Beibl (1620)/Datguddiad

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

DATGUDDIAD SANT IOAN Y DIFINYDD


PENNOD 1 1:1 Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder, a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan:

1:2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd.

1:3 Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.

1:4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;

1:5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,

1:6 Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.

1:7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwel ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen.

1:8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.

1:9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.

1:10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn,

1:11 Yn dywedyd. Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.

1:12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur;

1:13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgoa gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau a gwregys aur.

1:14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân;

1:15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.

1:16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.

1:17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf:

1:18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd. Amen, ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth.

1:19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn;

1:20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.


PENNOD 2 2:1 At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; 2:2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog:

2:3 A thi a oddefaist, ac y mac amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.

2:4 Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf.

2:5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di.

2:6 Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casau.

2:7 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.

2:8 Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd;

2:9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th diodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan.

2:10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.

2:11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

2:12 Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd;

2:13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.

2:14 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu.

2:15 Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu.

2:16 Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt a chleddyf fy ngenau.

2:17 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

2:18 Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth;

2:19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf.

2:20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.

2:21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.

2:22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd.

2:23 A’i phlant hi a laddaf a marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.

2:24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.

2:25 Eithr yr hyn sydd gennych, dewch hyd oni ddelwyf.

2:26 A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd:

2:27 Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy nhad.

2:28 Ac mi a roddaf iddo’r seren fore.

2:29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.


PENNOD 3 3:1 Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw â’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt.

3:2 Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw.

3:3 Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac edifarha. Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat.

3:4 Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.

3:5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef.

3:6 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

3:7 Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd,

3:8 Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw.

3:9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di.

3:10 O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear.

3:11 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di.

3:12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nhemi fy Nuw i, ac allan nid a efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i.

3:13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

3:14 Ac at angel eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw;

3:15 Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd.

3:16 Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a’th chwydaf di allan o’m genau:

3:17 Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn diawd, ac yn ddall, ac yn noeth.

3:18 Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y’th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.

3:19 Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha.

3:20 Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo; os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.

3:21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef.

3:22 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.


PENNOD 4 4:1 Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef:a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn.

4:2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc.

4:3 A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin; ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus.

4:4 Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.

4:5 Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr i oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw.

4:6 Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl.

4:7 A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lo, a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.

4:8 A’r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o’uhamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a’r hwn sydd, a’r hwn sydd i ddyfod.

4:9 A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,

4:10 Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd,

4:11 Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu:, canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.


PENNOD 5 5:1 Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl.

5:2 Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef?

5:3 Ac nid oedd neb yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno.

5:4 Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.

5:5 Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef.

5:6 Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd. Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear.

5:7 Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc.

5:8 A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau’r saint.

5:9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl;

5:10 Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.

5:11 Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd;

5:12 Yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw’r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith.

5:13 A phob creadur a’r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a’r pethau sydd yn y môr, ac oll a’r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen, y byddo’r fendith, a’r anrhydedd, a’r gogoniant, a’r gallu, yn oes oesoedd.

5:14 A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.


PENNOD 6 6:1 Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran. Tyred, a gwêl.

6:2 Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

6:3 A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.

6:4 Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

6:5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais, ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.

6:6 Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt.

6:7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.

6:8 Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd a chleddyf, ac a newyn, ac a marwolaeth, ac a bwystfilod y ddaear.

6:9 A phan agorodd efe y burned sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.

6:10 A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd. Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?

6:11 A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.

6:12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed;

6:13 A ser y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.

6:14 A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd.

6:15 A brenhinoedd y ddaear, a’r gwyr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteiniaid, a’r gwyr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd;

6:16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen:

6:17 Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?


PENNOD 7 7:1 Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, fel dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren.

7:2 Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr,

7:3 Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.

7:4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.

7:5 O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7:6 O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7:7 O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7:8 O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7:9 Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;

7:10 Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, iachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen.

7:11 A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a’r henuriaid, a’r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

7:12 Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

7:13 Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?

7:14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen.

7:15 Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.

7:16 Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres.

7:17 Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a’u bugeilia hwynt, ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.


PENNOD 8 8:1 A phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr.

8:2 Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn.

8:3 Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc.

8:4 Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw.

8:5 A’r angel a gymerth y thuser, ac a’i llanwodd hi o dan yr allor, ac a’i bwriodd i’r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn.

8:6 A’r saith angel, y rhai oedd a’r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu.

8:7 A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a than wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd.

8:8 A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed;

8:9 A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac a byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd.

8:10 A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd;

8:11 Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.

8:12 A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud.

8:13 Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!


PENNOD 9 9:1 A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.

9:2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew.

9:3 Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod.

9:4 A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.

9:5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn.

9:6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

9:7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion.

9:8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9:9 Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

9:10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis.

9:11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon.

9:12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.

9:13 A’r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw,

9:14 Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates.

9:15 A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o’r dynion.

9:16 A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt.

9:17 Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan.

9:18 Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt.

9:19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu.

9:20 A’r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:

9:21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.

