gant a deg a deugain o stadiau, ac a ddaeth-ant i Characa, at yr Iddewon a elwir Tubieni.

18 Ond yn wir ni chawsent afael ar Timotheus yn y lleoedd hynny: oblegid efe a aethai ymaith oddi yno heb ddwyn dim i ben; ond efe a adawsai lu mewn rhyw amddiffynfa, yn gryf iawn dros ben.

19 Eto Dositheus a Sosipater, y rhai oedd o gapteiniaid Macabeus, a aethant rhagddynt, ac a laddasant o'r rhai a adawsai Timotheus yn yr amddiffynfa, fwy na deng mil o wyr.

20 Macabeus a osododd ei lu yn finteioedd, ac a'u gosododd hwynt ar y minteioedd, ac a aeth yn erbyn Timotheus, yr hwn yr oedd yn ei gylch gant ac ugain mil o wyr traed, a dwy fil a phum cant o wyr meirch.

21 Ond Timotheus, pan gafodd wybod-aeth o ddyfodiad Jwdas, a ddanfonodd y gwragedd, a'r plant, a'r glud arall, i'r amddiffynfa a elwir Carnion; o-blegid y lie hwnnw oedd anodd ei gwm-pasu, a dyfod i mewn iddo, o achos y cyfyngleoedd o bob tu.

22 Eithr pan ymddangosodd blaen cad Jwdas, y gelynion, wedi eu taro ag ofn a dychryn, trwy ymddangosiad yr un sydd yn gweled pob peth, a ffoesant am yr einioes, gan redeg y naill yma, a'r llall acw, fel y cawsant yn fynych eu clwyfo gan eu pobl eu hunain, a'u gwanu a blaen eu cleddyfau eu hunain.

23 Am hynny yr erlidiodd Jwdas yn dostach, ac y gwanodd efe y rhai halog-edig hynny, hyd oni laddodd efe ohonynt ynghylch deng mil ar hugain o wyr.

24 Hefyd Timotheus ei hunan a syrth-iodd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a thrwy fawr ddichell a ddeisyfodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod dan ei law ef dadau llawer o'r Iddewon, a brodyr rhai ohonynt, ac y di-gwyddai na byddai gyfrif am y rhai hynny os lleddid ef.

25 Felly pan roesai efe iddynt sic-rwydd trwy laweroedd o eiriau, ar iddo ef eu rhyddhau hwynt heb niwed, yn ôl y cytundeb, hwy a'i gollyngasant ef yn rhydd er mwyn iachawdwriaeth eu brodyr.

26 Yna'r aeth Macabeus yn erbyn Carnion, a theml Atargatis, ac a laddodd yno bum mil ar hugain o wyr.

27 Ac wedi iddo eu gyrru i ffoi, a'u dinistrio hwynt, efe a symudodd ei lu yn erbyn Effron, tref gadarn, yn yr hon yr oedd Lysias yn aros, a lliaws mawr o amryw genhedloedd; a'r gwyr ieuainc grymus a gadwasant y caerau, ac a'u hamddiffynasant yn bybyr; lie yr oedd hefyd fawr barodrwydd o offer rhyfel a phicellau.

28 Ond wedi iddynt alw ar yr holl-alluog Dduw yr hwn sydd a'i nerth yn gwanhau grym ei elynion, hwy a en-illasant y ddinas, ac a laddasant o'r rhai oedd ynddi bum mil ar hugain.

29 Ac oddi yno yr aethant i Scythopolis, yr hon sydd oddi wrth Jerwsa-lem chwe chant ystad.

30 Ond wedi i'r Iddewon oedd yno yn preswylio dystiolaethu mor dda oedd ewyllys y Scythopoliaid tuag atynt, ac mor garedig a fuasent iddynt yn amseroedd eu blinfyd,

31 Hwy a roesant ddiolch iddynt, gan ddeisyf arnynt fod yn gymwynasgar i'w cenedl rhag llaw: ac felly am fod yn gyfagos wyl yr wythnosau, hwy a ddaethant i Jerwsalem.

