Beibl (1620)/Sant Luc

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Sant Marc Beibl (1620)
Sant Luc
Sant Luc
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Sant Ioan

YR EFENGYL YN OL SANT LUC

PENNOD 1

1 YN gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi-amau yn ein plith,

2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:

3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus,

4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.

5 R osdd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.

6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyflawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd.

7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn arnhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.

8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,

9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.

10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.

11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.

12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.

13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a eiwi ei enw ef loan.

14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.

15 Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.

16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.

17 Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.

18 A dywedodd Sachareias wrth yr angel. Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.

19 A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn.

20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.

21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.

22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.

23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun.

24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,

25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth,

27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.

28 A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.

29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a v. naeth pa fath gyfarch oedd hwn.

30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw.

31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a eiwi ei enw efIESU.

32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd’ Dduw orseddfa ei dad Dafydd.

33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.

34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?

35 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.

36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn arnhlantadwy.

37 Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl.

38 A dywedodd Mair, Wele wasanaeth, yddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Jwda;

40 Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.

41 A bu, pan glyhu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân.

42 A llefain a wnaeth â llef .uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.

43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?

44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth.

45 A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd,

47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy lachawdwr.

48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig.

49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.

50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef.

51 Efe a wnaeth gadernid a’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.

52 Efe a dynnodd i lawr y cedym o’u heisteddfau, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.

53 Y rhai newynog a lanwodd efe a phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.

54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;

55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.

56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.

58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.

59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad.

60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd; Nid felly; eithr loan y gelwir ef.

61 Ewythau a d < tywtfdasant wrth»yNid oes neb o’th genedt a elwir ar yr eaw hwn.;

62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dadfe ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.

63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac an ysgrifennodd, gan ddywedyd, loan yw ei enw ef. A Ayfedd’u a wnaethant oll.

64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd’, a’i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.

65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.

66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodr asant yn eu calonnau, gas ddywedydy Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.

67 A’i dad ef Saehareias a gynawnwyd-o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gafi’ ddywedyd;

68 Bendigedig fyddo Argtwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl;

69 Ac efe a ddyrenafodd’ gorn faCn’-awdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;

70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuadybyd: ‘

71 Fel y byddai i ni ymwared rflag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion;

72 I gwblhau’r drugaredd a’n tadau, ac t gofio ei sanctaidd gyfamod:

73 Y llw a dyngodd efe wrth eiit. tad-Abraham, ar roddi i ni,

74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelyn¬ion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn,

75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.

76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;

77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth fw bobl, trwy faddeuant o’u pcchodau,

78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd S ni godiad haul o’r uchelder,

79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, t gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.

80 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.


PENNOD 2 1 BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augus¬tus Cesar, i drethu’r holl fyd.

2 (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)

3 A phawb a aethant i’w trethu, bob’ mi. i’w ddinas ei hun.

4 A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea», o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei &d o dy a thylwyth Dafydd),

5 I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6 A bu, tra oeddynt hwy yno, cyf— lawnwyd y dyddiau i esgra" ohoni.

7 A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cad-achau, ac a’i dododd ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.

8 Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiLiaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.

9 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.

10 A’r angel a ddywedodd wrthynt Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl:

11 Canys ganwyd i chwi heddiw Gc idwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crisi yr Arglwydd.

12 A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewit, cadachau, a’i ddodi yn y preseb.

13 Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,

14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac S. WQ 2 ar y ddaear tangaefedd, i ddynion ewyllys da.

15 A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd. Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.;

16 A hwy a ddaethant ar frys; ac ‘a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.

17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bach¬gen bwn.

18 A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.

19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

20 A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr hpU bethau a glywsent ac a welsent, fel;y dywedasid wrthynt.;

21 A phan gyflawnwyd wyth niwl-nod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd,

23 (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf ys Arglwydd, Pob gwryw cyntaf-anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;)

24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn .a-ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, P r e durturod, neu ddau gyw colomen.;

25 Ac wele, yr oedd gŵr yn JerwsaleHl, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddi-ddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno.

26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27 Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfiaith;

28 Yna e& a’i cyxaeitfa sfyn ei freich iau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddy¬wedodd,

29 Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi 4y was mewn tangnefedd, yn el dy air:

30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,

31 Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;;

32 Goleuni i olcuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. . .;

33 Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd?ind»W ef. ‘.

34 A Simeon a’u bcndithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;

35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.

36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod;

37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ai allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.

39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn el deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwel¬asant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth.

40 A’r hadigen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A’i ricni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwyild oed, hwynt-hwy a aethant i fyny i Jcrwti.ilem yn ôl defod yr wyl.

43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arbosodd y baeligen Iesu yn JcrwsaliBia, ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: ,

44 Eithr gaa’dybied ei fod ef yo y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a’r’a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly 8 ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad?:

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.


PENNOD 3

1 YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2 Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at loan, mab Sachareias, yn y diffeithwch.

3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4 Fel y mae yn ysgrifcnedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llcfain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.

5 Fob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gwyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;

6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo’i 0 genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagry" buddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas ‘i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9 Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12 A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14 A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau.

15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am loan, ai efe oedd y Crist;

16 loan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi a dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi a’r Ysbryd Glân, ac a than.

17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.

19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20 A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl, ac a gaeodd ar loan yn y carchar.

21 Sj A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,

22 A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.

23 A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,

24 Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,

25 Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,

26 Fab Manth, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda,

27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28 Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,

29 Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,

30 Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim, ,

31 Fab Melea, fab Mainan, fab Mat-atha, fab Nathan, fab Dafydd,

32 Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason, - ‘

33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Bsrom, fab Phares, fab Jwda,

34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, lab Thara, fab Nachor,

35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,

36 Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech, ...

