Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Ruth

Oddi ar Wicidestun
Barnwyr Beibl (1620)
Ruth
Ruth

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
1 Samuel

LLYFR RUTH.

PENNOD 1

1:1 A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab.

1:2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effreteaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.

1:3 Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd.

1:4 A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau;; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.

1:5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.

1:6 A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara.

1:7 A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyd hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.

1:8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd à chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac a minnau.

1:9 Yr ARGLWYDD a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

1:10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dŷ bobl di.

1:11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? .

1:12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gwr, ac ymddŵyn meibion hefyd;

1:13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i’m herbyn.

1:14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.

1:15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith.

1:16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa Ie bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha Ie bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy Nuw innau:

1:17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.

1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.

1:19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?

1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: cany;. yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi.

1:21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollallu¬og fy nrygu?

1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau.


PENNOD 2 2:1 Ac i ŵr Naomi yr ydoedd càr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’enw Boas.

2:2 A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.

2:3 A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.

2:4 Ac wele. Boas a ddaeth o Bethle¬hem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio.

2:5 Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medel¬wyr, Pwy biau y llances hon?

2:6 A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab:

2:7 A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.

2:8 Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma, eithr aros yma gyda’m llancesau i.

2:9 Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi, a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent a thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau.

2:10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a rninnau yn alltudes?

2:11 A Boas a atebodd, aca ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.

2:12 Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.

2:13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di.

2:14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.

2:15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:

2:16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.

2:17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.

2:18 A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.

2:19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi. Pa Ie y lloffaist heddiw, a pha Ie y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.

2:20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr ARGLWYDD, yr hwn ni pheidiodd a’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe.

2:21 A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i.

2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd. Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall.

2:23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.

PENNOD 3 3:1 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti?

3:2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.

3:3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed.

3:4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.

3:5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

3:6 A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.

3:7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.

3:8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrodd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.

3:9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.

3:10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr ARGLWYDD; dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad, aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.

3:11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.

3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.

3:13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran i cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi, yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr ARGLWYDD: cwsg hyd y bore.

3:14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu.

3:15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas.

3:16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi.

3:17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr.

3:18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.

PENNOD 4 4:1 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf¬athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.

4:2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.

4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.

4:4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf.

4:5 Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

4:6 A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy eti¬feddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.

4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.

4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.

4:9 A dywedodd Boas wrth yr henur¬iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

4:10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mah¬lon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.

4:11 A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:

4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o’r llances hon.

4:13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.

4:14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfath¬rachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.

4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.

4:16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.

4:17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.

4:18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,

4:l9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,

4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a Nahson a genhedlodd Salmon,

4:21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,

4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.