32 Ac wedi'r wyl a elwir Pentecost, hwy a aethant yn erbyn Gorgias capten Idumea,

33 Yr hwn a ddaeth allan a thair mil o wyr traed, ac a phedwar cant o wyr meirch.

34 Ac fe ddigwyddodd, wrth ymladd ohonynt ynghyd, ladd ambell un o'r Iddewon.

35 Ar yr hwn amser Dositheus, un o lu Bacenor, yr hwn oedd ar farch, ac yn wr grymus, a ddaliodd Gorgias, ac a'i ilusgodd ef yn rymus erbyn ei gochl; ond ac efe a'i ewyllys ar ddal y gwr melltigedig hwnnw yn fyw, fe ddaeth arno ef ryw wr march o Thracia, ac a dorrodd ymaith ei ysgwydd ef, fel y dihangodd Gorgias i Marisa.

36 A phan oedd y rhai oedd o amgylch yn ddiffygiol i ymladd ychwaneg, Jwdas a alwodd ar yr Arglwydd, ar iddo ef ei ddangos ei hun yn helpwr iddynt, ac yn flaenor i'r gad.

37 Ac ar hynny efe a ddechreuodd yn ei iaith ei hun, ac a ganodd salmau a lief uchel; a chan ruthro yn ddisymwth am ben rhyfelwyr Gorgias, efe a'u gyrrodd hwy i ffoi.

38 Felly Jwdas, dan gasglu ei lu, a ddaeth i ddinas Odolam: a phan ddaeth y seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy a'u glanhasant eu hunain, ac a gadwasant y dydd Saboth yn y lie hwnnw.

39 A'r ail dydd, fel yr oedd anghen-raid, Jwdas a'i lu a ddaethant i ddwyn ymaith gyrff y rhai a laddasid, ac i'w claddu hwynt gyda'u cyfheseifiaid, ym meddau eu tadau.

40 Yr awron dan beisiau pob un o'r rhai a laddasid, hwy a gawsant bethau wedi eu cysegru i eilunod y Jamniaid, yr hyn sy waharddedig i'r Iddewon yn ôl y gyfraith: yna fe welodd pawb mai hyn oedd yr achos paham y lladd-esid hwy.

41 Yna pawb a roes ddiolch i'r Arglwydd y Barnwr cyfiawn, yr hwn a wnaethai y pethau cuddiedig yn am-Iwg;

42 Ac a droesant at eu gweddi, ac a ddeisyfasant arno ef ddileu yn gwbl y pechod a wnaethent. A Jwdas ardderchog a gynghorodd i'r gynulleidfa ym-gadw yn Ian oddi wrth bechod, gan iddynt weled a'u llygaid y pethau a ddaethai i ben am bechod y rhai a laddasid.

43 Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwy fil o ddrachmau o arian, efe a ddanfonodd i Jerwsalem i offrymu aberth dros bechod; gan wneuthur yn dda ac yn onest, o achos ei fod yn meddwl am yr atgyfodiad:

44 Oblegid oni buasai iddo ef obeithio atgyfodiad y rhai a laddesid, afraid ac ofer fuasai weddi'o dros y meirw:

45 A hefyd am iddo ddeall fod ffafr yng nghadw i'r rhai a fuasai feirw yn dduwiol; (sanctaidd a duwiol oedd y meddwl:) trwy hyn efe a wnaeth gymod dros y meirw, fel y rhyddheid hwy oddi wrth bechod.

PENNOD 13

1 YN y ganfed a'r nawfed 'flwyddyn a deugain y daeth y gair at Jwdas, fod Antiochus Eupator yn dyfod a gallu mawr i Jwdea;

2 A chydag ef Lysias ei oruchwyl-iwr, a llywydd yn ei faterion, a chan bob un ohonynt yn ei lu o'r Groegwyr gant a dengmil o wyr traed, a phum mil o wyr meirch, a dau eliffant ar hugain, a thri chant o gerbydau bachog.

3 Ac fe ymgysylltodd atynt Mene-laus hefyd, a thrwy fawr watwar a gynghorodd Antiochus, nid er diogelwch i'r wlad, ond oherwydd iddo feddwl cael bod ei hun yn benadur.

4 Ond Brenin y brenhinoedd a gynhyrfodd feddwl Antiochus yn erbyn y gwr ysgeler hwn: a phan ddangosodd Lysias i'r brenin mai hwn oedd achos yr holl ddrygioni, efe a orchmynnodd, fel yr oedd yr arfer yn y lie hwnnw, ei ddwyn ef i Berea, a'i ddifetha ef.

