Beibl (1620)/2 Samuel

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

PENNOD 1

1:1 Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;

1:2 Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.

1:3 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i.

1:4 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.

1:5 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo. Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab?

1:6 A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef.

1:7 Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi.

1:8 Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi.

1:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.

1:10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd.

1:11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.

1:12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr AR¬GLWYDD, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.

1:13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi.

1:14 A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr ARGLWYDD?

1:15 A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesa, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.

1:16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr ARGLWYDD.

1:17 A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab:

1:18 (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)

1:19 O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!

1:20 Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.

1:21 O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.

1:22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.

1:23 Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwol¬aeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod.

1:24 Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgariad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.

1:25 Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.

1:26 Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.

1:27 Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!

PENNOD 2

2:1 Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.

2:2 A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.

2:3 A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un a’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.

2:4 A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.

2:5 A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef.

2:6 Ac yn awr yr ARGLWYDD a wnelo fi chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.

2:7 Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.

2:8 Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim;

2:9 Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.

2:10 Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd.

2:11 A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.

2:12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.

2:13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y hyn o’r tu arall.

2:14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.

2:15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.

2:16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.

2:17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.


2:18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes.:

2:19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.:

2:20 Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.

2:21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.

2:22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?

2:23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.

2:24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.

2:25 A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn.

2:26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?

2:27 A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.

2:28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.

2:29 Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.

2:30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel.

2:31 A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.

2:32 A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.

PENNOD 3

3:1 A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned. gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.

3:2 A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;

3:3 A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;

3:4 A’r pedwerydd, Adoneia, mab Hag-gith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital:

3:5 A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.

3:6 A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.

3:7 Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?

3:8 Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw?

3:9 Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef,

3:10 Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba.

3:11 Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.

3:12 Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.

3:13 A dywedodd yntau. Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddy¬wedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.

3:14 A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.

3:15 Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.

3:16 A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.

3:17 Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.

3:18 Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr ARGLWYDD a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.

3:19 Dywedodd Abner hefyd wrth Ben¬jamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.

3:20 Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.

3:21 A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.

3:22 Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.

3:23 Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddy¬wedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe ai gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

3:24 A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?

3:25 Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.

3:26 A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.

3:27 A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilitu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn hedd¬wch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.

3:28 Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr ARGLWYDD byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:

3:29 Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.

3:30 Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.


3:31 A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.

3:32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.

3:33 A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?:

3:34 Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi, mewn egwydydd: syrthaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.

3:35 A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.

3:36 A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.

3:37 A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.

3:38 A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?

3:39 A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.

PENNOD 4

4:1 A phan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant.

4:2 A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:

4:3 A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)

4:4 Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth.

4:5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

4:6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant.

4:7 A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef, ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos.

4:8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r ARGLWYDD a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.

4:9 A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimmon y Beeroth¬iad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra,

4:10 Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl:

4:11 Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear?

4:12 A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.

PENNOD 5

5:1 Yna holl lwythau Israel a ddaethant at Dafydd i Hebron, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn di a’th gnawd ydym ni.

5:2 Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.

5:3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.

5:4 Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.

5:5 Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.

5:6 A’r brenin a’i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a’r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma.

5:7 Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.

5:8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i’r gwter, ac a drawo’r Jebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ.

5:9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a’i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn.

5:10 A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd oedd gydag ef.

5:11 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd.

5:12 A gwybu Dafydd i’r ARGLWYDD ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.

5:13 A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.

5:14 A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,

5:15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,

5:16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.

5:17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i’r amddiffynfa.

5:18 A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.

5:19 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.

5:20 A Dafydd a ddaeth i Baal-perasim; a Dafydd a’u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a wahanodd fy ngelynion o’m blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal-perasim.

5:21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.

5:22 A’r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.

5:23 A Dafydd a ymofynnodd â’r AR¬GLWYDD; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o’r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â’r morwydd.

5:24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr ARGLWYDD a â allan o’th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.

5:25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.

PENNOD 6

6:1 A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain.

6:2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.

6:3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.

6:4 A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaen yr arch.

6:5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

6:6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.

6:7 A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.

6:8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.

6:9 A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd. Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi?

6:10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.