37 Fab Mathwsala, fab Enoch, fab Jared, fao Maleleel, fab Cainan,

38 Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.


PENNOD 4

1 AR Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iordd¬onen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch,

2 Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeu-gain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.

3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab ‘ Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg faon fel y gwneler hi yn fara.

4 A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddy¬wedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.

5 A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.

6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.

7 Os tydi gan hynny a addoli o’m.blaen, eiddot ti fyddant oll.

8 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, DOS ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dŷ Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.

9 Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddy¬wedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:

10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchy-myn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di;

11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.

12 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dŷ Dduw.

13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14 A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôna. aelh amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch.

15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarilen.

17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr» efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu-i’r tlodion yr anfonodd fi, i iachau’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a cfaaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydddeb,

19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iacha di dy him: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yraa hefyd yn dy wlad dy hun.

24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymer¬adwy yn ei wlad ei hun.

25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,

26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig Weddw.

27 A llawer o wcafaangleifion oe4d yn Israel yn arnser Elisfcus y proffwyda.ac ni lanhawyd yr un ononynt, OJnd Naaman y Syriad.

28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint,

29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.

30 Ond efe, gan fyned trwy eu cano) hwynt, a aeth ymaith,

31 Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu ,,dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.

32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.

33 Ac yn y synagog yr .oedd dyn & chanddo ysbryd cythraul aflan, ac efe a waeddodd â llef uchel,

34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.

35 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddy¬wedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.  ;

36 A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant a’i gilydd, gan ddy¬wedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.

37 A son amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch,

38 A phan gyfododd yr ‘Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i. dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a bwy a atolygasant .arno drosti hi. ‘

39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac 3 geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac .a wasanactliudd arnynt hwy.

40 A phan fachludodd yr haul, pawl) a’t ucJd ganddynt .rai cleifion o airO’yw glefydau, a’u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes el ddwylo ar bob t(fi oUonynt, ac ,i’u hiachaodd hwynt.

41 A’r cythreuliaid hefyd a aethant .illan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddod hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.

42 Ac wedi ei myned hi yn’ ddydd, efe’ a aeth allan, ac a gychwynnodd i Ie’. diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef, a hwy a ddafithant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddiwrthynt.

43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ytt wir y mae yn rhaid i mi bregethu teymas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canyss is hyn y’m danfonwyd.

44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn syaa gogau Galilea.


PENNOD 5

1 Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ate i wrando gair Duw, yr oedd yntaw yffi sefyll yn ymyl Ilyn Gennesaret;

2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y Ilyn: a’r pysgodwyr a aethent allaa ohonynt, ac oeddynt yn goletia? e’s rhwydau.

3 Ac efe a aeth i mewn i un o’r Hongau yr hon oedd eiddo Sinion, ac a ddy— munodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodkt y bobloedd allan o’r llong.

4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5 A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Peistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.

6 Ac wedi iddynt wneuthur hyniiy, hwy a ddaiiasant liaws mawr o bysgad: a’tt rhwyd hwynt a rwygodd.

7 A hwy a amneidiasant ar eu cyf-eillion, oedd yn y lloag arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy loag, onid oeddynt hwy ar soddi.

8 A Simon Pedr, pan. welodd hynnyi a syrthiodd wrth liniau’r Iesua gan ddy¬wedyd, Dog- ymaith oddi < wthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.

9 Oblegid braw a ddaethai amo ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;

10 A’r un ffunud ar Iago ac loan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion & Siltton. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynk a.

11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.

12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ‘ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahatt- glwyf: a phan welodd efe yr lesru, efe a Syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, bs ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.

13 Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lan. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.

14 Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

15 A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.

16 Ac yr oedd efe yn cilio o’r neillto yn y dineithwch, ac yn gweddïo.

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno,’"y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.

18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.

19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.

20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.

21 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedydf cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?;

22 A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddy¬wedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?

23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Madd-euwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r partys,), Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ.

25 Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.

26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.

27 II Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddy¬wedodd wrtho, Dilyn fi.

28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef.

29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd.

30 Eithr eu hysgrifenyddion a’u Pharis¬eaid hwynt a furmurasant yn erbyn e?» ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?

31 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion.

32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifcirwch.

33 A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion loan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti ynbwyta;ac yn yfed?

34 Yntau a ddywedodd- wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt?

35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna a’r hen.

37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin new¬ydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir.

38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir.

39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.


PENNOD 6 1 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r yd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio a’u dwylo.

2 A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthin yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau?

3 A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef;

4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig?

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.

6 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo.

7 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachai efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8 Eithr efe a wybu eu meddyliau. hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.

9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?

10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.

12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned phono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddib Duw.

13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;

14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr.) ac Andreas ei frawd; Iago, ac loan; Philip, a Bartholomeus;

15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffieus, a Simon a elwir Selotes;

16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas IscariotJ yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17 Ac efe a aeth i wacred gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd mor Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau,

18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd.

19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono aUan, ac yn iacháu pawb.

20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eieh byd y tlodion: canys eidduch chwi yw teyrnas Dduw.

21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch.

22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.

23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi.

24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.

25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.

26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.

27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casant:

28 Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant.

29 Ac i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochi, na wahardd dy bais hefyd.

30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais cilchwyl.

31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.

32 Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u car hwythau.

33 Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34 Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobcithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: eanys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.

36 Byddwch gan hynny drugaroglon, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37 Ac na femwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir; maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich myn-wes: canys a’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39 Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso’r dall? oai syrthiant ill dau yn y clawdd?

