Beibl (1620)/Hosea

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

LLYFR HOSEA

PENNOD 1 1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.

1:2 Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos; cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.

1:3 Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab.

1:4 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod.

1:5 A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.

1:6 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr.

1:7 Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda; ac a’u cadwaf hwynt trwy yr ARGLWYDD eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

1:8 A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab.

1:9 A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn DDUW.

1:10 Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych.

1:11 Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

PENNOD 2 2:1 Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama.

2:2 Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau;

2:3 Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched.

2:4 Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.

2:5 Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.

2:6 Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau.

2:7 A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.

2:8 Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.

2:9 Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi.

2:10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i.

2:11 Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio.

2:12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt.

2:13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD.

2:14 Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon.

2:15 A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft.

2:16 Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali.

2:17 Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau.

2:18 A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.

2:19 A mi a’th ddyweddïiaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.

2:20 A dyweddïaf di i mi mewn ffyddlondeb; â thi a adnabyddi yr ARGLWYDD.

2:21 A’r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr ARGLWYDD, ar y nefoedd y gwrandawaf, a hwythau a wrandawant ar y ddaear;

2:22 A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel.

2:23 A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.

PENNOD 3 3:1 Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr ARGLWYDD ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin.

3:2 A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd:

3:3 A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau.

3:4 Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.

3:5 Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.

PENNOD 4 4:1 Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.

4:2 Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

4:3 Am hynny y galara y wlad, ac y llesga oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4:4 Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad.

4:5 Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

4:6 Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybod¬aeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dŷ DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

4:7 Fel yr amlhasant, felly y pechasant ‘m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

4:8 Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

4:9 A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

4:10 Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhant; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

4:11 Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

4:12 Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw.

4:13 Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas.

4:14 Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.

4:15 Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.

4:16 Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a’u. portha hwynt fel oen mewn ehangder.

4:17 Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.

4:18 Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.

4:19 Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.

PENNOD 5 5:1 Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor.

5:2 Y rhai a wyrant i ladd â ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll.

5:3 Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd.

5:4 Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr ARGLWYDD.

5:5 A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt.

5:6 A’u defaid ac a’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD, ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.

5:7 Yn erbyn yr ARGLWYDD y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau.

5:8 Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin.

5:9 Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr.

5:10 Bu dywysogion Jwda fei symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr.

5:11 Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn.

5:12 Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda.

5:13 Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll.

5:14 Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.

5:15 Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.

PENNOD 6 6:1 Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; etc a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni.

6:2 Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.

6:3 Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.

6:4 Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.

6:5 Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.

6:6 Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau.

6:7 A’r rhai byn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn.

6:8 Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.

6:9 Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.

6:10 Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.

6:11 Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

PENNOD 7 7:1 A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samana: canys gwnânt ffalster, a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.

7:2 Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.

7:3 Llawenhânt y brenin a’u drygioni, a’r tywysogion a’u celwyddau.

7:4 Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

7:5 Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin; estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.

7:6 Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.

7:7 Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.

7:8 Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.

7:9 Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe.

7:10 Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac nis ceisiant ef.

7:11 Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

7:12 Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu en cynulleidfa hwynt.

7:13 Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: diinstr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasaot gelwydd arnaf fi.

7:14 Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.

7:15 Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.

7:16 Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

PENNOD 8 8:1 At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr, y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am. iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

8:2 Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di.

8:3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau.

8:4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

8:5 Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?

8:6 Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

8:7 Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc.

8:8 Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.

8:9 Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.

8:10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.

8:11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.

8:12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.

8:13 Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.

8:14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.

PENNOD 9 9:1 Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dŷ DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.

9:2 Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi.

9:3 Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.

9:4 Nid offrymant win i’r ARGLWYDD, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb, a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD.

9:5 Beth a wnewch ar ddydd yr uchel.ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD?

9:6 Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.

9:7 Dyddiau i ymweled â ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr.

9:8 Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW.

9:9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod.

9:10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant.

9:11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi.

9:12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt!

9:13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.

9:14 Dyro iddynt, ARGLWYDD: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.

9:15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.

9:16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau.

9:17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y bydd¬ant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.

PENNOD 10 10:1 Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg.

10:2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.

10:3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr ARGLWYDD; a pheth a wnâi brenin i ni?

10:4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.

10:5 Preswylwyr Samaria a ofnant oher¬wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.

10:6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd gan¬ddo ei gyngor ei hun.

10:7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.

10:8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.

10:9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10:10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gwys.

10:11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

10:12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr ARGLWYDD, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

10:13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.

10:14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth-arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant.

10:15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.

PENNOD 11 11:1 Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft.

11:2 Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl-darth i ddelwau cerfiedig.

11:3 Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.

11:4 Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

11:5 Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

11:6 A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun,

11:7 A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef.

11:8 Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.

11:9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas.

11:10 Ar ôl yr ARGLWYDD yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant.

11:11 Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr ARGLWYDD.

11:12 Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r saint.

PENNOD 12 12:1 Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.

12:2 Ac y mae gan yr ARGLWYDD gwyn ar Jwda; ac efe a ymwâl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

12:3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.

12:4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;

12:5 Sef ARGLWYDD DDUW y lluoedd; yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.

12:6 Tro dithau at dŷ DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.

12:7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.

12:8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.

12:9 A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.

12:10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.

12:11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.

12:12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

12:13 A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff¬wyd y cadwyd ef.

12:14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.

PENNOD 13 13:1 Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw.

13:2 Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi.

13:3 Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer.

13:4 Eto myfi yw yr ARGLWYDD dŷ DDUW, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.

13:5 Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr.

13:6 Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi.

13:7 Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt.

13:8 Cyfarfyddaf hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt

13:9 O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth.

13:10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion?

13:11 Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid.

13:12 Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef.

13:13 Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab angall yw efe; canys ni ddylasai fe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant.

13:14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.

13:15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.

13:16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.

PENNOD 14 14:1 Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dŷ DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

14:2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau.

14:3 Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.

14:4 Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho.

14:5 Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.

14:6 Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus.

14:7 Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.

14:8 Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.

14:9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.