6:11 Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r ARGLWYDD a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ.

6:12 A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.

6:13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.

6:14 A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.

6:15 Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn.

6:16 Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr AR¬GLWYDD; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

6:17 A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd ger¬bron yr ARGLWYDD.

6:18 Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.

6:19 Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dy ei hun.

6:20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddy¬wedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.

6:21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dy ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.

6:22 Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.

6:23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.

PENNOD 7

7:1 A phan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r ARGLWYDD lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch:

7:2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau.

7:3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr ARGLWYDD sydd gyda thi.

7:4 A bu, y noson honno, i air yr AR¬GLWYDD ddyfod at Nathan, gan ddy¬wedyd,

7:5 Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi?

7:6 Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl.

7:7 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddy¬wedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?

7:8 Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.

7:9 A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear.

7:10 Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt;

7:11 Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r ARGLWYDD sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.

7:12 A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.

7:13 Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei fren¬hiniaeth ef byth.

7:14 Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:

7:15 Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di.

7:16 A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.

7:17 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

7:18 Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr AR¬GLWYDD: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd DDUW? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

7:19 Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd DDUW; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd DDUW?

7:20 A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd DDUW.

7:21 Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod.

7:22 Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau


7:23 A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau?

7:24 Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, ydwyt iddynt hwy yn DDUW.

7:25 Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW, cwblha byth y gair a leferaist am dŷ was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.

7:26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, ARGLWYDD y lluoedd sydd DDUW ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di.

7:27 Canys ti, O ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.

7:28 Ac yn awr, O Arglwydd DDUW, tydi sydd DDUW, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn.

7:29 Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd DDUW, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.

PENNOD 8

º1 AC wedi hyn trawodd Dafydd y Philist-—A iaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-amma o law y Philistiaid.

º2 Ac efe a drawodd Moab, ac a’u tnesurodd hwynt a llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fcsurodd â dau linyn, i ladd; ac a llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Da¬fydd yn weision, yn dwyn treth.

º3 Trawodd Dafydd hefyd Hadad-eser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates.

º4 A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Da¬fydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

º5 A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

º6 A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe.

º7 Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem.

º8 O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.

º9 Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser;

º10 Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo:

º11 Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe;

º12 Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba.

º13 A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.

º14 Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth etc.

º15 A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w hull bobl.

º16 A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

º17 A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd:

º18 Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Peiethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.

PENNOD 9

º1 A DAFYDD a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?

º2 Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.

º3 A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed.

º4 A dywedodd y brenin wrtho. Pa te y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Arnmiel, yn Lo-debar.

º5 Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dy Machir, mab Ammi’el, o Lo-debar.

º6 A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was.

º7 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.

º8 Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit as gi marw o’m bath i?

º9 Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl d ef, a roddais i fab dy feistr di.

º10 A thi a erddi y tir iddo ef, ‘ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.

º11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.

º12 Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu ty Siba oedd weision i Meffiboseth.

º13 A Meffiboseth a drigodd yn Jerw¬salem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’l ddeudroed.

PENNOD 10

º1 A ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º2 Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd a mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.

º3 A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu haiglwydd., Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyq chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?

º4 Yna Hanun a gymerth weision Da¬fydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u go-llyngodd hwynt ymaith.

º5 Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi, ac yna dychwelwch.


º6 A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Bethrehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.

º7 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

º8 A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilitu yn y maes.

º9 Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe. a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.

º10 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon.

º11 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau.

º12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

º13 A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef.

º14 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dych welodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.

º15 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.

º16 A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen.

º17 A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef.

º18 A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.

º19 A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach.

PENNOD 11 º1 A wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.

º2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg.

º3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad?

º4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.

º5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.

º6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd.

º7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel.

º8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef.

º9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun.

º10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun?

º11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn.

º12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth.

º13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun.

º14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias.

º15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw.

º16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo.

º17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.

º18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel:

º19 Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd. Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin:

º20 Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?

º21 Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.

º22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid.

º23 A’r gennad a ddywedodd wrth Da¬fydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth.

º24 A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weisiofa y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.

º25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad. Fel hyn y dywedi di wrth Joab, Na fydded hyn ddrwg yn dy oiwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf; cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.