40 Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro; eithr pob un perffailh a fydd fel ei athro.

41 A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, â thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn. ffrwyth da.

44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.

45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, & ddrygionus drysor ei galoo, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galoti y mae ei enau yn llefaru.

46 Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneulhur yr hyn yr wyf yn ôl ddywedyd?

47 Pwy bynnag a ddêl ataf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb:

48 Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dy ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.


PENNOD 7

1 A wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aethi mewn i Gapernaum.

2 A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw.

3 A phan glybu efe son am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iddewon’, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef.

4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo;

5 Canys y mae yn caru ein cenedl m, ac , efe a adeiladodd i ni synagog.

6 A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: i’

7 Am hynny ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.

8 Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod , dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ‘ ac meddaf wrth hwn, DOS, ac efe a a; ac wrth arall. Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna.

9 Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl .oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.

10 A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.

11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr.

12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.

13 A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.

14 A phan ddaeth atynt, efe a gyff-yrddodd a’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.

15 A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam.

16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Ymwelodd Duw a’i bobl.

17 A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch.

18 A’i ddisgyblion a fynegasant i loan hyn oll.

19 Ac loan, wedi ‘galw rhyw ddau oll ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ym yn ei ddisgwyl?

20 A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, loan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ym yn ei ddisgwyl?

21 A’r awr honno efe a iachaodd liiwer oddi wrth glefydau, a phlau, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddcilhon y rhoddes etc eu golwg.

22 A’r Iesu a atebodd;IL;i (.Idywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i loan y pethau a welsoch ac a glywsocli; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi en glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbya yr efengyl.

23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.

24 Ac wedi i genhadau loan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am loan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?

25 Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu a dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.

26 Eithr beth yr aethoch allan i’w wefed? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i’chwi, a llawer mwy na phroffwyd.

27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.

28 Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag loan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.

29 A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio a bedydd loan.

30 Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffclybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?

32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnud, ac yn llcfain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsinsoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.

33 Canys daeth loan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul gnnddo.

34 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr Rwm, cyfaill piab-licanod a phechiidiin;iid.

35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawt o’i phlant.

36 Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dy’r pharisead, ac a eisteddodd i fwyta.

37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhy’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:

38 A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef a dagrau, ac a’u sychodd a gwalli ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd a’r ennaint.

39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei luin, gan ddywedyd, Pe bai hwn brofiwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.

40 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed.

41 Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain.

42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i car ef yn fwyaf?

43 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr\»yf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wnbo, Uniawn y bernaist.

44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddy¬wedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dy di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olcbodd fy nhraed a dagrau, ac a’u sych¬odd a gwallt ei phen.

45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.

46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a iiodd fy nhraed ag ennaint.

4’; Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei hami bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y niaddeuer ychydig iddo, a gar ychydig.

48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.

49 A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd?

50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.


PENNOD 8

1 A buwedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a’r deuddeg oedd gydag ef;

2A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan;

3 Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.

4 Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg:

5 Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd.

6 A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, .am nad oedd iddo wlybwr.

7 A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef.

8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd a chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa ddameg oedd hon?

10 Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na-ddeallant.

11 A dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw.

12 A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y inae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.

13 A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.

14 A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, J golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.

15 A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai a chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.

16 Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi a llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.

17 Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau.

18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwybynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.

19 Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.

20 A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.

21 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.

22 A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt. Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant.

23 Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.

24 A twy a aethant ato, ac a’i denroes- ant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?

26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea.

27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyf-arfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.

28 Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolef-ain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu. Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech.

29 (Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym a chadwynau, ac a llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.)

30 A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddy¬wedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.

31 A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder.

32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt-hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.

33 A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd.

34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.

35 A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r s. me 8, 9 cythreiriiaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant .;

36 A’r rhai a welseat, a fynegasant hefyd iddynt "pa fodd yr iachasid y cythreulig.

37 A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd.

38 A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd amo gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,

39 Dychwel i’th dŷ, a dangos faint .’o bethau a wnaeth Duw i ,fi. Ac efe a aetti, dan bregethu trwy gwbl-o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.

40 A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys1 yr oeddynt ofl yn disgwyl amdano ef.

41 Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog; ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dy ef:

42 Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef.

43 A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei hoB fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiachau,

44 A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyfryrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.

45 A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyrfyrddoddami? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyfEyrddodd a mi?

46 A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd a mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof.

47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngwydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. .

48 Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.

49 Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dy llywodraethwr y synagog, gaa:ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro.

50 A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna; cred yn unig, a hi a iacheir.

51 Ac wedi ei fyned efi’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr,:ac Iago, ac loan, a thad yr eneth a’i mam.

52 Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y ma’e.

53 A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi.

54 Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.

55 A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi.

56 A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywed-enl i neb y peth a wnaethid.


PENNOD 9

1 A efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau.

2 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i breg¬ethu teyrnas Dduw, ac i iachau’r rhai cleifion.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.

4 Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.

5 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. -1

6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethaHt trwy’r trefis gan teegethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.

7 A Herod y tetrarch a glybu’r ewblott a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fad rhai yn dywedyd gyfodi loan o feirw;

8 A rhai eraill, ymddangos o Eleias;. a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai.

9 A Herod a ddywedodd, loan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yt oedd efe yn ceisio ei weled ef.;

10 A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ae efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilitu, i le anghyfannedd yn perthyna i’r ddiaas a elwir Bethsaida.

11 A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiachau.

12 A’r dydd a ddechreuodd hwyrhaa; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.

13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum forth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu b\vyd i’r bobl hyn oll.