5 Y mae hefyd yn y lie hwnnw dwr o ddeg cufydd a deugain o uchder, yn llawn o ludw, yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn crwn, o bob tu yn llithro i lawr ar y lludw.

6 Yno y gyrrai pawb i farwolaeth y neb a fernid yn euog o gysegrladrad, a'r neb a wnaethai weithredoedd drwg eraill.

7 O'r farwolaeth yma y digwyddodd i'r gwr annuwiol hwnnw farw, heb gael cymaint a daear i'w gorff, a hynny yn wir gyfiawn:

8 Canys yn gymaint ag iddo ef wneuthur llawer o bechodau ynghylch yr allor oedd a'i than a'i lludw yn sanctaidd, efe a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.

9 Yr awron y brenin a ddaeth & meddwl gwyllt a balch, i wneuthur rhyw ddialedd ar yr Iddewon, yr hwn nis gwnaethid erioed yn amser ei dad.

10 Ond pan wybu Jwdas hynny, efe a orchmynnodd i'r lliaws alw ar yr Arglwydd ddydd a nos, os helpiasai ef hwynt amser arall erioed, ar iddo yn awr helpio y rhai oedd debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad, a'u teml sanctaidd;

11 Ac na adawai efe y bobl a gawsent yr awron ychydig lonyddwch, i'w darostwng i'r Cenhedloedd cablgar.

12 Ac wedi i bawb ohonynt gydwneuthur yr un peth, ac ymbil a'r Arglwydd trugarog trwy wylofain ac ym-pryd, dan orwedd ar y llawr dri diwrnod yn ddi-baid, Jwdas a'u cynghorodd hwy, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod.

13 Ac fel yr oedd efe gyda'r henuriaid o'r neilltu, efe a fwriadodd, cyn i lu y brenin ruthro i Jwdea, a chael meddiannu y ddinas, fyned ohonynt hwy allan, a phrofi y materion mewn ymdrech trwy help yr Arglwydd.

14 Felly gan orchymyn y cwbl i Greawdwr y byd, efe a gynghorodd i'r neb oedd gydag ef ymladd yn rymus, hyd farwolaeth, yng nghweryl eu cyf-reithiau, eu teml, eu gwlad, a'u cyfoeth cyffredin, ac a wersyllodd wrth Modin.

15 Yna wedi rhoddi ohono ef i'w ryfelwyr yn arwydd, Goruchafiaeth sydd 0 Dduw; gyda'r gwyr ieuainc gwrolaf a dewisol, efe a aeth liw nos i babell y brenin, ac a laddodd yn y gwersyll ynghylch dwy fil o wyr, a'r pennaf o'r eliffantiaid, a'r hyn oll oedd arno ef.

16 Ac o'r diwedd hwy a lanwasant yr holl wersyll ag ofn a thrallod, ac a ym-adawsant yn llwyddiannus.

17 Hyn a wnaethpwyd ar y bore-ddydd, am fod amddiffyn yr Arglwydd yn ei gynorthwyo ef.

18 Yr awron pan gafodd y brenin brawf o hyfder yr Iddewon, efe a aeth ynghylch ennill yr amddiffynfeydd trwy gyfrwystra;

19 Ac a aeth i Bethsura, amddiffynfa gadarn yr Iddewon; ond efe a yrrwyd

1 ffoi, a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.

20 Canys Jwdas a ddanfonasai i'r rhai oedd ynddi y cyfryw bethau ag oedd angenrheidiol.

21 Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon, a ddatguddiodd y cyfrinachau i'r gelynion: am hynny hwy a chwih'asant am-dano; a phan gawsant ef, hwy a'i rhoes-ant yng ngharchar.