º26 A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.

º27 A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd y peth a wnaethai Dafydd.

PENNOD 12

º1 AR ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd.

º2 Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawa o ddefaid a gwartheg:

º3 A chan y tlawd nid oedd dim ohd un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytai hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch.


º4 Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd O’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, l arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i parat6dd i’r gŵr a ddaethai ato.

º5 A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn.

º6 A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth .hyn, ac nad arbedodd.

º7 A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDO DDUW Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul:

º8 Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a pfae rhy fychan fuasai hynny, myfi a toddaswn i ti fwy o lawer.

º9 Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDP, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ure&s yr Hethiad a drewaist ti a’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a ttu a’i lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon.

º10 Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.

º11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn.

º12 Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul.

º13 A dywedodd Dafydd wrth Nathan., Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw.

º14 Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.

º15 A Nathan a aeth i’w dŷ.A’r AR¬GLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn.

º16 Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos.

º17 A henuriaid ei dy ef a gyfodasant .ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt.

º18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?

º19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw.

º20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd.

º21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara.

º22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn?

º23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.

º24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef.

º25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.

º26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas.

º27 A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd.

º28 Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi.

º29 A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi.

º30 Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn.

º31 Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem.

PENNOD 13

º1 A ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi.

º2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi.

º3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn.

º4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac’ Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd.

º5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.

º6 Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddy¬wedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi.

º7 Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, DOS yn. awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo.

º8 Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tyhnodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.

º9 A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddy¬wedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef.

º10 Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell.

º11 A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddy¬wedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer. f

º12 A hi a ddywedodd wrtho. Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.

º13 A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, a’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti.

º14 Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.

º15 Yoa Amnon a’i casaodd hi a chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas a’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad a’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith.

º16 A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost a mi. Ond ni wrandawai efe arni hi.

º17 Eithr efe a alwodd ar ei lane, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi.

º18 Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys a’r cyfryw fentyll y diilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.

º19 A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi.

º20 Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw a son, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.

º21 Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr.

º22 Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.

º23 Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baalhasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin.

º24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i. weision gyda’th was.

º25 A dywedodd y brenin wrth Absa¬lom, Nage, fy roab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu dacr arno: ond ni fynnai efe fyned, eithr efc a’i bcndithiodd ef.

º26 Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho- ef, 1 ba beth yr a efe gyda thi? .;:

º27 Eto Absalom a fu daer arno, fal y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a hot! feibion y brenin.

º28 Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.

º29 A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.

º30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feib¬ion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.

º31 Yna y brenin a gyfododd, ac a rwyg¬odd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, a’u gwisgoedd yn rhwygedig.

º32 A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef me’bion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Taroar ei chwaer ef.

º33 Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw.

º34 Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd.

º35 A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae.

º36 A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylas¬ant ag wylofain mawr iawn.

º37 Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd.

º38 Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd.

º39 Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.

PENNOD 14

º1 YNA Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom.

º2 A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:

º3 A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osod¬odd yr ymadroddion yn ei genau hi.

º4 A’r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywed¬odd, Cynorthwya, O frenin.

º5 A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a’m gŵr a fu farw.

º6 Ac i’th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddyat hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a’i lladdodd ef.;

º7 Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.

º8 A’r brenin a ddywedodd wrth y wraig, DOS i’th dy; a mi a roddaf orchymyn o’th blegid di.

º9 A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dy fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog.

º10 A’r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach. gyffwrdd a thi.

º11 Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy ARGLWYDD DDUW, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o walk pen dy fab di i lawr,,

º12 Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i’th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed. xxx

º13 A’r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl DDUW? canys y mae’r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr.

º14 Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.

º15 Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddi¬ddan â’m harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i’r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â’r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.

º16 Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a’m mab hefyd o etifeddiaeth DDUW.

º17 A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy ar¬glwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi.

º18 Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin.

º19 A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd. Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn:

º20 Ar fedr troi’r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.

º21 A’r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn; dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl.

º22 A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was.

º23 A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.

º24 A’r brenin a ddywedodd, Troed i’w dy ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i’w dy ei hun, ac .ni welodd wyneb y brenin.