PENNOD 10 10:1 Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmwl: ac enfys oedd ar ei ben, a’i wyneb ydoedd fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân:

10:2 Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd. Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr, a’i aswy ar y tir,

10:3 Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.

10:4 Ac wedi darfod i’r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o’r nef yn dywedyd wrthyf, Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.

10:5 A’r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, a gododd ei law i’r nef,

10:6 Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach:

10:7 Ond yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i’w wasanaethwyr y proffwydi.

10:8 A’r llef a glywais o’r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.

10:9 Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi’r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10:10 Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel, ac a’i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

10:11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.

PENNOD 11 11:1 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi.

11:2 Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.

11:3 Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo a sachliain.

11:4 Y rhai hyn yw'r ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw'r ddaear.

11:5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae'n rhaid ei ladd ef.

11:6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.

11:7 A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.

11:8 A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.

11:9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.

11:10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.

11:11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.

11:12 A hwy a glywsant lefuchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl; a'u gelynion a edrychasant arnynt.

11:13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.

11:14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae'r drydedd wae yn dyfod ar frys.

11:15 A'r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef, ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

11:16 A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

11:17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, 0O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod, oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.

11:18 A'r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a'r amser i farnu'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwyr y proffwydi, ac i'r saint, ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha'r rhai sydd yn difetha'r ddaear.

19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.


PENNOD 12 12:1 Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:

12:2 A hi'n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor.

12:3 A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.

12:4 A'i chynffon hi a dynnodd draean ser y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.

12:5 A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio'r holl genhedloedd â gwialen haearn: a'i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef.

12:6 A'r wraig a ffodd i'r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau.

12:7 A bu rhyfel yn y nef: Michael a'i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd a'i hangylion hithau,

12:8 Ac ni orfuant; a'u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.

12:9 A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.

12:10 Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.

12:11 A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau.

12:12 Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a'r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser.

12:13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.

12:14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffeithwch, i'w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.

12:15 A'r sarff a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnai ei dwyn hi ymaith gyda'r afon.

12:16 A'r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a'r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.

12:17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd a thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.


PENNOD 13 13:1 Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd.

13:2 A'r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorseddfainc, ac awdurdod mawr.

13:3 Ac mi a welais un o'i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a'i friw marwol ef a iachawyd: a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil.

13:4 A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?

13:5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.

13:6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.

13:7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r saint, a'u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl.

13:8 A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.

13:9 Od oes gan neb glust, gwrandawed.

13:10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.

13:11 Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.

13:l2 A holl allu'r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli'r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.

13:13 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear, yng ngolwg dynion;

13: 14 Ac y mae efe yn twyllo'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy'r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i'r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.

13:15 A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw'r bwystfil, fel y llefarai delw'r bwystfil hefyd, ac y parai gael o'r sawl nid addolent ddelw'r bwystfil, eu lladd.

13:16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau:

13:17 Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw'r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.

13:18 Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi'r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a'i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.


PENNOD 14 14:1 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau.

14:2 Ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau:

14:3 A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a'r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu'r gân, ond y pedair mil a'r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear.

14:4 Y rhai hyn yw'r rhai ni halogwyd a gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth Dduw ac i'r Oen.

14:5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw.

14:6 Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl:

14:7 Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.

14:8 Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb.

14:9 A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law,

14:10 Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef, ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen:

14:11 A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.

14:12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae'r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd lesu.

14:13 Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.

14:14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym.

14:15 Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi, oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.

14:16 A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear, a'r ddaear a fedwyd.

14:17 Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym.

14:18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd a bloedd uchel ar yr hwn oedd â'r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi.

14:19 A'r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw.

14:20 A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o'r gerwyn, hyd at ffrwynau'r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.


PENNOD 15 15:1 Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.

15:2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.

15:3 A chanu y maent gan Moses gwasanaethwr Duw, a chan yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint.

15:4 Pwy ni'th ofna di,O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy famau di a eglurwyd.

15:5 Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored:

15:6 A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o'r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau a gwregysau aur.

15:7 Ac un o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

15:8 A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i'r deml, nes darfod cyflawni saith bla'r saith angel.


PENNOD 16 16:1 Ac mi a glywais lef uchel allan o'r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear.

16:2 A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef.

16:3 A'r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr.

16:4 A'r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed.

16:5 Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn.

16:6 Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; canys y maent yn ei haeddu.

16:7 Ac mi a glywais un arall allan o'r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

16:8 A'r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân.

16:9 A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef.

16:10 A'r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a'i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid,

16:11 Ac a gablasant Dduw'r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.

16:12 A'r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffbordd brenhinoedd y dwyrain.

16:13 Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau'r gau broffwyd.

16:14 Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a'r holl fyd, i'w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog.

16:15 Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.

16:16 Ac efe a'u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon.

16:17 A'r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i'r awyr, a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu.

16:18 Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear cymaint daeargryn, ac mor fawr.

16:19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef.

16:20 A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd.

16:21 A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o'r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla'r cenllysg; oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.


PENNOD 17 17:1 A daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer;

17:2 Gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi.