22 Y brenin a ymddiddanodd yr ail waith a hwynt yn Bethsura, a roes ei law ei hun, a gymerth eu rhai hwythau, a aeth ymaith, a ymladdodd a Jwdas, a orchfygwyd;

23 A phan wybu wrthryfela o Philip, yr hwn a adawsid ar y materion yn Antiochia, efe a gywilyddiodd, a ymbil- iodd si'r Iddewon, a ymostyngodd, a dyngodd iddynt ym mhob peth cyf-iawn, a dangnefeddodd, a offrymodd aberth, a anrhydeddodd y deml, ac a fu gymwynasgar i'r lie,

24 Ac a gofleidiodd Macabeus, a'i gwnaeth ef yn llywodraethwr pennaf ar Ptolemais hyd y Gerrheniaid,

25 A ddaeth i Ptolemais. Yr oedd yn anfodlon gan bobl Ptolemais yr amodau; canys hwy a ffromasant oherwydd eu bod hwy yn chwennych torri eu hamodau.

26 Lysias a aeth i fyny i'r orseddfa, a amddiffynnodd y weithred yn drefnus, a'u henillodd, a'u llonyddodd, a'u gwnaeth hwynt yn ewyllysgar, a ddychwelodd i Antiochia. Fel hyn y damweiniodd taith y brenin a'i ddychweliad.

PENNOD 14

1 YN ôl tair blynedd y daeth y gair at Jwdas, fod Demetrius mab Seleucus wedi dyfod i mewn trwy borthladd Tripolis, a chynulleidfa rymus ac a llongau,

2 Goresgyn y wlad, a lladd Antiochus a'i oruchwyliwr Lysias.

3 Yr awron un Alcimus, yr hwn a fuasai yn archoffeiriad, ac o'i wirfodd a ymddifwynasai yn amseroedd eu cymysgiad a'r Cenhedloedd, pan dybiodd nad ydoedd help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i'r allor sanctaidd,

4 A ddaeth at y brenin Demetrius, yn y ganfed a'r unfed flwyddyn ar ddeg a deugain, gan roddi iddo goron o aur, a phalmwydden, a hefyd o'r ceinciau a arferid ar wyliau yn y deml: a'r dydd hwnnw efe a dawodd a son.

5 Ond pan gafodd efe amser cyfaddas i'w ynfydrwydd, a chael gan Demetrius alw amdano ef i'r cyngor, a gofyn iddo ym mha gyflwr a pha gyngor yr oedd yr Iddewon yn sefyll, efe a at-ebodd i hynny;

6 Y rhai o'r Iddewon a elwir Assid-eaid, ar ba rai y mae Jwdas Macabeus yn gapten, sydd yn magu rhyfel ac ym- ryson, ac ni adawant i'r deyrnas fod yn heddychol;

7 Oherwydd hynny myfi, wedi fy ysbeilio am anrhydedd fy hynafiaid, (yr wyf yn meddwi yr archoffeiriadaeth,) yr awron a ddeuthum yma;

8 Yn gyntaf yn wir, oblegid bod gen-nyf feddwl ffyddlon at y pethau a berthyn i'r brenin; yn ail, oblegid fy mod yn ymroddi i geisio budd i'm dinaswyr: oblegid y mae anrheswm y rhai y dywedwyd amdanynt yn blino nid ychyd-jg ar ein holl genedl ni.

9 Am hynny, O frenin, gan dy fod di yn gwybod yr holl bethau hyn, cym-er ofal dros y wlad, a'n cenedl ni, yr hon sy mewn ing, a'r fath fwynder ag yr wyt ti yn ei ddangos i bawb:

10 Oblegid tra fyddo Jwdas yn fyw, nid yw bosibl i'r materion gael heddwch.

11 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, yn y fan cyfeillion eraill, y rhai oedd mewn gelyniaeth a Jwdas, a enynasant Demetrius yn fwy.

12 Ac yn ebrwydd gan alw Nicanor, yr hwn a fuasai yn llywydd ar yr eli-ffantiaid, a'i wneuthur ef yn llywod-raethwr ar Jwdea, efe a'i gyrrodd allan.

13 Gan roi iddo lythyrau i ladd Jwdas, ac i yrru y rhai oedd gydag ef ar wasgar, ac i wneuthur Alcimus yn archoffeiriad i'r deml fawr.

14 Yna y Cenhedloedd, y rhai a ffoes-ent o Jwdea oddi wrth Jwdas, a ym-gasglasant yn dyrfaoedd at Nicanor, gan dybied fod blinder a chwymp yr Idd-ewon yn llwyddiant iddynt hwy.

