Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Cân y Tri Llanc

Oddi ar Wicidestun

CÂN Y TRI LLANC SANCTAIDD, Yr hon sydd yn canlyn y drydedd adnod ar hugain o'r drydedd bennod i DANIEL, yr hon Gân nid yw yn yr Hebraeg

1 A hwy a rodiasant yng nghanol y fflam, gan foliannu Duw, a bendithio'r Arglwydd.

2 Ac Asareias yn sefyll a weddïodd fel hyn; ac a agorodd ei enau yng nghanol y tân, gan ddywedyd,

3 Bendigedig wyt ti, O Arglwydd Dduw ein tadau; ie, canmoladwy a gogoneddus yw dy enw yn dragywydd.

4 Canys cyfiawn wyt ti ym mhob peth a'r a wnaethost i ni; a'th holl weithredoedd sy gywir; dy ffyrdd hefyd sydd uniawn, a'th holl farnau yn wir.

5 A barnu gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddygaist arnom, ac ar ddinas sanctaidd ein tadau, sef Jerwsalem: o achos mewn gwirionedd a barn y dygaist hyn oll arnom oherwydd ein pechodau;

6 Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon trwy ymwrthod a thydi.

7 Ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai, a'th orchmynion di ni wrandawsom arnynt, ac nis cadwasom, ac ni wnaethom y modd yr archesit i ni, fel y byddai ddaionus i ni.

8 A'r cwbl a'r a ddygaist arnom, a chwbl a'r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll:

9 Ac a'n rhoddaist yn nwylo gelynion digyfraith, ac atgasaf wrthodwyr Duw, a brenin anghyfiawn gwaethaf ar yr holl ddaear.

10 Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau; yn gywilydd a gwaradwydd y'n gwnaethpwyd i'th weision di, a'r rhai a'th addolant.

11 Na fwrw ni ymaith yn gwbl, er mwyn dy enw, ac na ddiddyma dy gyfamod:

12 Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy anwylyd, ac er mwyn Isaac dy was, ac Israel dy sanctaidd;

13 Y rhai y lleferaist wrthynt, gan ddywedyd yr amlheit eu had hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod sy gerllaw min y môr.

14 Eto, Arglwydd, yr ydym wedi ein lleihau tu hwnt i bob cenhedlaeth; ac yr ydym heddiw wedi ein darostwng ym mhob gwlad am ein pechodau:

15 Ac nid oes y pryd hyn na phennaeth, na phroffwyd, na blaenor, na phoethoffrwm, nac aberth, nac offrwm, nac arogl, na lle i aberthu ger dy fron di, modd y gallem gael trugaredd.

16 Etc, a ni mewn enaid drylliedig ac ysbryd gostyngeiddrwydd, derbynier ni.

17 Megis pe bai poethebyrth hyrddod a theirw, ac fel pe bai myrddiwn o ŵyn breision; felly heddiw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg; a chaniatâ i ni yn gwbl dy ddilyn di: canys nid oes waradwydd i'r rhai a ymddiriedant ynot ti.

18 Ac yr awron y dilynwn di â'n holl galon, ac yr ofnwn di, ac y ceisiwn dy wynepryd.

19 Na ddod ni yn waradwydd; eithr gwna â ni yn ôl dy addfwynder, ac yn ôl amlder dy drugaredd.

20 Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau, O Arglwydd; a dod ogoniant i'th enw: a chywilyddier hwynt oll a'r sy yn gwneuthur drwg i'th weision;

21 A gwaradwydder hwynt yn eu holl gadernid a'u gallu, a dryllier eu nerth hwynt;

22 A gwybyddant mai tydi sydd Arglwydd, unig Dduw, a gogoneddus dros yr holl fyd.

23 Ac ni pheidiodd gweinidogion y brenin, y rhai a'u bwriasent hwynt i mewn, a phoethi'r ffwrn â nafftha, â phyg, â charth, ac â briwydd.

24 A'r mam a daflodd uwchlaw'r ffwrn naw cufydd a deugain.

25 A hi a ruthrodd, ac a losgodd y Caldeaid, y rhai a gyrhaeddodd hi ynghylch y ffwrn.

26 Eithr angel yr Arglwydd a ddisgynnodd i'r ffwrn gydag Asareias a'i gyfeillion, ac a yrrodd mam y tân allan o'r ffwrn;

27 Ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwynt llaith yn sïo, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni ofidiodd ac ni flinodd mohonynt.

28 Yna y tri, megis o un genau, a ganmolasant, ac a glodforasant, ac a ogoneddasant Dduw yn y ffwrn, gan ddywedyd,

29 Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw ein tadau, i'th foliannu, ac i'th dra-dyrchafu yn dragywydd.

30 A bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd, ac i'w foliannu ac i'w dra-dyrchafu yn dragywydd.

31 Bendigedig wyt ti yn nheml dy sanctaidd ogoniant, a thra chanmoladwy a thra gogoneddus yn dragywydd.

32 Bendigedig wyt ti, yr hwn ydwyt yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y ceriwbiaid, a thra chanmoladwy a thra dyrchafadwy yn dragywydd.

33 Bendigedig wyt ti ar orseddfainc gogoniant dy deyrnas, a thra chanmoladwy a thra gogoneddus yn dragywydd.

34 Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nefoedd, a thra chanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.

35 Holl weithredoedd yr Arglwydd) bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

36 Angylion yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

37 Y nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

38 Yr holl ddyfroedd goruwch y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

39 Holl nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

40 Yr haul a'r lloer, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

41 Sêr y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

42 Pob cafod a gwlith, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

43 Holl wyntoedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

44 Tan a phoethni, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

45 Oerni a gwres, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

46 Gwlith a rhew, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

47 Nos a dydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

48 Goleuad a thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

49 Rhew ac oerfel, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

50 Iâ ac eira, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

51 Mellt a chymylau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

52 Bendithied y ddaear yr Arglwydd; moled a thra-dyrchafed hi ef yn dragywydd.

53 Mynyddoedd a bryniau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

54 Yr holl bethau sydd yn tyfu yn y ddaear, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

55 Ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

56 Moroedd ac afonydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

57 Morfilod, a chwbl oll a'r a symud yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

58 Holl ehediaid y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

59 Holl fwystfilod ac anifeiliaid, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

60 Plant dynion, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

61 Bendithied Israel yr Arglwydd; moled a thra-drychafed ef yn dragywydd.

62 Offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

63 Gwasanaethwyr yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

64 Ysbrydion ac eneidiau y cyfiawn, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

65 Y rhai sanctaidd ac â chalon ostyngedig, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.

66 Ananeias, Asareias, a Misael, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd: canys efe a'n hachubodd o uffern, ac a'n cadwodd o law marwolaeth, ac a'n gollyngodd o'r ffwrn, o ganol y fflam danllyd, ac a'n gwaredodd o ganol y tân.

67 Cyffeswch yr Arglwydd, am ei fod yn ddaionus; am fod ei drugaredd yn dragywydd.

68 Pawb oll ag sydd yn ofni'r Arglwydd, bendithiwch Dduw y duwiau; molwch ef, a chydnabyddwch fod ei drugaredd ef yn dragywydd.