14 Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.

15 Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.

16 Ac efe a gymerodd y pum. torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u rorrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl.

17 A hwynt-hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chytbdwyd a weddillasai iddynt o friwrwyil, ddeuddeg basgedaid. ,.’

18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gwedd" io ei hunaa, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddy¬wedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i?

19 Hwythau gan ateb a ddywedasanty loan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac-eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gyat a-atgyfododd.

20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ii A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist ,,Duw.

21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;

22 Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydid atgyfodi.

23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei grees beunydd, a dilyned fi.

24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi.

25 Canys pa lesad i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli?

26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd.

27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau, hyd oni welont, deyrnas Dduw.

28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac loan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo.

29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair.

30 Ac wele, dau ŵr a gydymddi-ddanodd agef,yrhaioedd Moses acEleias:

31 Y rhai a yniddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasarit am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.

32 A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.

33 A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl.

35 A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.

36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.

37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod âg ef.

38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyfyn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig-anedig yw.

39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.

40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma.

42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion.

45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.

46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt.

47 A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl,

48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.

49 Ac loan a atebodd ac a ddywed¬odd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni.

50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae

51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau ( y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem.

52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef.

53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem.

54 A’i ddisgyblion ef,. Iago ac loan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias?

55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi.

56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Ar¬glwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.

61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhy.

62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.


PENNOD 10

1 WEDI’R pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.

2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhaeaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anami: gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf.

3 Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel wyn ymysg bleiddiaid.

4 Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.

5 Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn.

6 Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys amo: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi.

7 Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o d9 idy.

8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a redder ger eich bronnau:

9 Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch.

10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch,

11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesau atoch.

12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno.

13 Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.

14 Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.

15 A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.

16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.

17 A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.

18 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef.

19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.

20 liithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond ll.iwcnhewch yn hytrach, am fod eich cnwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.

21 Yr awr honno yr Iesu a lawcn-ychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid fefly y gwelid yn dda yn dy edwg di.

22 Fob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni w^yr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.

23 Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neillta, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yi ydych chwi yn eu gweled:

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brentanoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

25 Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?

26 Yntau a ddywedodd wrtho. Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?

27 Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dŷ Dduw a’th holl galon, ac a’th hoil enaid, ac a’th holl nerth, ac a’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun.

28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.

29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?

30 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner rnarw.

31 Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o’r tu arall heibio.

32 A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio. /

33 Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,

34 Ac a aeth ato, ac a rwymodd id archollioB ef, gaa dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd.

35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuhech yn ychwaneg, par-ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti.

36 Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?

37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, DOS, a gwna dithau yr un modd.

38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw Martha, a’i derbyniodd ef i’w thy.

39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wstik draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.

40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd., onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.

41 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thraff-erthus wyt ynghylch llawer o bethau:

42 Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon m ddygir oddi arni.


PENNOD 11

1 BU, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd loan i’w ddisgyblion.

2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllyii, megis yn y aef, felly ar y ddaear hefyd.

3 Dyro i ni o ddydd ddydd .ein barn beunyddioL

4 A ‘maddau i ni ein pechodau: eanys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;

6 Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef:

7 Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws ‘ yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely;? ni allaf godi a’u rhoddi i ti.

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na’ ctiyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.

9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chsrii. Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.

10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.

11 Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? BC os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn?

12 Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo?

13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da I’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?

14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant.

15 Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef’.

17 Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teymas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddiiB; a- th yn arbyn t , a syrth.

18 Ac os Satan hefyd sydd, wedi yia-rannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas cf? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr Wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.

19 Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi.

21 Pan fyddo un cryf arfog yn eadw-ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch:

22 Ondpanddeluncryfachnagefatfto, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn yia-ddiried, ac a ran ei anrhaith ef.

23 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.

24 Pan el yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed. Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan

25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu.

26 Yna yr â efe, ac y cyraer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag efei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad.

27 A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist.

28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29 Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y prorfwyd:

30 Canys fel y bu Jonah yn arwydd; i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon.

31 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.

32 Gwyr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.

33 Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorif hefyd fydd tywyll.

35 Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.

36 Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll a’i llew-yrch yn dŷ oleuo di.

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38 A’r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39 A’r Arglwydd a ddywedodd witho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?

41 Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lan i chwi.

42 Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43 Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y syna-gogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariheaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45 Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.

46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion a beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd a’r beichiau ag un o’ch bysedd.

47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt.

48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau; canys hwynt-hwy yn wir a’u lladdasani hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.

49 Am hynny hefyd y dywedodd doeth¬ineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant:

50 Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;

51 O waed Abel hyd waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i’( genhedlaeth hon.

52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr I canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.

53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn dacr iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau;

54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hclu rhyw beth o’l ben ef, i gael achwyn arno.

PENNOD 12

1 YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Pharis¬eaid, yr hwn yw rhagrith.

2 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir.

3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.

4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur.

5 Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.

6 Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw:

7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to.

8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw.

9 A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw.

10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddcuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.

11 A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:

12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddy¬wedyd.

13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu a myfi yr etifeddiaeth.

14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amldcr y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.

17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Bclh a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?

18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysgubonau, ac a adeiladaf rai mwy, ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da.

19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.

20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist?

21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddis¬gyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch.

23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad.

24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gcll nac ysgubor, ac y mae Duw yn cu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar?

25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y m;icnt yn tyfu; nid ydynt yn llafuno, nac yn nyddu: ac yr wyfyn dywedyd i cliwi, n.t wisgwyd Solomon yn ei holl ogtiiiuiit fel un o’r rhai hyn.

28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?

29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyl-aoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus.

