Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Numeri

Oddi ar Wicidestun
Lefiticus Beibl (1620)
Numeri
Numeri

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Deuteronomium

PEDWERYDD LLYFR MOSES, YR HWN A ELWIR

NUMERI

Pennod I.

1 Duw yn peri rhifo y bobl. 5 Capteiniaid y llwythau. 17 Rhifedi pob llwyth. 47 Neillduo y Lefiaid i wasanaeth yr Arglwydd.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail mis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aipht, gan ddywedyd,

2 Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, yn ol eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwrryw wrth eu pennau;

3 O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ol eu lluoedd.

4 A bydded gyd â chwi wr o bob llwyth; sef y gwr pennaf o dŷ ei dadau.

5 ¶ A dyma enwau’r gwŷr a safant gyd â chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedëur.

6 O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisàdai.

7 O lwyth Judah; Nahson mab Aminadab

8 O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar.

9 O lwyth Zabulon; Elïab mab Helon.

10 O feibion Joseph: dros Ephraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasseh, Gamaliel mab Pedasur.

11 O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni.

12 O lwyth Dan; Ahïezer mab Ammisàdai.

13 O lwyth Aser; Pagïel mab Ocran.

14 O lwyth Gad; Elïasaph mab Deuel.

15 O lwyth Naphtali; Ahira mab Enan.

16 Dyma rai enwog y gynnulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau, pennaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.

17 ¶ A chymmerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau;

18 Ac a gasglasant yr holl gynnulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail mis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau.

19 Megis y gorchymynodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.

20 ¶ A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel;

21 Y rhai a rifwyd o honynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phùm cant.

22 ¶ O feibion Simeon, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel;

23 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil tri ugain mil a thri chant.

24 ¶ O feibion Gad, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel;

25 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bùm mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

26 ¶ O feibion Judah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

27 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Judah, oedd bedair mil ar ddeg a thri ugain a chwe chant.

28 ¶ O feibion Issachar, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

29 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

30 ¶ O feibion Zabulon, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

31 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Zabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

32 ¶ O feibion Joseph, sef o feibion Ephraim, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

33 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Ephraim, oedd ddeugain mil a phùm cant.

34 ¶ O feibion Manasseh, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

35 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasseh, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

36 ¶ O feibion Benjamin, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

37 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.

38 ¶ O feibion Dan, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

39 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thri ugain a saith gant.

40 ¶ O feibion Aser, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;

41 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phùm cant.

42 ¶ O feibion Naphtali, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

43 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Naphtali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

44 Dyma y rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddeng-wr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.

45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel;

46 A’r holl rifedigion oedd chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.

47 ¶ Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt:

48 Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymmer eu nifer hwynt, ym mysg meibion Israel.

50 Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn, ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt-hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell.

51 A phan symmudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso y babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fynu: lladder y dïeithr a ddelo yn agos.

52 A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei lumman ei hun, trwy eu lluoedd.

53 A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynnulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.

54 A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.


Pennod II.

Trefyn y llwythau yn eu pebyll.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei lumman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.

3 ¶ A’r rhai a wersyllant o du y dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr llumman gwersyll Judah, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Judah fydd Nahson mab Aminadab.

4 A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thri ugain: a chwe chant.

5 A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf atto: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar.

6 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

7 Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.

8 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

9 Holl rifedigion gwersyll Judah fyddant, yn ol eu lluoedd, yn gàn mil a phedwar ugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.

10 Lluman gwersyll Reuben fydd tu a’r dehau, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.

11 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.

12 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.

13 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un tri ugain mil a thri chant.

14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Elïasaph mab Reuel.

15 A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bùm mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

16 Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gàn mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ol eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.

17 ¶ A phabell y cyfarfod a gychwyn y’nghanol y gwersylloedd, gyd â gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symmudant, pob un yn ei le, wrth eu llummanau.

18 ¶ Lluman gwersyll Ephraim fydd tu a’r gorllewin, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Ephraim fydd Elisama mab Ammihud.

19 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phùm cant.

20 Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.

21 A’u lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.

23 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.

24 Holl rifedigion gwersyll Ephraim fyddant, yn ol eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.

25 ¶ Llumman gwersyll Dan fydd tu a’r gogledd, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahïezer mab Ammisàdai.

26 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thri ugain a saith gant.

27 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagïel mab Ocran.

28 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phùm cant.

29 Yna llwyth Naphtali: a chapten meibion Naphtali fydd Ahira mab Enan.

30 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

31 Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gàn mil ac onid tair mil tri ugain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.

32 ¶ Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ol eu lluoedd, oedd chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.

33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ym mysg meibion Israel; megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

34 A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llummanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.


Pennod III.

1 Meibion Aaron. 5 Rhoddi y Lefiaid i’r offeiriaid, er mwyn gwasanaeth y babell, 11 yn lle y cyntaf-anedig. 14 Rhifo y Leifiaid wrth eu teuluoedd. 21 Teuluoedd, rhifedi, a swydd y Gersoniaid, 27 y Cohathiaid, 33 y Merariaid. 38 Lle a swydd Moses ac Aaron. 40 Bod y cyntaf-anedig yn rhydd oddi wrth y Lefiaid. 44 Prynu y rhai oedd dros ben.

A dyma genhedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.

2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

3 Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gyssegrodd efe i offeiriadu.

4 A marw a wnaeth Nadab ac Abihu ger bron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dïeithr ger bron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleazar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.

5 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.

7 A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.

8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

9 A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.

10 Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dïeithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.

11 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Ac wele, mi a gymmerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig, sef pob cyntaf a agoro y groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:

13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf-anedig. Ar y dydd y trewais y cyntaf-anedig yn nhir yr Aipht, cyssegrais i mi fy hun bob cyntaf-anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14 ¶ Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd.

15 Cyfrif feibion Lefi yn ol tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwrryw, o fab misyriad ac uchod.

16 A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchymynasid iddo.

17 A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.

18 A dyma enwau meibion Gerson, yn ol eu teuluoedd; Libni a Simei.

19 A meibion Cohath, yn ol eu teuluoedd; Amram, Ishar, Hebron, ac Uzziel.

20 A meibion Merari, yn ol eu teuluoedd; Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.

21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.

22 Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwrryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phùm cant.

23 Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ol i’r tabernacl tu a’r gorllewin.

24 A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Elïasaph mab Lael.

25 A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r babell, ei thô hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,

26 A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.

27 ¶ Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Uzzieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.

28 Rhifedi yr holl wrrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cyssegr.

29 Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tu a’r dehau.

30 A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaphan mab Uzziel.

31 A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth.

32 A phennaf ar bennaethiaid y Lefiaid fydd Eleazar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cyssegr fydd iddo ef.

33 ¶ O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.

34 A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwrryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.

35 A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tu a’r gogledd.

36 Ac y’nghadwraeth meibion Merari, y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth,

37 A cholofnau y cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.

38 ¶ A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tu a’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tu a chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cyssegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dïeithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.

39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ol gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwrryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.

40 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf-anedig gwrryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymmer rifedi eu henwau hwynt.

41 A chymmer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf-anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o anifeiliaid meibion Israel.

42 A Moses a rifodd, megis y gorchymynodd yr Arglwydd iddo, bob cyntaf-anedig o feibion Israel.

43 A’r rhai cyntaf-anedig oll, o rai gwrryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thri ugain.

44 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

45 Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

46 Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thri ugain a deucant, o gyntaf-anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;

47 Cymmer bùm sicl am bob pen; yn ol sicl y cyssegr y cymmeri. Ugain gerah fydd y sicl.

48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg o honynt, i Aaron ac i’w feibion.

49 A chymmerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:

50 Gan gyntaf-anedig meibion Israel y cymmerodd efe yr arian; pump a thri ugain a thri chant a mil, o siclau y cyssegr.

51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ol gair yr Arglwydd, megis y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses.


Pennod IV.

1 Oedran a chylch gwasanaeth y Lefiaid. 4 Clud y Cohathiaid, wedi i’r offeiriaid dynnu i lawr y babell. 16 Goruchwyliaeth Eleazar. 17 Swydd yr offeiriaid. 21 Clud y Gersoniaid, 29 a’r Merariaid. 34 Rhifedi y Cohathiaid, 38 y Gersoniaid, 42 a’r Merariaid.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Cymmer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau;

3 O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i’r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

4 Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.

5 ¶ A deued Aaron a’i feibion, pan gychwyno y gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;

6 A gosodant ar hynny dô o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.

7 Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a’r cwppanau, a’r phïolau, a’r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8 A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.