º25 Ac nid oedd ŵr môr glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl .Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.

º26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un .waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: .sherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a’i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sici, wrth bwys y brenin.

º27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a’i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg. .

º28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.

º29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i’w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac etc a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim. .

º30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab gcr fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.

º31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i’w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân?

º32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd. Tyred yrna, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.

º33 Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A’r brenin a gusanodd Absalom.

PENNOD 15

º1 A wedi hyn y paratodd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr fl ripncroi’r* i r ei nun gerbydau, a i a deugain i redeg o’i flaen

º2 Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwyrhau Israel y mae dy was.

º3 Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti.

º4Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo!

º5 A phan nesai neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai.

º6 Ac fel hyn y gwnai Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.

º7 Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r ARGLWYDD, yn Hebron.

º8 Canys dy was a addunedodd add.- lined, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr ARGLWYDD fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr AR¬GLWYDD.

º9 A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, DOS mewn heddwch. Felly efe a gyfod¬odd, ac a aeth i Hebron.

º10 Eithr Absalom a anfonodd ysbiwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddy¬wedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.

º11 A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll.

º12 Ac Absalom a anfonodd am Ahito-ffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf, a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.

º13 A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.

º14 A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf.

º15 A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, WeSe dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin.

º16 A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ.

º17 A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell.

º18 A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.

º19 Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun.

º20 Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi.

º21 Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd.

º22 A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, DOS, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef.

º23 A’r holl wlad oedd yn wylofain a llefuchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.

º24 Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas.

º25 A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell.

º26 Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg.

º27 A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abia¬thar.

º28 Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi.

º29 Felly Sadoc ac Abiathar a’ ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.

º30 y A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddip, ac


yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.

º31 A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cyd-fwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O ARGLWYDD, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb. ‘

º32 A pban ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe DDUW ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben.

º33 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf:

º34 Ond os dychweli i’r ddinas, a dy-wedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fum hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel.

º35 Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dy y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid.

º36 Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch.

º37 Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.

PENNOD 16

º1 A wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffi-Boseth yn ei gyfarfod ef a chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win.

º2 A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwyth¬ydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy.

º3 A’r brenin a ddywedodd, A pha le y tnae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad.

º4 Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.

º5 A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo.

º6 Ac efe a daflodd Dafydd a cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef.

º7 Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio. Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall.

º8 Yr ARGLWYDD a drodd arnat ti holl waed ty Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r ARGLWYDD a roddodd y frenhin¬iaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti.

º9 Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ei marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef.

º10 A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i; mi a wnelwyf a chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr AR-&LWYDD a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Baham y gwnei fel hyn?

º11 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr ARGLWYDD a archodd iddo.

º12 Efallai yr edrych yr ARGLWYDD ar fy nghystudd i, ac y dyry yr ARGLWYDD i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.

º13 Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef.

º14 A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.

º15 Ac Absalom a’r- holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. .

º16 A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai.., a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin.

º17 Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill?

º18 A Husai a ddywedodd wrth Absa¬lom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi.

º19 A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau.

º20 Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. .:,.

º21 Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, DOS i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi.

º22 Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel.

º23 A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un a gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom.

PENNOD 17

º1 DYWEDODD Ahitoffel hefyd with Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon.

º2 A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.

º3 A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch.;

º4 A da fu’r pjeth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel.

º5 Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd.

º6 A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.

º7 A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.

º8 Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl.

º9 Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom.

º10 Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon Hew, a lwfrha: canys gwŷr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.

º11 Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer-seba, fel y tywod wrth y môr o arnldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel.

º12 Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ao a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef.

º13 Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan.

º14 A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor AhitoffeS. Canys yr ARGLWYDD a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr ARGLWYDD ddrwg ar Absalom.


º15 Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.

º16 Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos, rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef.

º17 Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En-rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas.

º18 Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno.

º19 A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion yd; fel na wybuwyd y peth.

º20 A phan ddaeth gweision Absalom at . y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant. Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.

º21 Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, .Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi.

º22 Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen.

º23 A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.

º24 Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.:

º25 Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, main Joab.

