Beibl (1620)/Iago

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

EPISTOL CYFFREDINOL IAGO YR APOSTOL

PENNOD 1 1:1 Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch.

1:2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau,

1:3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd.

1:4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim.

1:5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef.

1:6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y mâr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.

1:7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.

1:8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.

1:9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:

1:10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe.

1:11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd.

1:12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef.

1:13 Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb.

1:14 Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun.

1:15 Yna chwant, wedi ymddwyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth.

1:16 Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch.

1:17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod troedigaeth.

1:18 O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef.

1:19 O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint:

1:20 Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw.

1:21 Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

1:22 A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.

1:23 Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych:

1:24 Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd.

1:25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred.

1:26 Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei him, ofer yw crefydd hwn.

1:27 Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled a’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei him yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.

PENNOD 2 2:1 Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb.

2:2 Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr a modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael;

2:3 Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i:

2:4 Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?

2:5 Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef?

2:6 Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?

2:7 Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?

2:8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur. Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:

2:9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.

2:10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl.

2:11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith.

2:12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.

2:13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mac trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barm.

2:14 Pa fudd yw, fy inrodyr, o dywcd neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gudw ef?

2:15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth,

2:16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd?

2:17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig,

2:18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau.

2:19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.

2:20 Eithr a fynni di wyhod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?

2:21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?

2:22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.

2:23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef.

2:24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.

2:25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall?

2:26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

PENNOD 3 3:1 Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.

3:2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd.

3:3 Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni, ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch,

3:4 Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch a llyw bychan, lle y mynno’r llywydd.

3:5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dan yn ei ennyn!

3:6 A’r tafod, tan ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.

3:7 Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a’r pethau yn y mor, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol:

3:8 Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.

3:9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad, ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.

3:10 O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly.

3:11 A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw?

3:12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.

3:13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.

3:14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd.

3:15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw.

3:16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg.

3:17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith.

3:18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.

PENNOD 4 4:1 O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?

4:2 Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.

4:3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.

4:4 Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw.

4:5 A ydych chwi yn tybied fod yrysgrythur yn dywedyd yn ofer. At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni?

4:6 Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.

4:7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.

4:8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesa atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg.

4:9 Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch.

4:10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.

4:11 Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu’r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr.

4:12 Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?

4:13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn:

4:14 Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.

4:15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny.

4:16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw.

4:17 Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

PENNOD 5 5:1 Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch.

5:2 Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed.

5:3 Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf.

5:4 Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.

5:5 Moethus fuoch ar y ddacar, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.

5:6 Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn.

5:7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar.

5:8 Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd.

5:9 Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll with y drws.

5:10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros.

5:11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog.

5:12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.

5:13 A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddied. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau.

5:14 A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd:

5:15 A gweddi’r ffydd a iacha’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.

5:16 Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn.

5:17 Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.

5:18 Ac efe a weddïodd drachefn; a’r nef a roddes law, a’r ddaear a ddug ei ffrwyth.

5:19 Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi with y gwirionedd, a throi o ryw un ef;

5:20 Gwybydded, y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.