9 Cymmerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a’i lampau, a’i efeiliau, a’i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10 A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.

11 A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

12 Cymmerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cyssegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13 A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14 A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ïe, holl lestri yr allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15 Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16 ¶ Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r arogl-darth peraidd, a’r bwyd-offrwrn gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cyssegr, ac yn ei ddodrefn.

17 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18 Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio yr hyn sydd gyssegredig, rhag marw o honynt.

21 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22 Cymmer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24 Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25 Sef dwyn o honynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei lèn dô ef, a’r tô o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26 A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27 Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw.

28 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29 ¶ A meibion Merari, trwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31 A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau,

32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

34 ¶ A rhifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid y gynnulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau:

35 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

36 A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.

37 Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu. tadau;

39 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

40 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.

41 Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.

42 ¶ A rhifedigion tylwyth meibion. Merari, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau;

43 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

44 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.

45 Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

46 Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid Israel, o’r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau;

47 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell. y cyfarfod:

48 A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pùm cant a phedwar ugain.

49 Wrth orchymyn yr Arglwydd, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.


Pennod V.

1 Symmudo yr aflan allan o’r gwersyll. 5 Rhaid yw gwneuthur iawn dros gamweddau. 11 Eiddigedd, pa un ai heb achos, ai trwy achos y mae.

a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.

3 Yn wrryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith.

4 A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

5 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Llefara wrth feibion Israel, Os gwr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o’r enaid hwnnw yn euog:

7 Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ol yr hyn a fyddo efe euog o hono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran atto, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam âg ef.

8 Ac oni bydd i’r gwr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heb law yr hwrdd cymmod yr hwn y gwna efe gymmod âg ef trosto.

9 A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymmant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.

10 A sancteiddio gwr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.

11 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gwr pan ŵyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;

13 A bod i wr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gwr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb dyst yn ei herbyn, heb ei dal ar ei gweithred;

14 A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod yspryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:

15 Yna dyged y gwr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran ephah o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm côf yn coffâu anwiredd.

16 A nesâed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll ger bron yr Arglwydd.

17 A chymmered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymmered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.

18 A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll ger bron yr Arglwydd, a dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith.

19 A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid gyd âg arall yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith.

20 Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun:

21 (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr Arglwydd dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;

22 Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.

23 Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw.

24 A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw.

25 A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ef ar yr allor.

26 A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.

27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl.

28 Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta.

29 Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig at arall yn lle ei gwr, ac ymhalogi:

30 Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon.

31 A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.


Pennod VI.

1 Cyfraith y Nazaread. 24 Y dull y bendithir y bobl.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r Arglwydd:

3 Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion.

4 Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.

5 Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6 Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nazareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8 Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd.

9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr oifeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12 A neilldued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.

13 ¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14 A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hespwrn blwydd, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm; ac un hespin flwydd, berffeith-gwbl, yn bech-aberth; ac un hwrdd perffeith-gwbl, yn aberth hedd;

15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu henneinio âg olew, a’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm hwy.

16 A dyged yr offeiriad hwynt ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ei bech-aberth a’i boeth-offrwm ef.

17 Offrymmed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymmed yr offeiriad ei fwyd-offrwm a’i ddïod-offrwm ef.

18 Ac eillied y Nazaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nazareaeth; a chymmered flew pen ei Nazareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.

19 Cymmered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylaw y Nazaread, wedi eillio ohono ei Nazareaeth;

20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heb law parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nazaread yfed gwin.

21 Dyma gyfraith y Nazaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nazareaeth, heb law yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heb law cyfraith ei Nazareaeth.

22 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,

24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:

25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhâed wrthyt:

26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.

27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.

Pennod VII.

1 Offrwm y tywysogion wrth gyssegru y tabernacl. 10 Offrwm pob un o honynt wrth gyssegru yr allor. 89 Duw yn llefaru wrth Moses o’r drugareddfa.

Ac ar y dydd y gorphenodd Moses godi y tabernacl, a’i enneinio, a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u henneinio a’u sancteiddio hwynt;

2 Yr offrymmodd tywysogion Israel, pennaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)

3 A’u hoffrwm a ddygasant hwy ger bron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychain; mèn dros bob dau dywysog, ac ŷch dros bob un: a cher bron y tabernacl y dygasant hwynt.

4 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

5 Cymmer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ol ei wasanaeth.

6 A chymmerodd Moses y menni, a’r ychain, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid.

7 Dwy fèn a phedwar ŷch a roddes efe i feibion Gerson, yn ol eu gwasanaeth hwynt;

8 A phedair mèn ac wyth ychain a roddodd efe i feibion Merari, yn ol eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cyssegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.

10 ¶ A’r tywysogion a offrymmasant tu ag at gyssegru yr allor, ar y dydd yr enneiniwyd hi; a cher bron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymmant eu hoffrymmau, tu ag at gyssegru yr allor.

12 ¶ Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymmu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Judah.

13 A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

15 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

16 Un bwch geifr yn bech-aberth:

17 Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.

18 ¶ Ac ar yr ail ddydd yr offrymmodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar.

19 Efe a offrymmodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

20 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

21 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

22 Un bwch geifr yn bech-aberth:

23 Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.

24 ¶ Ar y trydydd dydd yr offrymmodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Zabulon.

25 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

26 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

27 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwrn poeth:

28 Un bwch geifr yn bech-aberth:

29 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elïab mab Helon.

30 ¶ Ar y pedwerydd dydd yr offrymmodd Elisur mab Sedëur, tywysog meibion Reuben.

31 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

32 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

33 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

34 Un bwch geifr yn bech-aberth:

35 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisur mab Sedëur.

36 ¶ Ar y pummed dydd yr offrymmodd Selumiel mab Surisàdai, tywysog meibion Simeon.

37 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

38 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

39 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

40 Un bwch geifr yn bech-aberth:

41 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Selumiel mab Surisàdai.

42 ¶ Ar y chweched dydd yr offrymmodd Elïasaph meb Deuel, tywysog meibion Gad.

43 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

44 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

45 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

46 Un bwch geifr yn bech-aberth:

47 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elïasaph mab Deuel.

48 ¶ Ar y seithfed dydd yr offrymmodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Ephraim.

49 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

50 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

51 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

52 Un bwch geifr yn bech-aberth:

53 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.

54 ¶ Ar yr wythfed dydd yr offrymmodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasseh.

55 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg aid a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

56 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

57 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

58 Un bwch geifr yn bech-aberth:

59 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.

60 ¶ Ar y nawfed dydd yr offrymmodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin.

61 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

62 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

63 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

64 Un bwch geifr yn bech-aberth:

65 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.

66 ¶ Ar y degfed dydd yr offrymmodd Ahïezer mab Ammisàdai, tywysog meibion Dan.

67 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

68 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

69 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

70 Un bwch geifr yn bech-aberth:

71 Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Ahïezer mab Ammisàdai.

72 ¶ Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymmodd Pagïel mab Ocran, tywysog meibion Aser.

73 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

74 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

75 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

76 Un bwch geifr yn bech-aberth:

77 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Pagïel mab Ocran.

78 ¶ Ar y deuddegfed dydd yr offrymmodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Naphtali.

79 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

80 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

81 Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

82 Un bwch geifr yn bech-aberth:

83 Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Ahira mab Enan.

84 Dyma gyssegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg phïol arian, deuddeg llwy aur:

85 Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thri ugain pob phïol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ol y sicl sanctaidd.

86 Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl-darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ol y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.

87 Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a’u bwyd-offrwm; a deuddeg o fychod geifr yn offrwm dros bechod.

88 A holl ychain yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, tri ugain o hyrddod, tri ugain o fychod, tri ugain o hespyrniaid. Dyma gyssegriad yr allor wedi ei henneinio.

89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau gerub, ac efe a ddywedodd wrtho.

Pennod VIII.

1 Y modd y mae goleuo y llusernau. 5 Cyssegru y Lefiaid. 23 Oedran a thymmor eu gwasanaeth hwynt.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren.

3 Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

4 Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ïe, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

5 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Cymmer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanhâ hwynt.

7 Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhâu; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.

8 Yna cymmerant fustach ieuangc a’i fwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; a bustach ieuangc arall a gymmeri di yn aberth dros bechod.

9 A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynnulleidfa meibion Israel ynghyd.

10 A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.

11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.

12 A gosoded y Lefiaid eu dwylaw ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech-aberth, a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.

13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.

14 A neilldua y Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi.

15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanhâ di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.

16 Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf-anedig o feibion Israel, y cymmerais hwynt i mi.

17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf-anedig ym mhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y tarewais bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.

18 A chymmerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel.

19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymmod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cyssegr.