º26 Felly y gwersyllodd Israel ac Absa¬lom yng ngwlad Gilead.

º27 A phan ddaeth Dafydd i Ma¬hanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammi’el o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim,

º28 A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a fi’acbys, a chras bys,

º29 A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin. hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch.

PENNOD 18

º1, ADAFYDD a gyfrifodd y. bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid.

º2 A Dafydd a anfonodd o’r bobl y dryd¬edd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi.

º3 Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas.

º4 A dywedodd y brenin wrthynf hwy, I Gwnaf yr hyA’fyddo da y& eich golwg c’hwi. A’r brenin a safoddgerllawyporth;;i’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ai; yn filoedd.

º5 A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom.

º6 Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Hlfraim.

º7 Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil. "

º8 Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.

º9 Ac Absalom a gyfarfu a gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul «a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith.

º10 A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn der¬wen.

º11 A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys?

º12 A dywedodd y gŵr wrth Jaob, P’e cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyftwrdd o neb a’r llanc Absalom.

º13 Os amgcn, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn.

º14 Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galoa. Absalom, ac efeeto.yn,’fyw -yng nghanol y dderwen.

º15 A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef.

º16 A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.

º17 A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn rfos fawr yn y coed, at a osodasant arno garnedd gerrig fawr i wn: a holl Israel a ffoesant bob un i’w tiabell.

º18 Ac Absalom a gymerasai ac a osod* «sai iddo yn ei fywyd golofh, yn nyf&yn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei toun. A hi a elwir lle Absalom, hyd y dydd hwn.

º19 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd. Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i’r brenin, ddarfod i’r ARGLWYDD ei ddial ef ar ei elynion.

º20 A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin.

º21 Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, DOS, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a red add.

º22 Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywed¬odd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas?

º23 Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho:, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.

º24 A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.

º25 A’r gwyliedydd a waeddodd, ac.a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.

º26 A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad.

º27 A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gwr da yw hwnnw, ac a chen-adwriaeth dda y daw efe.

º28 Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywed¬odd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu yaw yn erbyn fy arglwydd frenin.

º29 A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol yllanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybum i beth ydoedd.

º30 A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd.

º31 Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywed¬odd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn.

º32 A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ‘-ddihangodd y llanc Absalom? A dywed-pdd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo .gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti.

º33 A’r brenin a gyf&odd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac .fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab., fy mab!

PENNOD 19

º1 AMYNEGWYD i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom.

º2 A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o’r brenin am ei fab.

º3 A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel.

º4 Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab!

º5 A Joab a ddaeth i mewn i’r ty at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwydd-aist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd;

º6 Gan garu dy gaseion, a chasau dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di.

º7 Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon.

º8 Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell.

º9 Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom.

º10 Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb son am gyrchu y brenin drachefn?

º11 A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dy? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ.

º12 Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adrcf?

º13 Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth.

º14 Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision.

º15 Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod a’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.

º16 A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfar¬fod a’r brenin Dafydd.

º17 A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas ty Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.

º18 Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simci mab Gcra a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;

º19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon.

º20 Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dy Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod a’m harglwydd frenin.

º21 Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo fell-tithio eneiniog yr ARGLWYDD?

º22 A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf a chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?

º23 A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.

º24 Mcffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod a’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.

º25 A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod a’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?

º26 Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was.

º27 Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.

º28 Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin?

º29 A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.

º30 A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddy¬fod fy arglwydd frenin i’w dy mewn heddwch.

º31 A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim; ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng efdros yr Iorddonen.

º32 A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn dar-paru lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe.


º33 A’r brenin a ddywedodd with Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a nri a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem.

º34 A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin. Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem?

º35 Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherdd-oresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd fren-in?

º36 Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth?

º37 Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.

º38 A dywedodd y brenin, Chimham a-a gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn. fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot.

º39 A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun.

º40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.

º41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?

º42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid car agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?

º43 A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.

PENNOD 20

º1 AZ; yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel.

º2 Felly holl wŷr Israel a aeihant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem.

º3 A daeth Dafydd i’w dy ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwr*’ aeth, ac a’u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn weddwdod.

º4 Yna y dywedodd y brenin wrth. Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma.