17:3 Ac efe a'm dygodd i i'r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgariad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn.

17:4 A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgariad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac a main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra.

17:5 Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA'R DDAEAR.

17:6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.

17:7 A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo, a'r deg corn.

17:8 Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o'r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod.

17:9 Dyma'r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae'r wraig yn eistedd arnynt.

17:10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a'r llall ni ddaeth eto; a phan ddâl, rhaid iddo aros ychydig.

17:11 A'r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddistryw y mae'n myned.

17:12 A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto, eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r bwystfil.

17:13 Yr un meddwl sydd i'r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a'u hawdurdod i'r bwystfil.

17:14 Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.

17:15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae'r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd.

17:l6 A'r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a'i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi â thân.

17:17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei, ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw.

17:18 A'r wraig a welaist, yw'r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.


PENNOD 18 18:1 Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, ac awdurdod mawr ganddo, a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.

18:2 Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas.

18:3 Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.

18:4 Ac mi a glywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâu hi.

18:5 Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.

18:6 Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi'r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg.

18:7 Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.

18:8 Am hynny yn un dydd y lliw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn, a hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.

18:9 Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi,

18:10 Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.

18:11 A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti, oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandiaeth hwynt:

18:12 Marsiandiaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgariad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor,

18:13 A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweisioni ac eneidiau dynion.

18:14 A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt, ac ni chei hwynt ddim mwyach.

18:15 Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru.

18:16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgariad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau!

18:17 Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llonglywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â'u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell,

18:18 Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd. Pa ddinas debyg i'r ddinas fawr honno!

18:19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi.

18:20 Llawenha o'i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi.

18:21 Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.

18:22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach,

18:23 A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.

18:24 Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.


PENNOD 19 19:1 Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni:

19:2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.

19:3 Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.

19:4 A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd. Amen; Aleliwia.

19:5 A llef a ddaeth allan o'r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.

19:6 Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.

19:7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratodd ei hun.

19:8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.

19:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywed odd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.

19:10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.

19:11 Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oeddyn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.

19:12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:

19:13 Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.

19:14 A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân.

19:15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.

19:16 Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.

19:17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;

19:18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.

19:19 Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.

19:20 A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan.

19:21 A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.


PENNOD 20 20:1 Ac mi a welais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law.

20:2 Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd,

20:3 Ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe'r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni'r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.

20:4 Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant amynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau'r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai nid addolasent y bwystfil na'i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.

20:5 Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni'r mil blynyddoedd. Dyma'r atgyfodiad cyntaf.

20:6 Gwynfydedig a sanctaidd yw'r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.

20:7 A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar;

20:8 Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

20:9 A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.

20:10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.

20:11 Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.

20:12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.

20:13 A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd.

20:14 A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth.

20:15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.

PENNOD 21 21:1 Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aeth heibio; a'r môr nid oedd mwyach. 21:2 A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o'r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i'w gŵr.

21:3 Ac mi a glywais lef uchel allan o'r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.

21:4 Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.

21:5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae'r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon.

21:6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. I'r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.

21:7 Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

21:8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

21:9 A daeth ataf un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saitn bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd. Tyred, mi a ddangosaf i ti'r briodasferch, gwraig yr Oen.

21:10 Ac efe a'm dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi'r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o'r nef oddi wrth Dduw,

21:11 A gogoniant Duw ganddi: a'i golau oedd debyg i faen o'r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;

21:12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.

21:13 O du'r dwyrain, tri phorth; o du'r gogledd, tri phorth; o du'r deau, tri phorth; o du'r gorllewin, tri phorth.

21:14 Ac yr oedd mur y ddinas a deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

21:15 A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro'r ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.

21:16 A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a'i hyd sydd gymaint â'i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas a'r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A'i hyd, a'i lled, a'i huchder, sydd yn ogymaint.

21:17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo'r angel.

21:18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis; a'r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw.

21:19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu a phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus;

21:20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus.

21:21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw.

21:22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi.

21:23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.

21:24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.

21:25 A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.

21:26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.

21:27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

PENNOD 22 22:1 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oen.

22:2 Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iachau'r cenhedloedd;

22:3 A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef,

22:4 A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a'i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

22:5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.

22:6 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.

22:7 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.

22:8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi'r pethau hyn.

22:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y proffwydi, ac i'r rhai sydd yn cadw geiriau'r llyfr hwn. Addola Dduw.

22:10 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae'r amser yn agos.

22:11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.

22:12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef.

22:13 Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, y cyntaf a'r diwethaf.

22:14 Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy'r pyrth i'r ddinas.

22:15 Oddi allan y mae'r cŵn, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun-addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd.

22:16 Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi'r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a'r Seren fore eglur.

22:17 Ac y mae'r Ysbryd a'r briodasferch yn dywedyd. Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded. Tyred. A'r hwn sydd â syched arno, deued. A'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.

22:18 Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn:

22:19 Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.

22:20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu'r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu.

22:21 Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. I'R UNIG DDUW Y BYDDO'R GOGONIANT