30 Caays y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnocll chwi eisiau’r pethau hyn.

31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.

32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, St rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.

34 Canys lle y mae eich trysor chwr, yno y bydd eich calon hefyd.

35 Bydded eich lwynau wedi eu hym" wregysu, a’ch canhwyllau wedl eu golau:

36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwet o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.

37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.

39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.

41 A Phedr a ddywedodd wr&si, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?

42 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?

43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei argiwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly.

44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.

45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod} a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi:

46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid.

47 A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratodd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a giirir St llawer ffonnod.

48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.

49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes?

50 Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner!

51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:

52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.

53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd. Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorilewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.

55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres; ac fe fydd.

56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeafl wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

57 A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu’r hyn sydd gyfiawn?

58 Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwKi gwna dŷ orau ar y ffordd i gael myned yt rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar:

59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr hading eithaf.


PENNOD 13

1 A yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai y cymysgasai Peilat en gwaed ynghyd a’u haberthan.

2 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechadnriaid mwy na’t holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?

3 Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithTi onid edifarhewch, chwi a ddifethir cS. yn yr un modd.

4 Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y twr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem?

5 Nac oeddynt, medrf- K chwi: eithr, onid edifarhp ddifethir oll yn w i™ niodd.

6 Ac efe a ddywedodd y ddameg hon; Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geiste ffrwyth arno, ac nis cafodd.

7 Yna efe a ddywedodd wrth y gwia" llannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf ytt dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbreo hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y fflae efe yn diffrwytho’r tir?

8 Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgyleh, a bwrw tail:

9 Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid t, gwedi hynny tor ef i lawr.

10 Ac yr oedd efe yn dysgu yn un oft synagogau ar y Saboth.

11 Ac weic, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymumoni.

12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i gal-wodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi. Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid.

13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw.

14 A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithfo: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth.

15 Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr?

16 Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wete, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth?

17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl d lawen-ychasanr am yr holl bethau gogoneddils a wneid ganddo.

18 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae tcyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?

19 Tcbyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dya, ac a’i heuodd yrt ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth ytt bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.

20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.

22 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.

23 A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt,

24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant.

25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych:

26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy wydd di, â thi a ddysgaist yn ein heolydd ni.

27 Ac efe a ddywed, Yr wyfyn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych": ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd.

28 Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.

29 A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.

30 Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olat.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, DOS allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir.

33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem.

34 O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!

35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.


PENNOD 14

1 BU hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.

2 Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dropsi.

3 A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth? ‘

4 A thewi a wnaethant. Ac efe a’i cymerodd ato, ac a’i hiachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymaith;

5 Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth?

6 Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn efam y pethau hyn.

7 Ac efe a ddywedodd wrth y gwa-hoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt,

8 Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo;

9 Ac i hwn a-ih. wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrm. . Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti it-rry gywilydd gymryd y lle isaf.

10 Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngwydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd.

11 Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef. Pan wnelych ginio neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.

16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahodd¬odd lawer:

17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.

18 A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho. Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

19 Ac arall a ddywedodd. Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

20 Ac arall a ddywedodd. Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. ,

21 A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, DOS allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion.

22 A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gynaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle.

23 A’r arglwydd a ddywedoau . gwas, DOS allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.

25 A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,

26 Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, ie, a’i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

27 A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

28 Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd i ar adeiladu twr, nid eistedd yn gyntaf, a i bwrw’r draul, a oes ganddo a’i gorffenno?

29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a’i gwelant ei waiwar ef,

30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen.

31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe a deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil?

32 Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.

33 Felly hefyd, pob un ohonoch chwi¬thau nid ymwrthodo S chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.

34 Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, S pha beth yr helltir ef?

35 Nid yw efe gymwys nac i’r tir, nac i’r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.


PENNOD 15

1 AC yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesâu atto ef, i wrando arno.

2 A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.

3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddysedyd,

4 Pa ddyn oifflA y chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5 Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd la ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.

7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai fetly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhau, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

8 Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?

9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddy¬wedyd, Cydlawenhewch a mi; canys cefais y dryll a gollaswn.

10 Felly, meddaf i chwi, y -mae llaw¬enydd yng ngwydd angylion Dwv am un pechadur a edifarhao.

11 d Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:

12 A’i ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth d dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13 Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymenh ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgaiodd ei dda, gan fyw yn afradlon.

14 Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlad honnc ac yntau a ddechreuodd fod mewn cisiau.

15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch.

16 Ac efe a chwenychai knwi ei fol a’r cibau a fwytai’r moch; ac ni roddodd neB iddo.:

17 A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddy¬wedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r (yg nhad sydd yn cael eu gwa " newyn? o fara, a minnau v"

18 Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau;

19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’rn galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision tjyflog.

20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a i cusanodd.

21 A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng ¥m galw yn fab i ti.

22 A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygweh allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:

23 A dygwch y llo pasgedig, a Ileddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.

24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.

25 Ac y roedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesau at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.

26 Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.

27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasg¬edig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.

28 Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.

29 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dŷ orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion:

30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr_ hwn a ddifaodd dy fywyd eytta phuteiniaid, ti a ledd— tt0 " y lte pasgedig.

31 Ac efe a ddywedodd wrthfr, Fy mab, -yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32 Rhaid pedd llawenychu, a goribl eddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn, farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.


PENNOD 16

1 AZ; efe a ddywedodd llefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wrgoludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.

2 Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho. Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyl¬iwr.

3 A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun., Pa beth a wnaf? canys y mae fy atglwydd yn dwyn yr oruchwyhaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf.

4 Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai.

5 Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd?

6 Ac efe a ddywedodd. Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.

7 Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd. Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.