20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynnulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.

21 A’r Lefiaid a lanhâwyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymmodd hwynt yn offrwm ger bron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymmod drostynt i’w glanhâu hwynt.

22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, ger bron Aaron a’i feibion; megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Dyma yr hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pùm mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth y’ngwasanaeth pabell y cyfarfod.

25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ol o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.

26 Ond gwasanaethed gyd â’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.


Pennod IX.

1 Ail-orchymyn y Pase. 6 Caniattâu ail Base i’r rhai oedd aflan neu absennol. 15 Y cwmmwl yn cyfarwyddo yr Israeliaid i symmudo ac i wersyllu.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aipht, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd,

2 Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.

3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymmor: yn ol ei holl ddeddfau, ac yn ol ei holl ddefodau, y cedwch ef.

4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc.

5 A chadwasant y Pasc ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6 ¶ Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant ger bron Moses, a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7 A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymmu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymmor ym mysg meibion Israel?

8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchymynno yr Arglwydd o’ch plegid.

9 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neu neb o honoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, etto cadwed Basc i’r Arglwydd.

11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail mis, yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwyttânt ef.

12 Na weddillant ddim o hono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ol holl ddeddf y Pasc y cadwant ef.

13 A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw.

14 A phan ymdeithio dïeithr gyd â chwi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasc a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dïeithr ac i’r un fydd a’i enedigaeth o’r wlad.

15 ¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.

16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmmwl a gauai am dano y dydd, a’r gwelediad tân y nos.

17 A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.

18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll.

19 A phan drigai y cwmmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynent.

20 Ac os byddai y cwmmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynent.

21 Hefyd os byddai y cwmmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmmwl y bore, hwythau a symmudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai y cwmmwl, yna y cychwynent.

22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai y cwmmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynent: ond pan godai efe, y cychwynent.

23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ol gair yr Arglwydd trwy law Moses.


Pennod X.

1 Beth a wneid â’r udgyrn arian. 11 Yr Israeliaid yn symmudo o Sinai i Paran. 14 Trefn eu cerddediad hwy. 29 Moses yn attolwg ar Hobab nad ymadawai â hwynt. 33 Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o’r arch.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwna i ti ddau udgorn arian, yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynnulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn.

3 A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynnulleidfa attat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4 Ond os âg un y canant; yna y tywysogion, sef pennaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.

5 Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dwyrain, a gychwynant.

6 Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tu a’r dehau, a gychwynant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.

7 Ac wrth alw ynghyd y gynnulleidfa, cenwch yr udgyrn; ond na chenwch larwm.

8 A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr udgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau.

9 Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi; cenwch larwm mewn udgyrn: yna y coffêir chwi ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.

10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechreu eich misoedd, y cenwch ar yr udgyrn uwch ben eich offrymmau poeth, ac uwch ben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

11 ¶ A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmmwl a arhosodd yn anialwch Paran.

13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.

14 ¶ Ac yn gyntaf y cychwynodd llumman gwersyll meibion Judah yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.

15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.

16 Ac ar lu llwyth meibion Zabulon, Elïab mab Helon.

17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.

18 ¶ Yna y cychwynodd llumman gwersyll Reuben yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedëur.

19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisàdai.

20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Elïasaph mab Deuel.

21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cyssegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.

22 ¶ Yna llumman gwersyll meibion Ephraim a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.

23 Ac ar lu llwyth meibion Manasseh, Gamaliel mab Pedasur.

24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.

25 ¶ Yna llumman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ol eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahïeser mab Ammisàdai.

26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagïel mab Ocran.

27 Ac ar lu llwyth meibion Naphtali, Ahira mab Enan.

28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ol eu lluoedd, pan gychwynasant.

29 ¶ A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyd â ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.

30 Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf.

31 Ac efe a ddywedodd, Na âd ni, attolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni.

32 A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.

33 ¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt.

34 A chwmmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll.

35 A hefyd pan gychwynai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a fföed dy gaseion o’th flaen.

36 A phan orphwysai hi, y dywedai efe Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.

Pennod XI.

1 Y llosgiad yn Taberah yn diffoddi trwy weddi Moses. 4 Y bobl yn blysio cig, ac yn alaru ar y manna. 10 Moses yn cwyno o ran ei siars. 16 Duw yn rhannu ei faich ef rhwng deg a thri ugain o henuriaid. 31 Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah.

A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.

2 A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a ddiffoddodd.

3 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Taberah: am gynneu o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.

4 ¶ A’r llïaws cymmysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwytta?

5 Côf yw gennym y pysgod yr oeddym yn ei fwytta yn yr Aipht yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cenhin, a’r winwyn, a’r garlleg:

6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.

7 A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdèliwm.

8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant y deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew îr.

9 A phan ddisgynai y gwlith y nos ar y gwersyll, disgynai y manna arno ef.

10 ¶ A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac ennynodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses.

11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?

13 O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwytta.

14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

15 Ac os felly y gwnei i mi, attolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thri ugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.

17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.

19 Nid un dydd y bwyttêwch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu yr Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo o honoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd, Paham y daethom allan o’r Aipht?

21 A dywedodd Moses, Chwe chàn mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.

22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

23 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwttogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24 ¶ A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thri ugain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25 Yna y disgynodd yr Arglwydd mewn cwmmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymmerodd o’r yspryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg henaf-gwyr a thri ugain. A thra y gorphwysai yr yspryd arnynt, y prophwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad;) a gorphwysodd yr yspryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, etto prophwydasant yn y gwersyll.

27 A rhedodd llangc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn prophwydo yn y gwersyll.

28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuengctid, a attebodd ac a ddywedodd, Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.

29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn brophwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei yspryd arnynt!

30 A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31 ¶ Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall, o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.

32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

33 A’r cig oedd etto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl, a’r Arglwydd a darawodd y bobl â phla mawr iawn.

34 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth-Hattaafah; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.

35 O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arhosasant yn Haseroth.


Pennod XII.

1 Duw yn ceryddu cynnen Miriam ac Aaron: 10 ac yn iachâu gwahan-glwyf Miriam, ar weddi Moses. 14 Duw yn gorchymyn ei chau hi allan o’r gwersyll.

Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a brïodasai efe: canys efe a gymmerasai Ethiopes yn wraig.

2 A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny.

3 A’r gwr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear.

4 A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymmwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trïoedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trïoedd.

5 Yna y disgynodd yr Arglwydd y’ngholofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.

6 Ac efe a ddywedodd, Gwrandêwch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd prophwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.

7 Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlawn yn fy holl dŷ.

8 Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd; paham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?

9 A digofaint yr Arglwydd a ennynodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith.

10 A’r cwmmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahan-glwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahan-glwyfus.

11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, attolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.

12 Na fydded hi, attolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam.

13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, attolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.

14 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? cauer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier hi.

15 A chauwyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.

16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.


Pennod XIII.

1 Enwau y gwŷr a ddanfonwyd i chwilio y wlad: 17 eu haddysg: 21 eu gweithredoedd: 26 eu newyddion.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gwr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt.

3 A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: pennaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll.

4 A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Zaccur.

5 Dros lwyth Simeon, Saphat mab Hori.

6 Dros lwyth Judah, Caleb mab Jefphunneh.

7 Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseph.

8 Dros lwyth Ephraim, Osea mab Nun.

9 Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raphu.

10 Dros lwyth Zabulon, Gàdiel mab Sodi.

11 O lwyth Joseph, dros lwyth Manasseh, Gadi mab Susi.

12 Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.

13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael.

14 Dros lwyth Naphtali, Nahbi mab Fophsi.

15 Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci.

16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17 ¶ A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tu a’r dehau, a dringwch i’r mynydd.

18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt:

19 A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd;

20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaen-ffrwyth grawnwin.

21 ¶ A hwy a aethant i fynu, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.

22 Ac a aethant i fynu i’r dehau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aipht.)

23 A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorrasant oddi yno gangen âg un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys.

24 A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno.

25 A hwy a ddychwelasant o chwilio y wlad ar ol deugain niwrnod.

26 ¶ A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynnulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hoi air iddynt, ac i’r holl gynnulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.

27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddïau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.

28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.

29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y dehau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.

30 A gostegodd Caleb y bobl ger bron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fynu, a pherchennogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.

31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fynu gyd âg ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fynu yn erbyn y bobl, canys cryfach ydynt na nyni.

32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe, a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corphol:

33 Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

Pennod XIV.