15 Ond pan glybu'r Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasglu o'r Cenhedloedd yn eu herbyn, hwy a daflasant ddaear ar eu pennau, ac a weddiasant ar yr hwn a sicrhasai ei bobl dros byth, ac sy'n amddiffyn ei ran ei hun bob amser, trwy amlygu ei bresenoldeb.

16 Felly wrth orchymyn y capten, yn y fan hwy a symudasant oddi yno, ac a gyfarfuant a hwynt wrth dref Dessaro.

17 Yr awron Simon brawd Jwdas a gyfarfuasai a Nicanor mewn rhyfel; ond fe a synnodd arno ef beth wrth ddisymwth ddistawrwydd y gelynion.

18 Er hynny pan glybu Nicanor ddevvrder y rhai oedd gyda Jwdas, gwroldeb i ymdrech yng nghweryl eu gwlad, efe a ofnodd ddibennu y mater trwy ryfel.

19 Am hynny efe a ddanfonodd Posidonius, a Theodotus, a Matheias, i wneuthur tangnefedd.

20 Ac wedi cymryd ohonynt hir gyngor am y pethau hyn, ac i'r capten wneuthur y lliaws yn gydnabyddus a hwynt, ac ymddangos eu bod hwy o'r un meddwl, hwy a gytunasant i'r amodau,

21 Ac a luniasant ddiwrnod: a phan ddaeth y dydd i ddyfod ynghyd yn gyfrinachol, ac ystolion wedi eu gosod i bob un ohonynt,

22 JWdas a osododd wyr arfog baro^I mewn lleoedd cyfleus, rhag i'r gelynion wneuthur rhyw fradwriaeth yn ddisymwth: felly hwy a wnaethant gydymresymiad heddychol.

23 Yna y trigodd Nicanor yn Jerwsa-lem, ac heb wneuthur niwed, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ymgasglasai ato ef yn gadfeydd.

24 Ac efe a fynnai Jwdas bob amser yn ei olwg: canys yr oedd efe yn caru y gwr yn ei galon.

25 Ac efe a ddeisyfodd arno briodi, ac ennill plant: felly efe a briododd, a fu lonydd, ac a gymerth ran o'r bywyd yma.

26 Eithr Alcimus, pan ganfu efe ewyllys da'r naill at y llall, ac ystyried yr amodau a wnaethid, a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd mewn materion dieithr; canys Jwdas, eb efe, yr hwn oedd yn cynllwyn am ei frenhiniaeth ef, a ordein-iodd efe i fod ar ei ôl.

27 Yna y brenin mewn llidiowg-rwydd, ac wedi ei annog trwy achwynion y gwr llwyrddrwg hwnnw, a sgrifennodd at Nicanor, gan ddywedyd ei fod ef yn dra anfodlon i'r amodau, a chan orchymyn iddo ddanfon Macabeus ar frys yn garcharor i Antiochia.

28 Pan ddaeth hyn at Nicanor, fe a'i cythryblwyd ef ynddo ei hun yn aruthr, a blin fu ganddo orfod iddo wneuthur yn ofer yr amodau a fuasai rhyngddyntj a'r gwr heb fod ar fai yn y byd.

29 Ond o ran nad oedd gymwys wrthwynebu'r brenin, efe a wyliodd amser cyfaddas i ddwyn hyn i ben trwy gyfrwystra.

30 Ond pan welodd Macabeus fod Nicanor yn afrywiocach wrtho, a'r gyfeillach arferol yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywiowgrwydd hwnnw o'r meddwl gorau; am hynny efe a gasglodd lawer o'r rhai oedd yn ei gylch ef, ac a ymneilltuodd oddi wrth Nicanor.

31 Y llall hefyd, gan wybod achub ei flaen yn odidog trwy gyfrwystra Jwdas, a ddaeth i'r deml fawr sanctaidd, ac a orchmynnodd i'r offeiriaid oedd yn offrymu'r ebyrth cyfaddas, roddi y gwr iddo ef.