º5 Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo.

º6 A dywedodd Dafydd wrth Abisai Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waetfa nag Absalom: cymer di weision dy ar¬glwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o’a golwg ni.

º7 A gwŷr Joab, a’r Cerethiaid, y Felethiaid hefyd, a’r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

º8 Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr’ sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o’u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei goctil oedd amdano, ac arni yr oedd-gwregys a chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe y deddyf a syrthiai.

º9 A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef.

º10 Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a’i trawodd el ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr, ac nid aildrawodd i-t: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab liichri.

º11 Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy hynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab.

º12 Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu. mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll.

º13 Pan symudwydef oddi ary briffordd yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

º14 Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Bethmaacha, ac i holl leoedd Benin: a hwy a ymgasg-lasant, ac a aethant ar ei ôl ef.

º15 Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Bethmaacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a’r holL bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn cur-o’r mur, i’w fwrw i lawr.

º16 Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a’ lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Juab, Ncsa hyd yma, fel yr ymddiddanwyf & thi.

º17 Pan ncsaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau. Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyt yn gwrando.

º18 Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibenncnt.

º19 Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difedd di etifeddiaeth yr ARGLWYDD?

º20 A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato Duw, na ato Duw, i mi na difetha na dmistrio!

º21 Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o t’ynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur.

º22 Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a’i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i’w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin.

º23 Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Felethiaid;

º24 Ac Adoram oedd ar y dreth, a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

º25 Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;

º26 Ira hefyd y Jairiad oedd ben-llywydd ynghylch Dafydd.

PENNOD 21

º1 A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymo-fynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dy gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid.

º2 A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeon¬iaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.)

º3 A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac & pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD?

º4 A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dy ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi.


º5 A hwy a ddywedasant with y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel,

º6 Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf.

º7 Ond y brenin a arbedodd Meffi-boseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

º8 Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad:

º9 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a rodd-wyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.

º10 A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos.

º11 A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.

º12 A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul," ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Bethsan yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.

º13 Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy 9 gasglasant esgyrn y rhai a grogasid.

º14 A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn.

º15 A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant a’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd.

º16 Ac Isbi-benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu a chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.

º17 Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel.

º18 Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr.

º19 A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaare-oregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.

º20 A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr.

º21 Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef.

º22 Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

PENNOD 22

º1 A DAFYDD a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gan hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.

º2 Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i;

º3 Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dwr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist.

º4 Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.

º5 Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i.

º6 Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant.

º7 Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef.

º8 Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.

º9 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.

º10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.

º11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.

º12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.

º13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.

º14 Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef.

º15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt.

º16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

º17 Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.

º18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion; am eu bod yn drech na mi.

º19 Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.

º20 Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.

º21 Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.

º22 Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

º23 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.

º24 bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.,

º25 A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.

º26 A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

º27 A’r glân y gwnei lendid; ac a’r cyn-dyn yr ymgyndynni.

º28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng.

º29 Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch.

º30 Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur.

º31 Duw sydd berffaith ei ffordd; ymad-rodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant -ynddo.

º32 Canys pwy sydd DDUW, heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr -.ein Duw ni?

º33 Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.

º34 Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd.

º35 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.

º36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac a’th fwynder y lluosogaist fi. |

º37 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.

º38 Erhdiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

º39 Difeais hwynt hefyd, a thrywenais(jiwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.


º40 Canys ti a’m gwregyiaist i nerth i .tyfel: y rhai a ymgyfodenti’m herbyn, a iddarostyngaist danaf.

º41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ‘ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. i;

º43 Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid .Stebodd hwynt.

º43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel torn yr heolydd, a thaenais hwynt.

º44 Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabum a’m gwasanaethant.

º45 Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, igwrandawant arnaf fi.

º46 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. "

º47 Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth.

º48 Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,

º49 Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhag y gŵr traws y’m hachubaist i.

º50 Am hynny y moliannaf di, O AR¬GLWYDD, ymhiith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.

º51 Efe sydd dwr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragy-wydd.

PENNOD 23

º1 DYMA eiriau diwethaf Dafydd. Dy-wedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd gamedydd Israel,

º2 Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.