1 Y bobl yn tuchan o ran y newyddion. 6 Josua a Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt. 11 Duw yn eu bygwth. 13 Moses yn ymbil â Duw: ac yn caffael iddynt hwy faddeuant. 26 Y tuchanwyr heb gael myned i’r wlad. 36 Y gwŷr a roisant anghlod i’r tir yn marw o’r pla. 40 Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.

Yna yr holl gynnulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno.

2 A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!

3 A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn yspail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht?

4 A dywedasant bawb wrth eu gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aipht.

5 Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel.

6 ¶ Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunneh, dau o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad;

7 Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth.

8 Os yr Arglwydd sydd foddlawn i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni, sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.

9 Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyd â ni: nac ofnwch hwynt.

10 A’r holl dorf a ddywedasant am en llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.

11 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?

12 Tarawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy.

13 ¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Aiphtiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fynu yn dy nerth,)

14 Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)

15 Os lleddi y bobl yma fel un gwr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat, gan ddywedyd,

16 O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch.

17 Yr awr hon, gan hynny, mawrhâer, attolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd,

18 Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe yr euog; ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.

19 Maddeu, attolwg, anwiredd y bobl yma, yn ol dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aipht hyd yma.

A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ol dy air:

21 Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.

22 Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,

23 Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef:

24 Ond fy ngwas Caleb, am fnd yspryd arall gyd âg ef, ac iddo fy nghyflawn-ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef.

25 (Ond y mae yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) y fory trowch, ac ewch i’r diffaethwch, ar hyd ffordd y môr coch.

26 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

27 Pa hyd y cyd-ddygaf a’r gynnulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn.

28 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.

29 Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,

30 Dïau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jephunneh, a Josua mab Nun.

31 Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, hwynt-hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.

32 A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffaethwch hwn.

33 A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffaethwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosp eich putteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.

34 Yn ol rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich hanwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.

35 Myfi yr Arglwydd a leferais, dïau y gwnaf hyn i’r holl gynnulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.

36 A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio y tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;

37 Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant feirw o’r pla, ger bron yr Arglwydd.

38 Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jephunneh, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir.

39 A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.

40 ¶ A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fynu i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.

41 A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.

42 Nac ewch i fynu; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion.

43 Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ol yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd â chwi.

44 Etto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfammod yr Arglwydd, a Moses, ni symmudasant o ganol y gwersyll.

45 Yna y disgynodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Hormah.


Pennod XV.

1 Cyfraith y bwyd-offrwm a’r ddïod-offrwm. 13, 29 Bod y dïeithrddyn dan yr un gyfraith. 17 Cyfraith blaenion toes yn offrwm dyrchafael. 22 Yr aberth am bechod o anwybod. 30 Cospedigaeth rhyfyg. 32 Llabyddio yr hwn a dorrodd y Sabbath. 37 Cyfraith y rhidens.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi,

3 Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i’r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd, o’r eidionau, neu o’r praidd:

4 Yna offrymmed yr hwn a offrymmo ei rodd i’r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymmysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd-offrwm.

5 Ac offrwm di gyd â’r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddïod-offrwm.

6 A thi a offrymmi yn fwyd-offrwm gyd â hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymmysgu trwy drydedd ran hin o olew.

7 A thrydedd ran hin o win yn ddïod-offrwm, a offrymmi yn arogl peraidd i’r Arglwydd.

8 A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i’r Arglwydd;

9 Yna offrymmed yn fwyd-offrwm gyd â llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymmysgu trwy hanner hin o olew.

10 Ac offrwm hanner hin o win yn ddïod-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

11 Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fỳn.

12 Yn ol y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ol eu rhifedi.

13 Pob prïodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd.

14 A phan ymdeithio dïeithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.

15 Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dïeithr; deddf dragywyddol yw trwy eich cenhedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dïeithr ger bron yr Arglwydd.

16 Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyd â chwi.

17 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;

19 Yna pan fwyttaoch o fara y tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i’r Arglwydd.

20 O flaenion eich toes yr offrymmwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr-dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.

21 O ddechreu eich toes y rhoddwch i’r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenhedlaethau.

22 ¶ A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,

23 Sef yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchymynodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenhedlaethau;

24 Yna bydded, os allan o olwg y gynnulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i’r holl gynnulleidfa ddarparu un bustach ieuangc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i’r Arglwydd, â’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech-aberth.

25 A gwnaed yr offeiriad gymmod dros holl gynnulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i’r Arglwydd, a’u pechaberth, ger bron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth.

26 A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i’r holl bobl trwy anwybod.

27 ¶ Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymmed afr flwydd yn offrwm dros bechod.

28 A gwnaed yr offeiriad gymmod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd ger bron yr Arglwydd, gan wneuthur cymmod drosto; a maddeuir iddo.

29 Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.

30 ¶ Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o brïodor, neu o ddïeithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

31 O herwydd iddo ddïystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr-dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.

32 ¶ Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant wr yn cynnutta ar y dydd Sabbath.

33 A’r rhai a’i cawsant ef, a’i dygasant ef, sef y cynnuttwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.

34 Ac a’i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.

35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gwr yn farw: llabyddied yr holl gynnulleidfa ef â meini o’r tu allan i’r gwersyll.

36 A’r holl gynnulleidfa a’i dygasant ef i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

37 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.

39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ol eich calonnau eich hunain, nac yn ol eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hol:

40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchymynion i, ac y byddoch sanctaidd i’ch Duw.

41 Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Dduw.


Pennod XVI.

1 Gwrthryfel Corah, Dathan, ac Abiram. 23 Moses yn gwahanu y bobl oddi wrth bebyll y gwrthryfelwyr. 31 Y ddaear yn llyngcu Corah: a thân yn difa y lleill. 36 Cadw y thusserau er mwyn defnydd sanctaidd. 41 Lladd pedair mil ar ddeg a saith gant, am rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron. 46 Aaron, trwy arogl-darthu, yn attal y pla.

Yna Corah, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymmerasant wŷr:

2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, pennaethiaid y gynnulleidfa, pendefigion y gymmanfa, gwŷr enwog.

3 Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?

4 A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5 Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesâu atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe atto.

6 Hyn a wnewch: Cymmerwch i chwi, sef Corah a’i holl gynnulleidfa, thusserau;

7 A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth y fory ger bron yr Arglwydd: yna bydd i’r gwr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.

8 A dywedodd Moses wrth Corah, Gwrandêwch, attolwg, meibion Lefi.

9 Ai bychan gennych neillduo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel, gan eich nesâu chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt?

10 Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyd â thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11 Am hynny tydi a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12 ¶ A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fynu.

13 Ai bychan yw dwyn o honot ti ni i fynu o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffaethwch, oddi eithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?

14 Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.

15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy; ni chymmerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un o honynt.

16 A dywedodd Moses wrth Corah, Bydd di a’th holl gynnulleidfa ger bron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, y fory.

17 A chymmerwch bob un ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un ei thusser ger bron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thusserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thusser.

18 A chymmerasant bob un ei thusser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.

19 Yna Corah a gasglodd yr holl gynnulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynnulleidfa.

20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21 Ymneillduwch o fysg y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt ar unwaith.

22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?

23 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Llefara wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Corah, Dathan, ac Abiram.

25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ol ef.

26 Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, attolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27 Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i.

30 Ond os yr Arglwydd a wna newydd-beth, fel yr agoro y ddaear ei safn, a’u llyngcu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31 ¶ A bu, wrth orphen o hono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy.

32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyngcodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Corah, a’u holl gyfoeth.

33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyd â hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gauodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynnulleidfa.

34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoisant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyngcu ninnau.

35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymmu yr arogl-darth.

36 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37 Dywed wrth Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, am godi o hono efe y thusserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:

38 Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymmasant hwynt ger bron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39 A chymmerodd Eleazar yr offeiriad y thusserau pres, â’r rhai yr offrymmasai y gwŷr a losgasid; ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor:

40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41 ¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.

42 A bu, wedi ymgasglu o’r gynnulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45 Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt yn ddisymmwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46 ¶ Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymmer thusser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna gymmod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd, dechreuodd y pla.

47 A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth gymmod dros y bobl.

48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a attaliwyd.

49 A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah.

50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a attaliwyd.


Pennod XVII.

1 Gwïalen Aaron ym mhlith holl wïail y llwythau yn unig yn blodeuo. 10 Ei gadael hi yn lle coffadwriaeth yn erbyn y gwrthryfelwyr.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a chymmer gan bob un o honynt wïalen, yn ol tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u pennaethiaid, yn ol tŷ eu tadau, deuddeg gwïalen; ysgrifena enw pob un ar ei wïalen.