32 Ond pan dyngasant na wyddent pa le yr oedd y gwr yr oedd efe yn ei geisio,

33 Efe a estynnodd ei ddeheulaw tu-a'r deml, ac a dyngodd fel hyn; Oni roddwch chwi Jwdas i mi yn rhwym, mi a wnaf y deml hon i Dduw yn gydwastad a'r llawr, ac a dorraf i lawr yr allor, ac a adeiladaf yma deml odidog i Bacchus.

34 Ac yn ôl y geiriau hyn efe a aeth ymaith: yna'r offeiriaid a godasant eu dwylo tua'r nef, ac a alwasant ar yr hwn a fuasai erioed yn amddifiynnwr i'w cenedl hwy, gan ddywedyd fel hynj

35 Ti Arglwydd pob peth, yr hwn nid oes arnat eisiau dim, a welaist yn dda fod teml dy breswylfa yn ein plith ni.

36 Am hynny yn awr, O Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y ty yma yn ddihalog, yr hwn yn ddiweddar a lanhawyd, a chae bob genau anghyfiawn.

37 Yna fe a gyhuddwyd wrth Nicanor, Rasis, un o henuriaid Jerwsalem, gwr yn caru y ddinas, ac o enw da, yr hwn am ei ewyllys da a elwid yn dad i'r Iddewon:

38 Canys yn yr amseroedd o'r blaen, pan oeddynt heb eu cymysgu eu hun-ain a'r Cenhedloedd, efe a gyhuddasid o grefydd Iddewig, ac yn hy a gyn-igiodd dreulio ei gorff a'i einioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.

39 Am hynny Nicanor, gan ewyllysio dangos yn eglur ei greulondeb yn erbyn yr Iddewon, a ddanfonodd ychwaneg na phum cant o ryfelwyr i'w ddal ef:

40 Canys efe a dybiodd wrth ei ddal ef, y gallai efe ddwyn dinistr ar yr Iddewon.

41 Ond pan oedd y dorf &'u bryd ar ennill y twr, ac wrth gryfder ar dorri i mewn i'r drws nesaf allan, ac yn peri cyrchu tan i'w losgi; efe, pan oeddynt o bob tu yn ymyl ei ddal, a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun;

42 Gan fod yn well ganddo farw yn wrol, na'i ddarostwng dan y rhai ysgeler hynny, a goddef traha anweddaidd i'w fonedd.

43 Ond pan fethodd ganddo gael ei ddyrnod yn union, a'r lliaws hefyd yn rhuthro i mewn i'r drysau, efe a redodd yn hy i'r gaer, ac a'i bwriodd ei hun yn wrol bendramwnwgl ymysg y dorf.

44 Ond pan giliasant hwy yn fuan yn ôl, ac ymrannu, efe a syrthiodd i lawr i'r gwagle.

45 Er hynny ac efe eto yn fyw, yn llosgi o lid, efe a gododd i fyny: ac er bod ei waed yn rhedeg fel ffrydiau, a'i weli'au yn ofidus, eto efe a redodd trwy ganol yr ymwasg, ac a safodd ym mhen craig uchel:

46 Wedi yr awron golli ei waed oll, efe a dynnodd allan ei berfedd, ac a'u cymerth hwy yn ei ddwylo, ac a'u taflodd at y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y bywyd a'r ysbryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo drachefh, efe a fu farw fel hyn.

II MACABEAID 15 PENNOD 15


1 OND Nicanor, wrth glywed fod Jwdas a'i lu yn nhueddau Samaria, a ym-rodd heb ddim perygl i ddyfod ar eu huchaf hwy ar y dydd Saboth.

2 Er hynny yr Iddewon, y rhai a gymhellwyd i'w ganlyn, a ddywedas-ant, O na ddistrywia mor greulon ac mor anhrugarog; eithr dyro anrhydedd i'r dydd, yr hwn y darfu i'r hwn sydd yn gweled pob peth ei anrhydeddu a sanct-eiddrwydd uwchlaw dyddiau eraill.

3 Yna y dyn ysgeler yma a ofynnodd a ydoedd un Galluog yn y nef, yr hwn a orchmynasai gadw y dydd Saboth.

4 A phan atebasant, Y mae yn y nef Arglwydd bywiol galluog, yr hwn a orchmynnodd gadw y seithfed dydd;

5 Yna eb y Hall, A minnau hefyd wyf alluog ar y ddaear, ac yr wyf yn gorchy-myn i chwi gymryd arfau, a dwyn i ben faterion y brenin. Er hynny ni allai efe ddwyn i ben ei annuwiol amcan.