8 A’r arglwydd a ganmolodd y goruch¬wyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.

9 Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll.

10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon helyd mewn llawer; a’T neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghytiawn hefyd mewn llawcr.

11 Am hynny, oni buoch nyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?

12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo aRill, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eicfa hun?

13 Ni ddiclion un gwas wasanaethu dan. arplwydd: canys n.iill ai efe a gasa y naill, ac u gAr y llall; ai efe a lyn wrth y aaill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch. wasanaethu Duw a mamon.

14 A’r Plmri.sc.iid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a w^yr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw.

16 Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd loan: er y pryd hwnnw y pregethir ttyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.

17 A haws yw i nef a daear fyned herbdo, nag i un tipyn o’r gyfraith ballu.

18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei. wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon. a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

19 Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid a phorffor a Uiain main, ac yi? oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:

20 Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,

21 Ac yn chwenychu cael ei borthi a.’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cytocthog; ond y cwn a ddaethant, ac a lyfiisant ei gornwydydd ef.

22 A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyr» gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd;

23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac etc mewn poenau, ac a ganfu Abraham a hirbcll, a Lasarus yn ei fynwes.

24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O’ dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfeaa Lasarus, i drocni pen ei fys mewn; dwfr, ac i oeri fy nhafod:canys fe a’m. poenir yn y fflam hon. ‘

25 Ac Abraham a ddywedodd. Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y di-ddenir ef, ac y poenir dithau.

26 Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni.

27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad;

28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.

29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r profiwydi; gwrandawant arnynt hwy.

30 Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os a un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhant.

31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.


PENNOD 17

1 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant!

2 Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.

3 Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo.

4 Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo.

5 A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein flydd ni.

6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe bydd-ai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhai i chwi.

7 Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, DOS ac eistedd i lawr i fwyta?

8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Ariwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau?

9 Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied.

10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.

12 A phan oedd efe yn myned t mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13 A hwy a godasant eu llef, gan ddy¬wedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.

14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddy¬wedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt.

15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iachau, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.

16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.

17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?

18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, ac dos ymaith: dy ifydd a’th iachaodd.

20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.

21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele cw: canys wele, teyriias Dduw, o’ch mewn chwi y mae.:

22 Ac efe a ddywedodd wrthy disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.

23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; heu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.

24 Canys megis y mae’r fellten a fellt-enna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.

25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.

27 Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreit;a, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll.

28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nydd¬iau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu,

29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodoin, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll:

30 Tel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.

31 n y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.

32 Cofiwch wraig Lot.

33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi.

34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

35 t)wy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

36 t)au a fyddant yn y maes; y naill a gymea-ir, a’r llall a adewir.

37 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le bynnag y byddo y corff) yno yr ymgasgl yr cry rod.


PENNOD 18

1 A efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;

2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofhai Dduw, ac ni pharchai ddyn.

3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.

4 Ac efe nis gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;

5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i.

6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyf iawn.

7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe flydd ar y ddaear?

9 Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10 Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican.

11 Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.

12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf.

13 A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.

14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dy wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir;- a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrcheffr.

15 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt; a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy

16 Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt atoi, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.: ,

17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy’.bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid a efe i mewn iddi.

18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?

19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m geiwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.

20 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam.

21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid.

22 A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; â thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

23 Ond pan glybu efe y pethau. hyn, eft a aeth yn athrist; canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. ..

24 A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr iSi’t rhai y mae golad ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!

25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i- oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?

27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda DUW.

28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di.

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r’a’adawttdd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu y-raig, ngu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30 A’r ni dderbyn lawer cymaint yn S pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.

31 Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydyrn ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn.

32 Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:

33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd.

34 A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.

35 A bu, ac efe yn nesau at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota;

36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.

37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio.

38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.

39 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.

40 A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo,

41 Gan ddywedyd. Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolWg.

42 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dŷ olwg: dy ffydd a’th iachaodd.

43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesani foliant i Dduw.


PENNOD 19

1 . AR Iesu a aeth i mewn, ae:.a neth trwy Jericho. ,

2 Ac wele WE a elwid wrth ei enw Sac- tiheus, ac efe oedid ‘ten-publican, a hwn oedd gyfoethog.’ .

3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.

4 Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd etc i ddyfod y ffordd honno.

5 A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar fays: canys rhaid i mi heddiw aros yn;dy dy di. »

6 Ac efe a ddisgynnodd ar ftys, ac’a’i derbyniodd ef yn llawen.

7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Pyned ohono efi mewn i letya at ŵr pechadurus.

8 A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’t tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo nete trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.

9 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, ohecwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.

10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.

11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethaia hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerw¬salem, ac am iddynt dyhied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.

12 Am hynny y dywedodd etc, Rhyw ‘wr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd.

13 Ac wedi galw ei ddeg gwaa, efe a toddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedudd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddcrwyl’.

14 Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, BC a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ct’. Ran ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i dcyniasu arnom.

15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono cl alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddiism cfe yr arian, fel y gwybyddai beth a clwasai bob un wrth farchnata.

16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt.

17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn flyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.

18 A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum puat.

19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas.

20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn:

21 Canys mi a’th ofhais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ai heuaist,

22 Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:

23 A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda Hog?

24 Ac efe a ddywedodd wrth y thai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno < f y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd a deg punt ganddo;

25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Ar¬glwydd, y rnae ganddo ef ddeg punt;)

26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.

27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynascnt i mi dcyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.

28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau byn, cfe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem.

29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddnu o’i ddisgyblion,

30 Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i roewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr fawn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.