º3 Duw Israel a ddywedodd wrthyflfi, Craig Israel a. .ddywedodd, ByddeA llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn i?fn Duw:

º4 Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw.

º5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe a mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.

º6 A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.

º7 Ond y gŵr a gyffyrddo a hwynt a ddiffynnir a haearn, ac a phaladr gwayw-ffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.

º8 Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.

º9 Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhiith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.

º10 Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.

º11 Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgyn¬ullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.

º12 Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philisitiaid. Felly y gwnaeth yr AR¬GLWYDD ymwared mawr.

º13 A thri o’r deg pemiaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Refiaim.,

º14 A Dafydd oedd yna mewn amddi- ffynfa: a sefyllfa y Philistiqid ydoedd yna yn Bethlehem.

º15 A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i a dwfr o bydew Bethle¬hem, yr hwn sydd wrth y porth?

º16 A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwft o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD;

º17 Ac a ddywedodd, Na ato yr AR¬GLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.

º18 Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhiith y tri.

º19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni’ chyrhaeddodd efe y tri chyntaf.

º20 A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

º21 Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef a ffon, ac a ddug y wayw¬ffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef a’i waywffon ei hun.

º22 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhiith y tri chadarn.

º23 Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard.

º24 Asahel brawd Joab oedd un o’r’ deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,

º25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

º26 Heles y Pa&iad, Ira mab Icces y Tecoiad,

º27 Abieser yr Anathuthiad, Mebunnflii;’ yr Husaihiad,

º28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

º29 Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Ben¬jamin,

º30 Benaia y’Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas,

º31 Abi-alboa yr Arbathiad, AsmafetB y Barhumiad,

º32 Eliahba y Saalboniafl; o feibion Jasen, Jonathan,

º33 Samma yr Harariad, Ahiam mab. Sarar yr Harariad,

º34 Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Eliam mab Ahitoffel y Giloniad,

º35 Hesrat y Carmeliad . Paarai yr Arbiad,

º36 Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,

º37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

º38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

º39 Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.

PENNOD 24

º1 A THRACHEFN dicllonedd yr AR¬GLWYDD a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn ett herbyn hwynt, i ddywedyd, DOS, cyfrift Israel a Jwda.

º2 Canys y brenin a ddywedodd wrth’ Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, DOS’ yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan’: hyd Beer-seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.

º3 A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a chwanego y" bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: on4< paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y.peth hyn?

º4 A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.

º5 A hwy a aethant dros yr Iorddonen, 1 ac a wersyllasant yn Aroer, o’r tu deau i’r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddy a thua Jaser. wedodd wrth yr angel oedd yn dinistrig n ??? - wlad y bobl, Dieon hellarh- of"‘ f" ‘—-a thua Jaser.

º6 Yna y daethant i Gilead, ac i wiaa Tshtim-hodsi; daethant hefyd i Danjaan, ac o amgylch i Sidon;

º7 Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Ganaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer-seba.

º8 Felly y cylchynasarit yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.

º9 A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wyr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bûm can mil o wŷr, ap

º10 A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was, canys ynfyd iawn y gwneuthum.

º11 A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth. gair yr ARGLWYDD at Gad y proff-wyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

º12 DOS a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o’th flaen di; dewis i ti;un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.

º13 Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o" newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i’r hwn a’m hanfonodd i.,

º14 A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr ARGLWYDD, canys arni yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.

º15 Yna y rhoddes yl ARGLWYDD haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o .Dan hyd Beer-seba ddeng mil a thrigain o wŷr.

º16 A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi, edifarhaodd v«uu fii uumyi-no y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

º17 A llefarodd Dafydd wrth yr AR¬GLWYDD, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid byn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dy fy nhad,

º18 A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, DOS i fyny, cyfod allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.;

º19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD.:zo Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.

º21 Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r ARGLWYDD, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

º22 A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.:

º23 Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW . a fyddo bodlon i ti.

º24 A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf efmewn ‘ pris gennyt: ac nid offrymaf i’r AR¬GLWYDD fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian.

º25 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boeth¬offrymau ac offrymau hedd. A’r AR¬GLWYDD a gymododd a’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.