3 Ac ysgrifena enw Aaron ar wïalen Lefi: canys un wïalen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau.

4 A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.

5 A gwïalen y gwr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.

6 ¶ A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl bennaethiaid a roddasant atto wialen dros bob pennaeth, yn ol tŷ eu tadau, sef deuddeg gwïalen; a gwïalen Aaron oedd ym mysg eu gwïail hwynt.

7 A Moses a adawodd y gwïail ger bron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.

8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwïalen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddygasai almonau.

9 A dug Moses allan yr holl wïail oddi ger bron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymmerasant bob un ei wïalen ei hun.

10 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wïalen Aaron drachefn ger bron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.

11 A gwnaeth Moses fel y gorchymynodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

12 A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu am danom, darfu am danom ni oll.

13 Bydd farw pob un gan nesâu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen am danom gan drengi?


Pennod XVIII.

1 Swydd yr offeiriaid a’r Lefiaid. 9 Rhan yr offeiriaid. 21 Rhan y Lefiaid. 25 Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.

2 A dwg hefyd gyd â thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyd â thi a wasanaethwch ger bron pabell y dystiolaeth.

3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.

4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dïeithr yn agos attoch.

5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6 Ac wele, mi a gymmerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

7 Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dïeithr a ddelo yn agos, a leddir.

8 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymmau dyrchafael, o holl gyssegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr enneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragywyddol.

9 Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymmau hwynt, eu holl fwyd-offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion.

10 O fewn y cyssegr sanctaidd y bwyttêi ef; pob gwrryw a’i bwytty ef: cyssegredig fydd efe i ti.

11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymmau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwytta o hono.

12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, i roddais i ti.

13 Blaen-ffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwytty o hono.

14 Pob dïofryd-beth yn Israel fydd eiddot ti.

15 Pob peth a agoro y groth o bob cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a phryn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan.

16 A phâr brynu y rhai a bryner o honot, o fab misyriad, yn dy bris di, er pùm sicl o arian, wrth sicl y cyssegr: ugain gerah yw hynny.

17 Ond na phryn y cyntaf-anedig o eidion, neu gyntaf-anedig dafad, neu gyntaf-anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwer a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddehau, y mae yn eiddot ti.

19 Holl offrymmau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymmo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: cyfammod halen tragywyddol fydd hyn, ger bron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyd â thi.

20 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ym mysg meibion Israel.

21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.

22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.

23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragywyddol fydd hyn trwy eich cenhedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.

24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymmant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.

25 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymmwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm.

27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwin-wrŷf.

28 Felly yr offrymmwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymmau a gymmeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.

29 O’ch holl roddion offrymmwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob goreu o hono, sef y rhan gyssegredig, allan o hono ef.

30 A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan o hono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwin-wrŷf.

31 A bwyttêwch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon o hono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.


Pennod XIX.

1 Y dwfr neillduaeth a wneid o ludw anner goch. 11 Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt attat anner goch berffeith-gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.

3 A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.

4 A chymmered Eleazar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.

5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe.

6 A chymmered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.

7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.

8 Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

9 A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded y’nghadw i gynnulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neillduaeth: pech-aberth yw.

10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragywyddol.

11 ¶ A gyffyrddo â chorph marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.

12 Ymlanhâed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.

13 Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd etto arno.

14 Dyma y gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.

15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, âg un wedi ei ladd â chleddyf, neu âg un marw, neu âg asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

17 Cymmerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder atto ddwfr rhedegog mewn llestr;

18 A chymmered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:

19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.

20 Ond y gwr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neillduaeth; aflan yw efe.

21 A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neillduaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neillduaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.

22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan âg ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.


Pennod XX.

1 Plant Israel yn dyfod i Sin; lle y bu farw Miriam. 2 Hwynt-hwy yn tuchan o eisieu dwfr. 7 Moses yn taro y graig, ac yn dwyn allan ddwfr ym Meribah. 12 Cospedigaeth Moses ac Aaron, am eu petrusedd. 14 Moses yn Cades yn deisyfu ffordd i dramwy trwy Edom; ac yn cael ei naccâu. 22 Aaron yn rhoddi i fynu ei le i Eleazar, ac yn marw.

A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin yn y mis cyntaf; ac arhôdd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.

2 Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr ger bron yr Arglwydd!

4 Paham y dygasoch gynnulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw o honom ni a’n hanifeiliaid ynddo?

5 A phaham y dygasoch ni i fynu o’r Aipht, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i’w yfed?

6 A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.

7 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

8 Cymmer y wïalen, a chasgl y gynnulleidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dïoda y gynnulleidfa a’u hanifeiliaid.

9 A Moses a gymmerodd y wïalen oddi ger bron yr Arglwydd, megis y gorchymynasai efe iddo.

10 A Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?

11 A Moses a gododd ei law, ac a darawodd y graig ddwy waith â’i wïalen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynnulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.

12 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.

13 Dyma ddyfroedd Meribah; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd; ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14 ¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.

16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwrr dy ardal di.

17 Attolwg, gâd i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: prif-ffordd y brenhin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di.

18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod.

19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y brif-ffordd yr awn i fynu; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.

20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod âg ef, â phobl lawer, ac a llaw gref.

21 Felly Edom a naccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22 ¶ A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,

24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhâu i’m gair, wrth ddwfr Meribah.

25 Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, a dwg hwynt i fynu i fynydd Hor;

26 A dïosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.

27 A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fynu i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynnulleidfa.

28 A dïosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleazar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynodd Moses ac Eleazar o’r mynydd.

29 A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.

Pennod XXI.

1 Israel trwy beth colled yn difetha y Canaaneaid yn Hormah. 4 Y bobl yn tuchan, ac yn cael eu brathu gan seirph tanllyd; 7 ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiachâu gan y sarph bres. 10 Amrwy deithiau yr Israeliaid. 21 Gorchfygu Sehon, 33 ac Og.

A’r brenhin Arad, y Canaanead, preswylydd y dehau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai o honynt yn garcharorion.

2 Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.

3 A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Hormah.

4 ¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.

5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aipht, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6 A’r Arglwydd a anfonodd ym mysg y bobl seirph tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.

7 ¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.

8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarph danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9 A gwnaeth Moses sarph bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarph wr, ac edrych o hono ef ar y sarph bres, byw fyddai.

10 ¶ A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.

11 A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant y’ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tu a chodiad haul.

12 ¶ Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Zared.

13 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Amon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid.

14 Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,

15 Ac wrth raiadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.

16 Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.

17 ¶ Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.

18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd pennaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattanah:

19 Ac o Mattanah i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: .

20 Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd y’ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.

21 ¶ Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenhin yr Amoriaid, gan ddywedyd,

22 Gâd i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenhin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di.

23 Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24 Ac Israel a’i tarawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.

25 A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.

26 Canys dinas Sehon, brenhin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenhin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.

27 Am hynny y dywed y dïarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhâer dinas Sehon.

28 Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchennogion Bamoth Arnon.

29 Gwae di, Moab; darfu am danat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dïangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenhin yr Amoriaid.

30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Nophah, yr hon sydd hyd Medeba.

31 ¶ A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.

32 A Moses a anfonodd i chwilio Jazer: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.

33 ¶ Troisant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenhin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl.

34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

35 Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.


Pennod XXII.

1 Cenhadon cyntaf Balac yn cael nâg gan Balaam. 15 Ei ail-genhadon ef yn cael ganddo ddyfod. 22 Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef. 36 Balac yn ei groesawu ef.

A meibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho.

2 ¶ A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid.

3 ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.

4 ¶ A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenhin ar Moab yn yr amser hwnnw.

5 Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.

6 Yr awr hon, gan hynny, tyred, attolwg, melldithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melldigedig fydd yr hwn a felldithiech.

7 A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, a gwobr dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.

8 A dywedodd yntau wrthynt, Llettŷwch yma heno; a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arhosasant gyd â Balaam.

9 A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyd â thi?

10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenhin Moab, a ddanfonodd attaf, gan ddywedyd,

11 Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.

12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyd â hwynt; na felldithia y bobl: canys bendigedig ydynt.

13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi.

14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Naccaodd Balaam ddyfod gyd â ni.

15 ¶ A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.

16 A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Attolwg, na luddier di rhag dyfod attaf:

17 Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, attolwg, rhega i mi y bobl hyn.

18 A Balaam a attebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.

19 Ond, attolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg.

20 A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyd â hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.

21 Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyd â thywysogion Moab.

22 ¶ A dig Duw a ennynodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau langc gyd âg ef.

23 A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a tharawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd.

24 Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu.

25 Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i tarawodd hi eilwaith.