31 Ac os gofyn neb .i dwi» Pahani yr ydych yd ei ollwng? fel hyn y dywedwch ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: wrtho. Am fod yn rhaid i’r Arglwydd eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogoflladron. wrtho. ,

32 A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.

33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?

34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef.

35 A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.

36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.

37 Ac weithian, ac efe yn nesau at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;

38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.

39 A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddy wedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.

40 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn yfan.

41 Jf Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,

42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.

43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth,

44 Ac a’th wnant yn gydwastad a’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.

45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;

46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn -—..—.... 6».i ucm a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.

47 Ac yr oedd efe beunydd yn athraw- laethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r .ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;

48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: anys yr holl hnhl "prM "- ~i—— _..-,o. . ufii y uywedwch wrtho. Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho.


PENNOD 20

1 A DIGWYDDODD ar un o’r dyddiau tl hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod amo yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid,

2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?

3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:

4 Bedydd loan, ai o’r nefyr ydoedd, ai o ddynion?

5 Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn:, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?

6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod loan yn broffwyd.

7 A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.

8 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

9 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.

10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i {iurasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw.

11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw.

12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan.

13 Yna y dywedodd arglwydd y win¬llan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.

14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant a’i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni.

15 A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?

16 Efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.

17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongi?

18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mai ef.

19 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenydd¬ion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.

20 A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.

21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddy¬wedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.

22 Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?

24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw.

26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant a son.

27 A rhai o’r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,

28 Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifcnnodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddiblant, ar gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi bad i’w frawd.

29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddiblant.

30 A’r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant.

31 A’r trydydd a’i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.

32 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd.

33 Yn yr atgyfodiad gan hynny/gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.

34 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt. Plant y byd hwn sydd yn gwreica; ac yn gwra:

35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gad y byd hwnnw, a’r atgyfodiad oddi wrth y mcirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra:

36 Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt a’r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad.

37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.

38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.

39 Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.

40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dun iddo ef.

41 Ac efe a ddywedodd- wrthynt, Pa fodd y maent yrr dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?

42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, .

43 Hyd oni osodwyf dy elytiion’. yn droedfainc i’th draed di. ,:

44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei aSur ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45 Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddiottj y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;

47 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farri fwy.


PENNOD 2

1 AC wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu Ax y rhai goludog yn bwrw eu rhoddiori i’r drysorfa.

2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddafi Chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:

4 Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i inewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

5 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd aril y deml, ei bod hi wedi ei harddu a meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,

6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir.

7 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?

8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Cristj a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hoi hwynt.

9 A phan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: end ni ddaw y diwedd yn y man.

10 Yna y dywedodd efe . wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:

11 A daeargrynfau mawrion a fyddanit yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrioft a fydd o’r nef.

12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gafl eich traddodi i’r synagogau, ac i garch" arau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. ,r...

13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystr iolaeth. ..

14 Am hynny rhoddwch eich bryd at na ragfyfyrioeh beth a ateboch:

15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. , .;

16 A chwi a fradychir, ie, gan rieni) a brodyr, a cheraint, a chyfeillioa., ac i r-ai ohonoch y parant farwolaeth. . ,. .

17 A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18 Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi.

19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20 A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd-dra hi wedi nesau.

21 Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoanti i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei ebanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.

22 Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd.

23 Eithr gwae’r rhai beichiogioa, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.

24 A hwy a syrthiant (rvy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner aaoser y Cenhedloedd. . ,

25 A bydd arwyddion yn yr rt.a’ttl,’a’t lleuad, a’r scr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr ,a’r tonnau yn rhuo;

26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a, ysgydwir. ‘

27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfed mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.

28 A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared . yn nesau.

29 Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;

30 Pan ddeiliant hwy weithian, fSxwi. a welwch ac a wyddodtt ohonoch eich hnni fod yr haf yn agos.

31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wir meddaf i chwi, Nid a’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33 Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 Ac edrychwch arnoch eich hun-ain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw nrnoch yn ddisymwth;

35 Canys efe a ddaw, fel magi, ic wartliaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wynch yr holl ddaear.

36 Gwyliwch gan hynny a gwedd’iwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiunc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.

37 A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.

38 A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.


PENNOD 32

1 A NESAODD gŵyl y feara, eroyw, yr i hon a elwir y pasg.

2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent fif: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.::

3 A Satan a aeth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd -o rifedi’r deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddi-ddanodd a’r archoffeiriaid a’r blaenoriaidi pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynjt 30. absen y bobl.

7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg.

8 Ac efe a anfonodd Pedr ac loan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa te y mynni baratoi ohonom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr el efe i mewn,

11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt. Pa le y mae’r Hety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parat¬owch.

13 A hwy a aethant, at: a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant ypasg.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytaf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a Aoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennweh yn eich plith:

18 Canys yr ydwyf yn, dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. ‘

19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i toriodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.

21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef!

23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnai hynny.

24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.

26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.

27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.

28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.

29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;

30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Si¬mon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fêl gwenith:

32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr.

33 Ac efe a ddywedodd ‘wrtho, Ar¬glwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. ‘

34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yit dywedyd i ti, Pedr, Na chan y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yt adwaeni fi.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.

36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yrt awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered, a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.

37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi.

38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddy¬wedodd wrthynt, Digon yw.

39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef.

40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddi’wch nad eloch mewn profedigaeth.

41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,

42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.

44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddi’odd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.

45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;

46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.

47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef.

48 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai a chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?

49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni a chleddyf?

50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. ‘

51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef.

52 A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r’ henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, a chleddyfau ac a ffyn?

53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.