6 Felly Nicanor, gan ymddyrchafu a mawr falchedd, a rodd ei fryd ar wneuth-ur cof o'r oruchafiaeth a gaffai efe ar Jwdas a'r rhai oedd gydag ef.

7 Ond Macabeus oedd bob amser yn ymddiried trwy fawr obaith y byddai'r Arglwydd yn amddiffynnwr iddo:

8 Am hynny efe a gynghorodd ei wyr nad ofnent ddyfodiad y Cenhedloedd yn eu herbyn, ond gan fod yn eu cof y cynhorthwy a gawsent o'r blaen o'r nef, edrych ohonynt yn awr hefyd am yr oruchafiaeth a'r cymorth a ddeuai iddynt oddi wrth yr Hollalluog.

9 Ac felly gan eu cysuro hwy allan o'r gyfraith a'r proffwydi, ac am ben hynny gan gofio iddynt y rhyfeloedd a wnaethent o'r blaen yn llwyddiannus, efe a'u gwnaeth hwy'n Uawenach.

10 Ac wedi iddo godi calonnau yn-ddynt, efe a roddes iddynt eu siars, gan ddangos hefyd iddynt ffalster y Cenhedloedd, a thoriad eu llwon.

11 Felly efe a arfogodd bob un ohonynt, nid yn gymaint a diogelwch tar-ianau a gwaywffyn, ag a chysur trwy eiriau da: a hefyd efe a ddangosodd iddynt freuddwyd credadwy, ac a'u llawenychodd yn fawr.

12 A hyn ydoedd ei weledigaeth ef; Fod Oneias, yr hwn a fuasai yn arch-offeiriad, gwr rhinweddol a da, parched-ig o ymarweddiad, addfwyn o naws, ymadroddus hefyd, ac wedi llafurio er yn fachgen ym mhob pwnc o rinwedd, yn codi ei ddwylo, ac yn gweddio dros holl gorff yr Iddewon.

13 Pan ddarfu hyn, yn yr un ffunud fe a ymddangosodd iddo wr penllwyd, yn rhagori mewn gogoniant, yr hwn oedd o ryfeddol a rhagorol fawredd.

14 Yna yr atebodd Oneias, gan ddy-wedyd, Dyma un sy hoff ganddo y brodyr, yr hwn sydd yn gweddio llawer dros y bobl a'r ddinas sanctaidd, sef Jeremeias, prorfwyd Duw.

15 Ar hynny, fe a estynnodd Jeremeias ei ddeheulaw, ac a roddodd i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei roddi a ddywed-odd fel hyn;

16 Cymer y cleddyf sanctaidd yma, rhodd Duw, a'r hwn yr archolli di dy wrthwynebwyr.

17 Fel hyn wedi eu cysuro yn dda trwy eiriau Jwdas, y rhai oedd dda iawn a nerthol i'w cynhyrfu at wroldeb, ac i gysuro calonnau y gwyr ieuainc, hwy a fwriadasant na wersyllent, ond y gos-odent arnynt yn rymus, ac yn wrol y dibennent y mater law i law, yn gymaint a bod y ddinas, y cysegr, a'r deml, mewn perygl.

18 Canys yr oedd y gofal a gymeras-ant hwy am eu gwragedd, a'u plant, eu brodyr, a'u ceraint, yn y cyfrif lleiaf gyda hwynt: ond yr ofn mwyaf a'r permaf oedd am y deml sanctaidd.

19 Hefyd yr oedd yn fawr gofal y rhai oedd yn y ddinas dros y llu ydoedd allan mewn ymdrech.

20 Ac fel yr oedd pawb yn disgwyl beth a fyddai'r diben, a'r gelynion weithian wedi nesau, a'r llu wedi ym-fyddino, a'r anifeiliaid wedi eu neilltuo i leoedd cymwys, a'r gwyr meirch wedi eu cyfleu yn yr esgyll;


21 Macabeus, gan weled dyfodiad y lliaws, a'r amryw baratoad arfau, a chreulondeb y bwystfilod, a estynnodd allan ei ddwylo tua'r nef, ac a alwodd ar yr Arglwydd yr hwn sydd yn gwneuth-ur rhyfeddodau; gan wybod nad yw goruchafiaeth yn dyfod wrth arfau, ond ei fod ef yn ei rhoddi i'r rhai teil-wng, megis ag y gwelo efe yn dda.