26 Ac angel yr Arglwydd a aeth ym mhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tu a’r tu dehau na’r tu aswy.

27 A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd; ac a orweddodd dan Balaam: yna yr ennynodd dig Balaam, ac efe a darawodd yr asen â ffon.

28 A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wnh Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan darewaist fi y tair gwaith hyn?

29 A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siommi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn.

30 A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Na ddo.

31 A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wyneb.

32 A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y tarewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti: canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn fy ngolwg.

33 A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, dïau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw.

34 A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.

35 A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyd â’r dynion; a’r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyd â thywysogion Balac.

36 ¶ A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwrr eithaf y terfyn.

37 A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais attat i’th gyrchu? paham na ddeuit ti attaf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?

38 A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum attat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.

39 A Balaam a aeth gyd â Balac; a hwy a ddaethant i Gaer-Husoth.

40 A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r tywysogion oedd gyd âg ef.

41 A’r bore Balac a gymmerodd Balaam, ac a aeth âg ef i fynu i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwrr eithaf y bobl.

Pennod XXIII.

1, 13, 28 Offrwm Balac. 7, 18 Dammeg Balaam.

A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; i darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2 A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymmodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3 A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boeth-offrwm; myfi a âf oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.

4 A chyfarfu Duw â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.

5 A gosododd yr Arglwydd air y’ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

6 Ac efe a ddychwelodd atto. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boeth-offrwm.

7 Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenhin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melldithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.

8 Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?

9 Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele, bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.

10 Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.

11 A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymmerais; ac wele, gan fendithio ti a’u bendithiaist.

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13 A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, attolwg, gyd â myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwrr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.

14 ¶ Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar bob allor.

15 Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boeth-offrwm, a mi a âf accw i gyfarfod â’r Arglwydd.

16 A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17 Ac efe a ddaeth atto. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boeth-offrwm, a thywysogion Moab gyd âg ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd?

18 Yna y cymmerodd efe ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.

19 Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?

20 Wele, cymmerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ol.

21 Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gyd âg ef, ac y mae utgorn-floedd brenhin yn eu mysg hwynt.

22 Duw a’u dug hwynt allan o’r Aipht; megis nerth unicorn sydd iddo.

23 Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw!

24 Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuangc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwytta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.

25 ¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regu na rega ef mwy; gan fendithio na fendithia ef chwaith.

26 Yna yr attebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnaf fi?

27 ¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, attolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid boddlawn fydd gan Dduw i ti ei regu ef i mi oddi yno.

28 A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.

29 A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach, a saith hwrdd.

30 A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar bob allor.


Pennod XXIV.

1 Balaam yn rhoi heibio ddewiniaeth, ac yn prophwydo dedwyddwch i Israel. 10 Balac mewn digter yn ei anfon ef ymaith. 15 Yntau yn prophwydo am seren Jacob, a dinystr rhai gwledydd.

Pan welodd Balaam mai da oedd y’ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tu a’r anialwch.

2 A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ol ei lwythau: a daeth yspryd Duw arno ef.

3 Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;

4 Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:

5 Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanneddau di, O Israel!

6 Ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

7 Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenhin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.

8 Duw a’i dug ef allan o’r Aipht; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwytty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe hwynt.

9 Efe a grymma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melldigedig dy felldithwyr.

10 ¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn.

11 Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, attaliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.

12 A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist attaf, gan ddywedyd,

13 Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi?

14 Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna y bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diweddaf.

15 ¶ Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gwr a agorwyd ei lygaid a ddywed;

16 Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:

17 Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw Seren o Jacob, a chyfyd teyrn-wïalen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinystria holl feibion Seth.

18 Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchennogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymmusder.

19 Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinystria y gweddill o’r ddinas.

20 A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Dechreu y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod am dano byth.

21 Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.

22 Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur.

23 Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn!

24 Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymmant Assur, ac a orthrymmant Eber; ac yntau a dderfydd am dano byth.

25 A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.


Pennod XXV.

1 Israel yn Sittim yn godinebu, ac yn addoli delwau. 6 Phinees yn lladd Zimri a Chozbi. 10 Duw o herwydd hynny yn rhoddi iddo ef offeiriadaeth dragywyddol. 16 Rhaid yw blino y Midianiaid.

º1 A THRIGODD Israel yn Sittim; a i dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

º2 A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

º3 Ac ymgyfeillodd Israel a Baal-Peor; ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Israel.

º4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r ARGLWYDD ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr ARGLWYDD oddi wrth Israel.

º5 A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal-Peor.

º6 Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

º7 A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;

º8 Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babcll; ac a’u gwanodd hwynt ill da’u, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

º9 A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.

º10A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º11 Phinees nab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth º176 friibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

º12 Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch.

º13 A bydd iddo ef, ac i’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei DDUW, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.

º14 Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.

º15 Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dy mawr ym Midian oedd hwn.

º16 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,,

º17 Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt:

º18 Canys blin ydynt amoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

PENNOD 26 º1 ABU, wedi’r pla, lefaru o’r ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,

º2 Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.

º3 A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddy¬wedyd,

º4 Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft. .

º5 Reuben, cyntaf-anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid:

º6 O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.

º7 Dyma dylwyth y Rcubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.

º8 A meibion Phalu oedd El’i’ab.

º9 A meibion Eliab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abu-am, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr ARGLWYDD.

º10 Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan dd.ifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.

º11 Ond meibion Cora ni buant feirw.

º12 S) Meibion Simeon, wrth eu tylwythau . O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:

º13 O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.

º14 Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.

º15 Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Sumaid:

º16 O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:

º170 Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.

º18 Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.

º19 Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.

º20 A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.

º21 A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.

º22 Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif, onid pedair mil pedwar ugain roil a phum cant.

º23 Meibion Issachar, wrth eu tylwyth¬au, oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid:

º24 O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.


º25 Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.

º26 Meibion Sabulon, wrth en teulu¬oedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid; o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.

º27 Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.

º28 Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd, oedd; Manasse ac Effraim.

º29 Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.

º30 Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yt Heleciaid:

º31 Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaidi ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:

º32 Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid! ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.

º33 ff A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogia, Milca, a Tirsa.

º34 Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.

º35 Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.

º36 A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.

º37 Dyma dylwyth meibion Effraim, ttwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.

º38 § Meibion Benjamin, wrth eu teulu¬oedd, oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaidi o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:

º39 O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffam-laid.

º40 A meibion Bela oedd, Ard a Naa-man: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naa-maniaid.

º41 Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.

º42 Dyma feibion Dan, yn ôl < i teuluoedd. O Suham, tylwyth y S’ -hamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl i i teuluoedd.

º43 A holl dylwyth y Suhamiaid oed, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thriga i a phedwar cant.

º44Meibion Aser, wrth eu teuluoed, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: ) Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bere i tylwyth y Bereiaid.

º45 O feibion Bereia, yr oedd; ) Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malcit, tylwyth y Malcieliaid.

º46 Ac enw merch Aser ydoedd Sara.

º47 Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

º48 Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahr seeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:

º49 O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.

º50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant. ‘51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar bugain.

º52 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º53 I’r rhai hyn y rhennir y tir yn Btifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau. ‘

º54 I lawer y chwanegi yr etifeddiaethj ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.

º55 Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant.

º56 Wrth fam y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.

º57 A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.

º58 Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tyiwyfcyr Hebroniaid» tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a jgenhedlodd Amram.

º59 Ac enw gwraig Amram oedd Joche-jbed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn Syr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a iMoses, a Miriam eu chwaer hwynt.

º60 A ganed i Aaron, Nadab ac Abihuj Eleasar ac Ithamar. ‘

º61 A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dan dieithr gerbron yr ARGLWYDD.

º62 A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwyn < ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhUth meibtoa Israel.

º63 Dyma rifedigion Moses ac Eleasae yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion. Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

º64 Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad,. pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

º65 Canys dywedasai yr ARGLWYDD amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

PENNOD 27 º1 J "VNA y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogia, Miica, a Tirsa;)

º2 Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth. ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,

º3 Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch, ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD yng’ nghynulleidfa Cora, ond yn el bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.

º4 Paham y tynmr ymaith unw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad.

º5 A dug Moses eu hawl hwynt gert»oa yr ARGLWYDD.

º6 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º7 Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt fedd¬iant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad; trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.

º8 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd. Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch.

º9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr.

º10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.

º11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gar nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

º12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Drmg i’r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel.

º13 Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.

º14 Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.

º15 tl A llefarodd Moses wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º16 Gosoded yr ARGLWYDD, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,

º17 Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt,. ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa’r ARGLWYDD fel defaid ni byddo bugail arnynt.

º18 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno,

º19 A dod ei i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.