54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dy’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.

55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt.

56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dâl sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef.

57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.

58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf.

59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw.

60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog.

61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.

62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

63 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro.

64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di?

65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.

66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r arch¬offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt,

67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith.

69 Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.

70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddy¬wedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.

71 Hwythau a ddywedasant. Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.


PENNOD 23

1 AR holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat:

2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gwyr-droi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.

3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddy¬wedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.

4 A dywedodd Peilat wrth yr arch¬offeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.

5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma.

6 A phan glybu Peilat son am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. ,

7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at jHerod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef,; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.:,

10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ‘ ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo a gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth a’i gilydd.

13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bob},

14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un .’a fyddai’n gwyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt:

15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef, ac wele, dim yn haedd»i marwolaeth nis gwnaed iddo.

16 Am hynny mi a’i ceryddaf ef, a-ca’i gollyngaf ymaith. . .

17 Canys yr ydoedd yn rhaid idd@ ollwng un yn rhydd iddynt ar yr wyl.

18 A’r holl liaws a lefasant ar unwaitfa, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaitln,. a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:

19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi,:ei daflu i garchar.)

20 Am hynny Peilat a ddywedodd wrth¬ynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Jesu yn rhydd. . . /

21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddy" wedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.

22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth ,efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth yaddo, am hynny mi a’i ceryddaf ei, ac a’i gollyngaf yn rhydd.

23 Hwythau a fuont daerion a llefau Mchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant.

24 A Pheilat a faraodd wneuthur m deisyfiad hwynt.

25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth, a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr less .a draddododd efe i’v hewyllys hwynt.;

26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’f wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.

27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef.

28 A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddy wedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i; eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.

29 Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai arnhlantadwy, a’r crothau nid / epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. ‘

30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

31 Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?

32 Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth.

33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.

34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddiMad ef, ac a fwriasant goelbren.

35 A’r bobl a safodd yn edrych». A penaethiaid hefyd gyda hwynt a wat" warasant, gan ddywedyd, Braill a waredodd efe; gwareded ef ei him, os hwn yw Crist, etholedig Duw.

36 A’r milwyr liefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddytbd alo, a chynnig iddo finegr,

37 A dywedyd. Us tydi yv Brenin yy Iddewon, gwired dy hun, ..

38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei nysgrifcnnu uwch ei ben ef, a llythrennau Grocg, a Lladin, a Hebraeg,» HWN YW DRENIN Yr IDDEWON.

39 Ac un o’r drwgweithredwyr ai grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedydy Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau.

40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn: ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth?

41 A nyni yn wir yn gyfiawn; eanys yr’ ydym yn dcrbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i Ie.

42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Ar" glwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas.

43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.

44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

45 A’r haul a dywyllwyd, a Hen y deml. a rwygwyd yn ei chanol.

46 A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a; ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo-ddywedyd hyn, efe a drengodd.

47 A’r canwriad, pan welodd y pcth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.

48 A’r holl bobloedd y rhili a ddnrllicilt ynghyd i edrych hyn, wrth wclnl y pethau a wnautlipwyd,:i lidyi.liwcl.iB.int, gan guro eu dwyfroniiiiu.

49 A’i holl gydnabod ef a sniii’i.inl o hirbell, a’r gwragedd y rli.ii u’l i.inlynascnt ef o Galilea, yn ctlrych ur y peilmu hyn.

50 Ac wele, gŵr a’i enw joseff, yy hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn;

51 (Hwn ni chytunasai a’u cyngor ac a’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn dis.-gwyl hefyd am deymas Dduw;

52 Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.

53 Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a i hamdodd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.

54 A’r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a’r Saboth oedd yn nesau.

55 A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd e» gorffef.

56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac &nnaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchy-myn.


PENNOD 24

1 AR dydd cyntaf o’r wythnos, ar y" cynddydd, hwy a ddaethant at y’ bedd, gan ddwyn y peraroglau a baraloesent, a rhai gyda hwynt. .

2 A hwy a gawsant y maen wedi tii. dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.;;;

3 Ac wedi iddynt fyned i mewn," nt chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.

4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyt mewn gwisgoedd disglair.

5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddacar, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio-y byw ymysg y meirw?

6 Nill yw etc yma, ond efe a gyfododd, Coliwch pa fodd y dywedodd wrthych, iic L-lc eto yng Ngalilea,

7 C;an ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mate. y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.

8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef;

9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll.

10 A Mair Magdalea, a Joanna, a Mair i mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.

11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilitu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu , rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.

13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem.

14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan a’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddi-gwyddasent.

15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn a’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt.

16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.

17 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?

18 Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl;

20 A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef.

21 Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd < dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.

22 A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:

23 A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddy wedent ei fod ef yn fyw. ‘

24 A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsarit felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwel-sant.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proft’wydi!

26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant?

27 A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.

28 Ac yr oeddynt yn nesau i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.

29 A hwy a’i cymellasant ef, gan ddy¬wedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.

30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt.

31 A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt.

32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?

33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r’ sawl oedd gyda hwynt,

34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyf— ododd yn wir, ac a ymddangosodd i i Simon. ,

35 A hwythau a adroddasant y pethau ‘ a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.

36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a - dybiasant weled ohonynt ysbryd. 4

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39 Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwel~ wch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.

40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.

41 Ac a hwy cto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddup bwyd? A

42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43 Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.

44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyina’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi.

45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.

46 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerw¬salem.

48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.

49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfoni addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi a nerth o’r uchelder.

50 Ac cfc a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt.

51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddt wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef.

52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: -"‘ .

53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. . Amen.