22 Ac wrth weddi'o efe a ddywedodd fel hyn; Tydi, Arglwydd, a ddanfon-aist dy angel yn amser Eseceias brenin Jwdea, yr hwn a ddifethodd o wersyll Sennacherib gant a phump a phedwar ugain mil.

23 Felly yr awr hon, O Arglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaen ni, er ofn ac arswyd iddynt:

24 A thrwy nerth dy fraich di trawer hwy a dychryn, y rhai sydd yn dyfod yn erbyn dy sanctaidd bobl i gablu. Ac fel hyn y diweddodd efe.

25 Yna Nicanor a'r rhai oedd gydag ef a ddynesasant ag utgyrn ac a chan-iadau.

26 Ond Jwdas a'r rhai oedd gydag ef a aethant ynghyd S'r gelynion trwy weddi ac ymbil.

27 Felly yn wir, gan ymladd a'u dwy-lo, a gweddio ar Dduw a'u calonnau, hwy a laddasant nid llai na phymtheng mil ar hugain: canys trwy ymddangos-iad Duw yr oeddynt hwy yn llawen iawn.

28 Yr awron pan ddarfu y rhyfel, hwy, yn dychwelyd a llawenydd, a wybuant fod Nicanor yn gorwedd yn farw yn ei arfogaeth.

29 Yna hwy a lefasant yn uchel, ac a fendithiasant yr Arglwydd yn iaith eu gwlad.

30 A Jwdas, pen-amddiffynnwr y dinas-wyr yng nghorff ac enaid, yr hwn erioed a ddygasai ewyllys da i'r rhai oedd o'i genedl, a orchmynnodd dorri pen Ni-

canor, a'i law, a'i ysgwydd, a'u dwyn i Jerwsalem.

31 A phan ddaeth efe yno, wedi galw ynghyd ei genedl ei hun, a gosod yr offeiriaid gerbron yr allor, efe a alwodd am y rhai oedd o'r twr,

32 Ac a ddangosodd iddynt ben Nicanor ysgeler, a llaw'r cablwr, yr hon trwy fawr falchedd a estynasai efe allan yn erbyn ty sanctaidd yr Hollalluog.

33 Ac wedi iddo dorri ymaith dafod Nicanor annuwiol, efe a ddywedodd y rhoddai efe ef i'r adar yn ddrylliau, ac y crogai efe wobr ei ynfydrwydd ef gyferbyn a'r deml.

34 Felly pawb a folianasant tua'r nef y gogoneddus Arglwydd, gan ddy-wedyd, Bendigedig fyddo'r hwn a gad-wodd ei fangre ei hun yn ddihalog. 35 Yna y crogodd efe ben Nicanor ar y twr, yn arwydd amlwg ac eglur i bawb 0 gymorth yr Arglwydd.

36 A hwy a ordeiniasant i gyd trwy ddeddf gyffredin, na ollyngid heibio y dydd hwn mewn modd yn y byd yn anenwog, ond cadw yn wyl y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, yr hwn a elwir yn iaith y Syriaid Adar, y dydd o flaen gwyl Mardocheus.

37 Am hynny gan ddigwyddo fel hyn 1 Nicanor, a meddiannu o'r Hebreaid y ddinas er yr amser hynny, minnau hefyd a ddiweddaf yma.

38 Ac os da y gwneuthum, ac megis y gweddai i'r histori, hynny yw'r peth a ewyllysiais; ond os yn llesg ac yn an-noeth, hynny yw yr hyn a allwn ei ddwyn i ben.

39 Canys megis ag y mae yn ddrwg yfed gwin o'r neilltu, ac felly drachefn ddwfr; ac megis y mae gwin wedi ei gymysgu a dwfr yn hyfryd ac yn flasus; felly gosodiad y mater allan sydd yn flasus i glustiau y rhai a ddarllenant yr histori. Ac yma y bydd diwedd.