º20 A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.

º21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr ARGLWYDD l wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a’r holl gynulleidfa.

º22 A gwnaeth Moses megis y gorchi mynnodd yr ARGLWYDD iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa. "

º23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, a6 a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.

PENNOD 28 º1 ALLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, ‘

º2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, a arogl peraidd yn eu tymor.

º3 A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r ARGLWYDD. Dau oen blwyddiaid perffaith-gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol.

º4 Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;

º5 A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.

º6 Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

º7 A’i ddiod-offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod-offrwm i’r ARGLWYDD, yn y cysegr.

º8 Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwrn y bore, a’i ddiod-offrwm, yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.

º9 Ac ar y dydd Saboth, dau oen biwyddiaid, perffaith-gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod-offrwm.

º10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod-offrwm.

º11 Ac ar ddechrau eich misoedd y( offrymwcb, yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith-gwbl;

º12 A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trws olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;

º13 A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

º14 A’u diod-offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.

º15 Ac un bwch geifr fydd yn bech-aberth i’r ARGLWYDD : heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.

º16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr ARGLWYDD.

º17 Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr wyl; saith niwmod bwyteir bara croyw.

º18 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.

º19 Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant’ gennych yn berffaith-gwbl.

º20 Eu bwyd-offrwrn hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;

º21 Bob yn ddegfed ran yr otfrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: i8o

º22 Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch.

º23 Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn.

º24 Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.

º25 Ac ar y seithfed dydd cymanfa ynctaidd fydd i chwi: dim caethwaith is gwnewch. ‘j26 Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, gan offrymoch fwyd-offrwm newydd i’r ARGLWYDD, wedi eich wythnosau, cym¬anfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth¬waith nis gwnewch.,1

º27 Ond offrymwch ddau fustach ieu¬ainc, un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.

º28 A bydded eu bwyd-offrwm o beill¬iaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;

º29 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

º30 Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.

º31 Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith-gwbl,) ynghyd â’u diod-offrwm. „

PENNOD 29 º1 A yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi.

º2 Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o wyn blwydd¬iaid, perffaith-gwbl:

º3 A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair dcgled ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

º4 Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

º5 Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch:

º6 Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

º7 § Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

º8 Ond offrymwch boethoffrwm i’r ARGLWYDD, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl gennych.

º9 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

º10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

º11 Un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw pechaberth y cymod, a’r poeth¬offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrymau.

º12Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r ARGLWYDD saith niwrnod.

º13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl.

º14 A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd;

º15 A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg:

º16 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º17 S[ Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddcuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

º18 A’u bwyd-offrwm,, a’u diod-offrwm,

º181

gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 

º19 Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm a’u diod-offrymau.

º20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach Sr ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl: .

º21 A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a ehyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

º22 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl:

º24 Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

º25 Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º36 Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

º27 A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod;

º28 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwrn, a’i ddiod-offrwm.

º29 Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

º30 A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyd¬a’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

º31 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º32 Ac ar y scithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

º33 A’a bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyd¬a’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod:

º34 Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º35 Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo.

º36 Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD; un bustach, un hwrdd, saith o wyn blwyddiaid, perffaith-gwbl.

º37 Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r wyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

º38 Ac un bwch yn bech-aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.

º39 Hyn a wnewch i’r ARGLWYDD ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrym¬au poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd.

º40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

PENNOD 3 º10 ALLEFARODD Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD.

º2 Os adduneda gŵr adduned i’r ARGLWYDD, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau.

º3 Ac os adduneda benyw adduned i’r ARGLWYDD, a’i rhwymo ei hun a rhwym¬edigaeth yn nhy ei thad, yn ei hieuenctid;

º4 A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym¬edigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.

º5 Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a rnaddau yr ARGLWYDD iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.

º6 Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;

º7 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.

º8 Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r ARGLWYDD a faddau iddi.

º9 Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.

º10 Ond os yn nhy ei gŵr yr adduned¬odd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;

º11 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.

º12 Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a’u diddymodd hwynt; a’r ARGLWYDD a faddau iddi.

º13 Pob adduned, a phob rhwymedig aeth llw i gystuddio’r enaid, ei gŵr a’i cadarnha, a’i gŵr a’i diddyma.

º14 Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd aml: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.

º15 Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.

º16 Dyma y deddfau a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, rhwng gŵr a’i wraig, a rhwng tad a’i icrch, yn ei hieuenctid yn nhy ei thad.

PENNOD 31 º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth i Moses, gan ddywedyd,

º2 Dial feibion Israel ar y Midianiaids wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.

º3 A llefarodd Moses wrth y bobl, gait ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr ARGLWYDD ar Midian.

º4 Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.

º5 A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi en harfogi i’r rhyfel.

º6 Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mate Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, a dodrefn y cysegr, a’r utgyin i utganu yn ei law.

º7 A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.

º8 Brenhinoedd Midian hefyd a laddas¬ant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef En, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy a’r cleddyf.

º9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud hwynt.

º10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân.

º11 A chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.

º12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’t caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth y» lorddonen, ar gyfer Jericho.

º13 Sl Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwer¬syll.

º14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chap

teiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel. : 

º15 A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?

º16 Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.

º17 Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth a gŵr, trwy orwedd gydag ef.

º18 A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaelhant a gŵr, cedweh yn fyw i chwi.

º19 Ac arhoswch chwithau o’r tu allan, i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion.

º20 Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn eroen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.

º21 A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses:,

º22 Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm;

º23 Pob dim a ddioddefo dan, a dynnwch trwy’r tan, a glan fydd; ac eto efe a lanheir a’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dan, tynnwch trwy y dwfr yn unig.

º24 A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glan fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.

º25 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º26 Cymer niter yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad,, a phennau-cenedl y gynulleidfa:

º37 A rhanna’r catfaeliad yn ddwy ran; shwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynulleidfa.

º28 A chyfod deyrnged i’r ARGLWYDD-gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaethi un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid.

º29 Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael-offrwm yr ARGLWYDD.

º30 Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD.

º31 A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

º32 A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,

º33 A deuddeg a thrigain mil o eidionau,

º34 Ac un fil a thrigain o asynnod,

º35 Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant a gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.

º36 A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o, rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

º37 A theyrnged yr ARGLWYDD o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.

º38 A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd ddeuddeg a thrigain.

º39 A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd un a thrigain.

º40 A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd ddeu¬ddeg enaid ar hugain.

º41 A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.,

º42 Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,

º43 Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

º44 Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;

º184 j 45 Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;

º46 Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg.

º47 Ie, cymerodd Moses o hanner meib¬ion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw padwraeth tabernacl yr ARGLWYDD ; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

º48 A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y fcannoedd:

º49 A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom. "

º50 Am hynny yr ydym yn onrymu offrwm i’r ARGLWYDD, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glust-lysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr ARGLWYDD.

º51 A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.

º52 Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r ARGLWYDD, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.

º53 (Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)

º54 A chyrnerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD.

PENNOD 32 º1 A yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, â thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.

º2 A meibion Gad a meibion Rcubcn a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr oifeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,

º3 Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon,

º4 Sef y tir a drawodd yr ARGLWYDD o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid.

º5 A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dŷ olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phar i ni fyned dros yr Iorddonen.

º6 A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A a eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwi¬thau yma?

º7 A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a rodd¬odd yr ARGLWYDD iddynt?

º8 Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades-Barnea i edrych y tir.

º9 Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr ARGLWYDD iddynt.

º10 Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,

º11 Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:

º12 Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr ARGLWYDD.

º13 Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; a gwnaeth idd¬ynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.

º14 Ac wcle, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwancgu ar angerdd llid yr ARGLWYDD wrth Israel.

º15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.

º16 (f A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant.

º185


º1’7 A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y til.

º18 Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes "i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth.

º19 Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.

º20 A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD,

º21 Os a pob un ohonoch dros yr Iordd¬onen yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen, ‘

º22 A darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd, ac y byddwch dieuog gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr ARGLWYDD.

º33 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr ARGLWYDD : a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. : 24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau. . 25 A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnant megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.

º26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.

º27 A’th weision a ânt drosodd o flaen yr ARGLWYDD i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

º28 A gorchmynnodd Moses i Eleasat yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau-cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt:

º29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o Haen yr ARGLWYDD, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenog- aeth:

º30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.

º31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr ARGLWYDD wrth dy weision, felly y gwnawn ni.

º32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr ARGLWYDD, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni.

º33 A rhoddodd Moses iddynt, sefi feib¬ion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.

º34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, ‘.

º35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jog- bea,

º36 A Beth-nimra, a Beth-haran, dinaseedd caerog; a chorlannau defaid.

º37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; "

º38 Nebo hefyd, a Baal-meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant. –

º39 A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.

º40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.

º41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth-Jair.

º42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.

PENNOD 33 º1 DYMA deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.

º2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan’ yn ôl so. teithiau, wrth orchy- yn yr ARGLWYDD: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.

º3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan a llaw uchet yng ngolwg yr Eifftiaid oll.

º4 (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr ARGLWYDD yn eu mysg; a gwnaethai yr ARGLWYDD farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)

º5 A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.

º6 A chychwynasant o Succoth, a gwer¬syllasant yn Etham, yr hon sydd yog nghwr yr anialwch. »

º7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd ct flaen Baal-Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.

º8 A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y mor i’r aniatwch, a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.

º9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.

º10 A chychwynasant o Elim, a gwer¬syllasant wrth y mor coch.

º11 A chychwynasant oddi wrth y mor coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.

º12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.

º13 A chychwynasant o Doffca, a gwer¬syllasant yn Alus.

º14 A chsshwynasant o Alus, a gwer¬syllasant yn Rcffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed.

º15 A chychwynasant o Reffidim, a gwer¬syllasant yn anialwch Sinai.

º16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth-Hattaafa.

º17 A chychwynasant o Cibroth-Hat¬taafa, a gwersyllasant yn Hascroth.

º18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn; Rithma.

º187

º19 A chychwynasant o Rithnia» a gwersyllasant yn Rimmon-Pares.

º20 A chychwynasant o Rimmon-Pares, a gwersyllasant yn Libna.

º21 A chychwynasant o Libna, a gwer¬syllasant yn Rissa.

º22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.

º23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.

º24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. :

º25 A chychwynasant o Harada, a gwer¬syllasant ym Maceloth.

º26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.

º27 A chychwynasant o Tahath, a gwer¬syllasant yn Tara.

º28 A chychwynasant o Tara, a gwer¬syllasant ym Mithca. . .

º29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona.

º30 A chychwynasant o Hasmona, s gwersyllasant ym Moseroth.

º31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene-Jaacan.

º32 A chychwynasant o Bene-Jaacan, a gwersyllasant yn Hor-hagidgad.

º33 A chychwynasant o Hor-hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.

º34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. ; :

º35 A chychwynasant o Ebrona, a’ gwersyllasant yn Esion-Gaber.

º36 A chychwynasant o Esion-Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.

º37 A chychwynasant o Cades, a gwer¬syllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.

º38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr ARGLWYDD; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis,-ar y dydd cyntaf o’r mis.

º39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. ‘

º40 A’t brenin Arad, y Canaanead, yr

1 hwn oedd yn ttigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.

º41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona, . :

º42 A chychwynasant o’ Salmona, a gwersyllasant yn Punon, .

º43 A chychwynasant o Punon, a gwer¬syllasant yn Oboth.

º44 A chychwynasant o Oboth, a gwer" syllasant yn Ije-Abarim, ar derfyn Moab.

º45 A chychwynasant o Ije-Abarim, a gwersyllasant yn Dibon-Gad.

º46 A chychwynasant o Dibon-Gad, a gwersyllasant yn Almon-Diblathaim.

º47 A chychwynasant o Almon-Dib-, lathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

º48 A chychwynasant o fynyddoedd Ab¬arim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

º49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth-Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab,

º50 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, ‘

º51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;

º52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau bwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddel-wau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.

º53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo; canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi.

º54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r arni chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anami prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr el y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.

º55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.

º56 A bydd, megis yr amcenais wneuthui iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

PENNOD 34 º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,) j

º3 A’ch tu deau fydd o anialwch Silfc gerllaw Edom: a therfyn y deau fyddfi chwi o gŵr y mor heli tua’r dwyrain. j

º4 A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a fynediad allan fydd o’r deau i Cades-Bamea, ac a â allan i Hasar-Adar, |i throsodd i Asmon:

º1,

º5 A’r terfyn a amgylchyna o Asmoa:|i afon yr Aifft; a’i fynediad ef allan a fydA tua’r gorllewin. j

º6 A therfyn y gorllewin fydd y mor mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.

º7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r mor mawr y tueddwch i fynydd Hor.

º8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.

º9 A’r terfyn a â allan tua Siffron; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar-Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.

º10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar-Enan i Seffam.

º11 Ac aed y terfyn i wasred o Seffam i Ribia, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys mor Cinereth tua’r dwyrain.

º12 A’r terfyn a â i waered tua’r Iordd¬onen; a’i ddiwedd fydd y mor heli. Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch.

º13 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

º14 Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meib¬ion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl t en ladau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.

º15 Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua’r dwy¬rain a chodiad haul.

º16 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

º17 Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr ofteiriad, a Josua mab Nun.

º18 Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.

º19 Ac fel dyma enwau y gwyr: o lwyth wda, Caleb mab Jeffunne.

º20 Ac o lwyth meibion Simeon, ;Semu’el mab Ammihud.

º21 O lwyth Benjamin, Elidad mab Cis-lon. . ‘

º22 A Bucci mab Jogli, yn bennaeth Q lwyth meibion Dan. ‘

º23 O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.

º24 Cemuel hefyd mab Sifftan, yn ben¬naeth dros lwyth meibion Effraim.

º25 Ac Elisaffan mab Pharnach, .yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon.

º26 Paltiel hefyd mab Assan, yn ben¬naeth dros lwyth meibion Issachar.

º27 Ac Ahihud mab Salomi, yn ben¬naeth dros lwyth meibion Aser.,

º28 Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud.

º29 Dyma y rhai a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.

PENNOD 35 º1 A LLEFARODD yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddy¬wedyd,

º2 Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasuedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch.

º3 A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt, a’u pentrefol feysydd fyddant i’w hunil’ciliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwysttilod.

º4 A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.

º5 A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du’r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua’r deau ddwy fil o gufyddau, a thua’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd. ;

º6 Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo’r llawruddiog ffoi yno : a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.,

º7 Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a’u pentrefol feysydd.

º8 A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr arni eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.

º9 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

º10 Llefara wrth feibion Israel, a dywed’ wrthynt. Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;

º11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.

º12 A’r dinasoedd fyddant i chwi yn, noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.

º13 Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

º14 Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddoxien, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

º15 I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’l; ymdeitliydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo

pob un alatfdti ddyn m6wfi’a&iryfusedd, fEbi yno. 

º16 Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: Sadder y llawruddiog yn farw.

º17 Ac os & charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y trawodd ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

º18 Neu os efe a’i trawodd ef & llawffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

º19 Dialydd y gwaed a ladd y llaw¬ruddiog: pan gyfarfyddo ag ef, efe a’i Badd ef.

º20 Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

º21 Neu ei daro ef a’i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a’i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llof¬rudd, pan gyfarfyddo ag ef.

º22 Ond os yn ddisymwth, heb atanas-ira, y gwthia efe ef, neu y teifl ato ufi offeryn yn ddifwriad; "

º23 Neu ei daro ef a charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

º24 Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.

º25 Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd O law dialydd y gwaed, a throed y gyn¬ulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd a’r olcw cysegredig.

º26 Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;

º27 A’i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a llsidd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na redder hawl gwaed yn ei crbyn:

º28 Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr arch¬offeiriad: ac wedi marwolaeth yr arch¬offeiriad, dychweled y llofrudd i dir e! etifeddiaeth. . „

º29 A hyn fydd i chwi yn ddeddt farnedig trwy eich cenedlaethau,. yn eich] holl drigfannau.,.: ;

º30 Pwy bynnag a laddo ddyn,: wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ao un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbya dyn, i beri iddo farw. "

º31 Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

º32 Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth ‘yr offeiriad;

º33 Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga’r tir: a’r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond a gwaed yr hwn a’i tywalltodd.

º34 Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr ARGLWYDD ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel. ;

PENNOD 36 º1 Pennau-cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau-cenedl meibion Israel;

º2 Ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr ARGLWYDD, i roddi eti¬feddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched.

º3 Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy ciddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni.

º4 A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir cu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu heti¬feddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.

º5 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn.

º6 Dyma y gair a orchmynnodd yr ARGLWYDD am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.

º7 Felly ni threigia etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifedd¬iaeth llwyth ei dadau ei hun.

º8 A phob merch yn etifeddu etifedd¬iaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Iseael bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun.

º9 Ac na threigled etifeddiaeth O .lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion :’Igrael a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun.,

º10 Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad.,,

º11 Canys Mala, Tirsa, a Hogia, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd.

º12 I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.

º13 Dyma’r gorchmynion a’r barn¬edigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.